Cofnodion Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru: 24 Chwefror 2021
Cofnodion cyfarfod Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) a gynhaliwyd ar 24 Chwefror 2021.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
Aelodau
- Kathryn Bishop, Cadeirydd
- Dyfed Edwards, Is-gadeirydd
- Jocelyn Davies, Aelod Anweithredol
- Mary Champion, Aelod Anweithredol
- Rheon Tomos, Aelod Anweithredol
- Dyfed Alsop, Prif Weithredwr
- Becca Godfrey, Prif Swyddog Strategaeth
- Sam Cairns, Prif Swyddog Gweithrediadau
- Lucy Robinson, Mewnwelediad a Strategaeth Cwsmeriaid
Ymgynghorwyr
- Melissa Quignon-Finch, Prif Swyddog Pobl
- Rob Jones, Prif Swyddog Cyllid
- Amy Bowden, Pennaeth Cyfreithiol Dros Dro
- Gareth Watson, Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro
- Neil Butt, Pennaeth Staff Dros dro
- Anna Adams, Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi, Polisi ac Ymgysylltu - Trysorlys Cymru
Agor y cyfarfod
1. Croeso a chyflwyniadau, gwrthdrawiad buddiannau ac ymddiheuriadau, cofnodion y cyfarfod diwethaf, materion yn codi
- Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. Ymunodd Gareth Watson fel Ymgynghorwr i'r Bwrdd am y tro cyntaf, fel Pennaeth Cyfathrebu Dros Dro.
- Cafwyd ymddiheuriadau gan Andrew Jeffreys, byddai Anna Adams yn dirprwyo ac yn cyflwyno adroddiad Cyfarwyddwr Trysorlys Cymru.
- Nodwyd un buddiant i'w gynnwys yn log buddiannau'r Bwrdd, ni ddatganwyd unrhyw wrthdaro buddiannau.
- Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod diwethaf a'r cofnod wedi’i olygu at ddiben cyhoeddi allanol, yn amodol ar un ychwanegiad bach, a fyddai'n cael ei rannu gyda'r Bwrdd y tu allan i'r cyfarfod i sicrhau bod yr aelodau'n fodlon. Cytunodd yr Aelodau ar y cam gweithredu a'r penderfyniad o'r cyfarfod diwethaf, gan nodi y gellid cau'r unig gam a oedd heb ei weithredu.
- Nododd y Cadeirydd weithgarwch y Bwrdd ers y cyfarfod ym mis Rhagfyr at ddibenion y cofnod. Roedd yr aelodau wedi cyfarfod ddwywaith ac wedi trafod neu dderbyn diweddariadau fel a ganlyn:
- roedd y Bwrdd wedi cyfarfod ddechrau mis Ionawr ar gyfer sesiwn hyfforddi diogelwch seiber
- gwybodaeth wedi’i Golygu
- roedd gwaith ymchwilio i lywodraethu ACC wedi'i wneud yn fewnol
- cyflwynwyd y broses arfaethedig ar gyfer adolygu strategaeth ar lefel y Bwrdd. Roedd y Bwrdd yn fodlon ar y cyfan â'r dull gweithredu ond cytunwyd y byddai gwaith pellach yn cael ei wneud i drefnu dyddiadau adolygu. Roedd cysylltiad agos rhwng hyn a’r gwaith i adolygu llywodraethiant ac felly dylid ei drafod ar ôl ei gwblhau.
- roedd y Bwrdd wedi cyfarfod ar gyfer ei adolygiad effeithiolrwydd blynyddol, a byddai crynodeb o'r drafodaeth yn cael ei ddosbarthu dros y dyddiau nesaf
- roedd y Bwrdd wedi derbyn briff cychwynnol ar gynllun strategol a chyllideb 2021-22 ACC
Adroddiadau, cymeradwyaethau a phenderfyniadau
2. Adroddiad y Cadeirydd
- Rhoddodd y Cadeirydd y wybodaeth ddiweddaraf am weithgarwch diweddar.
- Cyfarfu'r Cadeirydd, ynghyd â'r Prif Weithredwr a Thrysorlys Cymru â'r Gweinidog ym mis Chwefror i drafod cynllun strategol a chyllideb 2021-22 ACC.
