Integreiddio mudwyr: ymchwil i wasanaethau dehongli ieithoedd tramor - Adran 5: casgliadau ac argymhellion
Ymchwil i argaeledd a digonolrwydd gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor ar gyfer mudwyr dan orfod yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Casgliadau
Mae'r adran Casgliadau hon yn adlewyrchu sut mae'r canfyddiadau croes cydberthynol o bob carfan yn ymateb i themâu ymchwil yr astudiaeth hon.
Paru dehonglydd / mudwyr dan orfod
Soniodd bron yr holl ymatebwyr, mewn rhyw ffurf neu'i gilydd, am y diffyg cydnawsedd 'yn rhy aml' rhwng y dehonglydd a'r mudwr dan orfod. Awgrymon nhw y dylai'r penderfyniadau ynglŷn â pharu'r mudwr dan orfod gyda dehonglydd gynnwys:
- materion tafodieithol
- cefndir cymdeithasol-ddiwylliannol
- cefndir gwrthdaro sifil
Dywedodd y cyfranogwyr mudwyr dan orfod y byddai hyn yn gwneud iddynt deimlo'n fwy "cartrefol" ac y byddai’n caniatáu iddynt gynnig mwy o wybodaeth gefndirol, gan eu bod yn hyderus y bydd eu dehonglydd yn gallu deall y cyd-destun.
Sylw gan fudwr dan orfod:
Sylw gan ddehonglydd anffurfiol:
Roedd bron pob un o'r ymatebwyr eisiau i'r paru dehonglydd/mudwr dan orfod hwn gynnwys un neu'r cyfan o'r meini prawf canlynol:
- rhywedd
- tafodiaith
- crefydd/mudiad
- statws LHDTC+
Cefnogwyd hyn gan yr holl ymatebwyr hoyw a lesbiaidd agored oedd yn fudwyr dan orfod, yn ogystal â phob menyw cisryweddol sydd wedi cael trawma corfforol ac emosiynol yn eu gwledydd tarddiad ac sy’n cael anawsterau rhannu eu profiadau trawmatig, oherwydd ofn gwahaniaethu.
Sylwadau gan fudwyr dan orfod:
Roeddwn yn gwneud cais am loches ar sail erledigaeth grefyddol. Roeddwn yn Gristion yn byw mewn Gwladwriaeth Fwslimaidd ac roeddwn yn cael fy erlid gan y pentrefwyr Mwslimaidd lleol. Roedd fy nghyfieithydd yn Fwslim ac nid oedd yn credu y gallai Mwslimiaid erlid Cristion ac felly gwrthododd gyfieithu. Eglurodd fy nghyfreithiwr i unigolyn y Swyddfa Gartref beth oedd yn digwydd a gofynnwyd i mi gymryd drosodd y dasg o ddehongli.
Wyneb yn wyneb yn hytrach na’r ffôn
Roedd 66% o fudwyr dan orfod eisiau cyswllt wyneb yn wyneb yn hytrach na dros y ffôׅn/ar-lein fel eu bod nhw a’r dehonglydd yn gallu magu perthynas a dod i adnabod ei gilydd a materion penodol cyn unrhyw ddehongli iaith dramor ffurfiol.
Enghraifft:
Gan adlewyrchu dewis y mudwyr dan orfod, wyneb yn wyneb oedd yn well gan y dehonglwyr anffurfiol hefyd, fodd bynnag, ni welodd y cyfieithwyr ffurfiol unrhyw broblemau go iawn gyda dehongli iaith dramor dros y ffôn. Roedd y cyrff cefnogi a chomisiynu yn cydnabod manteision wyneb yn wyneb, ond y realiti iddyn nhw oedd sicrhau rhyw fath o wasanaeth.
Llywodraeth Cymru yn creu system ddehongli gyffredinol
Awgrymodd pob un o'r sefydliadau cefnogi, ynghyd â hanner y dehonglwyr anffurfiol, y dylai Llywodraeth Cymru greu gwasanaeth cyfieithu cyffredinol wedi’i symleiddio sy'n ystyried anghenion y trydydd sector yn ogystal â defnyddwyr y gwasanaeth.
Enghreifftiau:
Beth am gael gwared ar yr ysgogiad elw.
