Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Fel rheoleiddiwr annibynnol y gweithlu addysg, mae’n ofynnol i Gyngor y Gweithlu Addysg gynnal a gwella safonau ymddygiad proffesiynol yn y gweithle.
Mae addasrwydd i ymarfer yn ymwneud â'r broses a ddefnyddir gan reoleiddwyr proffesiynol statudol i ddelio ag achosion a gyfeirir atynt. Cyngor y Gweithlu Addysg sy’n gyfrifol am y gwaith rheoleiddiol hwn mewn perthynas â’r gweithlu addysg yng Nghymru.
Yn dilyn deddfwriaeth newydd a ddaeth i rym ym mis Mai, sy’n ei gwneud yn ofynnol i fwy o unigolion gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg, rwyf heddiw yn lansio ymgynghoriad i holi barn ynghylch diwygio’r gofynion sy’n ymwneud â phwyllgorau ymchwilio ac addasrwydd i ymarfer y Cyngor.
Bwriad y cynigion yw diogelu swyddogaeth reoleiddiol Cyngor y Gweithlu Addysg i’r dyfodol, fel y gall y cyhoedd barhau i fod yn hyderus yn ymddygiad a chymhwysedd y gweithlu addysg yng Nghymru.
Mae’r ymgynghoriad yn agor heddiw, 11 Medi 2023, a bydd modd ymateb tan 1 Rhagfyr 2023.