Diweddariad Medi 2023 ar ddeddfwriaeth caffael.
Ymgynghoriad ar Is-ddeddfwriaeth
Mae'r ddau ymgynghoriad cyhoeddus ar is-ddeddfwriaeth y Bil Caffael bellach wedi dod i ben, ac rydym am ddiolch i bawb a gynigiodd sylwadau ar yr ymgynghoriad manwl a thechnegol hwn.
Ar hyn o bryd rydym yn dadansoddi'r adborth a byddwn yn cyhoeddi ein hymateb i'r ymgynghoriad maes o law.
Dysgu a datblygu
Mae'r tirlun caffael yng Nghymru yn newid, ac mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wrthi’n cynhyrchu ystod eang o gynnyrch Dysgu a Datblygu er mwyn helpu i randdeiliaid baratoi ar gyfer newidiadau deddfwriaethol.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ategu hyfforddiant Llywodraeth y DU ar gyfer y Bil Caffael trwy greu cynnyrch dysgu dwyieithog sy'n canolbwyntio ar flaenoriaethau Cymru a'r newidiadau ehangach i ddeddfwriaeth caffael yng Nghymru, gan gynnwys y gofynion o dan y Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru).
Rydym wedi recordio gweminar byr sydd yn cynnig trosolwg o’r canlynol:
- Y newidiadau yn nhirwedd ddeddfwriaethol Cymru
- Y cynnyrch Dysgu a Datblygu a fydd ar gael i Awdurdodau Contractio Cymru gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU
- Y sianeli cyfathrebu rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid Cymru mewn perthynas â'r rhaglen Dysgu a Datblygu
- Sut y gall awdurdodau contractio Cymru baratoi ar gyfer y cynigion Dysgu a Datblygu
- Ffynonellau gwybodaeth ychwanegol
Gellir gwylio’r cyflwyniad yma. Mae crynodeb dwy dudalen o gynnyrch hyfforddi Llywodraeth Cymru wedi’i ddatblygu hefyd i chi gyfeirio ato.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, anfonwch neges e-bost at TimDiwygiorBrosesGaffael@llyw.cymru