Diweddariadau fframwaith ar gyfer Medi 2023.
e-Anfonebu
Mae’r cytundeb e-Anfonebu Basware newydd yn dechrau ar 1 Hydref 2023. Bydd y cytundeb Basware presennol yn dod i ben bryd hynny. Wrth symud ymlaen, byddwn ond yn talu costau gwasanaeth e-Anfonebu ar gyfer y sefydliadau hynny sydd eisoes wedi dweud eu bod yn awyddus i fod yn rhan ohono. Ni fydd y contract newydd hwn yn cynnwys anfonebau/archebion catalog nac yn rhoi mynediad i'r farchnad.
Cynllun Gweithredu Digidol
Y gallu i gynllunio piblinellau ar GwerthwchiGymru
Rydyn ni wedi bod yn profi'r gallu i gynllunio piblinellau yn GwerthwchiGymru fel rhan o'n gwaith i ddatblygu’r swyddogaeth. Y cam nesaf yw cynnal cam Alffa gyda nifer bychan o ddefnyddwyr. Os hoffech gymryd rhan yn y cam Alffa, e-bostiwch: ICTProcurement@llyw.cymru
Adnodd mapio polisi
Fel rhan o’n proses ddylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr, rydyn ni wedi bod yn profi'r cwestiwn a osodwyd er mwyn mireinio'r dyluniad. Os hoffech gyfrannu, ymunwch â Grŵp Profi Defnyddwyr Cyd.
Cyd: Gofod cydweithredol ar gyfer cymunedau caffael a masnachol yng Nghymru
A oes gennych chi ddiddordeb mewn digwyddiadau sy’n ymwneud ag amrywiaeth o bynciau caffael, ac mewn rhannu gwybodaeth gyda gweithwyr caffael proffesiynol eraill? Ewch i wefan newydd Cyd.Cymru i gael hyn oll a mwy.
Bydd y weminar Cydrannu nesaf yn cael ei chynnal ar 21 Medi, gyda mwy o fanylion i ddilyn yn fuan. Bydd Cyd yn dod i Procurex Cymru unwaith eto eleni, sy'n cael ei gynnal ar 8 Tachwedd, pan fyddan nhw’n rhannu’r diweddaraf am yr hyn maen nhw wedi'i gyflawni dros y 12 mis diwethaf a phopeth sydd ganddyn nhw ar y gweill.
Mae Cyd yn chwilio am astudiaethau achos sy'n dangos arferion gorau er mwyn eu rhannu gyda'r gymuned gaffael. Os ydych chi wedi wynebu heriau, neu wedi cael rhywfaint o lwyddiant gyda gweithgaredd caffael, rhowch wybod i ni yma.
Mae Cyd wedi lansio beta o'r daith gaffael ar eu gwefan newydd. I weld y daith gaffael, ewch i wefan Cyd.
Adborth gan gwsmeriaid cynhyrchion a gwasanaethau TG
Bydd ein cytundeb fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG (ii) (ITPS2) yn dod i ben ym mis Gorffennaf 2024. Rydyn ni’n cynnal adolygiad o ITPS2 ac yn penderfynu a oes awydd am drydydd iteriad o'r cytundeb.
Rydyn ni eisiau eich barn chi! A wnewch chi gwblhau’r arolwg byr yma os gwelwch yn dda, er mwyn rhoi adborth ar ein fframwaith.
Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau TG
Mae Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw wedi'i gyhoeddi ar gyfer ein fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG (iii) ar GwerthwchiGymru ac ar y gwasanaeth Canfod Tendr er mwyn i gyflenwyr fynegi eu diddordeb.
Newidiadau i Hysbysiadau OJEU / TED ar ôl 26 Hydref 2023
Ers 1 Ionawr 2021 (sef diwedd y cyfnod pontio ar ôl ymadael â’r UE) cyhoeddir hysbysiadau gwerth uwch ar wasanaeth e-hysbysu'r DU, sef Canfod Tendr (FTS), ac ar GwerthwchiGymru. Mae hyn yn disodli'r gofyniad blaenorol iddyn nhw gael eu cyhoeddi ar system Cyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd (OJEU), gyda dau eithriad:
- Caffaeliadau trosiannol (cyfleoedd contract y sector cyhoeddus a lansiwyd cyn 11pm ar 31 Rhagfyr 2020 ond sydd heb eu cwblhau).
- Mae pob hysbysiad sy'n ymwneud ag ymarferion caffael a ariennir gan yr UE wedi parhau i gael eu cyhoeddi ar TED, yn ogystal â FTS a GwerthwchiGymru. Mae hyn wedi cael ei reoli'n awtomatig gan GwerthwchiGymru.
O 26 Hydref 2023 ymlaen, bydd OJEU yn gwneud newidiadau i’r porth TED, sy'n golygu na fydd hysbysiadau GwerthwchiGymru yn gweithio arno. Ni fydd hysbysiadau sy'n ymwneud â chaffael trosiannol a ariennir gan yr UE bellach yn cael eu hanfon at TED gan system GwerthwchiGymru. Gall sefydliadau barhau i hysbysu TED am eu gweithgarwch caffael eu hunain.
Bydd system GwerthwchiGymru yn cael ei diweddaru er mwyn adlewyrchu'r newidiadau hyn ar ôl 26 Hydref 2023.