Yn cynnwys data chwarterol ynghylch nifer y rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Rhaglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae data Ch1, Ch2, Ch3 a Ch4 2017/18 yn derfynol yn awr.
Prif bwyntiau
- Dechreuwyd 8,270 o raglenni dysgu prentisiaeth yn Ch4 2017/18 o’i gymharu â 6,270 yn Ch4 2016/17, sef cynnydd o 32%.
- Yn Ch4 2017/18, Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cyhoeddus oedd y sector cyffredinol mwyaf poblogaidd, sef 38% o’r holl raglenni dysgu prentisiaeth a ddechreuwyd, o’i gymharu â 40% yn Ch4 y flwyddyn flaenorol.
- Yn Ch4 2017/18, dechreuwyd 65% a 35% o’r rhaglenni dysgu prentisiaeth gan fenywod a gwrywod, yn y drefn honno, o’i gymharu â 67% a 37% yn Ch4 y flwyddyn flaenorol.
- Dechreuwyd 31,360 o raglenni dysgu prentisiaethau yn 2017/18, cynnydd o 30% o gymharu â 2016/17.
- Mae asesiad mwy trwyadl sy’n rhoi ystyriaeth i’r rheini a adawodd eu cwrs yn gynnar (o fewn yr 8 wythnos gyntaf) a’r rheini a drosglwyddodd o un brentisiaeth i’r llall yn cofnodi bod 27,795 o raglenni dysgu wedi’u dechrau yn 2017/18 a 56,635 ers cyflwyno’r targed o 100,000 o brentisiaethau.
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.