Neidio i'r prif gynnwy

Ein cynlluniau i greu Senedd fwy effeithiol a chynrychiadol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyflwyniad

Ein bwriad yw cryfhau democratiaeth drwy greu Senedd Cymru fwy effeithiol a chynrychiadol:

  • Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)
  • Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Mae Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn nodi ein cynlluniau i greu Senedd Cymru sy’n gallu gwasanaethu pobl Cymru yn well. Mae’r Ddeddf, a gafodd ei phasio yn gyfraith yn swyddogol ar 24 Mehefin 2024, yn adlewyrchu sut y mae rôl a chyfrifoldebau’r Senedd wedi newid ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru agor ei ddrysau am y tro cyntaf yn 1999.

Bellach, gall y Senedd wneud deddfau a gosod trethi Cymreig – dyma benderfyniadau sy’n effeithio ar fywydau pawb yng Nghymru.

Ond er i'r Senedd ennill cyfrifoldebau, mae ei maint wedi parhau yr un fath, gan ei gwneud y ddeddfwrfa leiaf yn y DU ag iddi 60 o aelodau o'i gymharu â 129 yn Senedd yr Alban, a 90 yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon.

Newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau)

Ar 8 Mai 2024, pleidleisiodd Aelodau o'r Senedd o blaid y canlynol:

  • cynyddu maint y Senedd i 96 o Aelodau.
  • newid y system etholiadol yn un sydd wedi’i seilio’n llwyr ar yr egwyddor o gynrychiolaeth gyfrannol, gan gynnwys enwau’r holl ymgeiswyr ar y papur pleidleisio. O etholiad y Senedd yn 2026 ymlaen, bydd fformiwla D’Hondt yn cael ei defnyddio (y fformiwla hon sydd wedi bod yn cael ei defnyddio i bennu’r Aelodau ar restr ranbarthol y Senedd Diwygio'r Senedd: geirfa).
  • creu 16 o etholaethau newydd ar gyfer y Senedd, a fydd yn cael eu creu drwy baru’r 32 o etholaethau ar gyfer Senedd y DU, mewn da bryd ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026. Bydd adolygiad ffiniau llawn yn cael ei gynnal ar ôl etholiad y Senedd yn 2026.
  • ethol chwe Aelod o’r Senedd ym mhob un o’r 16 o etholaethau, o restrau caeedig.
  • cynyddu’r terfyn ar nifer y Gweinidogion Cymru y gellir eu penodi o 12 i 17 (ynghyd â’r Prif Weinidog a’r Cwnsler Cyffredinol), a chyflwyno’r gallu i gynyddu’r nifer ymhellach i 18 neu 19 gyda chymeradwyaeth y Senedd.
  • rhoi’r hyblygrwydd i Aelodau o’r Senedd ethol ail Ddirprwy Lywydd.
  • ei gwneud yn gyfraith bod pob ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Senedd ac Aelodau o’r Senedd yn preswylio yng Nghymru.
  • cynnal etholiadau’r Senedd bob pedair blynedd o 2026 ymlaen.

Mae’r Ddeddf yn seiliedig ar argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd (Diwygio ein Senedd: Llais cryfach i bobl Cymru). Cafodd yr argymhellion hyn eu cefnogi gan fwyafrif o’r Aelodau o’r Senedd ym mis Mehefin 2022.

Y camau nesaf

  • Mae gwaith ar y gweill yn awr i sicrhau y bydd y newidiadau a ddaw yn sgil Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) ar waith ar gyfer etholiad y Senedd yn 2026.
  • Mae Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn destun craffu ar hyn o bryd, a bydd angen cefnogaeth uwchfwyafrif o Aelodau o’r Senedd (40 o’r 60 o Aelodau o’r Senedd) i’w basio.

Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)

Cyflwynwyd Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) ar 11 Mawrth 2024.

Ei nod yw gwneud ein Senedd yn fwy effeithiol drwy gynrychioli cyfansoddiad poblogaeth Cymru o ran rhywedd yn well.

Yn 2003, daeth Cymru y wlad gyntaf yn y byd i ethol menywod i 50% o seddi ei senedd. Yn ystod y 2 ddegawd ers etholiad nodedig 2003, mae'r gyfran honno wedi lleihau.

Mae menywod bellach yn fwyafrif sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yng Nghymru. Menywod yw 51% o'r boblogaeth, ond dim ond 43% o ASau sy'n fenywod a dim ond 31% o'r ymgeiswyr yn etholiad diwethaf y Senedd oedd yn fenywod.

Newidiadau arfaethedig

Byddai Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) yn gosod cyfrifoldebau newydd ar bleidiau gwleidyddol sy’n cyflwyno mwy nag un ymgeisydd, a hynny i sicrhau:

  • Mai menywod yw o leiaf hanner eu hymgeiswyr etholiadol ar gyfer pob etholaeth.
  • Mai menyw sydd ar frig o leiaf hanner eu rhestrau ymgeiswyr etholaethol.
  • Bod pob ymgeisydd ar restr nad yw'n fenyw yn cael ei ddilyn gan fenyw.

Mae diwygio'r Senedd yn un o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru. Mae'r gwaith yn cael ei wneud ar y cyd â Phlaid Cymru ac mae'n rhan o'r Cytundeb Cydweithio.

Llinell amser

Y camau nesaf

  • Mae Aelodau o'r Senedd wrthi’n craffu ar y ddau Fil ar wahân.
  • Ar ôl y gwaith craffu, bydd Aelodau o'r Senedd yn pleidleisio i benderfynu cefnogi'r ddau Fil ai peidio.
  • Bydd angen i uwchfwyafrif o Aelodau o'r Senedd (40 o'r 60 o Aelodau o'r Senedd) gefnogi'r Biliau er mwyn eu pasio.
  • Os caiff y ddau Fil eu pasio, rhagwelir y bydd y newidiadau'n dod i rym o etholiadau'r Senedd yn 2026 ymlaen.

Gwybodaeth bellach