Neidio i'r prif gynnwy

Agenda

1. Croeso / Materion presennol

Llafar

Gweler y cofnodion.

2. Arloesi wrth wneud polisïau

3. Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru 2022-23

[Papur Eitem 3]

4. Adborth ar drafodaethau gyda’r Prif Weinidog

5. Unrhyw fater arall

Yn bresennol

  • Ysgrifennydd Parhaol (Cadeirydd)
  • Gareth Lynn
  • Meena Upadhyaya
  • Aled Edwards
  • Carys Williams
  • Judith Paget
  • Andrew Slade
  • Reg Kilpatrick
  • Tim Moss
  • Jo-Anne Daniels
  • Dean Medcraft
  • Helen Lentle
  • Peter Kennedy
  • Des Clifford
  • David Richards
  • Zakhyia Begum

Yn mynychu

  • Andrew Jeffreys
  • Sharon Bounds
  • Sharon Cross
  • Polina Cowley

Ymddiheuriadau

  • Tracey Burke
  • Amelia John

Ysgrifenyddiaeth

  • Alison Rees

1. Croeso/ Materion Presennol

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod gan nodi’r ymddiheuriadau. Croesawyd Dean Medcraft i’r cyfarfod gan y Cadeirydd. Mae Dean yn dirprwyo ar ran Tracey Burke, ond roedd Tracey yn gobeithio y byddai’n gallu ymuno â’r cyfarfod o 12pm ymlaen.

1.2 Croesawyd Sharon Bounds ac Andrew Jeffreys i’r cyfarfod gan y Cadeirydd. Maent yn mynychu’r Bwrdd ar gyfer Eitem 1 er mwyn cyfrannu at y drafodaeth ar y sefyllfa gyllidebol yn ystod y flwyddyn a chynllunio’r gyllideb ar gyfer 2024/25.

1.3 Cytunwyd ar nodiadau o’r cyfarfod ar gynhaliwyd ar 9 Mehefin. Diolchodd y Cadeirydd i Zakhyia Begum am rannu nodiadau cyfarfod y Bwrdd Cysgodol, a gynhaliwyd ar 12 Gorffennaf.

1.4 Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad i’r Bwrdd ar nifer o’r materion presennol gan gynnwys yr Ymchwiliad Cyhoeddus i COVID; sylwadau’r Prif Weinidog ar yr Adroddiad Blynyddol; a digwyddiad byw’r Gwasanaeth Sifil a gynhaliwyd yng Nghaerdydd. Cadarnhaodd y Cadeirydd y bydd staff yn Llywodraeth Cymru sydd ar raddau is na’r Uwch Wasanaeth Sifil yn cael taliad untro ar wahân o £1,500 i’w helpu gyda’r costau byw uchel sy’n parhau i fod yn heriol. Bydd y taliad yn cael ei roi i bob aelod o staff cymwys waeth beth yw ei oriau gweithio.

1.5 Cafodd Andrew Jeffreys a Sharon Bounds eu gwahodd gan y Cadeirydd i roi diweddariad ar y sefyllfa ariannol bresennol a’r gwaith cynllunio ar gyfer 2024/25.

1.6 Pwysleisiodd Andrew ba mor heriol oedd y sefyllfa ariannol yr oedd Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio arni, gan roi trosolwg o ddull gweithredu ar y cyd arfaethedig y Cabinet ar gyfer rheoli’r sefyllfa. Nododd Andrew y rheolaethau gwariant a oedd ar waith i gyfyngu ar wariant y gellid ei osgoi.

1.7 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau’r Bwrdd i roi eu sylwadau ar y materion a oedd wedi eu codi.

1.8 Tynnodd Judith Paget sylw at faterion yn ymwneud ag egluro’r heriau ariannol, a’r camau yr oedd angen eu cymryd i adfer y sefyllfa, i randdeiliaid allanol a phartneriaid cyflawni.

1.9 Cafodd y Bwrdd ei atgoffa gan David Richards o ran cyfrifoldebau’r Ysgrifennydd Parhaol a’r Cyfarwyddwyr Cyffredinol fel y Prif Swyddog Cyfrifyddu a Swyddogion Cyfrifyddu Ychwanegol ar gyfer rheoli cyllideb Llywodraeth Cymru.

