Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi Sector y Môr, Pysgodfeydd a Dyframaethu

Mae Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru yn gynllun ariannu i gefnogi twf amgylcheddol ac economaidd gynaliadwy yn niwydiant bwyd môr Cymru ac annog cymunedau arfordirol Cymru i ffynnu.

Mae’r canllawiau a nodir yn y ddogfen hon i’w hystyried ar y cyd â Chynllun Morol a Physgodfeydd Cymru: Dogfen ganllaw gyffredinol.

Mae’r Nodiadau Cyfarwyddyd hyn yn esbonio rownd gyllido Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru ar gyfer Iechyd a Diogelwch sy’n eich galluogi i wneud cais am gyllid grant gogyfer rhai eitemau cymwys. Darllenwch y nodiadau hyn yn ofalus. Rhestrir yr eitemau o dan sylw yn y canllawiau cysylltiedig, sef ‘Rhestr o Eitemau Cymwys’.

Os ydych o’r farn eich bod yn gymwys ar gyfer y rownd gyllido Iechyd a Diogelwch ac os ydych yn dymuno gwneud cais am gymorth, darllenwch y rhan ‘Sut i Wneud Cais’ yn y Nodiadau Canllaw hyn a’r canllawiau cysylltiedig ‘Defnyddio RPW Ar-lein i Wneud Cais’ a gyhoeddir ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rhan A: cyflwyniad

Nod y rownd gyllido hon ar gyfer Iechyd a Diogelwch yw gwella hylendid, iechyd, diogelwch, llesiant ac amodau gweithio i bysgotwyr a gweithwyr dyframaethu.

Bydd y cyfnod ymgeisio’n agor ar 6 Medi 2023 ac yn dod i ben ar 11 Hydref 2023.

Bydd unrhyw newidiadau i’r rheolau/canllawiau yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a lle bo angen, byddwn yn cysylltu â chi’n uniongyrchol.

Rhan B: cymhwystra

Mae’r cynllun hwn ar gyfer ymgeiswyr y mae eu menter wedi’i chofrestru a’i lleoli yng Nghymru yn unig. Dylai ymgeiswyr sydd wedi’u lleoli y tu allan i Gymru wneud cais i weinyddwyr eu priod gynllun.

Mae’r cynllun hwn ar gyfer ymgeiswyr sydd naill ai’n BBaCh-endid micro preifat neu’n BBaCh nad yw’n endid micro (gweler yr adran ‘Cyfradd Ymyrryd’ i gael diffiniadau) ac sy’n fusnesau pysgota neu ddyframaethu masnachol a all fodloni’r meini prawf canlynol:

A.  Os yw’r ymgeisydd yn rhan o’r sector Dal (un o’r canlynol):

  • Perchennog neu feistr llestr masnachol trwyddedig a restrir yng nghofrestr fflyd bysgota fasnachol y DU ac a weinyddir gan Lywodraeth Cymru o borthladd yng Nghymru.
  • Deiliad trwydded ar gyfer hel pysgod cregyn yn ardaloedd rhynglanwol Cymru.
  • Meistr gangiau trwyddedig a leolir yng Nghymru ac sy’n hel pysgod cregyn yng Nghymru.

Neu

B. Os yw’r ymgeisydd yn rhan o’r sector Dyframaethu (un o’r canlynol):

  • Mae’r ymgeisydd yn fusnes cynhyrchu dyframaethu awdurdodedig o dan reoliad 6 o Reoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Cymru a Lloegr) 2009 (“Rheoliadau 2009”)
  • Mae gan yr ymgeisydd drwydded forol a roddwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru (e.e. ffermydd gwymon)

Ni dderbynnir ceisiadau gan sefydliadau, busnesau ac unigolion sydd:

