Neidio i'r prif gynnwy

Y nod ar gyfer Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang

Awdur: Stefanie Taylor

Cymru sy'n gyfrifol ar lefel fyd-eang: Gwlad sydd, wrth wneud unrhyw beth i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, yn ystyried a allai gwneud rhywbeth o’r fath wneud cyfraniad cadarnhaol at lesiant byd-eang. Mae’r nod hwn yn cydnabod, mewn byd rhyng-gysylltiedig, gall yr hyn rydym yn ei wneud i sicrhau bod Cymru’n genedl gynaliadwy gael effeithiau cadarnhaol y tu allan i Gymru.

Beth ydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

  • Yn 2021, amcangyfrifwyd bod allyriadau nwyon tŷ gwydr a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru yn gyfanswm o 36.3 miliwn o dunelli o garbon deuocsid cyfatebol (MtCO2e), 7% o gynnydd ers 2020.
  • Amcangyfrifwyd bod yr allyriadau sy’n seiliedig ar ddefnydd sy’n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd yng Nghymru yn 25.0 MtCO2e yn 2020, 20% o ostyngiad o 2019.
  • Cafodd COVID-19 a’r cyfyngiadau cenedlaethol canlyniadol effeithiau sylweddol ar yr economi a chymdeithas, gan leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ar sail tiriogaethol ac ar sail defnydd yn 2020. 
  • Mae amcangyfrifon a gynhyrchwyd yn ddiweddar gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn awgrymu bod ôl troed byd-eang Cymru wedi parhau i leihau, sy’n golygu bod Cymru’n lleihau’n raddol arwynebedd y tir sydd ei angen i gynnal ei defnydd o adnoddau byd-eang.  
  • Yn 2022, cafodd 536 o bobl eu cyfeirio fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern i heddluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 12% o’i gymharu â 2021 (479 o atgyfeiriadau). Mae’n debyg bod rhywfaint o’r cynnydd yn y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i well adroddiadau. 
  • Rhoddodd yr Uned Priodasau Dan Orfod gyngor neu gymorth mewn 6 achos posibl o briodas dan orfod a/neu achosion bosibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn 2022 yng Nghymru, sef 2% o gyfanswm y Deyrnas Unedig. 
  • Adroddwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2021 i 2022 fod 11% o oedolion wedi gwneud tri neu ragor o’r pedwar cam gweithredu a ganlyn i helpu gyda materion byd-eang: rhoi neu godi arian, ymgyrchu, gwirfoddoli, neu newid yr hyn maen nhw’n ei brynu.
  • Yn 2022 i 2023, roedd 23,622 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng nghyfnod allweddol 4, ac 13,988 ar lefel uwch, sy’n dewis cydran her Dinasyddiaeth Fyd-eang.
  • Roedd cyfran y plant a oedd wedi cael eu himiwneiddiad rheolaidd erbyn iddynt fod yn bedair oed yn 84.5% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023. Mae hyn yn ostyngiad o’i gymharu ag 87.0% ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022.
  • Yn 2022 i 2023 roedd y nifer a oedd wedi cymryd y ‘6 mewn 1’ (DTaP/IPV/Hib/HepB) ymhlith plant un oed yng Nghymru yn 94.5%, gostyngiad o 95.2% y flwyddyn flaenorol. 
  • Yn 2022-23 Gostyngodd y nifer a gymerodd y dos cyntaf o MMR erbyn roeddent yn ddwy flwydd oed i 92.9%, o gymharu â 94.2% yn y flwyddyn flaenorol, sy'n is na’r gyfradd darged o 95%.
  • Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd dros 2,400 o geiswyr lloches yn cael cymorth yng Nghymru. Mae’r niferoedd sy’n cael cymorth wedi cynyddu ers yr un chwarter yn 2021, gan aros yn sefydlog rhwng 2016 a 2020, ac wedi gostwng rhwng 2020 a 2021.
  • Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd cyfanswm o 1,479 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed (2016 i 2022) a Chynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (2021 ymlaen).
  • Yn 2020 i 2021, roedd 21,570 o fyfyrwyr rhyngwladol wedi cofrestru ar gyfer Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru o dros 180 o wledydd, sef 16.6% o’r holl gofrestriadau. 

Beth yw’r cynnydd tymor hwy tuag at y nod?

Mae data ar gyfer rhai o’r dangosyddion cenedlaethol yn awgrymu bod cynnydd yn cael ei wneud tuag at y nod Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang. Mae’r rhain yn cynnwys gwelliannau hirdymor i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a dangosyddion cenedlaethol eraill sy’n gorgyffwrdd â nod Cymru gydnerth. Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef bod Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. Yn 2021, amcangyfrifwyd bod allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru yn gyfanswm o 36.3 miliwn tunnell o garbon deuocsid cyfatebol (MtCO2e), sy’n 35% o ostyngiad ers 1990. Amcangyfrifwyd bod yr allyriadau sy’n seiliedig ar ddefnydd sy’n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd yng Nghymru yn 25.0 MtCO2e yn 2020, 37% o ostyngiad o 2001.    

Mae hefyd carreg filltir genedlaethol sy'n ymwneud ag ôl troed byd-eang, sef mai dim ond cyfran deg o adnoddau’r ddaear y bydd Cymru yn ei ddefnyddio erbyn 2050. Ein hôl troed byd-eang yw cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Mae amcangyfrifon diweddar a gynhyrchwyd gan y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) a’r Rhwydwaith Ôl Troed Byd-eang (GFN) yn awgrymu bod yr ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng bron i draean rhwng 2004 a 2018. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod dros ddwywaith yr amcangyfrif o’r biogapasiti yng Nghymru. Pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth.

