Mae’r adroddiad yn pennu amrediad a lefel y taliadau ym mlwyddyn ariannol 2024 i 2025.
Manylion
O dan ofynion Mesur Llywodraeth Leol 2011, mae’n ofynnol i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ddarparu adroddiad drafft i:
- Weinidogion Cymru
- awdurdodau perthnasol y mae’r Panel yn ei gwneud yn ofynnol iddynt wneud taliadau i’w haelodau mewn perthynas â materion perthnasol neu’n eu hawdurdodi i wneud hynny
- unrhyw bersonau eraill sy’n briodol yn nhyb y Panel
A:
- chymryd i ystyriaeth y sylwadau a ddaw i law ynglŷn â’r drafft
Hoffai'r Panel ddiolch i'r holl randdeiliaid a gyflwynodd sylwadau i Adroddiad Blynyddol Drafft 2024 i 2025. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hadolygu gan y Panel a bydd Adroddiad Blynyddol terfynol 2024 i 2025 yn cael ei gyhoeddi erbyn 28 Chwefror.