  • Wedi’u cael yn euog o dwyll o dan unrhyw gynllun grant arall
  • Wedi cyflawni tor-cyfraith difrifol yn ymwneud â mesurau cadwraeth neu reoli o fewn y 12 mis blaenorol
  • Wedi’u cael yn euog o drosedd yr ystyrir ei bod yn ‘drosedd ddifrifol’ (yn cynnwys twyll neu bysgota anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig ac nas hysbyswyd amdano), yn ystod y 12 mis cyn ymgeisio
  • Yn gweithredu llestr sydd wedi ei restru am ei fod yn cymryd rhan mewn pysgota IUU (sef pysgota anghyfreithlon ac anrheoleiddiedig nas hysbyswyd amdano) yn y DU; neu Wladwriaeth baner y llestr; Sefydliad neu Drefniant Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol (RFMO/A); neu rai yr hysbyswyd eu bod yn cymryd rhan mewn pysgota IUU o dan Gytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymorthdaliadau Pysgota.

Costau cymwys

Mae’r grant yn cwmpasu buddsoddi mewn cyfarpar iechyd a diogelwch. Mae eitemau sy’n gymwys i gael cyllid yn y rownd hon wedi cael eu dewis ymlaen llaw ac fe’u nodir yn nogfen ganllawiau rownd gyllido Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru ar gyfer Iechyd a Diogelwch – ‘Rhestr o Eitemau Cymwys’. Rhaid i’r holl eitemau fodloni’r manylebau a nodir yn nogfen ganllawiau Iechyd a Diogelwch Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru, sef ‘Rhestr o eitemau cymwys’.

Yn achos yr holl eitemau cymeradwy a brynwch, byddwn yn talu’r gwerth isaf, sef naill ai’r gost safonol gymeradwy (ar y gyfradd ymyrryd berthnasol) neu’r pris gwirioneddol a ddangosir ar y dderbynneb (yn cynnwys cyfraddau danfon safonol).

Mae’r costau yn y tabl eisoes yn cynnwys taliadau danfon ac felly ni fyddwn yn talu unrhyw daliadau ychwanegol uwchlaw’r gost safonol gymeradwy (ar y gyfradd ymyrryd berthnasol).

Os ydych yn gwneud cais am eitemau yr ystyrir eu bod yn fuddsoddiadau yn y llestr ei hun, rhaid ichi gyflwyno manylion llawn y llestr y gosodir yr eitemau arno. Gweler y ddogfen ganllawiau lle rhestrir eitemau cymwys i weld pa eitemau yr ystyrir eu bod yn fuddsoddiadau yn y llestr.

Costau anghymwys

Ni chaniateir prynu eitemau ail law yn y rownd gyllido hon.

Unrhyw fuddsoddiad neu gyfarpar nas cynhwysir yn y ‘rhestr o eitemau cymwys’.

Unrhyw eitemau y gallech eu hadennill yn rhannol neu’n gyfan gwbl trwy hawlio oddi ar bolisi yswiriant neu trwy geisio digollediad neu iawndal.

Sylwer: os byddwch yn gwneud cais am eitem/eitemau y cawsoch gyllid ar eu cyfer yn ystod rownd gyllido flaenorol, bydd yn ofynnol ichi esbonio pam rydych yn ceisio cyllid i brynu’r eitemau hyn eto.

Gan mai cyllid ar gyfer eitemau penodol sy’n hyrwyddo iechyd, diogelwch a llesiant pobl sy’n gweithio yn sector y môr, pysgodfeydd a dyframaethu yw’r cyllid hwn, ni chaiff ei ystyried fel cymorth ar gyfer pysgota stociau a orbysgotwyd. Fodd bynnag, er eglurder, mae unrhyw weithgaredd sy’n cefnogi pysgota neu weithgareddau pysgota’n ymwneud â stoc a orbysgotwyd yn anghymwys oni bai y darperir y cyllid neu’r mesurau eraill i ailadeiladu’r stoc er mwyn iddi gyrraedd lefel sy’n fiolegol gynaliadwy.

Uchafswm a lleiafswm y grant

Uchafswm y dyfarniad grant yw £10,000. Isafswm y dyfarniad grant yw £200.

Cyfraddau ymyrryd

Bydd y gyfradd ymyrryd yn cyfateb i 80% neu 50% o’r gost safonol gymeradwy, yn dibynnu ar faint y busnes sy’n gwneud cais. Gweler y tabl isod. 