Y Sector Cyhoeddus yn darparu cyllidebau dehongli penodedig
Roedd pob sefydliad cymorth mudwyr dan orfod oedd yn derbyn cymorth ariannol gan y sector cyhoeddus yn credu nad yw costau cyfieithu yn cael eu hystyried yn briodol o fewn y systemau grantiau. Roedden nhw eisiau cyllideb ddehongli fel rhaganghenrhaid ar gyfer yr holl brosiectau mudwyr dan orfod sy'n cael eu hariannu.
Enghraifft:
Llywodraeth Cymru yn creu canllawiau / cod ymddygiad sensitifrwydd
Cefnogwyd yr awgrym hwn gan yr holl gyrff cymorth mudwyr. Roedd yr holl ddehonglwyr anffurfiol yn chwilio am gefnogaeth ond ni wnaethant ei fynegi yn y ffordd hon. Teimlai’r cyrff cymorth, er bod gan y gwasanaethau cyfieithu preifat i gyd godau ymarfer, nad oedd bob amser yn glir eu bod yn cael eu dilyn.
Enghraifft gan gorff cefnogi mudwyr:
Yn ogystal â'r holl gyrff cymorth mudwyr dan orfod, cefnogwyd y farn hon hefyd gan bron bob mudwr dan orfod pan gafodd ei gynnig iddynt yn opsiwn (ni chafodd ei awgrymu gan un ohonynt). Wrth ddatgan eu cefnogaeth, adroddodd ychydig dros 60% yr hyn oedd wedi digwydd iddyn nhw, a/neu a dystiwyd ganddynt yn digwydd i eraill.
Yr angen am hybiau cymorth cymunedol traws-sefydliad i gefnogi mudwyr dan orfod, cyrff cymorth a dehonglwyr anffurfiol
Awgrymwyd creu rhyw fath o hybiau cymorth gan 57% o'r dehonglwyr anffurfiol a dau o'r sefydliadau cymorth cymunedol.
Distyllu’r ymatebion:
- Gallai creu hybiau cymunedol daearyddol sy'n cwmpasu, ond sy'n annibynnol ar y cyrff cymorth yn eu lleoliad, helpu i:
- ddatblygu systemau cefnogi cyfoedion ehangach a chyfoethocach
- creu cyfnewidfa wybodaeth werthfawr
- hwyluso gwell dealltwriaeth o'r gwasanaethau dehonglydd anffurfiol ehangach
- darparu gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor am ddim (ffurfiol ac anffurfiol) i bob mudwr dan orfod mewn hybiau cymunedol a hefyd drwy sefydliadau'r Trydydd Sector
- darparu cefnogaeth i ddehonglwyr cymunedol
Ac er bod achos cryf iawn dros rywbeth tebyg i'r hyn a amlinellir uchod, gellid ei weld fel y tu hwnt i gwmpas yr astudiaeth hon, felly nid yw'n cael ei argymell fel rhan o'r ymchwil hon er bod ymchwilwyr yn teimlo y dylai Llywodraeth Cymru ei archwilio.
Argymhellion
Hyrwyddo a hwyluso hawliau unigolion i ddehongli iaith dramor
Rhaid i gyrff cyhoeddus sicrhau bod pawb gan gynnwys mudwyr dan orfod, beth bynnag fo'u hanghenion iaith a chyfathrebu, yn gallu cael mynediad i'w gwasanaethau yn yr un modd. Nodir dyletswyddau perthnasol yn Neddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Heb wybod pryd, sut a ble i gael mynediad at wasanaethau mae'r potensial i bobl fregus brofi gwasanaethau a chanlyniadau tlotach. Mae hyn hefyd yn gadael gwasanaethau cyhoeddus mewn perygl o ganlyniadau cyfreithiol am beidio â chydymffurfio â'u dyletswyddau cyfreithiol.
Dylai gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru gynnal ymgyrch godi ymwybyddiaeth gynhwysfawr, er mwyn rhoi gwybod i'r cyhoedd am eu hawliau i dderbyn gwybodaeth yn eu dewis iaith.
Dylai cyrff gwasanaethau cyhoeddus (a phartneriaid perthnasol eraill) yng Nghymru roi gwybod yn effeithiol i'r holl aelodau staff am eu dyletswyddau o ran cynnig gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor.
