Adroddiad sy'n rhoi amcangyfrif o faint yr holl fentrau sy'n gweithredu yng Nghymru ar gyfer 2023.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Dadansoddiad o faint y busnesau
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
- Amcangyfrifwyd bod 248,800 o fentrau'n weithredol yng Nghymru, gan gyflogi tua 1.2 miliwn o bobl.
- Roedd y rhan fwyaf o fentrau gweithredol yn fusnesau bach a chanolig eu maint gyda 0 i 249 o weithwyr. Roeddent yn cyfrif am 99.3% o gyfanswm y mentrau yng Nghymru yn 2023. Roedd microfusnesau (0 i 9 o weithwyr) yn cyfrif am 94.6% o gyfanswm y mentrau yng Nghymru.
- Roedd 37.7% o gyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru o fewn mentrau mawr (y rhai sydd â 250 neu fwy o weithwyr), o'i gymharu â 39.7% ar gyfer y DU cyfan.
- Ers 2003 bu Gostwng o 3.9 pwynt canran yng nghyfran y gyflogaeth mewn mentrau mawr.
- Roedd tua 0.6% o fentrau byw yng Nghymru a pherchentyaeth tu allan i’r DU. Roedd y rhain yn cynrychioli 15.1% o’r gyflogaeth.
- Roedd amrywiad sylweddol rhwng sectorau diwydiant, gyda swyddi mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth a pysgota wedi eu dominyddu gan ficrofusnesau (84.4%) a chyflogaeth yn y diwydiannau cynhyrchu wedi eu crynhoi yn y band maint mwyaf (48.3%).
Adroddiadau
Dadansoddiad o faint y busnesau: 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 681 KB
PDF
Saesneg yn unig
681 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.