 

Ymgeisydd/Math o Brosiect

Uchafswm y Gyfradd Ymyrryd

BBaCh-endid micro preifat

Busnes sydd ag unrhyw ddwy o’r nodweddion canlynol yw endid micro: a) trosiant o £632,000 neu lai; b) £316,000 neu lai ar ei fantolen; neu c) 10 gweithiwr neu lai ar adeg ymgeisio.

 

 

80%

BBaCh preifat (BBaCh nad yw’n endid micro)

Busnes sydd ag unrhyw ddwy o’r nodweddion canlynol yw BBaCh: a) trosiant o lai na £36 miliwn; b) £18 miliwn neu lai ar ei fantolen; ac c) 250 o weithwyr neu lai ar adeg ymgeisio.

 

 

50%

Fel rhan o’r broses ymgeisio, bydd yn ofynnol ichi gyflwyno tystiolaeth ategol i gadarnhau statws/maint eich busnes. Gall y dystiolaeth hon fod ar ffurf llythyr gan gyfrifydd yn cadarnhau trosiant eich busnes, y balans ar ddiwedd y flwyddyn ariannol flaenorol neu ffurflen dreth y flwyddyn flaenorol lle dangosir y trosiant/balans.

Rhan C: gofynion allweddol

Rhaid prynu a gosod yr eitemau (pan fo hynny’n berthnasol), ynghyd â chyflwyno hawliadau gyda thystiolaeth lawn o’r taliadau, erbyn y dyddiad a nodir yn eich contract.

Pan fo’n berthnasol, rhaid i unrhyw addasiadau gael eu cymeradwyo a’u cadarnhau gan Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau cyn y gellir cyflwyno’r taliad.

Rhaid i bob llestr masnachol trwyddedig fodloni’r safonau diogelwch sylfaenol yn barod, yn unol â Chod Ymarfer Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau ar gyfer Diogelwch Llestri Pysgota Bach.

Dewis

Bydd yn ofynnol ichi ddewis eitemau cymwys hyd at uchafswm y dyfarniad grant, sef £10,000.

Bydd y system yn cyfrifo’r sgôr gyflawn ar gyfer y cais yn awtomatig gan ddefnyddio’r gwerthoedd a ddynodwyd i bob categori o eitemau a chyfanswm safonol y gost ar gyfer yr eitemau hynny.

Diben y broses sgorio hon yw galluogi Llywodraeth Cymru i restru’r ceisiadau yn eu trefn ar sail y cyllid sydd ar gael.

Ar ôl ichi gyflwyno’r cais, ni fydd modd ichi newid yr eitemau y gwnaethoch ddewis eu prynu.

Rhan D: Sut i ymgeisio

RPW Ar-lein

Bydd ceisiadau ar gyfer y rownd gyllido’n cael eu cyflwyno trwy ddefnyddio RPW Ar-lein. I gyflwyno cais, rhaid ichi gofrestru gyda Llywodraeth Cymru a chael Cyfeirnod Cwsmer. Edrychwch ar wefan Llywodraeth Cymru i ddarllen y canllawiau ar gofrestru neu ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwch yn cael cynnig grant trwy gyfrwng eich cyfrif RPW Ar-lein.

Ar ôl ichi gael eich contract, os byddwch yn llwyddiannus, rhaid ichi brynu’r holl eitemau ar y contract, ynghyd â chyflwyno hawliad amdanynt, trwy gyfrwng eich cyfrif RPW Ar-lein o fewn 120 diwrnod calendr o ddyddiad y cynnig contract.

Ar ôl ichi gael eich contract, rhaid ichi ei dderbyn o fewn 30 diwrnod calendr o’r dyddiad yr anfonwyd y contract atoch. Os na fyddwch yn derbyn y contract o fewn 30 diwrnod calendr, bydd yn cael ei dynnu’n ôl.

