Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r Gronfa Cymorth Dewisol (y Gronfa) yn cynnig dau fath o grant. Mae Taliadau Cymorth i Unigolion yn helpu pobl i fyw yn annibynnol yn eu cartref neu mewn eiddo y maent yn symud iddo. Mae Taliadau Cymorth mewn Argyfwng yn helpu â chostau hanfodol megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng.

Mae’r data sy’n gysylltiedig â’r Gronfa yn cael eu cyflenwi i Lywodraeth Cymru gan ein darparwr gwasanaeth NEC Software Solutions UK. Nid yw’r data hyn wedi bod yn destun yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol, ac mae’n bosibl y bydd y data’n cael eu diwygio yn y dyfodol. At hynny, cafwyd y data ar gyfer yr adroddiad dadansoddi ad-hoc hwn fesul cam, felly mae gan rai o'r tablau ddyddiadau sy'n cyfeirio at gyfnodau ychydig yn wahanol. Er hynny maent ar y cyfan yn cyfeirio at y flwyddyn 2022 i 2023.

Cynhaliwyd y dadansoddiad hwn yn fewnol gan ddadansoddwyr yn Llywodraeth Cymru. Mae dau nod i'r adroddiad hwn:

  1. Cyflwyno dadansoddiad o’r rhai sy’n elwa ar y Gronfa o ran eu hoedran, y ffyrdd y mae unigolion yn cael mynediad at daliadau’r Gronfa, a faint o weithiau y mae'r Gronfa yn cael ei defnyddio fesul unigolyn.
  2. Archwilio dyfarniadau’r Gronfa yn y 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru i weld a oes unrhyw batrymau newydd mewn dangosyddion economaidd penodol a allai egluro nifer y dyfarniadau ym mhob awdurdod lleol.

Prif ganfyddiadau

Yn ystod y flwyddyn 2022-23, roedd 97% o ddyfarniadau'r Gronfa yn Daliadau Cymorth mewn Argyfwng a'r 3% a oedd yn weddill yn Daliadau Cymorth i Unigolion.

Fodd bynnag, nid oedd dosbarthiad y dyfarniadau yn ôl oedran yr un peth ar gyfer dyfarniadau Taliadau Cymorth mewn Argyfwng a dyfarniadau Taliadau Cymorth i Unigolion: roedd gan unigolion 16 i 39 oed fwy o ddyfarniadau Taliadau Cymorth mewn Argyfwng, tra roedd cyfran uwch o unigolion hŷn yn hawlio dyfarniadau Taliadau Cymorth i Unigolion. 

O ran hygyrchedd, fe wnaeth 99% o’r unigolion gael mynediad at y Gronfa ar-lein. Fodd bynnag, roedd grwpiau oedran hŷn yn cael mynediad at y Gronfa dros y ffôn yn fwy na'r rhai mewn grwpiau oedran iau. 

Rhwng mis Mai 2022 a mis Mai 2023, unigolion 30 i 39 oed gafodd y nifer uchaf o ddyfarniadau Taliadau Cymorth mewn Argyfwng. Ar ben hynny, rhoddwyd 59% o’r dyfarniadau Taliadau Cymorth mewn Argyfwng i unigolion 16 i 39 oed. Mewn cymhariaeth, roedd unigolion 70 oed a hŷn yn cyfrif am 2% o’r dyfarniadau Taliadau Cymorth mewn Argyfwng.

O ran nifer y taliadau a dderbyniodd unigolion (o uchafswm o bum taliad hyd fis Mawrth 2023), y grwpiau oedran ieuengaf a hawliodd Daliadau Cymorth mewn Argyfwng y nifer uchaf o weithiau (tair gwaith ar gyfartaledd) ac mae nifer cyfartalog y taliadau yn gostwng wrth i oedran gynyddu.

Mae'r dadansoddiad hwn wedi dangos bod dyfarniadau drwy’r Gronfa ar gyfer Taliadau Cymorth mewn Argyfwng - sy'n helpu i dalu am gostau hanfodol megis bwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio mewn achos o argyfwng – yn tueddu i fod yn uwch o ran crynodiad mewn awdurdodau lleol sy’n cynnwys y canlynol:

  • y gyfran uchaf o bobl nad ydynt mewn cyflogaeth sy'n derbyn Credyd Cynhwysol
  • y gyfran uchaf o bobl sy'n cael budd-daliadau gwaddol fel cymhorthdal incwm a Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 
  • y cyfraddau uchaf o anweithgarwch economaidd
  • y lefel uchaf o barseli bwyd a ddosberthir i oedolion y pen
  • y gyfran uchaf o ddysgwyr sy'n gymwys am brydau ysgol am ddim
  • y gyfran uchaf o blant sy'n byw mewn teuluoedd ar incwm isel cymharol
  • y gyfran uchaf o bobl sy'n derbyn Credyd Cynhwysol gyda hawl i fudd-daliadau plant
  • y lefel uchaf o barseli bwyd yn cael eu danfon i blant y pen
  • y ganran fwyaf o ardaloedd bach ymhlith y 10% o’r ardaloedd bach mwyaf difreintiedig yng Nghymru

Manylion cyswllt

Awduron: Sheilla Ferraz-Luz

Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Sheilla Ferraz-Luz
Ebost: ymchwilcyfiawndercymdeithasol@llyw.cymru

Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 97/2023
ISBN digidol: 978-1-83504-822-1

Image
GSR logo