Adroddiad gan y Pwyllgor Lles Anifeiliaid (AWC) ar farn Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm 2014 ar les pysgod a ffermir adeg eu lladd.
Dogfennau
Pwyllgor Lles Anifeiliaid: diweddariad i farn Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm 2014 ar les pysgod a ffermir ar adeg eu lladd , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 414 KB
PDF
Saesneg yn unig
414 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Manylion
Gofynnwyd i'r Pwyllgor Lles Anifeiliaid (AWC) ystyried lles pysgod a ffermir adeg eu lladd. Mae'r Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm (FAWC) wedi ystyried y mater hwn o'r blaen. Gwnaeth y pwyllgor argymhellion i lywodraethau yn 2014: Cyngor FAWC ar les pysgod a ffermir (ar gov.uk).
Gofynnwyd i AWC:
- adolygu argymhellion FAWC 2014
- roi gwybod os yw'r rhain:
- yn parhau yn ddilys
- wedi cael eu diystyru gan ddigwyddiadau, neu
- wedi dod yn fwy o frys
- ystyried y diwydiant pysgod a ffermir yn y DU yn 2022
- ystyried sut y gallai marchnadoedd ar gyfer cynhyrchu pysgod a ffermir fod wedi newid ers 2014
- cynnal asesiad o ddulliau stynio wrth ladd pysgod, gan gynnwys:
- gweithrediadau cysylltiedig a allai fod wedi newid yn ymarferol, a
- y gyrwyr gwyddonol a masnachol y tu ôl i'r newidiadau hyn