1.10 Tynnodd Tim Moss sylw at yr effeithiau y bydd y pwysau ariannol presennol yn eu cael ar sut y bydd y sefydliad yn gweithredu yn y dyfodol.

1.11 Nododd Gareth Lynn fod y Prif Weinidog wedi gofyn yn y cyfarfod diweddar bod Cyfarwyddwyr Anweithredol yn chwarae rôl o ran helpu swyddogion i ymateb i’r pwysau ariannol sy’n wynebu’r sefydliad.

1.12 Gofynnodd Aled Edwards a fyddai Llywodraeth Cymru yn cael unrhyw gyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU drwy gyllid canlyniadol Barnett. Atebodd
Andrew Jeffreys na ellid cymryd yn ganiataol y byddai cyllid ychwanegol yn cael ei ddarparu.

1.13 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau.

2. Arloesi wrth wneud polisïau

2.1 Croesawyd Simon Brindle ac Andrew Charles i’r cyfarfod gan y Cadeirydd, a chawsant eu gwahodd i roi trosolwg o arloesedd yn y broses o wneud polisïau yn Llywodraeth Cymru, er mwyn datblygu polisïau arloesol a chryfhau’r ymgyrch i arloesi fel rhan o’r swyddogaeth gwneud polisi ar draws y sefydliad. Nododd y Cadeirydd fod yr eitem hon yn ymateb i gais gan y Cyfarwyddwyr Anweithredol a oedd wedi awgrymu bod hwn yn faes yr oeddent yn awyddus i’w drafod yng nghyfarfod y Bwrdd.

2.2 Gwahoddodd y Cadeirydd aelodau’r Bwrdd i roi eu sylwadau.

2.3 Fe wnaeth Carys Williams gwestiynu sut y gallai’r sefydliad feithrin diwylliant creadigol, annog pobl i arloesi, a chefnogi staff pan nad yw prosiectau’n cyflawni yn ôl y disgwyl.

2.4 Pwysleisiodd Aled Edwards bwysigrwydd gweithio mewn partneriaeth â’r trydydd sector a grwpiau cymunedol i ddatblygu a gweithredu atebion arloesol, gan nodi’r her o ran meintioli gwerth a buddion mentrau, megis cynllun y Grŵp Meddygon Ceiswyr Lloches a Ffoaduriaid Cymru.

2.5 Adleisiodd David Richard sylwadau Aled o ran pwysigrwydd creu ar y cyd â phartneriaid, gan ddweud bod Llywodraeth Cymru yn aml yn cael ei beirniadu am fod yn amharod i gymryd risgiau, ond ar yr un pryd hefyd yn cael ei beirniadu am gymryd risgiau.

2.6 Awgrymodd Gareth Lynn y bydd yr angen i arloesi hyd yn oed yn fwy pwysig oherwydd y cyfyngiadau ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru. Wrth roi sylwadau ar y cyflwyniad a’r disgrifiad o’r cylch polisi, gofynnodd Gareth a fyddai’n bosibl roi mwy o rôl i’r gymuned fusnes o ran cefnogi’r ymdrechion i arloesi wrth ddatblygu polisïau.

2.7 Roedd Meena Upadhyaya am wybod pa fath o gymelliadau sy’n bodoli i annog staff i weithredu mewn modd mwy arloesol, a pha rwystrau sy’n eu hatal rhag gwneud hynny.

2.8 Soniodd Judith Paget am y cyfleoedd o fewn y portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i dynnu ynghyd academyddion ac arweinwyr diwydiant i chwilio am atebion arloesol. Nododd Judith ei bod yn bwysig creu amgylchedd lle’r oedd yn ddiogel methu er mwyn i’r parodrwydd i arloesi allu ffynnu.

2.9 Gwahoddodd y Cadeirydd Zakhyia Begum i roi sylwadau ar ran y Bwrdd Cysgodol. Nododd Zakhyia fod trafodaethau’r Bwrdd Cysgodol wedi codi’r union bwyntiau ag yr oedd wedi cael eu codi gan aelodau’r Bwrdd.