Cyd-destun Byd-eang, Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig

Ar 1 Ionawr 2016, dechreuodd y byd roi Agenda Datblygu Cynaliadwy 2030 ar waith, sef y cynllun gweithredu trawsnewidiol sy’n seiliedig ar 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i fynd i’r afael â heriau mawr y byd dros y 15 mlynedd nesaf. Mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy yn pwysleisio agenda gyffredinol sy’n mynnu bod holl aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig - y rhai cyfoethog a rhai tlawd fel ei gilydd – yn cymryd camau i gefnogi datblygu cynaliadwy.

Mae llawer o ffactorau sy’n pennu a yw Cymru’n dod yn wlad sy’n fwy cyfrifol ar lefel fyd-eang.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, gyda’i nodau llesiant penodol i Gymru, yn darparu fframwaith ar gyfer cyfraniad Cymru at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig. Ar y cyfan, mae’r chwe adroddiad naratif arall, drwy eu hasesiad o’n cynnydd tuag at y nodau llesiant cenedlaethol, yn dangos ein cyfraniad cyffredinol fel cenedl at yr agenda datblygu cynaliadwy ryngwladol. Er enghraifft, rydym yn adrodd mewn mannau eraill ar dueddiadau fel tlodi, anghydraddoldebau a gwaith teg. Felly, mae’r naratif hwn ar y nod Cymru sy’n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang yn canolbwyntio ar feysydd sydd fwyaf perthnasol i’r agenda fyd-eang yn benodol.

Mae’r 50 o ddangosyddion cenedlaethol ar gyfer Cymru hefyd wedi cael eu mapio at ddibenion dangosol yn erbyn y 17 Nod Datblygu Cynaliadwy i’ch helpu chi i lywio rhwng cynnydd yma yng Nghymru a’r berthynas â phob un o’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Dangosyddion Cenedlaethol: mapio i’r Nodau Llesiant a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig (offeryn rhyngweithiol)

Er bod rhywfaint o’r naratif yn seiliedig ar ddangosyddion cenedlaethol ac ystadegau swyddogol, mae rhywfaint o’r data a gyflwynir yn yr adran hon yn gyd-destunol ac yn defnyddio data neu ddatganiadau ffeithiol sy’n ymwneud â pholisïau neu raglenni, lle rydym wedi ystyried ei fod yn berthnasol i’r naratif cyffredinol. Nid yw’r data hyn yn cael eu casglu drwy ffynonellau ystadegau swyddogol, ac er eu bod yn cael eu cynnwys yma ar gyfer cyd-destun, ni allwn ddarparu sicrwydd llawn ynghylch ansawdd data. Fodd bynnag, lle bo modd, gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y data yn yr Adroddiad Ansawdd ar gyfer Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol a’r adroddiad ansawdd nad yw’n cynnwys dangosyddion.

Newid yn yr hinsawdd

Nod 13 o Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yw “gweithredu ar frys i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a’i effeithiau”.

Mae pobl yng Nghymru yn poeni am newid yn yr hinsawdd.

Mae canlyniadau’r Arolwg Cenedlaethol ar gyfer 2022 i 2023 yn dangos bod y mwyafrif helaeth (97%) o bobl Cymru o'r farn bod hinsawdd y byd yn newid. Yn 2022 i 2023, roedd 74% o oedolion yn eithaf pryderus neu’n bryderus iawn am newid yn yr hinsawdd, sef canlyniad tebyg i 2021 i 2022 (76%) ac yn 2020 i 2021 (76%).

Yn 2022 i 2023, roedd 56% o bobl o’r farn bod newid yn yr hinsawdd yn ganlyniad i weithgarwch dynol yn bennaf neu’n gyfan gwbl. Mae 94% yn meddwl bod gweithgarwch dynol yn gysylltiedig i ryw raddau â newid hinsawdd y byd.

Nwyon tŷ gwydr

Mae carreg filltir genedlaethol ar gyfer nwyon tŷ gwydr, sef y bydd Cymru yn cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net erbyn 2050. 

Yn 2021, amcangyfrifwyd bod cyfanswm yr allyriadau a ryddhawyd i’r atmosffer yn uniongyrchol o Gymru (a elwir yn allyriadau gwladol) yn cyfateb i 36.3 miliwn o dunelli o garbon deuocsid (MtCO2e), sef cynnydd o 7% o’i gymharu â 2020. Mae’r rhan fwyaf o’r cynnydd yn 2021 yn deillio o gynnydd mewn allyriadau o orsafoedd pŵer, cynhyrchu haearn a dur, a thrafnidiaeth ffyrdd, sy’n cyd-fynd â mwy o weithgarwch yn y sectorau hyn yn dilyn pandemig COVID-19. Er gwaethaf y cynnydd hwn yn 2021, mae’r amcangyfrif o allyriadau Cymru yn dal 6% yn is na lefelau cyn pandemig 2019.

Bu 35% o ostyngiad ers y flwyddyn sylfaen (1990). Cafodd y gostyngiad hwn ei ysgogi gan arbedion effeithlonrwydd o ran cynhyrchu ynni a gwresogi’r sector busnes, defnyddio nwy naturiol i ddisodli rhai mathau o lo a thanwyddau eraill yn ogystal ag atafael rhai diwydiannau cemegol. Mae amrywiadau mewn cynnyrch gweithgynhyrchu (er enghraifft, mewn haearn a dur, cynhyrchu cemegion mewn swp) wedi cael effaith sylweddol ar y duedd. 

Y sector cyflenwi ynni yw’r ffynhonnell allyriadau mwyaf, sy’n cynhyrchu 26% o’r holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru. Mae’r sector hwn yn cael ei ddominyddu gan allyriadau o orsafoedd pŵer nwy.

