Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
Cyfeirnod y cymhorthdal SC.10890 - Cyllid ledled Cymru ar gyfer awdurdodau lleol drwy Ranbarthau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol a gwasanaethau arbenigol i gyflawni strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych yn defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymorthdaliadau, rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau drwy anfon e-bost i: yrunedrheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru Gyfan
2. Teitl y Cynllun Cymhorthdal
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
3. Sail gyfreithiol y DU
Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
4. Amcanion y Cynllun
Cyllid ledled Cymru ar gyfer awdurdodau lleol drwy Ranbarthau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol; a gwasanaethau arbenigol i gyflawni strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022.
5. Yr Awdurdod Cyhoeddus sydd wedi’i awdurdodi i roi’r Cynllun ar waith
Llywodraeth Cymru
6. Categorïau o fentrau sy’n gymwys
- Gwasanaeth Arbenigol Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
- Rhanbarthau Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol
7. Sector(au) a gefnogir
Gweithgareddau gwasanaeth eraill
8. Hyd y cynllun
365 o ddiwrnodau o 01 Ebrill 2023 i 31 Mawrth 2024.
9. Cyllideb ar gyfer cymorth o dan y Cynllun
£10,200,000
10. Ffurf y cymorth
Bydd pob cymhorthdal sy’n cael ei ddyfarnu o dan y Cynllun yn cael ei roi ar ffurf grant.
11. Telerau ac amodau cymhwysedd
Gweithredu Strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol 2022 a chefnogi’r rhai sydd wedi dioddef a goroesi Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol.
12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Cyfrifir dyraniadau rhanbarthol drwy ddefnyddio fformiwla Barnett ar gyfer y rhanbarthau. Mae dyraniadau trydydd sector i lenwi bylchau yn y gwasanaethau a ddarperir.
13. Y cymhorthdal mwyaf a ganiateir o dan y cynllun
£1,000,000
14. Gwybodaeth gysylltu
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.