Mae’r adroddiad hwn yn rhoi gwybodaeth am iechyd cyffredinol ac afiechyd oedolion (16 oed a throsodd) sy’n byw yng Nghymru ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Iechyd cyffredinol ac afiechyd oedolion (Arolwg Cenedlaethol Cymru)
Ni ddylid cymharu canlyniadau â blynyddoedd cyn 2020-21 (pan oedd cyfweliadau dros y ffôn yn disodli cyfweliadau wyneb yn wyneb).
Prif bwyntiau
- 69% o oedolion yn dweud bod eu hiechyd cyffredinol yn dda neu’n dda iawn
- 48% o oedolion yn dweud bod ganddynt salwch hirdymor
- 36% o oedolion yn dweud bod ganddynt salwch cyfyngus hirdymor
Roedd menywod yn llai tebygol o adrodd am iechyd cyffredinol da neu dda iawn na dynion, ac yn fwy tebygol o adrodd am salwch hirdymor / salwch cyfyngus hirdymor. Gostyngodd cyfran yr oedolion a adroddodd iechyd cyffredinol da neu dda iawn gydag oedran, tra bod y gyfran a adroddodd salwch hirdymor / salwch cyfyngus hirdymor yn cynyddu gydag oedran.
Roedd oedolion yn yr ardaloedd gyda’r mwyaf o amddifadedd yn llai tebygol o adrodd am iechyd cyffredinol da neu dda iawn na'r rhai yn yr ardaloedd gyda’r lleiaf o amddifadedd, ac roeddwn nhw’n fwy tebygol o adrodd am salwch hirdymor / salwch cyfyngus hirdymor.
Roedd cyfran yr oedolion a adroddodd iechyd cyffredinol da neu da iawn yn is nag yn 2021-22, ac roedd y gyfran a ddywedodd fod ganddynt salwch cyfyngus hirdymor yn uwch.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.