2.10 Cafodd Andrew Charles a Simon Brindle eu gwahodd gan y Cadeirydd i ymateb i’r pwyntiau a godwyd.

2.11 Dywedodd Andrew Charles fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn rhoi’r cyfle i wneuthurwyr polisi feddwl mewn modd gwahanol, gan nodi’r rôl y mae gwerthuso’n ei chwarae yn y broses o wneud polisïau.

2.12 Pwysleisiodd Simon bwysigrwydd cael sail dystiolaeth ategol i lywio’r broses o wneud polisïau, a phwysigrwydd sicrhau bod dulliau gwerthuso ar waith o’r cychwyn cyntaf. Cytunodd Simon â sylwadau aelodau’r bwrdd ynghylch manteision ymgysylltu â’r trydydd sector. O ran yr angen i arloesi a’r parodrwydd i gymryd risgiau, gofynnodd Simon a ddylid canolbwyntio ar brosiectau unigol neu ar raglenni gwaith cyffredinol, gan awgrymu dod â’r elfennau nad ydynt yn cyflawni’r canlyniadau angenrheidiol i ben.

2.13 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau gan nodi y byddai’r Strategaeth Gallu Polisi yn cael ei lansio maes o law.

3. Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru 2022-23

3.1 Croesawodd y Cadeirydd Sharon Cross a Helen McFarlane i’r cyfarfod, gan eu gwahodd i wneud cyflwyniad ar adroddiad diweddaraf Fframwaith Perfformiad Llywodraeth Cymru. Mae’r fframwaith yn un o’r prif ddulliau gweithredu a ddefnyddir i fonitro perfformiad Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru, a’i nod yw sicrhau bod effeithiolrwydd gweithredol Gwasanaeth Sifil Llywodraeth Cymru yn gwella drwy ganolbwyntio ar berfformiad gweithredol a chyfrifoldebau’r Ysgrifennydd Parhaol ar gyfer rhedeg y sefydliad. Nid yw’r fframwaith yn adrodd ar berfformiad Gweinidogion na’r Rhaglen Lywodraethu. Mae’n cynnwys 23 o themâu sy’n cael eu rhannu’n ddau grŵp: Swyddogaethau (yr hyn yr ydym yn ei wneud) a Phriodoleddau (sut yr ydym yn ei wneud).

3.2 Gan droi’n gyntaf at yr adroddiad ar Briodoleddau, cafodd aelodau’r bwrdd eu gwahodd gan y Cadeirydd i roi eu sylwadau ar y cyflwyniad

3.3 Gan sôn am y pwyntiau a godwyd ynghylch creadigrwydd a’r adborth cadarnhaol a gafwyd oddi wrth staff, nododd Carys fod hyn yn werth allweddol ac awgrymodd fod hwn yn faes y dylid canolbwyntio arno a’i ddatblygu.

3.4 Gofynnodd Meena sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyrraedd ei thargedau o ran amrywiaeth mewn recriwtio. Atebodd Tim drwy ddweud bod y gwaith cynllunio’n mynd rhagddo i hyrwyddo cyfleoedd mewn rhannau o’r gymuned nad oedd ganddynt hanes o ymgeisio am swyddi yn Llywodraeth Cymru nac am benodiadau cyhoeddus ehangach. Ychwanegodd Peter fod Cais, y system recriwtio newydd, bellach yn fyw ac yn caniatáu ar gyfer recriwtio heb weld enwau pobl. Hefyd, mae’r tîm Adnoddau Dynol wedi comisiynu arbenigwyr allanol i adolygu polisïau a gweithdrefnau’r sefydliad o safbwynt gwrth-hiliol.

3.5 Gofynnodd Gareth pam fod y cynlluniau i gyfathrebu ynghylch y Fframwaith Perfformiad i staff wedi dod i stop dros dro. Atebodd Sharon fod nifer o ffactorau, gan gynnwys y pandemig.

3.6 Gan droi at yr adroddiad ar Swyddogaethau, cafodd aelodau’r bwrdd eu gwahodd gan y Cadeirydd i roi eu sylwadau ar y pwyntiau a godwyd yn y cyflwyniad.