Sut
Gan weithio gyda swyddogion cydraddoldeb y sector cyhoeddus, dylai Llywodraeth Cymru gynnal ymarfer codi ymwybyddiaeth o hawliau ynghylch gofynion statudol darpariaeth dehongli ieithoedd tramor. Gan weithio gyda phartneriaid strategol, dylid hefyd annog cyrff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i gynnal ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth o fewn eu sefydliadau ac ymhlith y cymunedau maen nhw'n eu gwasanaethu. Dylai'r ymarfer hwn hefyd gynnwys ymgysylltu wedi'i dargedu â'r cymunedau mudwyr dan orfod.
Annog gwell cydnawsedd rhwng dehonglwyr / mudwyr dan orfod / defnyddwyr iaith arwyddion
Gall cydnawsedd rhwng y cleient a'r dehonglydd fod yn allweddol i wasanaeth effeithiol, ac i gyflawni hyn, rhaid rhoi prosesau cadarn ar waith:
- casglu data
Rhaid i gyrff comisiynu'r sector cyhoeddus a'r sefydliadau cymorth mudwyr dan orfod gasglu (a defnyddio) yr holl ddata a all helpu i gyflawni'r cydnawsedd cleient / dehonglydd gorau posibl. Dylai hyn gynnwys:
- iaith, tafodiaith a gwlad tarddiad
- rhywedd
- statws LHDTC+
- anghenion hygyrchedd gan gynnwys BSL, Iaith Arwyddion Arabeg ayb
- anghenion cefnogi iechyd meddwl
- dewisiadau’r mudwyr dan orfod ynghylch y dehonglydd. Mae hyn yn bwysig oherwydd dros amser, gall perthynas ag ymddiriedaeth ddatblygu
Dylid casglu'r wybodaeth uchod ar y cyfle cyntaf, gan fod bron pob mudwr dan orfod wedi nodi bod y rhan fwyaf o'r problemau a brofwyd ganddynt wedi digwydd yn yr ychydig droeon cyntaf iddynt ddefnyddio dehonglydd.
- creu prosesau bwcio cadarn a rennir
- rhaid i'r staff sy'n bwcio fod yn ymwybodol o'r angen i ddefnyddio'r data sydd wedi ei gasglu uchod
- rhaid defnyddio’r wybodaeth hon sydd wedi’i chasglu bob un tro mae dehonglydd wedi'i fwcio. Bydd hyn yn gofyn am ddealltwriaeth gyffredin rhwng y bobl sy'n bwcio'r dehonglydd a'r dehonglydd/asiantaethau ynghylch pa ddata sydd angen ei ddefnyddio wrth fwcio dehonglydd
- fel rhan o'r broses fwcio, ac o fewn cyfyngiadau GDPR, efallai y bydd angen i'r dehonglydd gael amlinelliad o gyd-destun y gwaith
- dylai pob darparwr yn y sector cyhoeddus, preifat ac elusennol gael eu hannog i arwyddo Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI)
- caniatáu i ddefnyddwyr iaith arwyddion ddewis eu hoff ddehonglydd
Mae'n well gan lawer o ddefnyddwyr iaith arwyddion rai dehonglwyr na’i gilydd. Weithiau yn hytrach na defnyddio dehonglydd arall, byddant yn aros i'r sawl gaiff ei ffafrio fod ar gael. Dylai'r systemau bwcio gofnodi'r dewisiadau hyn. Byddai defnydd gwell o dechnoleg fideo yn caniatáu mwy o effeithlonrwydd i'r dehonglwyr gan wneud yr angen hwn yn fwy posibl.
- ystyried anghenion cymorth iechyd meddwl y mudwyr dan orfod
Gall cydnawsedd rhwng y mudwr dan orfod a'r dehonglydd yn y senario hon fod yn hynod o bwysig. Rhaid ystyried yn ofalus wrth ddewis y dehonglydd iaith dramor. Rhaid ystyried yr holl faterion all fod yn sbardun.
Mae hyn yn gofyn i Lywodraeth Cymru ymgymryd â'r dasg ymgysylltu hon, nid yn unig er mwyn llywio'r maes hwn ynghylch pa ddata y mae angen ei gasglu, ond hefyd i egluro pam. Efallai y bydd Llywodraeth Cymru hefyd am ddefnyddio ei ysgogiadau cytundebol oherwydd bod y maes hwn yn derbyn llawer o arian gan y Llywodraeth.
