Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Mae Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) yn ddeunydd a ddefnyddiwyd wrth adeiladu nifer o adeiladau rhwng y 1960au a'r 1990au. Cadarnhawyd ei fod yn bresennol mewn ystod o eiddo sector cyhoeddus ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys mewn ysgolion ac ysbytai.
Mae Llywodraethau'r DU wedi bod yn ymwybodol o rai o ffactorau risg RAAC ers y 1990au ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig eraill ers 2018 wrth reoli RAAC. Tan yn ddiweddar iawn, mae pob llywodraeth wedi ystyried bod y canllawiau ar gyfer rheoli RAAC mewn adeiladau yn ddull cadarn ar gyfer rheoli RAAC, ac o ran sicrhau bod diogelwch y rhai sy’n defnyddio’r adeiladau yn cael blaenoriaeth bob amser.
Yng Nghymru, cafodd awdurdodau lleol wybod am y broblem bosibl â RAAC drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Chwefror 2020 yn dilyn hysbysiad diogelwch a gyhoeddwyd yn 2019 gan y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol. Mae dyletswydd statudol ar bob awdurdod lleol i asesu cyflwr adeiladau ac unrhyw risgiau diogelwch, gan gynnwys uniondeb strwythurol pob adeilad o fewn ei ystâd, ac i gadw cofnodion.
Gofynnir am fanylion unrhyw achos neu ymwybyddiaeth o RAAC fel rhan o’r ymarfer casglu data addysg blynyddol ac, ers mis Mawrth eleni, rydym wedi bod yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae nifer o awdurdodau lleol wedi cwblhau adolygiad o’u hystâd ysgolion ac mae’r adolygiad hwnnw ar y gweill mewn awdurdodau eraill. Ym mis Mai, comisiynwyd arolwg o gyflwr ac ynni yr holl ysgolion a cholegau sy’n cael eu hariannu gan y wladwriaeth. Byddai natur yr arolwg hwn yn amlygu unrhyw strwythurau yr amheuir eu bod yn cynnwys RAAC, i’w harchwilio ymhellach gan beirianwyr strwythurol arbenigol.
Ym mis Gorffennaf 2023 sefydlodd Swyddfa Cabinet y DU Weithgor Trawslywodraethol ar Goncrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC), gan estyn gwahoddiad i Lywodraeth Cymru ar 21 Awst. Bu un o swyddogion Llywodraeth Cymru yn ail gyfarfod y Gweithgor ar 24 Awst. Ni chodwyd unrhyw dystiolaeth newydd mewn perthynas â risgiau RAAC na’r gwaith o’i reoli yn y cyfarfod hwn.
Ar 31 Awst 2023 cyhoeddodd Llywodraeth y DU ganllawiau newydd ar RAAC mewn lleoliadau addysg. Ers hynny, mae Gweinidogion Llywodraeth y DU wedi datgan droeon bod nifer o achosion wedi digwydd dros gyfnod yr haf a arweiniodd at risg ddiogelwch uwch mewn perthynas â’r defnydd o RAAC. Ni chafodd y dystiolaeth newydd hon ei chyflwyno i Lywodraeth Cymru ar unrhyw adeg.
Yn ystod trafodaethau ar 1 Medi, rhannodd Llywodraeth y DU ar lafar rywfaint o’r dystiolaeth newydd hon. Er inni ofyn amdani sawl gwaith, ni chawsom y dystiolaeth newydd yn ysgrifenedig, tan neithiwr.
Neithiwr (nos Sul) am 18.57, anfonodd Llywodraeth y DU beth o’r dystiolaeth yr ydym wedi bod yn gofyn amdani. Mae’n anffodus dros ben bod y dystiolaeth sydd, i bob golwg, wedi bod yn datblygu dros yr haf wedi’i dal yn ôl nes y noson cyn diwrnod cyntaf y tymor newydd. Mae hefyd yn anghyflawn, sy’n golygu nad oes gennym y darlun llawn y tu ôl i newid polisi sydyn Adran Addysg San Steffan o ran rheoli RAAC mewn ysgolion. Rydym yn parhau i ofyn am adroddiadau strwythurol manwl peirianwyr yn amlinellu’n glir amserlen a dadansoddiad technegol o’r digwyddiadau a arweiniodd at gyhoeddiad dydd Iau diwethaf bod ysgolion yn cau. Gall swyddogion ystyried hyn wedyn a’i rannu ag awdurdodau lleol, sydd â chyfrifoldeb statudol dros adeiladau ysgolion yng Nghymru.
Er mai rhannol yn unig yw’r dystiolaeth newydd sydd gennym, mae’n dynodi y gallai fod angen newid y ffordd yr eir ati i sicrhau diogelwch mewn perthynas â RAAC, ynghyd â’r dull o sicrhau iechyd a diogelwch cyffredinol y gallai fod angen inni ei ddilyn.
Mewn ymateb i gyhoeddiad yr wythnos diwethaf yn Lloegr, rydym wedi bod mewn cysylltiad â phob awdurdod lleol yng Nghymru dros y dyddiau diwethaf. Yn sgil y trafodaethau hyn, dim ond dwy ysgol sydd wedi’u nodi fel rhai â RAAC, ac mae’r ddwy ysgol wedi bod yn rheoli’r rhannau hynny o’u hadeiladau sy’n cynnwys RAAC yn ddiogel, yn unol â chyngor arbenigwyr.
Rydym wrthi’n gwneud gwaith pellach i asesu’r union sefyllfa ledled Cymru, ac mae adolygiad o’r wybodaeth ddiweddaraf sydd gan awdurdodau lleol ar y gweill. Rydym yn disgwyl i ganlyniadau hwnnw ddod i law o fewn y pythefnos nesaf. Ar ôl inni weld yr wybodaeth hon, awn ati i ymgysylltu â pheirianwyr strwythurol arbenigol i weithio’n gyflym gydag awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru i werthuso ar frys unrhyw achosion newydd a ddaw i’r amlwg o RAAC mewn adeiladau addysgol. Rydym yn rhagweld y caiff y gwaith hwn ei gwblhau erbyn diwedd Rhagfyr.
Mae dull gweithredu Cymru yn wahanol i ddull Adran Addysg San Steffan – sydd ar hyn o bryd yn gofyn i ysgolion fynd ati eu hunain i wneud yr asesiad cychwynnol am bresenoldeb RAAC – ond rydyn ni’n teimlo y bydd yr amserlen yng Nghymru yn cael ei chyflawni mewn cyfnod digon tebyg i amserlen Adran Addysg San Steffan a llywodraethau eraill y DU.
Rydym wedi cynnal sawl trafodaeth gyda’r awdurdod lleol sy’n gyfrifol am y ddwy ysgol lle mae RAAC yn bresennol ac yn cael ei reoli’n weithredol, ac rydym wedi rhannu’r wybodaeth newydd a gawsom neithiwr gyda nhw. Mae’r ddwy ysgol yn Ynys Môn. Am 8 o’r gloch y bore ‘ma, cyfarfu swyddogion o Ynys Môn â’u cynghorwyr technegol i ailasesu’r adeiladau perthnasol yng ngoleuni’r wybodaeth newydd honno. Ar sail yr wybodaeth ddiweddaraf, mae Ynys Môn wedi gwneud y penderfyniad anodd i gau’r ddwy ysgol dros dro i ddysgwyr, a oedd i fod i ddychwelyd i’r ysgol yfory, hyd nes i asesiad llawn o’r sefyllfa gael ei gynnal yr wythnos hon.
Mae'r awdurdod lleol yn gweithio gyda phenaethiaid y ddwy ysgol, sef Ysgol David Hughes ac Ysgol Uwchradd Caergybi, i roi gwybod i rieni a gofalwyr y bydd y ddwy ysgol ar gau dros dro i ddysgwyr. Caiff yr ysgolion eu cau fel y gellir cynnal archwiliadau diogelwch pellach a chynllunio trefniadau amgen.
Er bod hon yn sefyllfa anodd iawn i rieni a gofalwyr ar fyr rybudd, mae iechyd a diogelwch dysgwyr, athrawon, staff, rhieni a gofalwyr yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol. Yn sicr, rydym yn rhannu'r rhwystredigaeth ynghylch y sefyllfa anffodus hon y mae Llywodraeth Cymru ac Ynys Mon yn ei hwynebu yng ngoleuni'r wybodaeth newydd, a oedd heb ddod i law tan neithiwr gan Adran Addysg San Steffan.
Dros y 9 mlynedd diwethaf, mae Cymru wedi bod yn gweithredu rhaglen helaeth ar gyfer adnewyddu ac adeiladu ysgolion a cholegau newydd, gan uwchraddio a disodli'r rhai sydd fwyaf angen eu disodli am resymau diogelwch ac ansawdd. Mae ein rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (a elwir gynt yn rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer yr 21ain Ganrif) yn darparu'r rhaglen adeiladu fwyaf ers y 1960au i fynd i’r afael ag adeiladau ysgolion a cholegau addysg bellach sy’n heneiddio yng Nghymru. O ganlyniad i’r ymrwymiad cryf i wella cyfleusterau ar gyfer ein dysgwyr, cynyddodd Llywodraeth Cymru lefel y cyllid cyfalaf sydd ar gael drwy'r rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy i £300m bob blwyddyn ar gyfer y cyfnod 2022/23 i 2024/25 – sy’n cynrychioli cynnydd o 33% o'i gymharu â llinell sylfaen 2021/22. Hyd yn hyn mae dros £2.35 biliwn wedi'i dargedu at brosiectau adeiladu newydd ac adnewyddu sylweddol.
O'r 1,463 o ysgolion a gynhelir yng Nghymru, manteisiodd fwy na 140 o ysgolion o'r buddsoddiad hwn o dan y don fuddsoddi gyntaf, ac mae 200 o ysgolion a cholegau yn elwa ar y don bresennol. Mae hyn, ynghyd â'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £203m mewn cyfalaf cynnal a chadw dros y 4 blynedd diwethaf, yn golygu bod awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach yng Nghymru wedi gallu mynd i'r afael ag agweddau allweddol ar gynnal a chadw mewn perthynas â’u hysgolion a'u colegau. Wrth ystyried RAAC, mae cynnal a chadw adeiladau ysgolion a cholegau a cheisio atal dŵr rhag treiddio i mewn i’r adeiladau yn feini prawf allweddol wrth gynnal eu huniondeb strwythurol. Mae'r cyllid hefyd wedi galluogi awdurdodau lleol a sefydliadau addysg bellach i gael gwared ar asbestos mewn ysgolion a cholegau, sydd wedi helpu i ddod o hyd i RAAC a’i asesu.
Byddaf yn rhoi gwybod y newyddion diweddaraf ichi ar ddiwedd yr wythnos hon.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.