Yn y contract, ceir manylion llawn ynglŷn â’r dyddiad y bydd yn rhaid ichi ei dderbyn ac erbyn pryd y bydd yn rhaid ichi brynu’r eitemau a chyflwyno hawliadau.

Ni ddylech brynu eitemau a gynhwysir yn eich cais hyd nes y byddwch wedi cael contract.

Yn amodol ar ofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004: Bydd yr holl wybodaeth a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael ei thrin yn hollol gyfrinachol. Os byddwch yn llwyddiannus, dylech fod yn ymwybodol bod gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU hawl i gyhoeddi enw eich cwmni, faint o grant a gawsoch a chrynodeb o’r buddsoddiad.

Ceir tri chanlyniad posibl:

  1. Ni fydd eich cais yn gymwys i gael y grant. Byddwch yn cael llythyr yn esbonio pam y gwrthodwyd eich cais.
  2. Bydd eich cais yn gymwys i gael ei ystyried, ond ni fydd yn cael ei gymeradwyo i gael dyfarniad grant. Byddwch yn cael gwybod pam na fu eich cais yn llwyddiannus. Bydd modd ichi wneud cais eto yn y dyfodol cyn belled na fyddwch wedi prynu’r eitemau yr ymgeisir amdanynt.
  3. Bydd eich cais yn gymwys a bydd yn cael ei gymeradwyo i gael dyfarniad grant. Bydd contract yn cael ei anfon atoch ar-lein. Yn y contract hwn nodir amodau a thelerau’r dyfarniad. Gofynnir ichi dderbyn yr amodau a’r telerau yn y contract. Hefyd, bydd y contract yn rhoi caniatâd ichi brynu’r eitemau a nodir yn eich contract.

Rhan E: amodau’r grant

Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a bennir gan gyfraith y DU.

Cynigir grant Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru yn amodol ar amodau a thelerau, yn cynnwys y rhai a nodir isod ymhlith rhai eraill. Os methwch â bodloni amodau a thelerau’r contract, mae’n bosibl y bydd eich dyfarniad yn cael ei ganslo a/neu mae’n bosibl y bydd y symiau a dalwyd eisoes yn cael eu hadennill, neu efallai y bydd llai o grant yn cael ei dalu.

Amodau:

