Heddiw (dydd Iau, 7 Medi), ymwelodd Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford ag un o'r ardaloedd cyntaf yng Nghymru i dreialu'r terfyn 20mya diofyn newydd i ddysgu mwy am effaith y "newid sylweddol mwyaf mewn diogelwch cymunedol mewn cenhedlaeth".
Gyda dim ond 10 diwrnod i fynd cyn y bydd y terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya yn cael ei gyflwyno ledled Cymru, gwnaeth y Prif Weinidog gyfarfod â pherchnogion busnes, rhieni a phlant ysgol yn Saint-y-brid, ym Mro Morgannwg.
Cymru fydd y rhan gyntaf o'r DU i gyflwyno terfyn cyflymder 20mya ledled y wlad wrth i'r rhan fwyaf o ffyrdd preswyl sydd â therfyn cyflymder o 30mya newid i 20mya ddydd Sul, 17 Medi.
Saint-y-brid oedd un o'r safleoedd cyntaf i brofi'r terfyn cyflymder 20mya.
Tra’n ymweld â’r pentref, gwnaeth y Prif Weinidog gyfarfod â pherchnogion gwely a brecwast, Chris a Julie Davies, sy'n hapus iawn â'r cyflymderau arafach, gan ddweud eu bod yn gwneud wahaniaeth cadarnhaol i Saint-y-brid. Roedd aelodau lleol o'r gymuned a lwyddodd i ymgyrchu dros strydoedd mwy diogel drwy'r grŵp Safer St Brides hefyd yn awyddus i rannu eu straeon yn ystod ymweliad y Prif Weinidog.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
Mae lleihau cyflymderau nid yn unig yn achub bywydau; mae’n helpu i adeiladu cymunedau mwy diogel i bawb, gan gynnwys gyrwyr – gan greu lleoedd gwell i fyw ein bywydau.
Bydd yn helpu i wneud ein strydoedd yn dawelach, gan leihau llygredd sŵn, a bydd cyflymderau arafach hefyd yn rhoi hyder i fwy o bobl feicio a cherdded o amgylch eu hardaloedd lleol gan annog plant i chwarae yn yr awyr agored.
Mae tystiolaeth o bob cwr o'r byd yn glir – mae lleihau terfynau cyflymder yn lleihau gwrthdrawiadau ac yn achub bywydau."
Bydd Cymru yn dilyn dull tebyg i’r un a gymerwyd yn Sbaen lle newidiwyd y terfyn cyflymder ar y mwyafrif o ffyrdd i 30km yr awr yn 2019.
Ers hynny, mae Sbaen wedi nodi 20% yn llai o farwolaethau ar ffyrdd trefol, ac mae marwolaethau wedi gostwng 34% ar gyfer beicwyr a 24% ar gyfer cerddwyr.
Mae ymchwil yn dangos y gallai'r terfyn cyflymder rhagosodedig o 20mya arbed £92miliwn y flwyddyn drwy leihau nifer y marwolaethau ac anafiadau. Gallai hefyd helpu i leihau'r pwysau ar y GIG yn sgil gostyngiad mewn anafiadau o ganlyniad i wrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd.
Dros y degawd cyntaf, amcangyfrifir y bydd terfyn cyflymder is yn arbed hyd at 100 o fywydau ac 20,000 o anafiadau.
Daw'r newid ar ôl pedair blynedd o waith gydag awdurdodau lleol, yr heddlu ac arbenigwyr diogelwch ar y ffyrdd i ddylunio newid yn y gyfraith.
Dywedodd perchennog lleol Gwesty Gwely a Brecwast Fferm Saint-y-brid, Chris Davies:
Mae pobl Saint-y-brid wedi gweithio'n galed i ostwng cyflymderau, ac ers cyflwyno 20mya rwy'n falch o ddweud ein bod wedi gweld gwahaniaeth amlwg yn y bobl sy'n teithio'n arafach drwy'r pentref a llawer llai o sŵn ceir yn goryrru fel canlyniad.
Mae bellach yn teimlo'n llawer mwy diogel i bobl leol, yn enwedig plant, ac mae'n hyfryd i westeion yn ein Gwesty Gwely a Brecwast allu mwynhau bod allan yn y pentref.
Ychwanegodd un o'r ymgyrchwyr Safer St Brides, Nia Lloyd-Knott:
Mae cyflwyno 20mya yn Saint-y-brid wedi bod yn wych. Fel pentref, buom yn ymgyrchu dros gyflymder arafach am amser hir, felly roeddem yn falch iawn o gael ein dewis fel un o fabwysiadwyr cynnar 20mya.
Mae gan y pentref lawer o deuluoedd sy'n gerddwyr a beicwyr brwd iawn, felly mae cyflwyno cyflymderau arafach wedi cael effaith enfawr ar y pentref cyfan, gyda llawer mwy o rieni yn teimlo'n gyfforddus i adael eu plant deithio i'r ysgol leol yn annibynnol.