Y sector busnes yw’r ail ffynhonnell fwyaf sy’n cyfrif am bron i 24% o allyriadau Cymru. Mae’r sector hwn yn cael ei ddominyddu gan hylosgi tanwyddau ffosil ym maes cynhyrchiant diwydiannol, yn bennaf wrth gynhyrchu haearn a dur. Dilynir hyn gan y sector amaethyddiaeth (16%), y sector trafnidiaeth (15%), y sector preswyl (10%), y sector prosesau diwydiannol (6%), gyda sectorau eraill yn gwneud cyfraniadau llai o 5% neu lai. 

Mae’r ffigurau hyn ar allyriadau nwyon tŷ gwydr gwladol yn ystyried allyriadau yng Nghymru yn unig. Nid yw hyn yn cynnwys allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau y tu allan i Gymru hyd yn oed os yw’r rhain yn cael eu mewnforio i Gymru. Yn yr un modd, mae allyriadau sy’n gysylltiedig â chynhyrchu nwyddau a gwasanaethau yng Nghymru yn cael eu cyfrif fel allyriadau Cymru hyd yn oed os yw’r rhain yn cael eu hallforio i’w defnyddio mewn mannau eraill. Cafodd cwmpas y dangosydd cenedlaethol hwn ei ymestyn ym mis Rhagfyr 2021 i gynnwys cyfran Cymru o'r sector hedfan rhyngwladol a morgludiant rhyngwladol. Mae hyn bellach wedi’i gynnwys fel ‘Allforio’ y sector Cyfathrebu Cenedlaethol.

Ffigur 7.1: Amcangyfrif o allyriadau gwladol Cymru o nwyon tŷ gwydr (Mt CO2e), 1990 i 2021

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.1: Mae'r siart linell yn dangos cyfaint yr allyriadau nwyon tŷ gwydr (megatunnell) yng Nghymru rhwng 1990 a 2021. Mae allyriadau yng Nghymru wedi gostwng 35% ers y flwyddyn sylfaen (1990), ond roedd cynnydd o 7% mewn allyriadau 2021, o’i gymharu â 2020.

Ffynhonnell: Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol

Allyriadau nwyon tŷ gwydr a briodolir i ddefnyddio nwyddau a gwasanaethau byd-eang yng Nghymru

Amcangyfrifir allyriadau nwyon tŷ gwydr sy’n gysylltiedig â nwyddau a gwasanaethau a ddefnyddir gan aelwydydd yng Nghymru (a elwir yn allyriadau sy’n seiliedig ar ddefnydd neu ôl troed carbon). Mae’r amcangyfrifon hyn yn mesur yr allyriadau sy’n cael eu cynhyrchu’n uniongyrchol gan aelwydydd yng Nghymru (gan gynnwys gwresogi a gyrru, er enghraifft), allyriadau sy’n digwydd yn y Deyrnas Unedig i gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, ac allyriadau sy’n cael eu ‘mewnforio’ mewn gwledydd eraill i gynhyrchu nwyddau a gwasanaethau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru. 

Yn gyffredinol, mae allyriadau defnydd wedi gostwng ers 2001. Rhwng 2001 a 2020 mae allyriadau wedi gostwng o 40.0 MtCO2e i 25.0 MtCO2e (37% o ostyngiad). Wrth gymharu effeithiau pandemig COVID-19 â 2001 a 2019, mae’r gostyngiad tua 21%. Allyriadau sydd wedi’u cynnwys mewn nwyddau a gwasanaethau a fewnforir (a ddefnyddiwyd yng Nghymru ond a gynhyrchwyd dramor) oedd y ffynhonnell fwyaf o allyriadau dros y cyfnod hwn. 

Mae gan yr amcangyfrifon hyn lefel uchel o ansicrwydd oherwydd ei bod yn anodd mesur allyriadau sydd wedi’u cynnwys mewn mewnforion ac mae’r data hyn yn cael eu graddio i lefel Cymru, gan ddefnyddio arolwg sydd â maint sampl cyfyngedig. Felly, efallai na fydd amrywiadau mewn data blynyddol yn adlewyrchu’r newidiadau gwirioneddol i allyriadau a dylid ystyried y duedd hirdymor dros amser. 

Gellir ystyried yr allyriadau tiriogaethol a defnydd ochr yn ochr â’i gilydd. Mae’r amcangyfrifon allyriadau hyn yn mesur gwahanol ffynonellau allyriadau ac yn defnyddio gwahanol ddulliau. Mae’r allyriadau tiriogaethol yn defnyddio ffynonellau a dulliau data mwy cadarn, felly maent yn fwy sicr na’r allyriadau defnydd. Mae’r dangosydd allyriadau defnydd yn helpu i ganfod a yw gostyngiadau mewn allyriadau yng Nghymru yn cael eu gwrthbwyso gan allyriadau sy’n cael eu ‘mewnforio’ o dramor. Yn wahanol i wledydd eraill y Deyrnas Unedig, mae allyriadau tiriogaethol yn uwch yng Nghymru nag allyriadau defnydd. Gallai hyn fod oherwydd bod Cymru yn cynhyrchu lefelau uwch o allyriadau diwydiant trwm ac ynni na ellir ei adnewyddu yn ôl ei phoblogaeth o gymharu â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig. 

Ffigur 7.2: Amcangyfrif o ôl troed allyriadau defnydd Cymru (Mt CO2e), 2001 i 2020

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.2: Mae’r siart llinell yn dangos bod cyfaint yr allyriadau defnydd amcangyfrifedig (megatunelli) yng Nghymru yn dangos tuedd gyffredinol ar i lawr ers 2001. Rhwng 2001 a 2020, mae ôl troed allyriadau defnydd amcangyfrifedig Cymru wedi gostwng 37%, o 40 Mt CO2e i 25 Mt CO2e.

Ffynhonnell: Ôl Troed Allyriadau Defnydd, Cymru (2001 i 2020) (Mt CO2e), amcangyfrif o allyriadau ar sail defnydd, Prifysgol Leeds.