- Cynhaliwyd ail gyfarfod rhwng y Cadeirydd a'r Ysgrifennydd Parhaol i drafod amcanion y Cadeirydd. Cafodd yr amcanion eu cwblhau yn llawer hwyrach na'r disgwyl oherwydd y pwysau gwaith o ganlyniad i'r Coronafeirws (COVID-19). Defnyddiodd y Cadeirydd y cyfarfod hwn hefyd fel cyfle i sôn am yr adolygiad o lywodraethiant sy'n cael ei gynnal ar hyn o bryd a hysbysodd yr Ysgrifennydd Parhaol y Cadeirydd y byddai canllawiau'n cael eu dosbarthu i bob gwas sifil ar gyfer y cyfnod cyn yr etholiad, gan y byddai ACC, fel adran o Lywodraeth Cymru, yn cael ei gynnwys wrth gwrs.
3. Adroddiad y Prif Weithredwr a pherfformiad gweithredol
4. Perfformiad ariannol
5. Adroddiadau gan bwyllgorau
- Nid oedd gan Gadeirydd yr ARAC unrhyw beth i'w uwchgyfeirio na'i adrodd o gyfarfod diweddaraf y pwyllgor, ac eithrio'r hyn a nodwyd o dan eitem yr Adroddiad Cyllid.
6. Adroddiad gan Drysorlys Cymru
- Roedd rheoliadau treth ar gyfer y Dreth Gwarediadau Tir (TGT), y Dreth Trafodiadau Tir (TTT) a Chyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) i gyd wedi pasio.
- Hysbyswyd yr Aelodau bod y gostyngiad TTT i fod i ddod i ben ar 31 Mawrth. Pe bai Llywodraeth y DU yn ymestyn gostyngiad Treth Dir y Dreth Stamp (SDLT), gall Gweinidogion Cymru benderfynu gwneud yr un peth yn dibynnu ar y rhesymeg. Os bydd sefyllfa Cymru'n newid, byddai TC yn ymgynghori ag ACC ynglŷn â’r hyn sydd angen ei wneud.
- Gall treth ar ddeunyddiau pecynnu plastig ddod i mewn y flwyddyn nesaf, sy'n codi cwestiynau am bethau y byddai TC am eu hastudio’n fwy eang. Roedd ACC wedi bod yn rhan o'r trafodaethau ar y dreth amgylcheddol a byddai TC yn hapus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am hyn yn y dyfodol.
- Diolchodd y Bwrdd i TC am eu cymorth yn y gwaith cyllidebol diweddar ac am y cydweithio arall a fu’n digwydd.
Trafodaeth
7. Y wybodaeth ddiweddaraf am y ddyletswydd cydraddoldeb ac economaidd-gymdeithasol
- Rhannwyd y papur a oedd yn cynnwys trosolwg o fuddion y ddyletswydd a'r meysydd a fyddai'n cael eu heffeithio gyda'r Bwrdd er gwybodaeth. Roedd y Bwrdd yn cydnabod y byddai'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ACC roi sylw dyledus i'r ddyletswydd o 31 Mawrth wrth wneud penderfyniadau strategol, fel y mae'n rhaid iddynt ei wneud wrth ymdrin ag effeithiau eraill ar gydraddoldeb.
- Roedd aelod o staff wedi eistedd ar Fwrdd cynghori Llywodraeth Cymru yn edrych ar y ddyletswydd ac felly roedd TA yn teimlo'n gyfforddus bod ACC yn cael digon o gyfle i fwydo i mewn i'r gwaith.
- Hysbyswyd yr Aelodau y byddai'r ddyletswydd yn ategu'r gwaith ehangach sy'n cael ei wneud ar gydraddoldeb ac y byddai ystyriaethau mewn perthynas â'r ddyletswydd yn cael eu nodi pan fydd y Bwrdd yn gwneud penderfyniadau strategol yn y dyfodol.
- Roedd y Bwrdd yn fodlon ar y cyfan bod yr holl ardaloedd yr effeithir arnynt wedi'u cynnwys yn y papur ond awgrymodd y gallai fod angen cynnwys caffael.
- Nodwyd bod gofyniad i ystyried y ddyletswydd wrth adolygu neu wrth wneud unrhyw newidiadau i'r strategaethau presennol. Fodd bynnag, er nad yw'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i ACC edrych yn ôl ar strategaethau y cytunwyd arnynt yn flaenorol nad oes angen eu hadolygu/diweddaru, rhoddir ystyriaeth i'r holl strategaethau y cytunwyd arnynt ar ryw adeg.
