Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg

Bydd yr ymgynghoriad hwn, sy’n cael ei lansio ar 20/9/23, yn para am wyth wythnos tan 15/11/23 i roi cyfle i bartïon sydd â diddordeb wneud sylwadau ar y dull arfaethedig. Bydd unrhyw ymatebion a geir fel rhan o’r ymgynghoriad hwn yn cael eu hystyried yn ofalus a bydd crynodeb o’r ymatebion yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru o fewn tri mis ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori.

I bwy y bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb mwyaf

Swyddogion awdurdodedig awdurdodau lleol a’r rhai sy’n arolygu busnesau bwyd ac yn gorfodi deddfwriaeth bwyd. Busnesau bwyd ar draws pob sector gan gynnwys gweithgynhyrchu, pecynnu a labelu cynhyrchion bwyd, arlwyo, manwerthu a chynhyrchu cynradd. Bydd yr ymgynghoriad hwn hefyd o ddiddordeb i ddefnyddwyr, yn enwedig y rhai ag anghenion deietegol penodol, alergedd neu anoddefiad bwyd neu’r rhai sy’n prynu bwyd ar ran rhywun ag alergedd neu anoddefiad bwyd, gweithwyr iechyd proffesiynol ac eraill sydd â diddordeb mewn deddfwriaeth bwyd.

Beth yw pwnc yr ymgynghoriad hwn

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar ddiwygiadau deddfwriaethol arfaethedig i ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â honiadau am faethiad ac iechyd ar fwyd (Honiadau am faethiad ac iechyd ar fwyd: diwygiadau deddfwriaethol arfaethedig - GOV.UK (www.gov.uk)). Ymgynghorir ar ddau gynnig: 1 dirymu deddfwriaeth drydyddol ddiangen ynghylch penderfyniadau i awdurdodi neu wrthod honiad am faethiad neu iechyd; a 2 diwygio’r dull o orfodi’r gyfundrefn honiadau am faethiad ac iechyd yn Lloegr drwy gyflwyno cyfundrefn hysbysiadau gwella fel cam gorfodi cyntaf posibl. Byddai cynnig 1 mewn perthynas â dirymu, pe câi ei ddatblygu, yn cael ei weithredu drwy gyfrwng offeryn statudol ledled Prydain Fawr a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Byddai’r offeryn yn amodol ar gydsyniad Gweinidogion yng Nghymru a’r Alban.

Mae cynnig 2 mewn perthynas â diwygio’r dull gorfodi yn ymwneud â Lloegr yn unig. Mae cyfundrefn orfodi gyfatebol mewn perthynas â honiadau am faethiad ac iechyd ar waith yng Nghymru. Nodir y gyfundrefn mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru yn unol â’u pwerau o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990. Felly, byddai unrhyw newid i’r rheoliadau hynny yn gorfod cael ei wneud gan Weinidogion Cymru. O’r herwydd, byddai angen cynnal ymgynghoriad ar wahân ar unrhyw ddiwygiadau i hysbysiadau gwella yng Nghymru.

Felly, mae Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad ar wahân i gasglu barn ynghylch cynigion i gyflwyno hysbysiadau gorfodi ffurfiol newydd: hysbysiadau gwella ar gyfer honiadau am faethiad ac iechyd yng Nghymru. Bydd cyflwyno’r hysbysiadau gwella yn rhoi hysbysiadau gorfodi ffurfiol i awdurdodau lleol y gellir eu defnyddio i ddelio ag achosion o dorri safonau bwyd (gwybodaeth am fwyd, safonau cyfansoddiad, bwydydd newydd a bwyd ar gyfer grwpiau penodol). Bydd y gyfundrefn hysbysiadau gwella newydd yn cael ei gweithredu drwy offeryn statudol sy’n diwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007.

Beth yw pwrpas yr ymgynghoriad hwn

Casglu barn busnesau bwyd, awdurdodau gorfodi, defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill ynghylch cyflwyno hysbysiadau gwella newydd arfaethedig. Y prif bwyntiau yw nodi a fydd yr hysbysiadau o fudd i swyddogion sy’n gorfodi rheoliadau bwyd a chael dealltwriaeth o sut y gallent effeithio ar fusnesau bwyd.