Ôl troed byd-eang

Ein hôl troed byd-eang yw cyfanswm y baich amgylcheddol y mae cymdeithas yn ei roi ar y blaned. Yn fyd-eang, rydym yn defnyddio mwy o adnoddau naturiol nag y gall y byd eu disodli. 

Un ffordd o fesur ein hôl troed byd-eang a’r diffyg ecolegol hwn yw cyfrifo’r hyn a elwir yn Ôl-troed Ecolegol, sy’n cynrychioli’r darn o dir sydd ei angen i ddarparu deunyddiau crai, ynni a bwyd yn ogystal ag amsugno’r llygredd a'r gwastraff a greir. Mae’n cael ei fesur mewn hectarau global.   

Mae’r bwyd mae pobl yn ei fwyta, y ffordd rydym yn teithio a’r ynni rydym yn ei ddefnyddio gartref yn dylanwadu ar ein hôl troed byd-eang. Mae hefyd yn gyfrifol am brynu cynnyrch a gwasanaethau, o yswiriant i setiau teledu, i eitemau o ddillad. Mae hefyd yn cynnwys effeithiau gweithgarwch adeiladu a buddsoddi mewn seilwaith. 

Y garreg filltir genedlaethol ar gyfer y dangosydd hwn yw y bydd Cymru ond yn defnyddio ei chyfran deg o adnoddau’r byd erbyn 2050. Mae’r Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur wedi cyfrifo ôl-troed byd-eang ar gyfer Cymru yn ddiweddar gan ddefnyddio’r fethodoleg Ôl-troed Ecolegol. Mae hyn yn rhan o brosiect ehangach i wella dealltwriaeth o ôl troed amgylcheddol byd-eang ac effeithiau nwyddau sy’n cael eu defnyddio yng Nghymru, ond a allai gael eu cynhyrchu yn unrhyw le yn y byd.

Cynhyrchwyd ôl troed ecolegol gan ddefnyddio dwy fethodoleg ychydig yn wahanol – un yn defnyddio data sy’n benodol i Gymru (ar gael ar gyfer 2019) yn unig, a’r llall yn defnyddio data mewnbwn gwahanol a symlach (drwy ddosrannu data’r Deyrnas Unedig i Gymru) er mwyn gallu cynhyrchu cyfres amser. Oherwydd ei allu i fonitro newid dros amser, mae’r olaf yn cael ei ddefnyddio i adrodd ar gynnydd yn erbyn y dangosydd cenedlaethol a’r garreg filltir. 

Gan ddefnyddio’r fethodoleg ôl troed ecolegol, mae ôl troed byd-eang Cymru wedi gostwng yn gyffredinol o tua 17.0 miliwn hectar global (gha) yn 2004 i 12.3 miliwn gha yn 2018. Mae’r ôl troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng bron i draean dros y cyfnod amser hwn, ac roedd yn 3.9 gha y pen yn 2018. Fodd bynnag, mae hyn yn parhau i fod dros ddwywaith yr amcangyfrif o’r biogapasiti yng Nghymru. Mewn geiriau eraill, pe bai holl boblogaeth y byd yn byw fel dinasyddion Cymru, byddai angen tir cyfwerth â 2.08 Daear ar ddynoliaeth.

Ffigur 7.3: Ôl troed byd-eang, hectarau global (gha) y pen, 2004 i 2018

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.3: Siart llinell yn dangos yr ôl-troed byd-eang (gha) y pen yng Nghymru, bob tair/pedair blynedd rhwng 2004 a 2018. Mae’r ôl-troed byd-eang fesul unigolyn wedi gostwng yn raddol dros y cyfnod. 

Ffynhonnell: Deall Ôl Troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru, JNCC

Mae mesur arall o Ôl-troed Ecolegol Cymru yn defnyddio data mewnbwn o ansawdd ychydig yn uwch, ond nid yw’n galluogi cymharu dros amser. Roedd yr ôl-troed hwn tua 10.7 miliwn gha yn 2019, sy’n cyfateb i tua 3.4 ha fesul unigolyn. 

Dinasyddiaeth fyd-eang weithredol

Yn 2021 i 2022, am y tro cyntaf, gofynnodd yr Arolwg Cenedlaethol i bobl pa weithgareddau yr oeddent wedi eu gwneud i helpu gyda materion rhyngwladol fel tlodi, hawliau dynol, rhyfel, ffoaduriaid, neu newid yn yr hinsawdd. Gofynnwyd y cwestiynau hyn cyn y rhyfel yn Wcráin.

Roedd 11% o’r rhai a arolygwyd wedi gwneud tri neu ragor o’r pedwar cam gweithredu a ganlyn i helpu gyda materion byd-eang: rhoi neu godi arian, ymgyrchu, gwirfoddoli, neu newid yr hyn maen nhw’n ei brynu.

Mae 31% o bobl yn dweud eu bod nhw wedi rhoi arian yn ystod y tri mis blaenorol i helpu gyda materion byd-eang. Y materion mwyaf cyffredin y rhoddodd pobl arian tuag atynt oedd tlodi rhyngwladol (21%) a chynorthwyo ffoaduriaid (15%). Roedd 36% o fenywod yn dweud eu bod nhw wedi rhoi arian, o’i gymharu â 26% o ddynion.

Dywed 17% o bobl eu bod nhw wedi ymgyrchu dros faterion rhyngwladol yn y 12 mis diwethaf i helpu gyda materion byd-eang, a dywed 5% eu bod nhw wedi gwirfoddoli. Roedd 11% o bobl wedi ymgyrchu dros faterion hawliau dynol a 10% yn erbyn newid yn yr hinsawdd, tra bo 2% wedi gwirfoddoli i roi terfyn ar dlodi a 2% i helpu ffoaduriaid.

Dywed 54% eu bod wedi newid yr hyn maent yn ei brynu oherwydd materion byd-eang. Mae pobl o dan 75 oed yn fwy tebygol o fod wedi newid yr hyn maent yn ei brynu (57%) na phobl 75 oed a hŷn (34%). Pobl rhwng 25 a 44 oed oedd y grŵp mwyaf tebygol o fod wedi gwneud newidiadau i’r hyn maent yn ei brynu (63%).

Caethwasiaeth modern

Mae nifer y dioddefwyr posibl o gaethwasiaeth fodern yng Nghymru sy’n cael eu hatgyfeirio wedi parhau i gynyddu dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed ar gyfer ‘Rhoi terfyn ar gaethwasiaeth fodern a masnachu pobl’. Caethwasiaeth fodern yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi ei ddiffinio yn Neddf Caethwasiaeth Fodern 2015. Mae’r ddeddf yn categoreiddio troseddau o gaethwasiaeth, caethwasanaeth, llafur gorfodol neu drwy rym a masnachu pobl.

Yn ôl yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol, mae nifer yr achosion o ddioddefwyr posibl caethwasiaeth sy’n cael eu hadrodd i’r Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol neu drwy broses y Ddyletswydd i Hysbysu yn parhau i gynyddu bob blwyddyn yng Nghymru.

Yn 2022, cafodd 536 o bobl eu cyfeirio fel dioddefwyr posibl caethwasiaeth fodern i heddluoedd yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 12% o’i gymharu â 2021 (479 o atgyfeiriadau). 

Mae’n debyg bod rhywfaint o'r cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn deillio o brosesau adrodd gwell a newidiadau yn y ffordd y cofnodir y data. Yn 2022 roedd 136 o’r atgyfeiriadau ar gyfer menywod (25%) ac roedd 400 ar gyfer dynion (75%).

Cafodd 164 (31%) o unigolion eu cyfeirio ar gyfer categorïau camfanteisio ar oedolion ac fe gafodd 355 (66%) eu cyfeirio ar gyfer camfanteisio yn unigolyn ifanc dan oed. 17 (3%) heb eu nodi neu’n anhysbys.

Y math mwyaf cyffredin o gamfanteisio ar gyfer oedolion a phlant dan oed oedd camfanteisio troseddol.

Priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod

Mae priodasau dan orfod neu achosion posibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn cael eu nodi yng Nghymru.

Mae nod 5 y Cenhedloedd Unedig yn cynnwys targed i ‘gael gwared ar yr holl arferion niweidiol, fel gorfodi plentyn i briodi neu briodi’n gynnar ac anffurfio organau cenhedlu benywod’.

Yn ôl y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, rhoddodd yr Uned Priodasau Dan Orfod gyngor neu gymorth mewn 6 achos posibl o briodas dan orfod a/neu achosion bosibl o anffurfio organau cenhedlu benywod yn 2022 yng Nghymru, sef 2% o gyfanswm y Deyrnas Unedig. Mae hyn yn ostyngiad bach o 8 o achosion (2% o gyfanswm y Deyrnas Unedig) yn 2021.

Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal rhwng 2015 a 2022. Ar ôl cyflwyno’r cyfyngiadau symud cyntaf, gostyngodd nifer yr atgyfeiriadau i’r FMU. Mae’n bosibl bod y pandemig yn gyfrifol am hyn, fel cyfyngiadau ar briodasau a theithio. Mae newid i’r drefn o ran a ddylid cofnodi achos newydd fel atgyfeiriad neu ymholiad cyffredinol hefyd yn debygol o fod wedi cael effaith fach ar nifer cyffredinol yr achosion o’i gymharu â blynyddoedd blaenorol ac felly dylid bod yn ofalus wrth gymharu’n uniongyrchol.

Ffigur 7.4: Nifer yr achosion a gafodd gyngor neu gymorth gan yr Uned Priodasau dan Orfod yng Nghymru, 2015 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.4: Mae’r siart linell yn dangos bod yr Uned Priodasau Dan Orfod (FMU) wedi rhoi cyngor neu gymorth mewn 6 achos yn ymwneud â phriodas bosibl dan orfod a/neu achos bosibl o anffurfio organau cenhedlu bywyd (FGM) yng Nghymru yn 2022. Oherwydd y niferoedd isel o’i gymharu â rhai rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, mae’r duedd ar gyfer Cymru wedi bod yn anwadal rhwng 2015 a 2022.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu, Ystadegau’r Uned Priodasau dan Orfod 2022

[Nodyn 1] Oherwydd y newidiadau mewn arferion cofnodi, nid oes modd cymharu’r data o 2020 yn uniongyrchol â data’r blynyddoedd blaenorol

Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang

Mae SDG y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Addysg o Safon’, yn cydnabod pwysigrwydd cael addysg o ansawdd a bod yr holl ddysgwyr yn meddu ar yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i hyrwyddo datblygiad cynaliadwy, gan gynnwys ffyrdd cynaliadwy o fyw, hawliau dynol, cydraddoldeb rhywiol a dinasyddiaeth fyd-eang.

Yn 2022 i 2023, roedd 23,622 o ymgeiswyr ar gyfer yr Her Dinasyddiaeth Fyd-eang yng nghyfnod allweddol 4, ac 13,988 ar lefel uwch, sy’n dewis cydran her Dinasyddiaeth Fyd-eang. Ar gyfer cyfnod allweddol 4, mae data dros dro yn dangos bod 98.8% o’r ceisiadau wedi llwyddo ar lefel 1 neu uwch, ac ar y lefel uwch, roedd 99.0% wedi pasio lefel 3 neu uwch. 

Eco-Ysgolion

Mae Eco-ysgolion yn rhaglen fyd-eang sy’n ymgysylltu â miliynau o blant mewn 73 o wledydd. Mae wedi ei chynllunio i rymuso ac ysbrydoli pobl ifanc i wneud newidiadau amgylcheddol cadarnhaol i’w hysgol a’r gymuned ehangach, gan adeiladu ar eu sgiliau allweddol, gan gynnwys rhifedd a llythrennedd. Yng Nghymru, mae Eco-Ysgolion yn cael eu rhedeg gan Cadwch Gymru’n Daclus gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n rhad ac am ddim i holl ysgolion y wladwriaeth.
 
O fis Ebrill 2023 ymlaen, roedd 811 o ysgolion y wladwriaeth wedi cael achrediad Baner Werdd Eco-Ysgolion, ac roedd 454 ohonynt wedi cyrraedd statws platinwm, am ymrwymiad hirdymor i’r rhaglen. Mae gan 306 o ysgolion eraill wobr efydd a/neu arian, gan weithio eu ffordd tuag at achrediad baner werdd. 

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae dros 1,100 o ysgolion wedi ymgysylltu â Cadwch Gymru'n Daclus i gymryd camau i helpu'r amgylchedd drwy Eco-Ysgolion, Fy Nghoeden, Ein Coedwig: ar gyfer Ysgolion, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, neu fentrau eraill Cadwch Gymru'n Daclus. 

Myfyrwyr Rhyngwladol

Mae pobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am faterion byd-eang ond mae gostyngiad wedi bod yn y blynyddoedd diwethaf yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy’n mynychu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. 

Mae nifer mawr o fyfyrwyr o amrywiaeth o wledydd yn mynychu sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. 

Yn 2021 i 2022, cofrestrwyd 25,090 o fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer darparwyr addysg uwch yng Nghymru (heb gynnwys cofrestriadau addysg uwch mewn darparwyr addysg bellach a chofrestriadau yng nghanolfan genedlaethol y Brifysgol Agored yng Nghymru). Mae hyn yn cynnwys 19% o gofrestriadau lle mae domisil y myfyriwr yn hysbys. O’r rhain, roedd 4,170 gan fyfyrwyr o’r Undeb Ewropeaidd (3% o’r holl gofrestriadau), ac 20,920 gan fyfyrwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd (16% o’r holl gofrestriadau). Ar ei anterth yn 2010 i 2011, roedd 26,290 o fyfyrwyr rhyngwladol wedi cofrestru mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, a oedd yn cyfrif am 20% o'r boblogaeth myfyrwyr.

Ffigur 7.5: Canran y myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sy’n fyfyrwyr rhyngwladol, 2007 i 2008 i 2021 i 2022 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.5: Mae’r siart linell yn dangos canran y myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru a oedd yn fyfyrwyr rhyngwladol, rhwng 2007 i 2008 a 2021 i 2022. Yn 2021 i 2022, cofrestrwyd 19% o fyfyrwyr rhyngwladol. 

Ffynhonnell: Yr Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch

[Nodyn 1] Nid yw’n cynnwys cofrestriadau yn y Brifysgol Agored ac addysg uwch mewn sefydliadau addysg bellach yng Nghymru

Tlodi bwyd

Mae rhai oedolion yng Nghymru yn wynebu tlodi bwyd ac yn poeni am fforddio bwyd.
Un o nodau’r Cenhedloedd Unedig, sef ‘Dim Newyn’ yw rhoi diwedd ar newyn, sicrhau diogelwch bwyd a gwella maeth.

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2022 i 2023, roedd 3% o aelwydydd wedi cael bwyd gan fanc bwyd yn ystod y 12 mis diwethaf gyda 3% arall yn dweud nad oeddent wedi cael bwyd ond eu bod wedi dymuno cael hynny. 

Yn ôl yr arolwg hefyd, roedd 5% o oedolion yn dweud eu bod wedi mynd heb bryd o fwyd sylweddol o leiaf un diwrnod yn y pythefnos cynt. Roedd hyn yn debyg i 2021 i 2022 (4%). 

Ceiswyr lloches

Mae nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth wedi aros yn gyson dros y blynyddoedd diwethaf ond mae wedi cynyddu ers dechrau’r degawd.

Nod rhif 16 y Cenhedloedd Unedig yw ‘hyrwyddo cymdeithasau heddychlon a chynhwysol ar gyfer datblygu cynaliadwy, darparu mynediad at gyfiawnder i bawb a chreu sefydliadau effeithiol, atebol a chynhwysol ar bob lefel’.

Nid yw ffigurau cyflawn ar gyfer nifer y ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy’n cael eu hadsefydlu yng Nghymru ar gael. Fodd bynnag, cyhoeddir ffigurau sy’n ymwneud â nifer y ffoaduriaid sy’n adsefydlu o dan Gynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (a’r Cynllun Adsefydlu pobl agored i niwed gynt), a nifer y rhai sy’n derbyn cymorth lloches ar hyn o bryd.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd cyfanswm o 1,479 o ffoaduriaid wedi cael eu hadsefydlu yng Nghymru o dan y Cynllun Adsefydlu Pobl Agored i Niwed (2016 i 2022) a Chynllun Adsefydlu’r Deyrnas Unedig (2021 ymlaen).

Mae Adran 95 yn darparu cymorth i geiswyr lloches sydd â chais am loches neu apêl heb ei ddatrys a cheiswyr lloches aflwyddiannus a oedd â phlant yn eu cartref pan ddefnyddiwyd yr holl hawliau apelio a oedd yn bosibl, ac mae’n cynnwys y rhai sy’n derbyn:

  • (a) Llety gwasgaredig – y rhai sy’n derbyn llety yn unig, neu lety a chynhaliaeth.
  • (b) Cynhaliaeth yn unig: lle mae’r ymgeisydd yn derbyn arian i gynnal ei hun ond wedi dod o hyd i’w lety ei hun.

Ar ddiwedd mis Mawrth 2023, roedd dros 2,400 o geiswyr lloches yn cael cymorth yng Nghymru. Mae’r niferoedd sy’n cael cymorth wedi cynyddu ers yr un chwarter yn 2022, gan aros yn sefydlog rhwng 2016 a 2020, ac wedi gostwng rhwng 2020 a 2021.

Ffigur 7.6: Nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth Adran 95, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2004 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.6: Mae’r siart linell yn dangos bod nifer y ceiswyr lloches sy’n cael cymorth wedi aros yn gyson yn ystod blynyddoedd 2016 i 2020, wedi’i ddilyn gan ostyngiadau nes 2022, gyda chynnydd bach yn 2023.

Ffynhonnell: Ystadegau Mewnfudo’r Swyddfa Gartref, y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023

Yn 2022, achosodd y rhyfel yn Wcráin i lawer o bobl ffoi rhag y gwrthdaro. Ar ddiwedd mis Awst 2022, mae dros 9,000 o fisâu wedi cael eu rhoi i bobl o Wcráin sydd â noddwr yng Nghymru. Darparodd Llywodraeth Cymru rôl “uwch-noddwr” i dros 4,600 o’r rhain. Roedd dros 6,900 o bobl â noddwyr yng Nghymru wedi cyrraedd y Deyrnas Unedig erbyn 8 Awst 2023. 

Darpariaeth brechu

Mae nifer y plant ifanc sy’n cael eu brechu yn parhau i fod yn uchel ond mae wedi gostwng ychydig ers ei lefelau uchaf, ac roedd gostyngiad yn y niferoedd sy’n cael eu brechu yn 2022 i 2023 o’i gymharu â 2021 i 2022.

Mae nod Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, sef ‘Iechyd a llesiant da’, yn nodi pwysigrwydd darparu mynediad at feddyginiaethau a brechlynnau fforddiadwy a hanfodol. Mae gan Sefydliad Iechyd y Byd weledigaeth ar gyfer byd heb y frech goch, rwbela a syndrom rwbela cynhenid.

Roedd y nifer a oedd yn cael y brechlyn ‘6 mewn 1’ DTaP/IPV/Hib/HepB1 (y tri dos) ymysg plant sy’n cyrraedd eu pen-blwydd cyntaf wedi gostwng ychydig o 94.5 %, o’i gymharu â 95.2% yn y flwyddyn flaenorol. 

Gostyngodd y nifer a gymerodd y dos cyntaf o MMR erbyn roeddent yn ddwy flwydd oed i 92.9%, o gymharu â 94.2% yn y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd ar gyfer atal achosion o’r frech goch (targed yw 95%).

Roedd cyfran y plant a oedd wedi cael eu himiwneiddiadau rheolaidd erbyn eu bod yn bedair oed yn 84.5% eleni. Yn genedlaethol, roedd canran y plant a oedd yn cael eu himiwneiddiadau rheolaidd erbyn iddynt fod yn bedair oed yn amrywio o 78.4% yn y cwintel mwyaf difreintiedig o ACEHI i 89.6% yn y cwintel lleiaf difreintiedig o ACEHI. Y gwahaniaeth yn y defnydd rhwng y cwintel lleiaf difreintiedig a’r cwintel mwyaf difreintiedig oedd 11.2 pwynt canran. Mae hyn yn ehangu’r bwlch anghydraddoldeb o’i gymharu â 2021 i 2022 (8.5 pwynt canran). Fodd bynnag, mae angen gwneud rhagor o waith i nodi gwraidd yr anghydraddoldebau hyn a chanfod ymyriadau i leihau’r bwlch.

Ffigur 7.7: Canran y plant sy’n cael eu himiwneiddiadau yng Nghymru, 2008 i 2009 i 2022 i 2023

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.7: Mae’r siart linell yn dangos canran y bobl a gafodd y brechlyn MMR a’r brechlyn 6 mewn 1 rhwng 2008 i 2009 a 2022 i 2023. Mae’r nifer sy’n manteisio ar y brechlyn ‘6 mewn 1’ wedi aros yn weddol sefydlog ers 2008 i 2009, ond bu gostyngiad bach yn y defnydd bob blwyddyn ers 2019 i 2020. Mae’r nifer sy’n cymryd MMR wedi gostwng ychydig bob blwyddyn ers 2020 i 2021.

Ffynhonnell: Data cenedlaethol ar y nifer sy’n manteisio ar imiwneiddio, Iechyd Cyhoeddus Cymru

[Nodyn 1] Mae’r brechlyn ‘6 mewn 1’ yn amddiffyn yn erbyn difftheria, tetanws, pertwsis (y pas), polio, hib a haint hepatitis B. Byddai’r rhan fwyaf o’r plant un oed y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn yn gymwys ar gyfer y brechlyn ‘6 mewn 1’, gan ddisodli’r brechlyn ‘5 mewn 1’ sydd i fod i gael ei roi i fabanod pan fyddant yn bedwar, wyth a 12 mis oed.

[Nodyn 2] Mae MMR yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Mae’r data’n dangos y nifer sy’n cymryd y dos cyntaf yn ddwy oed.  
 
Cam diweddaraf rhaglen frechu COVID-19 oedd cyflwyno pigiad atgyfnerthu’r gwanwyn 2023 i bawb sy’n 75 oed ac yn hŷn, y rhai sydd â system imiwnedd hynod fregus ac oedolion hŷn sy’n byw mewn cartref gofal. Ym mis Gorffennaf 2023, yn achos y rhai sy’n 75 oed ac yn hŷn, a’r rhai sy’n dioddef o wrthimiwnedd, roedd y niferoedd yn uwch ymysg dynion (76.0% a 51.7%) na menywod (71.8% a 48.2%). Mae hyn yn wahanol i’r patrwm a nodwyd yn ystod camau cynharach rhaglen frechu COVID-19, lle roedd y ddarpariaeth fel arfer yn uwch ymysg menywod. Roedd y ddarpariaeth ymysg preswylwyr cartrefi gofal yn 71.5% ymysg dynion a 81.4% ymysg menywod. Roedd y nifer yn uwch yn y grwpiau ethnig Cymysg Gwyn o’i gymharu â’r grwpiau Du, Asiaidd, Cymysg a grwpiau ethnig eraill cyfunedig. Roedd hyn yn wir ym mhob un o grwpiau a oedd yn gymwys ar gyfer hwb y gwanwyn. Roedd bwlch o 28 pwynt canran yn y defnydd rhwng y grwpiau Gwyn (69%) a’r grwpiau Du, Asiaidd, Cymysg a’r grwpiau Ethnig eraill (41%).