- Rhoddwyd dolenni i'r canllawiau statudol drafft a gweminar ar-lein i’r Bwrdd, er mwyn iddynt gael rhagor o wybodaeth. Dywedodd y Bwrdd y byddent yn croesawu unrhyw hyfforddiant pellach ar hyn a chydraddoldeb yn fwy cyffredinol, ac roeddent yn croesawu'r cyfle i drafod data a thystiolaeth er mwyn eu helpu i asesu effeithiau eu penderfyniadau maes o law.
8. Adolygiad o Effeithiolrwydd y Bwrdd
9. Cynllun Strategol a Chyllideb 2021-22 ACC
- Roedd y Bwrdd wedi cyfarfod ar gyfer sesiwn briffio ar 16 Chwefror i edrych ar y cynnydd a wnaed gan Tîm Arwain o ran datblygu cynllun strategol ACC ar gyfer 2021-22. Roedd papur briffio wedi’i roi i'r aelodau ymlaen llaw ac ar y diwrnod cafwyd cyflwyniad gan aelodau Tîm Arwain yn ymdrin â'r agweddau allweddol gan ganolbwyntio'n benodol ar y dull o ymdrin â risg treth; UDT; amcanion dylunio a data; yn ogystal â fforddiadwyedd cyffredinol y cynllun yn seiliedig ar y gyllideb a ragwelir ar gyfer y flwyddyn nesaf.
-
Ymdriniwyd ag ystod eang o gwestiynau a phwyntiau yn ystod y sesiwn ac, yn gyffredinol, roedd y Bwrdd yn fodlon â'r cynigion a gyflwynwyd. Cafodd yr arsylwadau allweddol eu grwpio i 7 maes:
- Pwysigrwydd hyblygrwydd - gofalu am les staff; cydnabod y sensitifrwydd o fewn ein cyllidebau; a pha mor dynn y bydd ein cyllid.
- Peidio â dechrau a stopio gormod – gwell gwneud ychydig o bethau'n dda na cheisio gwneud gormod a gorfod ailffocysu ac addasu'n barhaus.
- Gwybodaeth wedi’i Golygu.
- Pwysigrwydd sesiynau briffio yn ystod y cyfnod - yn enwedig mewn meysydd newydd a rhai sy'n datblygu.
- Defnyddio'r dysgu - o bwysau a chyfaddawdau posibl y flwyddyn nesaf – er mwyn llywio'r cynllun corfforaethol nesaf.
- Peidio â gadael i'n hunain golli golwg ar yr egwyddor o degwch.
- Pwysigrwydd dyluniad gwasanaethau mewn datblygiad polisi da.
-
Gwybodaeth wedi’i Golygu. Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth ac ati neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.
- Tynnwyd sylw at y risg o rai rhagdybiaethau yn y gyllideb yn ystod y flwyddyn. Nodwyd y byddai angen ystyried pa mor sensitif fydden ni i'r newidiadau hynny a sut y byddem yn rheoli'r risg honno, naill ai er mwyn osgoi gorwariant neu danwariant sylweddol.
- Byddai'r cynllun terfynol a'r gyllideb yn cael eu cyflwyno i'r Bwrdd i'w cymeradwyo ar 24 Mawrth.
- Cynhaliwyd trafodaeth am gyfleoedd pellach i ymgysylltu â rhanddeiliaid. Hysbyswyd yr Aelodau bod trafodaeth i fod i gael ei chynnal gyda TC yr wythnos ganlynol ac y byddai rhywfaint o waith briffio'n cael ei wneud gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC). Cytunodd y tîm i roi ystyriaeth bellach i’r pwynt yma.
10. Adolygiad o Lywodraethiant (cam un)
Cau’r cyfarfod
11. Unrhyw Fater Arall
- Ni chodwyd unrhyw fusnes arall.
12. Rhagolwg
- Byddai trafodaeth ar lety a'r adolygiad o lywodraethiant yn cael ei threfnu ar gyfer dyddiad diweddarach.
Gwybodaeth wedi’i golygu
Mewn rhai amgylchiadau, nid yw’n briodol rhannu’r holl wybodaeth a gafodd ei chynnwys yng nghofnodion y Bwrdd, er enghraifft os yw’n cynnwys data personol neu fasnachol neu os yw’n gysylltiedig â ffurfio polisi llywodraeth neu gynnal materion cyhoeddus yn effeithiol. Mewn achosion o’r fath tynnwyd yr wybodaeth allan a marciwyd yn glir ar y testun mai dyma sydd wedi digwydd.