  1. Rhaid ichi dderbyn y grant a ddyfarnwyd ichi o fewn tri deg (30) diwrnod calendr o’r dyddiad yr anfonwyd y contract atoch ar-lein.
  2. Gwneir y dyfarniad ar sail y datganiadau a gyflwynwyd gennych chi neu eich cynrychiolwyr yn y cais a’r ohebiaeth ar-lein ddilynol. Mae gwneud datganiadau ffug neu gamarweiniol yn drosedd.
  3. Ni ddylech brynu unrhyw eitemau y gwnaethoch gais amdanynt cyn ichi gael eich contract.
  4. Ar ôl ichi gael eich contract, ni fydd modd ichi addasu’r eitemau a ddewiswyd gennych.
  5. RHAID ichi brynu’r holl eitemau a gynhwysir yn eich contract.
  6. RHAID ichi gyflwyno un hawliad ar gyfer yr holl eitemau ar yr un pryd.
  7. Yr unig eitemau y dylech wneud cais amdanynt yw’r nifer lleiaf o eitemau unigol sy’n angenrheidiol i fodloni gofynion iechyd a diogelwch eich busnes/gweithwyr.
  8. Rhaid ichi fodloni unrhyw rwymedigaethau cyfreithiol a bennir o dan gyfraith y DU, yn cynnwys deddfwriaeth hylendid.
  9. Ni chaniateir ichi addasu’r buddsoddiad mewn unrhyw ffordd heb gael cymeradwyaeth ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru.
  10. Am gyfnod o bum mlynedd ar ôl y buddsoddiad, ni ddylid gwaredu, trosglwyddo na gwerthu unrhyw gyfarpar a brynir gyda’r grant heb gael caniatâd ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys taliadau anuniongyrchol e.e. pe bai’r llestr yn newid dwylo neu pe bai lleoliad unrhyw eitemau a ariannwyd yn newid.
  11. Eich cyfrifoldeb chi fel yr ymgeisydd gwreiddiol yw hysbysu’r perchnogion newydd ynglŷn â’r rhwymedigaethau cyllido sydd ynghlwm wrth yr eitem. Bydd yn ofynnol i’r perchnogion newydd ysgwyddo amodau a thelerau’r cyllid am yr amser sy’n weddill hyd at bum mlynedd o’r dyddiad y derbyniwyd y cynnig gwreiddiol am gyllid.
  12. Os na fydd perchennog newydd yr eitem neu’r eitemau yn derbyn yr amodau a’r telerau sydd ynghlwm wrth y cyllid, ystyrir na fydd yr eitem wedi cyflawni ei rhwymedigaethau i’r cynllun ac felly mae’n bosibl y bydd camau adennill yn cael eu cymryd ac y bydd yr arian yn cael ei adennill oddi arnoch chi, yr ymgeisydd gwreiddiol.
  13. Rhaid cyflwyno hawliadau yn y fformat priodol a rhaid cynnwys yr holl ddogfennau angenrheidiol. Os na wneir hyn, ni fyddant yn cael eu derbyn a byddant yn cael eu dychwelyd at yr hawlydd.
  14. Rydych yn cadarnhau nad oes unrhyw un o’r eitemau yn y cais yn eitemau amnewid o dan hawliad yswiriant.
  15. Os gofynnir ichi, rhaid ichi gadarnhau nad ydych wedi ceisio unrhyw gyllid cyhoeddus arall (naill ai o ffynonellau’r UE neu’r DU).
  16. Rhaid i’r cyhoeddusrwydd a roddir i’r buddsoddiad gyfeirio at y cyllid a gafwyd gan Lywodraeth Cymru.
  17. Rhaid ichi gadw cofnodion yn ymwneud â gweithgarwch y busnes a’r buddsoddiad, yn cynnwys yr holl anfonebau gwreiddiol a dogfennau cysylltiedig eraill megis tendrau neu ddyfynbrisiau cystadleuol. Rhaid ichi gadw’r rhain am chwe blynedd ar ôl ichi gael y taliad cymorth ariannol olaf ar gyfer eich buddsoddiad.
  18. Rhaid ichi roi caniatâd i gynrychiolwyr Llywodraeth Cymru, yn cynnwys Archwilydd Cyffredinol Cymru, archwilio’r eitemau a brynwyd. Os gofynnir ichi, rhaid ichi roi gwybodaeth iddynt a/neu ganiatáu iddynt weld dogfennau gwreiddiol yn ymwneud â’r buddsoddiad.
  19. Mae gofynion Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar Ganiatáu i’r Cyhoedd Weld Gwybodaeth, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais ac mewn dogfennau cysylltiedig.
  20. Os byddwch yn llwyddiannus, mae Llywodraeth Cymru yn cadw’r hawl i gyhoeddi enw eich busnes neu eich cwmni, faint o grant a ddyfarnwyd ichi a chrynodeb o’ch buddsoddiad.
  21. Mae Hysbysiad Preifatrwydd yn berthnasol i’r wybodaeth a gyflwynir yn y cais. Mae’r Hysbysiad Preifatrwydd yn esbonio’r modd y bydd Llywodraeth Cymru yn prosesu ac yn defnyddio eich data personol, a hefyd nodir eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR).

Rhan F: talu’r grant

Hawliadau

Byddwch yn cael nodiadau cyfarwyddyd ynglŷn â sut i gyflwyno hawliad ar ôl i’r dyfarniad gael ei gadarnhau ac yna fe’ch gwahoddir i gyflwyno hawliad. Dim ond pan fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon bod yr arian perthnasol wedi’i wario y bydd hawliadau’n cael eu talu. Bydd tâl yn cael ei anfon i’ch cyfrif banc trwy drosglwyddiad electronig.

Rhaid ichi brynu’r holl eitemau ar eich contract a chyflwyno hawliad amdanynt trwy gyfrwng eich cyfrif RPW Ar-lein o fewn 120 diwrnod calendr o’r dyddiad y cawsoch y contract.

