Yn ystod Gaeaf 2023, bu Llywodraeth Cymru yn gweithio ochr yn ochr â Swyddfa’r Cabinet i gefnogi 10 o gynrychiolwyr o’r sector cyhoeddus yng Nghymru i gymryd rhan yn y Rhaglen Gallu Rheoli Contractau ar lefel Ymarferwyr ac Arbenigwyr.
Mae'n bleser gennym gyhoeddi ein bod ni’n ailagor y ffenestr ar gyfer datganiadau o ddiddordeb gan y sector cyhoeddus yng Nghymru i gwblhau'r rhaglenni Ymarferydd ac Arbenigwr, gyda’r nod o gefnogi carfan arall o reolwyr contract o Gymru i ddechrau’r rhaglen yn Haf 2024. Mae rhagor o fanylion am y rhaglen i’w gweld yma.
Mae'r rhaglen Ymarferydd yn gymhwyster rheoli contractau technegol. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio ar gyfer unrhyw un sy'n rheoli cyflenwr neu gontract fel rhan (neu'r cyfan) o'u rôl, gan weithio ar gontractau proffil canolig, gwerth canolig gyda’r berthynas â’r cyflenwr yn risg canolig neu uchel. Mae'r rhaglen ddysgu strwythuredig yn cynnwys 15 modiwl. Mae’n cynnwys gweithdai ar-lein a arweinir gan bynciau penodol, ynghyd â chwpl o sesiynau ‘galw heibio’ holi ac ateb. Mae'r rhain yn cael eu cynnal dros gyfnod o 24 wythnos.
Mae'r rhaglen Arbenigwr yn rhaglen datblygu ac achredu lefel strategol a gydnabyddir yn genedlaethol, gyda 23 modiwl (gydag wyth modiwl strategol pellach yn ychwanegu at fodiwlau'r rhaglen Ymarferydd cychwynnol). Mae’r rhaglen yn addas ar gyfer unrhyw un sy’n gweithio ar gontractau mawr (aur) proffil uwch, risg uwch fel rhan o’u rôl, mae’n gyfuniad o ddysgu unigol, gweithdai ar-lein a arweinir gan bynciau penodol, trafodaeth grŵp ar-lein, a sesiynau holi ac ateb ‘galw heibio’.
Mae dosbarthiadau contractau aur ac arian yn dilyn dosbarthiadau Sefydliad Masnachol y Llywodraeth Safonau Proffesiynol ar Reoli Contractau (Saesneg yn unig). Efallai y bydd Rheolwyr Contractau’n dymuno asesu lefel y risg sy'n gysylltiedig â chontract i benderfynu ar y lefel briodol o hyfforddiant. I gael mynediad i'r offeryn hwn, cysylltwch â GalluMasnachol@llyw.cymru
I fynegi eich diddordeb yn y rhaglen, cwblhewch y ffurflen Datgan Diddordeb. Rhaid cyflwyno pob Datganiad o Ddiddordeb erbyn 31 Mai 2024.
Rhaid anfon Cytundeb Dysgwr wedi'i lofnodi gyda'ch Datganiad o Ddiddordeb er mwyn cael eich ystyried ar gyfer nawdd.