Sut:
Y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hyn fyddai i Lywodraeth Cymru benodi cwmni ymgysylltu arbenigol. Byddai eu tasgau'n cynnwys:
- ymgysylltu â chomisiynwyr y sector cyhoeddus, sefydliadau cymorth, a'r darparwyr ynghylch pa ddata y dylid ei gasglu
- ymgysylltu â chomisiynwyr y sector cyhoeddus, sefydliadau cymorth, a'r darparwyr ynghylch eu syniadau o sut fyddai prosesau bwcio cadarn a rennir yn edrych
- creu model data drafft o'r wybodaeth ofynnol
- creu proses fwcio ddrafft
- ymgynghori ar ddrafftiau drwy ymgysylltu â chomisiynwyr y sector cyhoeddus, sefydliadau cefnogi, a darparwyr
- creu fersiwn derfynol
- ail-ymgysylltu â chomisiynwyr y sector cyhoeddus, sefydliadau cefnogi, a darparwyr i gael ymrwymiad
Sut:
RHAID i'r gofynion comisiynu sydd wedi'u cynnwys o fewn y cytundebau lefel gwasanaeth rhwng darparwyr a chomisiynwyr gynnwys casglu data demograffig manwl at ddibenion sicrhau cydnawsedd rhwng y dehonglydd a defnyddiwr y gwasanaeth.
Dylai sefydliadau perthnasol wneud ymarfer codi ymwybyddiaeth sy'n amlinellu angen a phwrpas y gofynion data demograffig a pharu.
Archwilio creu cod ymddygiad cyffredin
Gallai cod cyffredin hwyluso bwcio mwy priodol a disgwyliad cyffredin o ansawdd y gwasanaeth.
Sut:
Dylai Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth â'r asiantaethau perthnasol i gyd-gynhyrchu cod ymddygiad y cytunwyd arno trwy:
- ymgysylltu â chomisiynwyr y sector cyhoeddus, sefydliadau cymorth, a'r darparwyr o ran yr hyn a ddylai fod mewn cod ymarfer
- creu cod drafft o ymarfer ymddygiad
- ymgynghori â chomisiynwyr y sector cyhoeddus, sefydliadau cefnogi, a'r darparwyr er mwyn canfod eu barn ar y cod ymarfer drafft
- creu fersiwn derfynol
- ail-ymgysylltu â chomisiynwyr y sector cyhoeddus, sefydliadau cefnogi, a darparwyr i gael ymrwymiad
Archwilio creu Cymuned Rhwydweithiau Ymarfer rhanbarthol ar gyfer dehonglwyr cymunedol
Mae Cymunedau Ymarfer yn cael eu ffurfio gan bobl sy'n cymryd rhan mewn gweithgareddau tebyg, sydd â goliau tebyg, ac sy'n gweithio o fewn yr un maes o ymdrech ddynol. Maent yn ffordd hynod effeithiol o gefnogi pobl, ac o ganiatáu pŵer i bobl yn eu hyfforddiant a'u datblygiad eu hunain.
Gallai Cymunedau Ymarfer ar gyfer dehonglwyr cymunedol ieithoedd tramor:
- ddarparu / hwyluso hyfforddiant cydraddoldeb, hawliau ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol yn y modd sy'n gweithio iddyn nhw
- annog ymwybyddiaeth ynghylch pwysigrwydd cydnawsedd mudwyr dan orfod / dehonglydd
- darparu hyfforddiant i ddehonglwyr anffurfiol ar derminoleg broffesiynol, gan gynnwys meddygol a chyfreithiol, tra'n cydnabod y dylid darparu'r math hwn o wasanaeth fel hawl a'i wneud drwy ddehonglwyr proffesiynol
- darparu hyfforddiant GDPR i ddehonglwyr cymunedol
Yn ystod y cyfweliadau, nodwyd sefyllfaoedd lle gallai tor data fod wedi digwydd.
- hwyluso creu cod ymddygiad a rennir
- darparu cymorth iechyd meddwl a lles i ddehonglwyr anffurfiol
Er mai prin fyddai'r gorbenion uniongyrchol, byddai'n ddoeth bod tâl bach yn cael ei wneud i bob trefnydd Rhwydwaith Ymarfer Cymunedol rhanbarthol.
