Bydd trwydded gyffredinol TB16e yn caniatáu i chi symud gwartheg o safle o dan gyfyngiadau TB i Uned Besgi Gymeradwy.
Dim ond symudiadau cyfyngedig ac o dan reolaeth a ganiateir ar gyfer gwartheg dan gyfyngiadau TB. Mae hyn er mwyn rheoli'r risg o ledaenu TB mewn gwartheg drwy symud gwartheg sydd â haint heb ei ddarganfod.
O 2 Hydref 2023 ymlaen, gall ceidwaid buchesi dan gyfyngiadau TB wneud cais am drwydded gyffredinol (TB16e). Mae hyn yn ymdrin â symud gwartheg:
- yn uniongyrchol, neu
- drwy Arwerthiant Arbennig Cymeradwy ar gyfer gwartheg dan gyfyngiadau TB (“marchnad oren”) yng Nghymru neu Loegr i:
- Uned Besgi Gymeradwy (AFU)
- Uned Besgi Gymeradwy Uwch gyda Thir Pori (yn Lloegr) (AFUE)
- lladd-dy
Bydd y drwydded yn ddilys ar gyfer y cyfnod rhwng profion cyfnod byr. Bydd angen gwneud cais am drwydded newydd ar ôl pob prawf cyfnod byr.
Pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded i symud gwartheg i arwerthiant arbennig TB (marchnad oren), byddwn yn rhoi trwydded TB16e. Bydd ‘dyddiad yn ddilys tan’ ar y drwydded wedi'i gwblhau gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae'n bosibl y bydd amodau ychwanegol. Ar gyfer buchesi wedi’u heintio â TB yng Nghymru, pan fo'r prawf nesaf yn brawf clirio posibl, fel arfer bydd amod ychwanegol yn cael ei gynnwys, sef ‘Dim ond yn ddilys ar gyfer lloi o dan 90 diwrnod oed’.
Gallwch gopïo'r drwydded wreiddiol gynifer o weithiau ag y bo angen yn ystod y cyfnod mae'r drwydded yn ddilys. Bob tro rydych yn dymuno symud gwartheg, bydd angen i chi:
- gwblhau Rhan 2 y drwydded gyda manylion safle pen y daith (h.y. enw a chyfeiriad yr AFU/AFUE neu'r farchnad oren)
- ychwanegu manylion y gwartheg y byddwch yn eu symud:
- dyfais adnabod swyddogol yr anifail (rhif tag clust)
- dyddiad geni
- dyddiad y prawf TB diwethaf (os oes angen prawf cyn symud, felly nid oes angen ei gwblhau ar gyfer lloi o dan 42 diwrnod oed)
Yng Nghymru, dylech wneud cais i APHA, drwy:
- ffonio: 0300 303 8268
- e-bostio: APHA.CymruWales@apha.gsi.gov.uk
Bydd y drwydded gan gynnwys yr amodau manwl yn cael ei chyhoeddi ar dudalen twbercwlosis buchol (bovine TB ar gov.uk). Bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar ein tudalennau TB gwartheg ac ar TB hub.co.uk.