Cyfarfod y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: 6 Rhagfyr 2022
Cofnodion cyfarfod y comisiwn ar 6 Rhagfyr 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Present
Cyd-Gadeiryddion
- Laura McAllister
- Rowan Williams
Comisiynwyr
- Anwen Elias
- Lauren McEvatt (drwy Teams)
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Panel yr Arbenigwyr
- Gareth Williams
Ysgrifenyddiaeth
- Gareth Morgan, Dirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth yr Ysgrifenyddiaeth
- Carys Evans, Cynghorydd
- Victoria Martin, Swyddog Polisi Arweiniol
- Ruth Leggett, Pennaeth Cyfathrebu ac Ymgysylltu
- Tessa Hajilambi, Rheolwr Swyddfa
- Rod Hough, Rheolwr Swyddfa
Ymddiheuriadau
- Miguela Gonzalez
- Michael Marmot
- Heulwen Mai Vaughan
Eitem 1: Croeso gan y cyd-Gadeiryddion
1. Croesawodd y cyd-Gadeiryddion y Comisiynwyr. Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Miguela Gonzalez a Michael Marmot.
Eitem 2: Sesiwn fyfyrio
2. Adolygodd y Comisiynwyr eu gwaith dros y flwyddyn flaenorol, a thrafod eu cynlluniau ar gyfer eu hail flwyddyn, gan gynnwys eu dull cyffredinol o ymdrin â'r gwaith, cynnal cyfarfodydd, a'r meysydd ar gyfer blaenoriaethu.
Eitem 3: UFA
3. Diolchodd y cyd-Gadeiryddion i'r Comisiynwyr, ac amlinellwyd y trefniadau ar gyfer lansio'r adroddiad interim y bore canlynol.