Wrth i Gwpan Rygbi'r Byd baratoi ar gyfer y gêm gyntaf yn Ffrainc, mae Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid wedi ymuno â rhai o'r artistiaid gorau, cynhyrchwyr bwyd a diod a hyrwyddwyr diwylliannol o Gymru i ddangos yr hyn sydd ar gael gan Gymru oddi ar y cae.
Fel rhan o'r cynlluniau hyn, bydd y lleoliad cerddoriaeth enwog Clwb Ifor Bach yn meddiannu Stereolux ar ôl gêm Cymru yn erbyn Georgia ar 7 Hydref.
Bydd y band o Gaerfyrddin, Adwaith, sydd wedi ennill y Wobr Cerddoriaeth Gymreig ddwywaith, yn arwain perfformiadau gan sêr o Gymru a Ffrainc. Bydd y canwr rap a chyfansoddwr caneuon Luke RV hefyd ar y llwyfan, gyda Local, canwr rap UKG heavyweight, a Sage Todz o Ogledd Cymru.
Gerbron Tŵr Eiffel a'r Arc de Triumph, bydd Adwaith a'r canwr rap o Gaerdydd, Mace the Great, yn codi hwyl ffans rygbi drwy berfformiadau yn y Pentref Rygbi swyddogol ar Place de la Concorde ym Mharis.
Yn y pentrefi rygbi ym Mharis a Lyon, bydd y perfformiad dawns gyfoes gan Osian Meilir, Qwerin – grŵp dawns gyfoes sy'n cael eu hysbrydoli gan ddiwylliant clybiau cwiar – yn adlonni ffans gyda'u perfformiadau ysblennydd. Bydd Jessica Robinson, cantores syfrdanol a gyrhaeddodd y rownd derfynol o Ganwr y Byd y BBC yng Nghaerdydd, a Chôr Urdd Hafodwenog, côr ieuenctid o bobl 16 i 24 oed, hefyd yn canu yn Lyon pan fydd Cymru yn chwarae yn erbyn Awstralia.
Mae Cwpan y Byd yn cael ei gynnal ar yr un pryd â Chymru yn Ffrainc, dathliad blwyddyn o hyd sy'n cynnwys digwyddiadau diwylliannol, busnes a chwaraeon wedi'u cynllunio i atgyfnerthu cysylltiadau presennol a chreu cysylltiadau newydd rhwng y ddwy wlad.
Bydd tri ymweliad gan Weinidogion yn rhoi hwb i'r rhaglen o weithgareddau, diolch i ymdrech ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Bwyd a Diod Cymru, Cymraeg 2050, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Urdd Gobaith Cymru, S4C, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Hybu Cig Cymru, Cyngor Caerdydd a Chlwb Ifor Bach.
Mae gan Ffrainc a Chymru gysylltiadau drwy ieithoedd Celtaidd y Llydaweg a’r Gymraeg, a bydd tiwtor o'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnal sesiynau blasu, a llysgenhadon Urdd Gobaith Cymru yn cyflwyno'r Gymraeg a diwylliant bywiog Cymru drwy ganu a drama i blant a phobl ifanc Nante a Lyon.
Yn Lyon, prifddinas bwyd Ffrainc, bydd digwyddiad i arddangos y cynhyrchion bwyd a diod gorau o Gymru, mewn partneriaeth â Hybu Cig Cymru, yn cael ei gynnal ar ôl y gêm olaf ond un yn erbyn Awstralia, cyn cyffro'r gemau go-gynderfynol.
Ffrainc bellach yw mewnforiwr mwyaf bwyd a diod o Gymru, masnach sy’n werth £150 miliwn. Mae gyda ni gysylltiadau agos â Ffrainc, ac mae dros 80 o gwmnïau o dan berchnogaeth Ffrancwyr yng Nghymru, sy'n cyflogi dros 10,000 o bobl.
Mae'r gweithgareddau diwylliannol hyn yn cael eu cynnal ochr yn ochr â digwyddiadau busnes a gwleidyddol, i weithio gyda rhai o’r prif fewnfuddsoddwyr i Gymru ym meysydd datgarboneiddio ac ynni gwyrdd, a chynnal trafodaethau polisi ynghylch cynaliadwyedd.