Yn ystod oes y grant, pan gaiff hawliadau eu cyflwyno, mae’n bosibl y bydd angen craffu arnynt er mwyn sicrhau bod y gwariant yn gymwys ac yn cyd-fynd â’r hyn a gymeradwywyd yn y cais gwreiddiol. Ar ôl gorffen prynu’r eitemau, mae’n bosibl y cynhelir asesiad manwl ohonynt. Yn ystod yr ymweliad, mae’n bosibl y bydd angen yr wybodaeth ganlynol ymhlith pethau eraill: anfonebau gwreiddiol; rhifau cyfresol; systemau Iechyd a Diogelwch, yn cynnwys gwaith dadansoddi risg; dogfennau Asesu Risg Tân yn unol â Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005; cofnodion Cyfundrefnau Glanhau a chofnodion Rheoli Ansawdd. Dim ond ar ôl gwneud cynnydd digonol y bydd y grant yn cael ei ryddhau.

Hawliadau anghywir

Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau eich bod yn cyflwyno hawliadau ar amser.

Os bydd yr hawliad yn anghywir, bydd eich hawliad yn cael ei ostwng i’r swm cymwys a bydd y grant a delir yn cael ei gyfrifo’n unol â hynny.

Os ydych yn ansicr a yw unrhyw wariant yn gymwys, rhaid ichi wirio hyn cyn ysgwyddo’r costau.

Rhan G: rheoli, monitro a chadw cofnodion

Mesurau rheoli

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru orfodi rheolau Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru. 

Bydd ymweliad yn cael ei gynnal ar ôl talu pob hawliad er mwyn cadarnhau bod y buddsoddiad yn cael ei wireddu.

Bydd yr holl fanylion yn eich cais, y manylion yn eich hawliad a’r datganiadau a wnaethoch wrth gyflwyno’r cais a’r hawliad yn cael eu gwirio.

Bydd Llywodraeth Cymru a’r cyrff rheoli arbenigol yn ceisio sicrhau bod yr ymweliadau yn tarfu cyn lleied â phosibl arnoch, ond mae rhai archwiliadau’n gofyn am ymweliadau dirybudd, sy’n golygu na fydd yn bosibl eich rhybuddio ymlaen llaw. Mae’n bosibl y byddwch yn cael mwy nag un ymweliad yn ystod blwyddyn galendr.

Os ydych yn gwrthod caniatáu ymweliad, yn rhwystro swyddog neu’n methu â rhoi cymorth rhesymol, mae’n bosibl na fydd eich hawliad yn cael ei dalu, gallwn adennill taliadau ac fe allwch gael eich erlyn.

Monitro a gwerthuso

Mae’n rhaid monitro pob dyfarniad grant a gwerthuso effaith y grant ar y busnes ar ôl cwblhau’r prosiect.

Rhaid i chi ganiatáu i swyddogion o Lywodraeth Cymru, neu eu cynrychiolwyr, archwilio’r eitemau (lle bo hynny’n berthnasol) a brynwyd o fewn y cyfnod o bum mlynedd hwn a chael mynediad at waith papur cysylltiedig e.e., anfonebau, tystysgrifau, caniatâd etc.

Rhaid i chi gydweithredu ag unrhyw werthusiad ôl-weithredu o’ch prosiect a’r cynllun yn ei gyfanrwydd.

Cadw cofnodion

Mae’n rhaid i chi gadw’r holl gofnodion a gwybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddangos eich bod wedi darparu gwybodaeth gyflawn a chywir a’ch bod wedi cydymffurfio â’ch ymrwymiadau am chwe blynedd.

Bydd gofyn ichi hefyd:

  • Ddarparu unrhyw wybodaeth i Lywodraeth Cymru am eich contract Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru yn unol â’r amserlen a bennir gan Lywodraeth Cymru.
  • Darparu cofnodion, cyfrifon, derbynebau a gwybodaeth arall gan gynnwys mynediad at ddata cyfrifiadur yn ymwneud â’ch contract Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru i Lywodraeth Cymru, ei phersonau awdurdodedig neu ei hasiantiaid.
  • Caniatáu i Lywodraeth Cymru gymryd unrhyw ddogfen neu gofnod i wneud copïau neu i godi darnau ohoni/ohono.