Sut:
Dylai Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth gyda'r asiantaethau perthnasol i gyd-gynhyrchu cod ymddygiad y cytunwyd arno trwy:
- weithio gyda sefydliadau cymorth mudwyr dan orfod, dehonglwyr cymunedol hysbys, a grwpiau cymunedol, i adeiladu cronfa ddata o ddehonglwyr cymunedol presennol
- archwilio gyda dehonglwyr cymunedol a'r sefydliadau cymorth mudwyr dan orfod sut y byddai Cymuned Rhwydweithiau Ymarfer rhanbarthol ar gyfer dehonglwyr cymunedol yn edrych
- gyda'r wybodaeth hon, creu model ar gyfer Cymuned o Rwydweithiau Ymarfer ledled Cymru
- ymgynghori'r model hwn gyda sefydliadau cymorth mudwyr dan orfod a dehonglwyr cymunedol hysbys
- creu templed terfynol ar gyfer Cymuned o Rwydweithiau Ymarfer ar gyfer dehonglwyr cymunedol
- ail-ymgysylltu â sefydliadau cefnogi mudwyr dan orfod a dehonglwyr cymunedol hysbys i gael ymrwymiad
- nodi dehonglwyr cymunedol allweddol a allai weithredu fel trefnwyr Cymuned o Rwydweithiau Ymarfer rhanbarthol
- recriwtio, hyfforddi a chadw dehonglwyr cymunedol
Archwilio ffyrdd o gefnogi dehonglwyr cymunedol i gymhwyso fel dehonglwyr i o leiaf Lefel 3. Dylid hefyd ystyried cefnogi cymhwyso mewn Dehongli Iechyd a/neu Gyfiawnder Troseddol Lefel 4.
Dylai fod yn ofynnol i bob dehonglydd sy'n gweithio o fewn maes cyhoeddus ymgymryd â chwrs sylfaenol mewn Ymddygiad Proffesiynol mewn Dehongli Gwasanaeth Cyhoeddus. Dylid ystyried cefnogi dehonglwyr cymunedol i wneud hynny.
Sut:
Dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o ariannu (neu ddulliau priodol eraill) er mwyn rhoi cymorth i ddehonglwyr cymunedol gymhwyso fel dehonglwyr ffurfiol.
Efallai y bydd Llywodraeth Cymru hefyd am archwilio'r buddion posibl o greu system gofrestru wirfoddol i ddehonglwyr cymunedol y gallent ddangos eu sgiliau a'u profiad trwyddi.
Statws proffesiynol gwasanaethau dehongli a chyfieithu ieithoedd tramor
Dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio i ddichonoldeb ffurfioli, rheoleiddio a diogelu statws proffesiynol gwasanaethau dehongli a chyfieithu ieithoedd tramor yng Nghymru. Ar hyn o bryd, nid oes modd proffesiynol ffurfiol o adnabod dehonglwyr na chyfieithwyr fel proffesiwn rheoledig yn y DU.
Sut:
Dylai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd o broffesiynoli a rheoleiddio'r proffesiwn yng Nghymru er mwyn cyflawni hyn byddai angen rhyw fath o safonau gofynnol, ynghyd â chorff rheoleiddio.
Dylai pob dehonglydd ymgymryd â hyfforddiant cydraddoldeb ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol
Archwilio ffyrdd o ddarparu ac annog dehonglwyr cymunedol a phroffesiynol i ymgymryd â hyfforddiant cydraddoldeb ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol priodol.
Sut:
- dylai Llywodraeth Cymru annog pob darparwr dehonglwyr ffurfiol i sicrhau bod eu dehonglwyr a’u staff ehangach yn ymgymryd â hyfforddiant cydraddoldeb ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol
- drwy weithio gyda Rhwydweithiau Cymunedau Ymarfer rhanbarthol ar gyfer dehonglwyr cymunedol a chyrff cefnogi mudwyr dan orfod, dylai Llywodraeth Cymru annog pob dehonglydd cymunedol i ymgymryd â hyfforddiant cydraddoldeb ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol
- dylai GCC (WITS) ehangu ei wasanaeth i elusennau a'r trydydd sector
Dylai gwasanaeth GCC archwilio’n ofalus ddichonoldeb ehangu ei ddarpariaeth gwasanaeth i elusennau a'r trydydd sector yng Nghymru.
