Data canlyniadau dysgwyr fesul lefel astudio, math yr amcan dysgu, ardal pwnc/sector a nodweddion y dysgwr ar gyfer Awst 2017 i Gorffennaf 2018.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Mesurau canlyniadau dysgwyr ar gyfer addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned
Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer addysg bellach
- Yn 2017/18 roedd cyfradd llwyddo gweithgareddau dysgu cyffredinol ar gyfer addysg bellach yn 85%, i lawr 1.3 pwynt canran ers 2016/17.
- Yn 2017/18 roedd cyfraddau cwblhau a chyrhaeddiad gweithgareddau dysgu ar gyfer addysg bellach yn 92% a 93% yn y drefn honno.
Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith
- Roedd cyfradd llwyddo fframwaith prentisiaeth ar gyfer dysgu seilidig ar waith yn 82%, i fyny 0.4(r) o bwynt canran ers 2016/17.
- Roedd gan 74% o ddysgwyr a adawodd rhaglenni Hyfforddeiaeth yn 2017/18 ddilyniant cadarnhaol (h.y. i gyflogaeth (gan gynnwys hunangyflogaeth neu waith gwirfoddol) neu ddysgu ar lefel uwch).
(r) Diwygiedig ar 14 Chwefror 2019.
Mesurau deilliannau dysgwyr ar gyfer addysg oedolion yn y gymuned
- Roedd cyfradd llwyddo gweithgareddau dysgu cyffredinol ar gyfer dysgu oedolion a’r gymuned yn 90%, i fyny 0.6 o bwynt canran ers 2016/17.
- Yn 2017/18 roedd cyfraddau cwblhau a chyrhaeddiad gweithgareddau dysgu ar gyfer dysgu oedolion a’r gymuned yn 96% a 93% yn y drefn honno.
Adroddiadau deilliannau dysgwyr
Mae Adroddiadau Deilliannau Dysgwyr yn grynodebau o'r cyfraddau llwyddiant dysgwyr a gyflawnwyd gan bob darparwr yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn dangos gwybodaeth yn ôl lliw ynghylch cyfraddau llwyddiant – sef canran yr holl gymwysterau a gyflawnwyd gan ddysgwyr – a chynnydd dysgwyr i gyflogaeth neu ddysgu pellach (ar gyfer darparwyr dysgu seiliedig ar waith).
Rydym yn cyhoeddi’r adroddiadau hyn yn flynnyddol i roi gwybod i ddysgwyr, cyflogwyr, rhieni a'r cyhoedd yn gyffredinol ynghylch deilliannau darpariaeth a ariennir gan Lywodraeth Cymru.
Adroddiadau
Mesurau canlyniadau dysgwyr ar gyfer addysg bellach, dysgu seiliedig ar waith a dysgu oedolion yn y gymuned, Awst 2017 i Gorffennaf 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Adroddiadau deilliannau dysgwyr ar gyfer addysg bellach, Awst 2017 i Gorffennaf 2018 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 182 KB
Adroddiadau canlyniadau dysgwyr ar gyfer partneriaethau dysgu oedolion yn y gymuned, Awst 2017 i Gorffennaf 2018 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 142 KB
Adroddiadau ar ddeilliannau dysgwyr ar gyfer dysgu seiliedig ar waith, Awst 2017 i Gorffennaf 2018 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 250 KB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: ystadegau.addysgol16@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.