Cefndir

Diwygio’r Ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â Honiadau am Faethiad ac Iechyd

Mae Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 a ddargedwir (fel y’i diwygiwyd gan Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019) ar honiadau am faethiad ac iechyd a wneir ar fwydydd yn nodi’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwneud honiadau am fuddion o ran maethiad ac iechyd bwyd ar labeli bwyd, mewn dulliau o gyflwyno bwyd ac mewn hysbysebion sy’n benodol i gynnyrch mewn cyd-destun masnachol. Efallai y bydd busnesau am dynnu sylw at briodweddau eu cynhyrchion a gall defnyddwyr elwa ar wybodaeth faethol, ond mae’n bwysig bod yr honiadau am faethiad ac iechyd a ddefnyddir yn gywir, ac nad yw defnyddwyr yn cael eu camarwain.

Ystyr ‘honiad am faethiad’ yw unrhyw honiad sy’n datgan, yn awgrymu neu’n ymhlygu bod gan fwyd briodweddau maethol buddiol penodol oherwydd presenoldeb, absenoldeb, lefelau uwch neu is o egni neu faethyn penodol neu sylwedd arall, ac mae’n cynnwys honiadau fel ‘ffynhonnell calsiwm’, ‘braster isel’, ‘ffeibr uchel’ a ‘llai o halen’.

Ystyr ‘honiad am iechyd’ yw unrhyw honiad sy’n datgan, yn awgrymu neu’n ymhlygu bod perthynas yn bodoli rhwng categori bwyd, bwyd neu un o’i gyfansoddion ac iechyd – er enghraifft, “mae calsiwm yn helpu i gynnal esgyrn normal” ac “mae fitamin C yn cyfrannu at weithrediad normal y system imiwnedd”.

Mae Rheoliad (EC) Rhif 1924/2006 a ddargedwir hefyd yn darparu ar gyfer defnyddio rhai ‘disgrifiadau generig’ i fod yn esempt rhag ei ofynion. Datganiadau neu ddisgrifiadau yw’r rhain a ddefnyddiwyd yn draddodiadol i ddynodi dosbarth penodol o fwydydd neu ddiodydd, ond a allai awgrymu effaith ar iechyd pobl. Er enghraifft, diod befriog ddialcohol â blas sy’n cynnwys yr elfen chwerw cwinîn yw dŵr ‘tonig’, ac nid ‘tonig’ i’ch iechyd. Pe na bai’r termau hyn wedi’u hawdurdodi fel ‘disgrifiadau generig’, byddai’n rhaid iddynt gydymffurfio â gofynion cyffredinol y rheoliad.

Mae’n ofynnol i honiadau am faethiad ac iechyd fod yn seiliedig ar dystiolaeth wyddonol a dim ond os ydynt wedi cael eu cymeradwyo’n gyntaf gan awdurdod priodol yn y DU ar ôl prosesau asesu a rheoli risg perthnasol y caniateir eu defnyddio. Mae hyn yn angenrheidiol i ddiogelu anghenion iechyd cyhoeddus defnyddwyr a sicrhau nad ydynt yn cael eu camarwain gan ddatganiadau marchnata sy’n gwneud i fwydydd ymddangos yn iachach neu’n fwy buddiol o ran maethiad nag ydynt.

Ar ddiwedd y cyfnod pontio ar gyfer ymadael â’r UE, cafodd yr holl honiadau awdurdodedig am faethiad ac iechyd a restrir naill ai yn yr atodiad i Reoliad 432/2012 (sy’n darparu’r rhestr ar gyfer honiadau am iechyd (ac eithrio’r rhai sy’n cyfeirio at leihau risg rhag clefyd ac at ddatblygiad ac iechyd plant)) neu yn yr atodiad i Reoliad 1924/2006 (sy’n darparu’r rhestr o honiadau am faethiad (wedi’u crynhoi yng Nghofrestr Gymunedol yr UE)) eu mabwysiadu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban a’u dargadw ac, i helpu rhanddeiliaid, eu cynnwys yng Nghofrestr Honiadau am Faethiad ac Iechyd Prydain Fawr.

Gwnaeth y Comisiwn Ewropeaidd reoliadau i gymeradwyo neu wrthod honiadau unigol am iechyd a diwygio’r atodiad i Reoliad 432/2012 fel y bo’n briodol. Yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE, dargadwyd y ddeddfwriaeth drydyddol hon.

Honiadau ‘wedi’u hoedi’ yw’r rhai y caniateir eu defnyddio tra eu bod yn dal i gael eu hystyried, yn amodol ar y mesurau pontio yn Erthygl (28)(5) o Reoliad (EC) 1924/2006 ar honiadau am faethiad ac iechyd. Gweler y rhestr lawn o’r ‘honiadau wedi’u hoedi’ y cyfeirir atynt gan Fwletin 2014.