Dylid ystyried archwilio'r trefniadau ariannol presennol tra'n chwilio am raddfa symudol gychwynnol o ffioedd gaiff eu codi ar elusennau a'r trydydd sector.
Dylid ystyried ymhellach sut y gellir darparu gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor am ddim ar y pwynt defnyddio ar gyfer gwasanaethau cymorth.
Sut:
Dylai Llywodraeth Cymru annog hyn i ddigwydd.
Technoleg ac Arloesedd
Er y cydnabyddir bod dehongli wyneb yn wyneb yn well yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, dylid hefyd annog gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru i fabwysiadu datblygiadau technolegol arloesol i wella hygyrchedd a darpariaeth gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer apwyntiadau byr rybudd a gwasanaethau brys, yn ogystal â gwella argaeledd dehongli ieithoedd tramor yn ardaloedd gwledig a llai poblog Cymru. Wrth gymharu cynadledda fideo o bell (Zoom, Microsoft Teams ayb) i ddefnyddio ffôn yn unig, cynadledda fideo o bell oedd y llwybr a ffefrir o lawer.
Sut:
Dylai Llywodraeth Cymru annog comisiynwyr i ddefnyddio fideogynadledda (nid ffôn) o bell yn hytrach na chael oedi yn narpariaeth gwasanaethau.
Dylai cyrff llywodraethol ddarparu gwybodaeth wedi'i chyfieithu'n haws gan gynnwys y canlynol:
- Dylai'r Swyddfa Gartref ddarparu gwybodaeth amlinellol ynglŷn â'r holl wasanaethau sydd ar gael a sut y gallant fod o fudd i fudwyr dan orfod.
- Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu llenyddiaeth sy'n amlinellu'r holl wasanaethau cyfieithu sydd ar gael a sut i gael mynediad atynt.
- Dylai Llywodraeth Cymru ddarparu llenyddiaeth sy'n amlinellu'r gwahanol gyrff cymorth yng Nghymru a sut y gallant gynorthwyo mudwyr dan orfod
- Dylai awdurdodau lleol a darparwyr iechyd ddarparu llenyddiaeth wedi'i chyfieithu sy'n manylu ar yr holl wasanaethau sydd ar gael i fudwyr dan orfod a sut y gallant gael mynediad atynt.
- I bobl sy'n anllythrennog, gallai'r wybodaeth hon gael ei darparu drwy sain neu fideo hygyrch.
Sut:
Dylai Llywodraeth Cymru:
- Annog y Swyddfa Gartref i ddarparu gwell gwybodaeth amlinellol ynglŷn â'r holl wasanaethau sydd ar gael a sut y gallant fod o fudd i fudwyr dan orfod.
- Adnabod a darparu llenyddiaeth yn amlinellu'r holl wasanaethau cyfieithu sydd ar gael a sut i gael mynediad atynt.
- Annog awdurdodau lleol (drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru) a darparwyr iechyd i ddarparu llenyddiaeth wedi'i chyfieithu sy'n manylu ar yr holl wasanaethau sydd ar gael i fudwyr dan orfod a sut y gallant gael mynediad iddynt.
Recriwtio mwy o staff o gymunedau lleiafrifoedd ethnig
Dylai mudiadau cymorth mudwyr dan orfod recriwtio mwy o staff o gymunedau lleiafrifoedd ethnig sydd â'r sgiliau iaith priodol. Yna, dylai'r un staff hyn gael eu hyfforddi er mwyn iddynt allu gweithredu fel dehonglydd pan fo anghenion yn codi. Byddai'r dull cyfeiriol hwn yn fuddiol iawn gan ei fod yn aml yn wir bod staff mewn cyrff cefnogi, pan fo'n bosib, yn dehongli ar gyfer y bobl y maent yn eu cefnogi.
Sut:
Dylai Llywodraeth Cymru annog sefydliadau cymorth mudwyr dan orfod i ystyried y ffordd orau y gellir gwneud hyn.
Sicrhau bod cyllid Llywodraeth Cymru i sefydliadau sy'n gweithio yn y maes hwn yn cynnwys elfen ar gyfer costau dehongli ieithoedd tramor
I'r sefydliadau cymorth mudwyr dan orfod sy'n derbyn cymorth ariannol gan y sector cyhoeddus, fel ychwanegiad i'w cyllideb gyffredinol, dylai'r grant gynnwys gwir gostau'r gwasanaethau dehongli ieithoedd tramor.