3.7 O ran materion Digidol a Data a Thechnoleg, dywedodd Carys ei bod yn ymddangos bod y ffocws ar berfformiad TG yn hytrach ar faterion digidol neu dechnoleg data, a gofynnodd a oedd y ffactorau priodol yn cael eu mesur.

3.8 Gan sôn am y ffaith mai dyma’r trydydd cylch adrodd, gofynnodd Gareth a yw’r ymarfer yn rhoi’r wybodaeth angenrheidiol i’r sefydliad ar gyfer asesu ei berfformiad, ac awgrymodd efallai mai nawr fyddai’r amser iawn i adolygu a mireinio’r broses. Croesawodd Sharon yr awgrym, gan gytuno bod y fframwaith yn seiliedig ar wybodaeth rheolwyr a chanfyddiadau staff ar hyn o bryd, ac ychwanegodd y byddai angen buddsoddi er mwyn cynnwys adborth allanol. Gofynnodd y Cadeirydd a fyddai’n bosibl cynnwys cynnal arolygon sydyn rheolaidd o uwch-randdeiliaid penodol.

3.9 O ran Deddfwriaeth, nododd Aled fod y dangosyddion yn canolbwyntio ar faint yn hytrach nag ar ansawdd. Cytunodd Helen Lentle nad yw’r prif ffigurau’n adlewyrchu ansawdd, ac nad ydynt yn adlewyrchiad cywir o’r llwyth gwaith sy’n sail i raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru a’r gwaith o ymateb i ddeddfwriaeth Llywodraeth y DU. Awgrymodd Helen y gellid ystyried bod y broses graffu a weithredir gan y Senedd yn ddangosydd ar gyfer ansawdd y rhaglen ddeddfwriaethol.

3.10 O ran adnodd gweithlu, nododd Meena Upadhyaya sut y gallai pryderon am bwysau ariannol effeithio ar y staff a’u brwdfrydedd. Ychwanegodd Zakhyia Begum fod y Bwrdd Cysgodol wedi codi pryderon tebyg.

3.11 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, a gofynnodd i’r tîm Ymchwil Gorfforaethol ystyried y pwyntiau a oedd wedi eu codi gan y Bwrdd.

4. Adborth ar y Trafodaethau â’r Prif Weinidog

4.1 Cafodd y Cyfarwyddwyr Anweithredol eu gwahodd gan y Cadeirydd i roi adborth ar eu cyfarfod diweddar â’r Prif Weinidog.

4.2 Rhoddodd Gareth grynodeb o’r trafodaethau gan dynnu sylw at feysydd yr oedd y Prif Weinidog yn awyddus i’r Cyfarwyddwyr Anweithredol roi sylw iddynt. Y meysydd hynny yw: gwella amrywiaeth ar fyrddau Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru; cyrraedd targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg; gwella’r broses ddeddfwriaethol yng Nghymru; a helpu Llywodraeth Cymru i roi sylw i bwysau cyllidebol yn ystod y flwyddyn a chynllunio cyllidebau ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

4.3 Nododd Carys fod y Prif Weinidog hefyd wedi gofyn a ddylai Cyfarwyddwyr Anweithredol a’r rôl y maent yn ei chwarae fod yn fwy gweladwy ymysg Gweinidogion. Heriodd Carys yr awgrym hwn gan fynnu nad oedd angen codi ymwybyddiaeth ymysg Gweinidogion.

4.4 Ychwanegodd Des Clifford fod y Prif Weinidog wedi dweud ei fod yn teimlo bod y cyfarfod yn gadarnhaol, gan nodi bod materion a oedd yn cael eu hystyried gan y Bwrdd yn cyd-fynd â materion a oedd yn cael eu trafod gan y Cabinet.

4.5 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, gan awgrymu y dylai’r aelodau barhau i ystyried y ffordd orau o wella dealltwriaeth o rôl y Bwrdd ar draws y sefydliad.

5. Unrhyw fater arall

5.1 Ni chodwyd unrhyw faterion eraill. Diolchodd y Cadeirydd i aelodau’r Bwrdd gan gloi’r cyfarfod. Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 1 Medi.