Mae’n parhau i fod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru ynghyd â’r DU a’r weinyddiaeth ddatganoledig yn yr Alban i amharu cyn lleied â phosibl ar fusnesau. Felly, gan fod honiadau ‘wedi’u hoedi’ yn dal i gael eu hystyried yng Nghymru, Lloegr a’r Alban, caniateir iddynt barhau i gael eu defnyddio yn unol â Bwletin 2014 hyd nes y gwneir penderfyniad.

Mae’n drosedd defnyddio honiad anawdurdodedig am faethiad neu iechyd, h.y. un nad yw wedi’i gynnwys yn y ddeddfwriaeth.

Yn y DU, gorfodir cydymffurfiaeth â safonau bwyd gan awdurdodau lleol, fel arfer adran safonau masnach neu adran iechyd yr amgylchedd yr awdurdod lleol. Mae awdurdodau gorfodi yn cynnal archwiliadau ar gynhyrchion i wirio eu bod yn bodloni’r holl safonau labelu a marchnata perthnasol a nodir mewn deddfwriaeth.

Gall aelodau’r cyhoedd gysylltu ag awdurdod gorfodi i roi gwybod os ydynt yn credu nad yw’r ffordd y caiff cynnyrch ei labelu neu ei farchnata yn bodloni safonau rheoleiddio.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd yr awdurdod gorfodi sy’n lleol i brif swyddfa gwneuthurwr neu fewnforiwr y cynnyrch yn mynd ar drywydd achosion unigol.

Ar hyn o bryd yng Nghymru, mae’r Rheoliadau  yn galluogi gofynion Rheoliad 1924/2006 a ddargedwir i gael eu gorfodi dim ond drwy erlyniad troseddol (dirwy neu garchar). Fodd bynnag, nid yw’r weithdrefn orfodi gyfredol yn cyd-fynd â gweithdrefnau gorfodi eraill o ran labelu bwyd, sy’n llai biwrocrataidd, yn fwy cymesur, ac yn cael eu croesawu i raddau helaeth gan fusnesau ac asiantaethau gorfodi fel ei gilydd.

Er enghraifft, Rheoliadau Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Gofynion o ran Gwybodaeth a Chyfansoddiad) (Cymru) 2016 a rheoliadau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 sy’n gwneud darpariaeth i swyddogion gorfodi gyflwyno hysbysiadau gwella fel cam cynharach i feithrin cydymffurfiaeth mewn cysylltiad â bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau.

Yn yr achosion hynny, pan fo methiant i gydymffurfio â hysbysiad gwella, caniateir i awdurdodau gorfodi erlyn am y methiant hwnnw.

Y ffordd arfaethedig ymlaen i Gymru

Rydym yn cynnig defnyddio pwerau sydd wedi’u cynnwys yn adrannau 16(1)(e) ac (f), 26(1)(a) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 i ddiwygio Rheoliadau Honiadau am Faethiad ac Iechyd (Cymru) 2007 i gyflwyno cyfundrefn hysbysiadau gwella pan fo achos o dorri’r gofynion amrywiol y mae rhaid i honiadau am faethiad ac iechyd gydymffurfio â hwy o dan y Rheoliadau hyn a Rheoliad 1924/2006. Byddai cyflwyno hysbysiadau gwella yng Nghymru yn darparu cam cynnar ychwanegol i awdurdodau gorfodi yng Nghymru bennu’r mesurau i’w cymryd gan fusnes i sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion hynny.

Byddai’r gallu i erlyn pan ystyrir mai dyna’r cam gweithredu cywir yn parhau. Drwy gyflwyno hysbysiadau gwella, byddai awdurdodau gorfodi yn gallu gweithredu’n gyflymach i ddelio â diffyg cydymffurfiaeth a byddai busnesau’n gallu ymateb yn gyflymach i sicrhau cydymffurfiaeth, gan osgoi achosion llys costus a beichus i’r ddau barti.

Bydd y canllawiau presennol yn cael eu diweddaru er mwyn i’r diwydiant ddeall sut y bydd y broses orfodi ddiwygiedig yn gweithio gydag amserlenni disgwyliedig ar gyfer gweithredu. Cynigir na fyddai unrhyw feichiau newydd ar fusnesau yn cael eu creu. Rydym yn cynnig y byddai’r newidiadau yn dod i rym dri mis ar ôl gwneud yr offeryn statudol i alluogi’r diwydiant a’r adrannau safonau masnach i baratoi.

