Cyngor ar sut i fod yn berchennog cyfrifol ar gath.
Cynnwys
Ydw i'n barod am gath
Mae cael cath yn ymrwymiad mawr. Dylech gymryd amser i ystyried yn llawn bob agwedd ar fod yn berchen ar gath. Mae deall y gyfraith a'ch dyletswyddau cyfreithiol sy'n berthnasol i fod yn berchen ar gath yn bwysig iawn.
Mae’r Cod Ymarfer er Lles Cathod yn esbonio’r hyn y mae angen i chi ei wneud i roi'r gofal sy’n ofynnol o dan y gyfraith. Os ydych yn rhiant neu’n warcheidwad i blentyn o dan 16 oed, chi sy’n gyfrifol am unrhyw anifail sydd yn ei ofal.
Ein Cod Ymarfer er Lles Cathod
I gael gwybodaeth ynghylch a ydych chi'n barod am gath, ewch i:
Pa frîd o gath sy'n addas i mi
Mae yna lawer o fridiau a mathau o gathod. Gall dewis yr un cywir i chi fod yn anodd. Peidiwch â dewis cath yn seiliedig ar sut mae'n edrych yn unig heb ymchwilio i'w hanghenion o ran ymddygiad ac iechyd. Mae'n bosibl y bydd angen gofal milfeddygol rheolaidd ar fridiau penodol o gathod oherwydd nodweddion genetig penodol ac anffurfiadau corfforol. Gall y ffactorau hyn arwain at gymhlethdodau posibl drwy gydol oes y gath. Mae'n bwysig dysgu am y brîd yr ydych yn ei ystyried i sicrhau ei fod yn cyd-fynd yn dda â'ch ffordd o fyw a'ch anghenion.
Sut ydw i'n cael cath
Ar ôl i chi benderfynu eich bod yn barod am gath, mae angen i chi ystyried ai mabwysiadu neu brynu gan fridiwr cyfrifol yw'r peth iawn ichi.
Os ydych yn mabwysiadu o ganolfan achub, defnyddiwch ganolfan ag enw da. Yn yr un modd, cyn ichi brynu gan fridiwr, darganfyddwch eu statws trwydded.
Bydd gan eich awdurdod lleol fanylion bridwyr trwyddedig.
Mae'n bwysig bod cathod bach yn aros gyda'u mam am o leiaf wyth wythnos gyntaf eu bywyd. Gall eu symud cyn yr amser hwn arwain at ganlyniadau o ran eu hymddygiad, eu hiechyd a'u goroesiad.
Bydd rhestr wirio Cats Protection (ar cats.org.uk) yn helpu i roi gwybodaeth am yr hyn y dylech gadw llygad arnynt.
Mae rhagor o wybodaeth am fabwysiadu neu brynu ar gael yn Trwyddedu Anifeiliaid Cymru (ar llyw.cymru).
Sut ydw i'n gofalu am fy nghath
O dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid (ar gov.uk) mae'n rhaid i chi allu diwallu pum angen lles cath, sef:
- yr angen am amgylchedd addas
- yr angen am ddeiet addas
- yr angen i allu dangos patrymau ymddygiad arferol
- yr angen i fyw gydag anifeiliaid neu gathod eraill, neu ar wahân iddynt
- yr angen i gael ei hamddiffyn rhag poen, dioddefaint, anaf ac afiechyd
Mae gosod microsglodyn cath eisoes ar gael ar gyfer pob cath. Er nad yw'n orfodol yng Nghymru ar hyn o bryd, mae'n arfer da i bob perchennog cyfrifol osod microsglodyn ar eu cathod. Hyd yn oed y rhai sy'n cael eu cadw dan do yn unig rhag ofn eu bod yn dianc.
Un ystyriaeth bwysig i'w chadw mewn cof yw genedigaeth cathod bach sydd heb eu cynllunio. Rydym yn argymell eich bod yn ymgynghori â'ch milfeddyg cyn penderfynu ysbaddu neu fridio'ch cath. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein cod ymarfer er lles cathod ac oddi wrth Cats Protection.
I gael gwybodaeth am ofalu am eich cath a'i hanghenion, ewch i: