Cynllun Cynefin Cymru 2024: atodiad i lyfryn rheolau
Atodiad i Adran B: Cynllun Cynefin Cymru 2024.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae’r atodiad hwn yn gysylltiedig â’r Canllaw i Gynllun Cynefin Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd ar 29 Medi 2023. Mae’r holl newidiadau ac ychwanegiadau’n cael eu gwneud i Ran 1, Adran B: Cynllun Cynefin Cymru – Tir sydd wedi’i nodi’n dir cynefin
Mae’r canlynol yn cymryd lle’r gwreiddiol:
Adran B: Cynllun Cynefin Cymru
Tir sydd wedi’i nodi’n dir cynefin
Mae’r tir cynefin wedi’i nodi ar yr haenau cynefin sydd wedi’u cofnodi ar MapDataCymru. Am ragor o wybodaeth am y math o gynefin a’i leoliad ar eich daliad, ewch i Gynllun Cynefin Cymru ar MapDataCymru.
Rhaid cynnwys pob tir cynefin sy’n dod o dan eich rheolaeth lwyr chi yn eich cais. Nid oes hawl gennych dynnu tir cynefin sy’n bodloni’r gofynion o ran bod yn gymwys o’r cais, oni bai’ch bod yn gallu profi y bu amgylchiadau eithriadol.
Amgylchiadau eithriadol
Mae amgylchiadau eithriadol yn achos tir cynefin sydd wedi’i nodi, yn cynnwys unrhyw rai o’r canlynol:
- cae neu ran o gae sydd wedi’i wella a’i nodi fel tir cynefin sydd wedi cael ei ddefnyddio i gynhyrchu gwair neu silwair arno dros y pum mlynedd ddiwethaf neu sy’n cael ei bori’n ddwys. Bydd rhoi’r cae o dan amodau rheoli cynefin yn cael effaith drom ar gynhyrchu porthiant. Byddai’r cae, yn nodweddiadol, yn:
- dir wedi’i aredig a’i ail-hau, a bydd y borfa wedi’i hadnewyddu trwy ddrilio neu ei hau ar y wyneb, yn y 10 mlynedd diwethaf
- bydd mwy na 25% o’r borfa’n rhywogaethau amaethyddol wedi’u hau fel rhygwellt a meillion gwyn
- bydd gwrtaith anorganig/tail buarth wedi’i roi’n reolaidd ar y tir
- bydd y tir yn gynhyrchiol iawn – un toriad neu fwy o wair neu silwair bob blwyddyn
- amrywiaeth fach o blanhigion a glaswellt gwyllt sy’n nodweddiadol o’r math o gynefin sy’n tyfu yn y borfa
- caeau sydd wedi’u defnyddio mewn cylchdro âr yn y pum mlynedd ddiwethaf sydd wedi’u nodi fel cynefin.
Os hoffech dad-ddewis cae o’ch Datganiad o Ddiddordeb ar gyfer Cynllun Cynefin Cymru oherwydd unrhyw rai o’r amgylchiadau eithriadol uchod, cewch wneud trwy ddilyn y cyfarwyddiadau ar dudalennau 15 ac 16 Canllaw Sut i Lenwi Cynllun Cynefin Cymru. Bydd angen ichi ddewis ‘Amgylchiadau Eithriadol’ fel eich rheswm dros ddad-ddewis parsel ac esbonio pam yn y blwch testun.
Byddwn yn edrych ar y parseli y byddwch wedi’u dad-ddewis oherwydd amgylchiadau eithriadol a’r rhesymau dros wneud i sicrhau eu bod yn bodloni’r amod amgylchiadau eithriadol a’i bod yn dderbyniol eu tynnu o’r Datganiad o Ddiddordeb.