Wrth edrych ymlaen at y twrnamaint, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
Mae Cymru a Ffrainc yn rhannu cariad at rygbi, diwylliant a hanes... i enwi dim ond rhai o'r pethau sydd mewn cyffredin rhwng ein dwy wlad.
Rydyn ni hefyd yn rhannu cysylltiadau busnes ardderchog, a dim ond atgyfnerthu'r cysylltiadau hynny y bydd ein harddangosfa deithiol gydweithredol.
O gerddoriaeth i'r bwyd gorau o Gymru, byddwn ni'n dathlu Cymru ar y cae ac oddi arno yn ystod y twrnamaint hwn, a hoffwn i groesawu ffans sydd wedi teithio i Ffrainc a phobl Ffrainc i fwynhau ein digwyddiadau o'r radd flaenaf.
Bydd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden, yn mynychu seremoni agor Cwpan Rygbi'r Byd ym Mharis ar ddydd Gwener 8 Rhagfyr, a'r gêm rhwng Cymru a Fiji yn Bordeaux.
Meddai'r Dirprwy Weinidog , Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dawn Bowden:
Mae'n dda gen i ein bod yn gallu gweithio gyda phartneriaid i gynnal arddangosfa mor gyffrous ar gyfer Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd. Mae hwn yn blatfform gwych inni bwysleisio'r cysylltiadau gwerthfawr rhwng Cymru a Ffrainc, a hefyd i ddangos ein diwylliant i weddill y byd – yn ogystal â dymuno pob llwyddiant i'n tîm ni ar gyfer eu hymdrechion ar y cae. Pob lwc!
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol yr Urdd, Siân Lewis:
Drwy ein llysgenhadon ifanc byddwn ni'n cyflwyno'r Gymraeg a diwylliant Cymru i gynulleidfaoedd yn Lyon, ac i bobl ifanc yn Lorient a Nante drwy chwaraeon a drama. Bu ymateb gwych i'n sesiynau 'Chwarae yng Nghymru' yn Doha a Dubai fel rhan o ymgyrch Cymru yn ystod Cwpan y Byd 2022, ac unwaith eto yn Nulyn fel rhan o ddathliadau Gŵyl Dewi Sant eleni. Rydyn ni'n falch ein bod yn gallu helpu gyda gwaith Llywodraeth Cymru i godi proffil Cymru ledled y byd.
Dywedodd Maggie Russell, Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru:
Mae digwyddiadau chwaraeon mawr fel Cwpan Rygbi'r Byd a'r Gemau Olympaidd yn cynnig llwyfannau cyffrous i artistiaid o Gymru gyflwyno eu gwaith i gynulleidfaoedd newydd ac i feithrin cysylltiadau newydd ag artistiaid yn Ffrainc – ac wrth gwrs i godi proffil ac ysbryd Cymru yn Ffrainc. Mae artistiaid yn llysgenhadon gwych ar gyfer Cymru, a gyda'n gilydd byddwn ni'n hybu ein gwerthoedd cyffredin fel cydraddoldeb, amrywiaeth, iaith a chynhwysiant gyda'n partneriaid yn Ffrainc.
Dywedodd Adam Williams, Bennaeth Cerddoriaeth Clwb Ifor Bach:
Rydyn ni wrth ein boddau’n cael gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd a'r lleoliad Stereolux yn Nante i ddangos enghreifftiau o'r dalent newydd yng Nghymru a Ffrainc ar 7 Hydref. Dyma fydd y digwyddiad cyntaf y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar gyfer Clwb Ifor Bach, ac mae'n ddechrau da ar gyfer ein gweithgareddau rhwng y ddwy ddinas gefell.
Dywedodd Geraint Evans, Cyfarwyddwr S4C ar gyfer Strategaeth Gynnwys a Chyhoeddi:
Bydd S4C yn darlledu bob gêm Cymru yn fyw o Gwpan Rygbi’r Byd.
Ar gyfer sylwebaeth fanwl, ddeallus ar y twrnamaint, gan dîm brwd a fydd yn cefnogi Cymru bob cam, S4C yw'r sianel i'w gwylio.
Rydyn ni'n edrych ymlaen at gefnogi Cymru drwy gydol yr ymgyrch.
I weld yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn mae Cymru yn ei gynnig oddi ar y cae yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd, gwelwch y cyfryngau cymdeithasol a dilynwch #CymruyngFfrainc.