Profion golwg rheolaidd yw'r ffordd orau o sicrhau bod eich llygaid yn iach, a gallent arwain at driniaeth lwyddiannus ar gyfer cyflyrau anhysbys, sy'n bygwth eich golwg ac efallai eich bywyd hyd yn oed.
Dyna'r neges gan y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan, mewn ymgyrch newydd i annog oedolion dros 30 oed i fynd i gael prawf golwg yn eu practis optometreg lleol (optegwyr).
Dywedodd y Gweinidog Iechyd:
Mae glawcoma, diabetes a myopia ymhlith y cyflyrau iechyd y gellir eu canfod a'u trin yn gynharach, drwy archwiliadau llygaid yn eich practis optometreg lleol.
Gall optometryddion (optegwyr) ganfod problemau eraill hefyd fel tiwmorau'r ymennydd, felly gallai prawf golwg rheolaidd achub eich bywyd. Mae'n bwysig iawn bod oedolion dros 30 oed yn mynd am brawf golwg rheolaidd. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn gymwys i gael prawf golwg am ddim a bydd rhai cyflogwyr hefyd yn talu am eich prawf.
Nid oes gan rai cyflyrau sy'n achosi pobl i golli eu golwg unrhyw symptomau, ond yn aml gall prawf golwg ganfod y cyflyrau hyn cyn ichi sylwi ar unrhyw newidiadau yn eich golwg - gan arwain at driniaeth hanfodol ar yr adeg iawn, i achub eich golwg.
Mae'r ymgyrch optometreg 'Helpwch ni i'ch helpu chi', a lansiwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, yn annog pawb i gael archwiliadau llygaid rheolaidd gan eu hoptometrydd, er mwyn osgoi problemau difrifol gyda'u llygaid.
Mae profion golwg y GIG yn rhad ac am ddim i'r rhai sy'n gymwys. Mae pobl ifanc a'r henoed, pobl sydd ar fudd-daliadau neu'r rhai sydd â hanes o glawcoma yn y teulu yn gymwys i gael prawf am ddim. Byddwch hefyd yn gymwys os ydych chi'n defnyddio sgriniau cyfrifiadurol yn y gwaith. Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i gyflogwyr drefnu prawf ar eich cyfer os byddwch yn gofyn am un. Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr fel arfer yn cytuno i dalu am y prawf golwg rydych wedi'i drefnu i chi'ch hun.
O ganlyniad i gytundeb newydd, gall mwy o bobl yng Nghymru nawr gael prawf golwg am ddim. Gall pobl sydd mewn mwy o berygl o ddatblygu rhai cyflyrau llygaid gael archwiliadau llygaid am ddim drwy Gynllun Archwiliadau Iechyd Llygaid Cymru. Mae'r rhain yn cynnwys pobl sydd:
- o grwpiau ethnig Asiaidd neu Ddu
- yn fyddar neu'n ddall
- â phroblemau llygaid sydd angen sylw brys
- wedi cael eu cyfeirio gan eu meddyg teulu neu gan optometrydd sydd wedi cofrestru â'r Cynllun Archwiliadau Llygaid
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd:
Er mwyn helpu i leihau amseroedd aros ysbytai, gwella canlyniadau cleifion a mynd i'r afael â'r galw cynyddol am wasanaethau gofal llygaid, mae Llywodraeth Cymru yn newid sut mae gofal llygaid yn cael ei ddarparu yng Nghymru drwy gontract optometreg newydd. Mae hyn yn golygu y gall optometryddion y stryd fawr fonitro a thrin ystod ehangach o gyflyrau llygaid yn effeithiol, fel y gall mwy o bobl gael archwiliadau llygaid yn rhad ac am ddim, yn gyflymach ac yn agosach at eu cartrefi.
Dywedodd David O'Sullivan, Prif Gynghorydd Optometrig Cymru:
O 30 oed ymlaen, gall ein golwg ddirywio, a gall rhai cyflyrau ddatblygu. Felly, mae'n bwysig bod pawb yn cael archwiliad iechyd llygaid rheolaidd. Mae eich optometrydd lleol yn gymwys iawn i ganfod cyflyrau llygaid, a gall archwiliadau rheolaidd achub eich golwg ac ar adegau eich bywyd hyd yn oed.