Cyfarfod y Cabinet: 1 Awst 2023
Cofnodion cyfarfod o'r Cabinet ar 1 Awst 2023.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Y Gwir Anrh. Mark Drakeford AS (Cadeirydd)
- Rebecca Evans AS
- Lesley Griffiths AS
- Jane Hutt AS
- Jeremy Miles AS
- Mick Antoniw AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Lynne Neagle AS
Ymddiheuriadau
- Vaughan Gething AS
- Julie James AS
- Eluned Morgan AS
- Julie Morgan AS
- Lee Waters AS
Swyddogion
- Des Clifford, Cyfarwyddwr Swyddfa’r Prif Weinidog
- Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
- Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
- Rory Powell, Pennaeth Swyddfa’r Prif Weinidog
- Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
- Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
- Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
- Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
- Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
- Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
- Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
- Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
- David Hooson, Cynghorydd Arbennig
- Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
- Owen John, Cynghorydd Arbennig
- Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
- Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
- Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
- Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
- Kathryn Hallett, Swyddfa’r Prif Weinidog
- Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
- Carla Lyne, Cyfarwyddwr, Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
- Debra Carter, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Cyllid Llywodraeth Leol
- Gawain Evans, Cyfarwyddwr Cyllid
- Emma Watkins, Dirprwy Gyfarwyddwr, y Gyllideb a Busnes y Llywodraeth
Eitem 1: Cofnodion cyfarfodydd blaenorol – 10 ac 13 Gorffennaf
1.1 Cytunodd y Cabinet gofnodion 10 ac 13 Gorffennaf.
Eitem 2: Camau nesaf 2023-2024 a chyllidebau 2024-2025
2.1 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet fod angen trafod y pwysau sylweddol yr oedd cyllideb 2023-2024 yn eu hwynebu, ac effeithiau paratoadau ar gyfer cylch cyllidebol 2024-2025.
2.2 Roedd angen gweithredu ar frys, a byddai hynny’n cael goblygiadau ar draws portffolios, a byddai’n hollbwysig deall effeithiau penderfyniadau unigol ac ar y cyd, ochr yn ochr â’r camau y gellid eu cymryd i wrthbwyso’r effeithiau a nodir.
2.3 Nid oedd hwn yn ymarfer a allai fod yn seiliedig ar ystyriaethau fforddiadwyedd yn unig, ond byddai angen defnyddio dull gweithredu’n seiliedig ar werthoedd y Llywodraeth.
2.4 Cytunodd y Cabinet â’r papur gan nodi y byddai cyfarfodydd yn parhau i gael eu cynnal drwy gydol yr haf er mwyn bwrw ymlaen â’r gwaith hanfodol hwn.
Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Awst 2023