Buddion

Mae cyfraith yr UE a ddargedwir ar labelu, cyfansoddiad a safonau sy’n gysylltiedig â maethiad yn diogelu rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys babanod, plant ifanc a phobl sydd ag anghenion maethol penodol am resymau iechyd. Yn ogystal â sicrhau bod gwybodaeth faethol gywir yn cael ei darparu i ddefnyddwyr, mae’r ddeddfwriaeth ar labelu, cyfansoddiad a safonau sy’n gysylltiedig â maethiad yn sicrhau safonau cyfansoddiadol cadarn i helpu i gynnal safonau uchel o ran ansawdd a diogelwch.

Mae hyn yn helpu defnyddwyr i wneud dewisiadau gwybodus am eu deiet ac ymddiried yn y bwyd maent yn ei fwyta.

Wrth gymhathu’r rhan fwyaf o gyfraith yr UE a ddargedwir ar labelu, cyfansoddiad a safonau sy’n gysylltiedig â maethiad, gan ddiwygio’r weithdrefn o ran gorfodi honiadau am faethiad ac iechyd, credwn y byddwn yn sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng diogelu anghenion iechyd cyhoeddus defnyddwyr a’r baich ar y diwydiant drwy reoleiddio cadarn a chymesur.

Asesiad o’r Effaith ar Fusnes a’r Effaith Reoleiddiol

Bydd y newidiadau hyn yn effeithio ar weithgynhyrchwyr, mewnforwyr a manwerthwyr cynhyrchion bwyd sy’n gwneud honiadau am faethiad neu iechyd. Bydd gan fusnesau fel gweithgynhyrchwyr a mewnforwyr cynhyrchion bwyd sy’n gwneud honiadau am faethiad neu iechyd ddiddordeb arbennig yn ein cynlluniau ar gyfer deddfwriaeth sy’n ymwneud â honiadau am faethiad ac iechyd. Rydym yn tybio y bydd gan y busnesau hyn ddiddordeb mawr yn ein dull o ddiwygio’r fframweithiau rheoleiddio sy’n llywodraethu’r gwaith o orfodi eu harferion.

Bydd y diwygiadau deddfwriaethol hyn hefyd yn effeithio ar awdurdodau gorfodi sy’n gyfrifol am orfodi’r ddeddfwriaeth yn y maes hwn ond gallent hefyd fod o ddiddordeb i sefydliadau trydydd sector ac unigolion perthnasol.

Wrth asesu effaith cyflawni’r diwygiadau hyn ar fusnesau ac adrannau safonau masnach, yr unig effaith o ran cost ar hyn o bryd ar gyfer busnesau ac awdurdodau gorfodi yw ymgyfarwyddo â’r diwygiadau polisi hyn. Bydd cost hefyd i Lywodraeth Cymru o ran cyfathrebu’r newidiadau.

Rydym yn amcangyfrif oherwydd cwmpas cyfyngedig y diwygiadau arfaethedig mai ychydig o amser yn unig y bydd rhaid i fusnesau ac awdurdodau gorfodi ei dreulio yn ymgyfarwyddo â’r gweithdrefnau newydd sy’n cryfhau’r ddeddfwriaeth bresennol, yn enwedig gan fod hysbysiadau gwella eisoes yn cael eu defnyddio i orfodi rheoliadau ehangach o ran labelu bwyd.

Rydym yn amcangyfrif mai ymgyfarwyddo yw unig effaith cost y diwygiadau polisi hyn ar fusnesau ac awdurdodau gorfodi. Hynny yw, cyfanswm y costau cyflog fesul busnes/awdurdod lleol i weithiwr a rheolwr neu gyfarwyddwr o fewn y cwmni gymryd yr amser angenrheidiol i ddeall y newidiadau a sut y byddant yn effeithio ar fusnes a’r gyfundrefn orfodi. Costau uniongyrchol yw’r costau hyn a thybir eu bod yn gostau untro ac yr ysgwyddir y swm llawn ar unwaith.

Gan fod y cynigion hyn naill ai’n cynnal safonau presennol neu’n symleiddio prosesau gorfodi, cynigir na fyddai unrhyw feichiau newydd ar fusnesau yn cael eu creu ac y bydd Hysbysiadau Gwella Honiadau am Faethiad ac Iechyd yn dod i rym yng Nghymru ar yr un pryd ag yn Lloegr. Y bwriad yw y byddant yn dod i rym dri mis ar ôl i’r ddeddfwriaeth gael ei gwneud. Disgwylir i hynny fod yng ngwanwyn 2024.