Rhan H: y drefn apelio a chwyno

Y drefn apelio

Os caiff eich cais ei wrthod, ni fydd gennych unrhyw sail i apelio.

Ni fydd amgylchiadau arbennig neu anghytundeb ag unrhyw agwedd ar feini prawf cymhwystra’r cynllun yn sail dros apelio.

Os gwrthodir hawliad, byddwch yn cael gwybod pam y cafodd ei wrthod.

Os ydych yn dymuno apelio yn erbyn penderfyniad mewn perthynas â’ch cais llawn, yna rhaid cyflwyno apeliadau yn cynnwys tystiolaeth ategol, drwy RPW Ar-lein cyn pen 60 diwrnod ar ôl dyddiad y llythyr yn amlinellu’r penderfyniad yr ydych am apelio yn ei erbyn.

Bydd swyddog/ion apêl sy’n annibynnol o’r penderfyniad gwreiddiol yn ystyried yr apêl. Yna bydd y swyddog/ion apêl yn gwneud penderfyniad terfynol ac yn hysbysu’r apelydd ynghyd â’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

Y drefn gwyno

Ymdrinnir â chwynion o dan drefn Llywodraeth Cymru ar gwynion. Cewch fwy o wybodaeth am sut i wneud gan y Tîm Cynghori ar Gwynion:

Llywodraeth Cymru
Adeiladau’r Goron
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Ffôn: 03000 251378

E-bost: cwynion@llyw.cymru

Gwefan: Cwynion am Lywodraeth Cymru

Gallwch hefyd ddewis cysylltu ag Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru:

1 Ffordd yr Hen Gae
Pen-coed
CF35 5LJ

Ffôn: 0300 790 0203

Gwefan: Ombwdsmon

Rhan I: Hysbysiad Preifatrwydd: cymorth ariannol Llywodraeth Cymru

Sut byddwn yn trin unrhyw ddata personol rydych chi’n eu rhoi mewn perthynas â’ch ffurflen gais neu’ch cais am gyllid grant

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu amrywiaeth o gynlluniau grant er mwyn helpu i roi ein polisïau ar waith a chreu Cymru decach, fwy ffyniannus.

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a ddarperir gennych mewn perthynas â’ch cais am grant neu gyllid. Bydd yr wybodaeth yn cael ei phrosesu fel rhan o’n tasg gyhoeddus (h.y. arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru) ac yn ein helpu i asesu a ydych yn gymwys i gael cyllid a gweinyddu’r grant.

Cyn i ni roi cyllid i chi, byddwn yn cynnal archwiliadau er mwyn atal twyll ac atal gwyngalchu arian, ac i ddilysu eich manylion adnabod. Fel rhan o’r archwiliadau hyn, mae’n ofynnol i ni brosesu data personol amdanoch chi gydag asiantaethau atal twyll trydydd parti.

Os byddwn ni, neu asiantaeth atal twyll, yn penderfynu eich bod yn peri risg o ran twyll neu wyngalchu arian, gallwn wrthod darparu’r cyllid grant y gwnaethoch gais amdano, neu gallwn stopio darparu cyllid grant rydych chi eisoes yn ei gael.

Bydd cofnod o unrhyw risg gysylltiedig â thwyll neu wyngalchu arian yn cael ei gadw gan yr asiantaethau atal twyll, a allai olygu y bydd sefydliadau eraill yn gwrthod darparu gwasanaethau, cyllid neu gyflogaeth i chi.

Er mwyn asesu cymhwystra, efallai y bydd angen inni hefyd rannu gwybodaeth bersonol sy’n ymwneud â’ch cais gyda’r canlynol.