Cosbi plant yn gorfforol

Daeth cosbi plant yn gorfforol yn anghyfreithlon yng Nghymru ar 21 Mawrth, 2022. Cafodd y canlyniadau a gyflwynir yma ar gyfer 2021 i 2022 eu casglu rhwng mis Gorffennaf 2021 a mis Ionawr 2022, cyn i’r gyfraith hon ddod i rym. 

Gofynnwyd i rieni a’r bobl nad ydyn nhw’n rhieni am eu barn ynglŷn â smacio plant ac a oeddent yn cytuno neu’n anghytuno bod angen gwneud hynny weithiau. Mae’n ymddangos bod agweddau wedi newid ers i’r cwestiwn hwn gael ei ofyn ddiwethaf yn 2019 i 2020. Yn 2019 i 2020, dywedodd 35% o bobl fod weithiau angen smacio plentyn o’i gymharu â 25% yn 2021 i 2022, a 26% yn 2022 i 2023. Mae’r gyfran sy’n anghytuno’n gryf bod weithiau angen smacio oedd 39%, a oedd yn debyg i’r gyfran o 40% yn 2021 i 2022.

Yn 2022 i 2023, dywedodd 30% o ddynion a 22% o fenywod bod angen smacio plentyn weithiau. Roedd 75% o bobl rhwng 16 a 24 yn anghytuno neu'n anghytuno'n gryf bod angen smacio weithiau o’i gymharu â 40% o bobl 75 oed neu hŷn.

Ffigur 7.8: P’un ai ydynt yn cytuno ar yr angen i smacio weithiau, 2019 i 2020 i 2022 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.8: Mae’r siart bar yn dangos a yw ymatebwyr yn cytuno bod angen smacio weithiau ar gyfer y blynyddoedd 2019 i 2020 i 2022 i 2023. Roedd y rhan fwyaf o’r ymatebion yn 2022 i 2023 yn anghytuno. 

[Nodyn 1] Yn 2019 i 2020, cynhaliwyd yr arolwg wyneb yn wyneb, ac o 2021 i 2022 ymlaen, newidiodd y dull i gyfweliad dros y ffôn.  

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 

Safleoedd treftadaeth y byd

Mae nod ‘Dinasoedd a Chymunedau Cynaliadwy’ y Cenhedloedd Unedig yn nodi pwysigrwydd gwarchod a diogelu treftadaeth naturiol y byd.

Mae safleoedd treftadaeth y byd yn llefydd o “werth cyffredinol eithriadol i’r holl ddynoliaeth”. Mae hyn yn golygu bod eu harwyddocâd diwylliannol a/neu naturiol mor eithriadol fel ei fod yn bwysig iawn i bobl ym mhob man, nawr ac yn y dyfodol.

Yn 2021 cafodd Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru ei hychwanegu at Restr Treftadaeth y Byd UNESCO, y pedwerydd safle yng Nghymru.

Ymunodd â Thirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn ne-ddwyrain Cymru, Traphont ddŵr a Chamlas Pontcysyllte yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Chestyll a Muriau Trefi Edward I yng Ngwynedd yng Nghaernarfon, Conwy, Biwmares a Harlech yng ngogledd-orllewin Cymru.

Ffigur 7.9: Map o safleoedd treftadaeth y byd UNESCO yng Nghymru

Image

Disgrifiad o Ffigur 7.9: Map yn dangos lleoliad y pedwar safle treftadaeth byd yng Nghymru.

Ffynhonnell: Rhestr Treftadaeth y Byd UNESCO (Saesneg yn unig)

Darllen pellach

Ffynonellau data

Newid yn yr hinsawdd, Arolwg Cenedlaethol Cymru 

Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr yn ôl blwyddyn,  Rhestr Allyriadau Atmosfferig Genedlaethol 

Ôl Troed Allyriadau Defnydd Cymru 

Deall Ôl Troed Amgylcheddol Byd-eang ac Effeithiau Defnydd Cymru (JNCC) (Saesneg yn unig)

Dinasyddiaeth Fyd-eang Weithredol, Arolwg Cenedlaethol Cymru 

Mecanwaith Atgyfeirio Cenedlaethol a Dyletswydd i Hysbysu ystadegau’r Deyrnas Unedig, crynodeb diwedd blwyddyn 2021 (y Swyddfa Gartref) (Saesneg yn unig)

Priodas dan orfod ac anffurfio organau cenhedlu benywod (Y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu) (Saesneg yn unig)

Addysg Dinasyddiaeth Fyd-eang, dadansoddiad a ddarparwyd gan CBAC (gweler y tablau data cyfatebol)

Canran y myfyrwyr mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru sy’n fyfyrwyr rhyngwladol:

Eco-Ysgolion, data a ddarparwyd gan Cadwch Gymru’n Daclus (gweler y tablau data cyfatebol)

Tlodi Bwyd, Arolwg Cenedlaethol Cymru 

Nifer y ceiswyr lloches sy’n derbyn cymorth adran 95 yng Nghymru (Swyddfa Gartref) (Saesneg yn unig)

Ystadegau cynllun nawdd Wcráin, y Swyddfa Gartref a'r Adran Codi’r Gwastad, Tai a Chymunedau (DLUHC):

Darpariaeth Brechu: 

Cosbi plant yn gorfforol, Arolwg Cenedlaethol Cymru