Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 22 Medi 2021
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 22 Medi 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
- Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
- Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl a Chyfathrebu
Ymgynghorwyr
- Rob Jones, Prif Swyddog Cyllid
- Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol
- Gareth Watson, Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro
- Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu - Trysorlys Cymru
Agor y cyfarfod
1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdrawiad buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.
- Cafwyd ymddiheuriadau gan Jocelyn Davies, Neil Butt ac Andrew Jeffreys, byddai Anna Adams yn dirprwyo ac yn cyflwyno adroddiad gan Drysorlys Cymru (TC). Anfonodd Dyfed Alsop ei ymddiheuriadau ar gyfer rhan gyntaf y cyfarfod.
- Croesawyd Melissa Quignon-Finch i'w chyfarfod cyntaf fel aelod gweithredol o'r Bwrdd. Gwybodaeth wedi’i golygu.
- Ers i'r Bwrdd gyfarfod ddiwethaf, gwnaed nifer o benderfyniadau'r Bwrdd allan o'r pwyllgor er mwyn dechrau'r broses etholiadol i benodi Aelod Staff Etholedig newydd i'r Bwrdd. Gan fod hwn yn benodiad Anweithredol, cymeradwyodd y Swyddog Anweithredol delerau'r penodiad a chytunodd y Bwrdd yn ei gyfanrwydd ar reolau'r etholiad gan gynnwys y broses.
- Cytunwyd ar log buddiannau'r bwrdd.
- Cytunwyd bod cofnodion y cyfarfod diwethaf yn gofnod cywir o'r hyn a drafodwyd. Cytunwyd ar y cofnodion wedi'u golygu at ddibenion cyhoeddi allanol.
- Cytunodd y Bwrdd ar weithredoedd a phenderfyniadau'r cyfarfod diwethaf. Byddai tri cham gweithredu yn parhau i fod ar agor. Y rhain oedd:
- A21-01-01: Amserlennu adolygiad ar strategaethau ar lefel y Bwrdd.
- A21-02-01: Trefnu eitem ar fodel gweithredu digidol ar gyfer cyfarfod Bwrdd neu sesiwn drafod.
- A21-03-01: Trefnu sesiynau briffio ar wahân i drafod mesurau perfformiad risg treth a'r adolygiad o ddyled.
- Yn ystod y Diwrnod Cwrdd i Ffwrdd Blynyddol Strategaeth ym mis Gorffennaf, cytunodd y Bwrdd y byddai adroddiadau o berfformiad ariannol a gweithredol yn digwydd bob chwarter i sicrhau ei fod yn cyd-fynd ag adolygiad pwyllgor ac i ganiatáu craffu manylach yn y Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg (ARAC).
- Nododd y Cadeirydd fod penderfyniad wedi'i wneud ar Ddiwrnod Cwrdd i Ffwrdd Strategaeth y Bwrdd i symud rhai eitemau o Ragolwg y Bwrdd i’w bwyllgorau. Byddai'r Cadeirydd yn gweithio gyda Phennaeth y Staff i wneud gwelliannau i'r rhagolwg i'w wneud yn fwy cynhwysfawr.
D21-04-01: Cytunodd y Bwrdd ar reolau etholiad ar gyfer y swydd Aelod Staff Etholedig.
D21-04-02: Cytunodd y Swyddogion Anweithredol ar y telerau penodi diwygiedig ar gyfer yr Aelod Staff Etholedig.
D21-04-03: Cytunodd y Bwrdd fod perfformiad ariannol a gweithredol yn digwydd bob chwarter.
A21-04-01: Bydd y Cadeirydd a'r Pennaeth Staff yn cynnal adolygiad o ragolwg y Bwrdd.
Adroddiadau, cymeradwyaethau a phenderfyniadau
2. Adroddiad y Cadeirydd
- Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar. Gwybodaeth wedi’i golygu.
Adroddiad y Prif Weithredwr
- Roedd adroddiad y Prif Weithredwr wedi'i rannu gyda'r Bwrdd ymlaen llaw. Nodwyd bod rhywfaint o'r hyn a nodwyd yn yr adroddiad yn gynnwys dros dro oherwydd ei fod yn rhannol drwy'r cyfnod adrodd. Fodd bynnag, bu rhai gwelliannau ar berfformiad mewn sawl maes.
- Gwybodaeth wedi’i golygu.
- Byddai arolwg y bobl yn dechrau'r wythnos ganlynol.