  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol
  • Awdurdodau Lleol Cymru
  • Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru
  • DEFRA
  • Y Sefydliad Rheoli Morol
  • Gweinyddiaethau Morol a Physgodfeydd eraill Llywodraeth y DU
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
  • Awdurdodau rheoleiddio, megis Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi, Awdurdodau Lleol, Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a’r Heddlu.

Gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi manylion y sawl sy’n derbyn grantiau, symiau ac enw busnes ar gofrestr dryloywder lle mae’n rhaid i ni wneud hynny, er enghraifft, dan Ddeddf Rheoli Cymhorthdal 2022.

Byddwn yn cadw gwybodaeth bersonol mewn ffeiliau yn unol â’n polisi cadw gwybodaeth. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, byddwn yn cadw’ch data personol am saith mlynedd ar ôl y dyddiad pan fyddwch chi, fel derbynnydd y grant, yn rhydd rhag holl amodau’r grant, a phob taliad wedi’i wneud. Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, byddwn yn cadw’ch manylion am flwyddyn ar ôl y dyddiad y gwnaethoch eu darparu.

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych chi hawl:

  • i weld y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hwnnw
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu i’ch data gael ei broses neu gyfyngu ar hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i’ch data gael ei ‘ddileu’
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y datganiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â Chanolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW.

I gael mwy o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw a’r ffordd mae’r wybodaeth yn cael ei defnyddio, neu os ydych chi am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad GDPR, defnyddiwch y manylion cyswllt isod:

Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD

CF10 3NQ

E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru 

Dyma’r manylion ar gyfer cysylltu â Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:

Yr Ail Lawr, Tŷ Churchill
Ffordd Churchill
Caerdydd
CF10 2HH

Ffôn: 0330 414 6421

Gwefan: https://ico.org.uk/ 

 

Rhan J: deddfwriaeth

Mae Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn creu ac yn gosod telerau Cynllun Morol a Physgodfeydd Cymru. Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Baragraff 2 o Atodlen 6 i Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

Mae Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 yn diffinio beth yw cymhorthdal. Hefyd, nodir y rheolau mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus gydymffurfio â nhw wrth dalu cymorthdaliadau.

Mae’n bosibl y bydd eich manylion yn cael eu cyhoeddi ar gofrestr o dderbynyddion cyllid cyhoeddus os bydd y cyllid yn bodloni meini prawf datgelu cyhoeddus.

Disgwylir i’r DU gadarnhau Cytundeb Sefydliad Masnach y Byd ar Gymorthdaliadau Pysgodfeydd a chadarnhau y bydd y cytundeb hwn yn rhwymol i aelodau Sefydliad Masnach y Byd. Mae’r cytundeb newydd yn gwahardd cymorthdaliadau ar gyfer pysgota neu weithgareddau pysgota[1] yn ymwneud â stoc a orbysgotwyd oni bai y darperir y cyllid neu’r mesurau eraill i ailadeiladu’r stoc er mwyn iddi gyrraedd lefel sy’n fiolegol gynaliadwy.

[1] Mae gweithgareddau pysgota’n cynnwys unrhyw weithrediad i gefnogi pysgota neu i baratoi ar gyfer pysgota, yn cynnwys glanio, pecynnu, prosesu, trawslwytho neu gludo pysgod na chawsant eu glanio’n flaenorol mewn porthladd, yn ogystal â darparu personél, tanwydd, offer a chyflenwadau eraill ar y môr.

Rhan K: cysylltiadau

Ymholiadau – Y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid

Ar gyfer ymholiadau o bob math, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid RPW

Gallwch gyflwyno ymholiadau trwy RPW Ar-lein ar unrhyw adeg.

Mynediad at swyddfeydd Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl ag anableddau neu anghenion arbennig

Os oes gennych unrhyw anghenion arbennig nad yw ein cyfleusterau yn darparu ar eu cyfer yn eich tyb chi, cysylltwch â’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid ar 0300 062 5004 i gael swyddogion Llywodraeth Cymru i wneud trefniadau addas ar eich cyfer.

Gwefan Llywodraeth Cymru

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am Amaethyddiaeth a Materion Gwledig, ewch i wefan Llywodraeth Cymru