Sut:
Gall Llywodraeth Cymru weithredu hyn, a gallai annog pob corff sy’n darparu grant i wneud yr un peth.
Archwilio gwelliannau i ddarpariaeth gwasanaethau dehongli iaith arwyddion
Mae'r amseroedd aros ar gyfer dehongli iaith arwyddion yn annerbyniol. Er bod hyfforddiant eisoes ar gael, mae nifer y dehonglwyr yn aros yn sefydlog ac amseroedd aros yn uchel. Y dasg felly yw gwneud y gorau o effeithlonrwydd adnoddau presennol y DU, wrth barhau i annog / cymell pobl i hyfforddi fel dehonglwyr iaith arwyddion.
Defnyddio technoleg fideo byw
Wedi'i yrru gan bandemig COVID-19, mae'r defnydd o dechnoleg fideo byw wedi cynyddu'n fawr. Yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi ei defnyddio yn ei holl gyfarfodydd lle gall person byddar fynychu. Ar draws y DU, mae llawer o'r gwasanaethau hyn a dylai'r cyrff comisiynu archwilio'r maes hwn y tu hwnt i GCC. Yn ogystal â chael mynediad at bwll ehangach, dylai defnyddio technoleg fideo i gael mynediad at ddehonglwyr iaith arwyddion unrhyw le yn y DU, gynyddu’n sylweddol y posibilrwydd o gael mynediad at y gwasanaeth hwn mewn mwy o ieithoedd tramor.
Sut:
Gallai Llywodraeth Cymru gyhoeddi cyngor i gomisiynwyr a sefydliadau cefnogol sy'n annog y dull gweithredu hwn.
Ffyrdd newydd o ddarparu gwasanaeth
Gallai Llywodraeth Cymru archwilio ffyrdd amgen o gyflawni gwasanaeth teg. Mae nifer o brosiectau prifysgol i ddehongli iaith arwyddion yn gyfrifiadurol wedi digwydd, ac ystyriwyd bod y profi cysyniad yn llwyddiannus. Gan ddefnyddio cyfuniad o ddeallusrwydd artiffisial a dysgu peirianyddol, mae cyfrifiadureiddio dehongli iaith arwyddion yn bosibl. Efallai nad yw'r farchnad feddalwedd hon yn ddigon mawr i'r sector preifat dalu am gost ymchwil a datblygu, ond fel gyda llawer o ddyfeisiadau a datblygiadau blaenorol eraill, dyma lle gall y Wladwriaeth gamu i'r adwy. Dylai Llywodraeth Cymru archwilio'r maes hwn a chamu i mewn os yw'n ymarferol.
Sut:
Gallai Llywodraeth Cymru ymchwilio i'r posibilrwydd hwn, gan chwilio am bartneriaid ariannol a thechnegol i yrru'r opsiwn hwn, a allai fod yn newid byd, yn realiti.
Cyrff cyhoeddus yn cyflogi dehonglwyr yn uniongyrchol
Mae llawer o gyrff cyhoeddus o faint lle gall cyflogi dehonglwyr / cyfieithwyr o'u hieithoedd a ddefnyddir fwyaf yn uniongyrchol fod yn gost-effeithiol. Gellid defnyddio fideo i weithio ar draws eu hystâd. Gallai cyrff llai hefyd ymrwymo i drefniadau rhannu.
Creu systemau cwyno ac adborth
Yn ystod yr astudiaeth hon, clywodd ymchwilwyr lawer o achosion lle mae ansawdd ac agweddau dehonglwyr ieithoedd tramor wedi cael effaith negyddol ar ganlyniadau nifer o fudwyr dan orfod. Nid oedd yr un o'r mudwyr dan orfod hyn yn ymwybodol o unrhyw broses y gallent gwyno drwyddi.
- Creu system gwyno
Annog creu system gwyno glir, hygyrch, a chadarn ar gyfer dehonglwyr a mudwyr dan orfod.
- Creu system ddwyffordd ar gyfer adborth gwasanaeth cwsmer a rennir
Gall y math yma o systemau adborth fod yn sbardun allweddol wrth wella darparu gwasanaethau.