Neidio i'r prif gynnwy

Data am y math o dân, anafiadau, difrod a ffynhonnell ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.

Cyhoeddir data tân glaswelltir yn fwletin atodol i’r ystadegau digwyddiad tân ac achub a  gynhyrchwyd ym mis Hydref 2023.

Mae'r dadansoddiad yn y bwletin hwn yn ymwneud â digwyddiadau'r gwasanaeth tân ac achub sy’n ymwneud â glaswelltir rhwng mis Ebrill 2022 a diwedd mis Mawrth 2023, wrth gymharu ag Ebrill 2021 i Fawrth 2022, cyfnod o fewn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Dylid ystyried unrhyw gynnydd neu ostyngiad mewn niferoedd o fewn y cyd-destun hwn.

Pwyntiau allweddol

Tanau

  • Ymatebodd Awdurdodau Tân ac Achub Cymru i 2,619 o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yn 2022-23, cynnydd o 7% ar y nifer yn 2021-22.
  • Cynyddodd nifer y tanau glaswelltir cynradd 29% yn 2022-23 o gymharu â 2021-22.
  • Cododd nifer o danau eilaidd ar laswelltir 5% yn 2022-23 (o'i gymharu â 2021-22).
  • Yn 2022-23, 7 mewn 10 o danau ar laswelltir, cnydau a choedwigoedd wedi eu cychwyn yn fwriadol.
  • Digwyddodd 65% o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd 2022-23 ym mis Ebrill 2022, mis Gorffennaf 2022 a mis Awst 2022. Dengys data’r Swyddfa Dywydd y gwelwyd 40% o’r oriau o heulwen a dim ond 10% o’r oriau o law a ddigwyddodd yn 2022-23 yn ystod y misoedd yma.
  • Roedd mwy na 6 gwaith cymaint o danau glaswelltir, coetir a chnydau ym mis Awst 2022 o gymharu ag Awst 2021.
  • Digwyddodd 47% o danau glaswelltir yn 2022-23 yn Ne Cymru; 35% yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru a 18% yng Ngogledd Cymru.

Anafiadau

  • Roedd 4 o anafiadau nad oedd yn angheuol, o ganlyniad i danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd yng Nghymru yn 2022-23.
  • Cafwyd y farwolaeth ddiwethaf yn 2007-08 o ganlyniad i danau glaswelltir.

Difrod

  • Yn 2022-23, gwnaeth 68% o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd difrod i ardaloedd llai na 20 metr sgwâr.
  • Difrododd 13% o danau glaswelltir, cnydau a choedwigoedd ardal o fwy na 200 metr sgwâr. 

Adroddiadau

Tanau glaswelltir: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
Saesneg yn unig
1 MB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas i ddefnyddwyr technoleg gynorthwyol.
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Claire Davey

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.