Byddwn yn crynhoi’r holl sylwadau a geir a bydd yr ymateb swyddogol i bob un yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru o fewn tri mis ar ôl diwedd y cyfnod ymgynghori.

Sut i ymateb

Dylech gyflwyno’ch sylwadau erbyn 15 Tachwedd, gan ddefnyddio unrhyw un o’r dulliau canlynol:

  • cwblhau ein ffurflen ar-lein 
  • lawrlwytho a chwblhau ein ffurflen ymateb, a’i dychwelyd mewn e-bost neu drwy’r post i’r cyfeiriadau isod.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

WG 48538

Mae fersiynau print bras, Braille ac ieithoedd eraill o’r ddogfen hon ar gael ar gais.

Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth:

Y Gangen Byw’n Iach ac Egnïol 
Llywodraeth Cymru 
Parc Cathays
Caerdydd 

CF10 3NQ 

E-bost: PwysauIachCymruIach@llyw.cymru

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru ac ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru (Erthygl 6(1)(e)).

Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy’n gweithio ar y materion y mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgynghoriadau ar y cyd, mae’n bosibl y bydd hyn hefyd yn cynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, yna gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn.

Ymgymerir â gwaith o'r fath dim ond o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu data personol a’u cadw’n ddiogel.

Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i'ch enw a'ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio’ch manylion cyn cyhoeddi’ch ymateb.

Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth a’i bod yn bosibl y bydd Llywodraeth Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i ddatgelu gwybodaeth.

Os caiff eich manylion chi eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu’r data
  • o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data gweler y manylion cyswllt isod: 

Y Swyddog Diogelu Data:
Llywodraeth Cymru    
Parc Cathays
Caerdydd 
CF10 3NQ

e-bost: dataprotectionofficer@llyw.cymru

Dyma fanylion cyswllt Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth: 

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: https://ico.org.uk/

Cwestiynau

Er mwyn ymateb i'r ymgynghoriad, ewch i'r ffurflen ar-lein neu defnyddiwch y fersiwn Word.

Cwestiwn 1. Ydych chi’n cytuno bod bwlch yn yr opsiynau gorfodi ffurfiol sydd ar gael i swyddogion awdurdodedig ar gyfer achosion o dorri safonau bwyd ac y dylem ddefnyddio’r pwerau yn Neddf Diogelwch Bwyd 1990 i gyflwyno Hysbysiadau Gwella? Rhowch ragor o wybodaeth yn y blwch sylwadau.

Cwestiwn 2. Ydych chi’n credu bod cyflwyno Hysbysiadau Gwella yn fesur priodol a chymesur ar gyfer sicrhau cydymffurfiaeth â’r gofynion perthnasol o ran gwybodaeth am fwyd a safonau bwyd?

Cwestiwn 3. Ydych chi’n cytuno y bydd cyflwyno Hysbysiadau Gwella yn helpu i annog busnesau i gydymffurfio â’r rheoliadau? Os na, rhowch ragor o wybodaeth yn y blwch sylwadau.

Cwestiwn 4. Oes gennych chi unrhyw bryderon neu ymholiadau eraill ynghylch cyflwyno’r Hysbysiadau Gwella arfaethedig?

Cwestiwn 5. Beth yw’r effeithiau a ragwelir ar fusnesau wrth gyflwyno’r Hysbysiadau Gwella arfaethedig?

Cwestiwn 6. Ydych chi’n ystyried y bydd cyflwyno’r Hysbysiadau Gwella arfaethedig yn cael effaith o ran adnoddau ar awdurdodau lleol?

Cwestiwn 7  Beth yn eich barn chi fyddai effeithiau tebygol Cyflwyno hysbysiadau gwella ar gyfer honiadau am faethiad ac iechyd ar y Gymraeg? Mae diddordeb penodol gyda ni mewn unrhyw effeithiau posibl ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?

Ydych chi’n meddwl fod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Cwestiwn 8. Yn eich barn chi, a fyddai modd ffurfio neu addasu Cyflwyno hysbysiadau gwella ar gyfer honiadau am faethiad ac iechyd er mwyn sicrhau:

  • ei fod yn cael effeithiau positif neu fwy positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg; a
  • nad yw’n cael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg a pheidio â’i thrin yn llai ffafriol na Saesneg?

Cwestiwn 9: Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os hoffech dynnu ein sylw at unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw, gallwch wneud hynny yma.