Neidio i'r prif gynnwy

Amcangyfrifon o wariant ymchwil a datblygu gan fusnesau yng ngwledydd y DU a rhanbarthau Lloegr ar gyfer 2022.

Prif bwyntiau

  • Yn 2022, roedd gwariant menter busnes ar ymchwil a datblygu (BERD) yng Nghymru yn £1.0 biliwn; roedd hyn yn cynrychioli 1.9% o gyfanswm y DU.

Nodiadau

Gall nifer fach o brosiectau unigol sy'n cychwyn ac yn gorffen mewn cyfnod effeithio'n fawr ar lefel gwariant BERD yng Nghymru. 

Prif ffynhonnell y data a ddefnyddir i lunio amcangyfrifon ar gyfer y cyhoeddiad hwn yw'r arolwg BERD blynyddol. Mae hyn yn casglu data blynyddol ar fusnesau'r DU sy'n perfformio ymchwil a datblygu. Mewn ystadegau BERD a gyhoeddwyd yn flaenorol, hyd at gyfnod cyfeirio 2020, sefydlwyd bod cwmpas anghyflawn, yn enwedig busnesau bach.

Mae gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) sampl newydd ar gyfer 2022, sydd wedi cynyddu maint y data a dderbyniwyd ac wedi sicrhau bod yr ystadegau BERD bellach yn adlewyrchu lefel yr ymchwil a datblygu a gyflawnir ar draws economi'r DU yn well. Mae hyn yn golygu bod yr amcangyfrifon yn y bwletin hwn yn disodli'r rhai o'r dull cynyddu interim a gymerwyd yn 2021 a'u bod yn cael eu hystyried yr amcangyfrifon mwyaf cywir o ymchwil a datblygu busnes yn y DU. Felly, nid oes modd cymharu'r amcangyfrifon o 2022 yn uniongyrchol â blynyddoedd blaenorol ac eithrio ar lefel y DU.

SYG yn gweithio gydag OSR wrth iddynt gynnal asesiad ansawdd o ystadegau BERD. Mae'r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar y dulliau newydd a sut mae'r rhain yn diwallu anghenion ein defnyddwyr gyda'r nod o adennill statws Ystadegau Gwladol ar gyfer yr ystadegau hyn yn y datganiad nesaf.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y datganiad SYG.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Jack Tennant

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.