-
Cafwyd trosolwg o broses rheoli ariannol newydd er mwyn adrodd a chraffu, a chadarnhaodd y Bwrdd bod y broses yn ddigon cadarn yn eu barn hwy.
4. Adroddiad gan Gyfarwyddwr Trysorlys Cymru (TC)
- Roddwyd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar. Byddai Cynhadledd Dreth Llywodraeth Cymru yn cael ei chynnal yn rhithiol ar y 3 Tachwedd, ac mae'n debyg y byddai ACC yn cynnal sesiwn ar y diwrnod. Gwybodaeth wedi’i golygu.
5. Diweddariad llety
- Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd fod cynnig ar gyfer ACC yn cael ei ddatblygu i'w ystyried gan Lywodraeth Cymru. Gwybodaeth wedi’i golygu.
- Oherwydd cynnydd diweddar mewn achosion o Covid, roedd Llywodraeth Cymru wedi newid eu cyngor ar weithio o'r swyddfa ac roedden nhw bellach yn annog staff i weithio gartref lle bo hynny'n bosib.
6. Diweddariad llywodraethu
- Byddai'r Prif Weithredwr a Chyfarwyddwr Trysorlys Cymru yn cyflwyno i Fwrdd Llywodraeth Cymru ar eu profiadau fel adran Anweinidogol gyntaf Llywodraeth Cymru a'r Cytundeb Rhyngadrannol (IDA) sydd newydd ei ddatblygu. Roedd Andrew Goodhall wedi’i benodi’n Ysgrifennydd Parhaol newydd Llywodraeth Cymru ac roedd disgwyl i'r Prif Weithredwr gwrdd ag ef y diwrnod canlynol. Roedd Andrew wedi cael ei friffio ar fodel llywodraethu ACC ac roedd yn cefnogi ei rannu gyda Llywodraeth Cymru fel model da.
- Roedd yr agwedd ar yr IDA yn ymwneud â chyllid ymgyfreitha'r adolygiad wedi'i hanfon at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i'w hystyried. Roedd hyn yn cyd-fynd ag egwyddorion strategaeth ymgyfreitha ac roedd yn amlinellu cytundeb cyllido i gefnogi'r strategaeth.
- Byddai grŵp darparu gwasanaethau yn cael ei sefydlu, sy'n cynnwys cynrychiolwyr ar draws holl swyddogaethau ACC. Byddai'r grŵp hwn, o dan gadeiryddiaeth y Prif Swyddog Gweithredu, yn gyfrifol am reoli perfformiad gweithredol o ddydd i ddydd, risg a chyfleoedd a gwneud penderfyniadau allweddol. Er y byddai arweinyddiaeth weithredol gyffredinol yn aros gyda Thîm Arwain, byddai'r strwythur newydd hwn yn golygu llai o ddibyniaeth ar yr unigolion hyn, gan eu rhyddhau i dreulio mwy o amser ar faterion strategol.
- Bydd y grŵp yn cynnal adolygiadau rheolaidd o'r ddarpariaeth weithredol a fyddai'n cael ei throsi'n sicrwydd chwarterol i'r Bwrdd, a byddai'r cyntaf ohonynt yn dechrau ym mis Chwefror 2022.
Cau’r cyfarfod
10. Unrhyw fater arall
- Gofynnwyd i bob trafodaeth fusnes sy'n gysylltiedig â'r bwrdd sy'n digwydd dros e-bost gael eu copïo i holl aelodau'r Bwrdd.
-
Ni chodwyd unrhyw fusnes arall.
11. Rhagolwg
- Trafodwyd y Rhagolwg, a chytunwyd y byddai adolygiad pellach yn digwydd wrth ystyried y newidiadau diweddar i amlder yr adrodd a'r bwriad i ddirprwyo gwaith i bwyllgorau'r Bwrdd.
- Yn ystod y cyfarfod, awgrymwyd dwy eitem i'w trafod mewn cyfarfod Bwrdd neu drafodaeth/briffio yn y dyfodol. Y rhain oedd:
- mesur perfformiad risg treth
- adolygu dyledion
12. Adolygiad o’r cyfarfod
- Roedd llai o bapurau na’r arfer ond roedd hyn yn rhoi mwy o le i gael trafodaethau adeiladol am faterion anodd. Cyfrannodd yr holl aelodau at y cyfarfod a defnyddiwyd yr adnodd sgwrsio yn dda. Cafwyd cryn dipyn o drafodaeth hefyd a oedd yn gadarnhaol ac yn adeiladol.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.