Adroddiad gan y Pwyllgor Lles Anifeiliaid (AWC) ar ddewisiadau amgen i ddifa cywion sydd newydd ddeor yn y diwydiant wyau a dofednod.
Dogfennau
Pwyllgor Lles Anifeiliaid: barn ar ddewisiadau amgen i ddifa cywion newydd ddeor yn y diwydiant wyau a dofednod , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 362 KB
PDF
Saesneg yn unig
362 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
Gofynnwyd i AWC ystyried dewisiadau amgen i ddifa cywion sydd newydd ddeor yn y diwydiant wyau a dofednod. Mae'r rhain yn cynnwys:
- cywion ac embryonau o fridiau cywion ieir a ddewiswyd ar gyfer cynhyrchu wyau masnachol
- cywion ac embryonau o'r rhywogaeth hon sy'n dod yn fridwyr adar bwyta
- tyrcwn newydd ddeor
- hwyaid newydd ddeor
Gofynnwyd i AWC:
- ystyried a oes technolegau a allai helpu i atal difa cywion gwrywaidd sydd newydd ddeor yn y diwydiant ieir dodwy e.e. drwy nodi a / neu bennu rhyw embryonau'r cyw cyn deor
- nodi unrhyw risgiau lles a allai ddeillio o gywion gwrywaidd sydd newydd ddeor ddim yn cael eu difa
- cynnig unrhyw syniadau neu safbwyntiau eraill ar y pwnc hwn