Mae’r arolygon deiliadaeth yn darparu gwybodaeth am dueddiadau yn y galw am lety twristiaeth yng Nghymru ar gyfer Ebrill i Fehefin 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru
Gwybodaeth am y gyfres:
Mae'r adroddiad hwn am Ddeiliadaeth Llety yn rhoi gwybodaeth am lefelau deiliadaeth llety â gwasanaeth a llety hunanddarpar, yn ogystal â hosteli a safleoedd gwersylla/carafanio Ceir data trydydd parti hefyd gan Transparent (gosodiadau tymor byr), ac STR Global (cadwyni gwestai mawr).
Llety
- Mae deiliadaeth wedi codi'n raddol trwy gydol 2023.
- Mae Chwarter 2 – Ebrill, Mai, a Mehefin - yn dangos ffigyrau deiliadaeth uwch yn gyson nag ym mis Ionawr i Mawrth.
- Mae pob rhanbarth wedi dangos cynnydd tebyg mewn lefelau deiliadaeth.
- Mae eiddo llai (1 i 3 ystafell a 4 i 10 ystafell) wedi dangos cynnydd mawr yn lefelau deiliadaeth.
- Cyrhaeddodd 71% o ddeiliadaeth gwestai.
STR
- Mae gwestai STR wedi dangos twf o Ch1 (73%) i Ch2 (78%).
- Mae llai o amrywiaeth ar draws rhanbarthau o ran lefelau deiliadaeth a phrisiau er bod gan Ogledd Cymru ddeiliadaeth ychydig yn uwch (86%), tra bod gan y De-ddwyrain YDG uwch (£82).
Hunanddarpar
- Cynnydd o 16% mewn deiliadaeth o Ch1 i Ch2 (deiliadaeth 66%).
- Mae amrywiaeth ranbarthol eang o ran deiliadaeth hunanddarpar-deiliadaeth arlwyo.
- Mae'r De-orllewin ar y cyfan yn perfformio'n well na rhanbarthau eraill (75%).
- Mae eiddo 11 gwely neu uwch yn perfformio'n well nag eiddo llai yn y categori hwn.
- Llwyddodd busnesau sy'n rhan o asiantaeth neu grŵp cyfunol i lenwi 69% o'u hystafelloedd - sy'n uwch na busnesau annibynnol (54%).
Transparent
- Mae'r De-ddwyrain (63%) a'r De-orllewin (60%) yn parhau i fod y perfformwyr gorau, ond o ychydig yn fwy na'r hyn a welwyd yn Ch1.
- Nid oes fawr o wahaniaeth rhanbarthol ond mae'n amlwg mai'r De-orllewin sydd â'r ddeiliadaeth uchaf ar gyfer llety tymor byr drwy'r WAOS (75%) a Transparent (63%).
Hostel
- O'i gymharu â data cyn COVID a adroddwyd yn Arolwg DeLlety Cymru: 2019 mae'r defnydd o hosteli yn cymharu'n ffarfiol, gyda deiliadaeth 2019 yr un peth ar 36%, ond roedd deiliadaeth Ch2 2019 yn 60%, tra bod Ch2 2023 9% yn is o gymharu â lefelau 2019, sef 51%.
Gwersylla a Charafannau
- Ar y cyfan, mae'r sector yn perfformio'n gryf yn ôl pob golwg o'i gymharu â sectorau eraill (76% ar gyfartaledd).
Adroddiadau
Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru, Ebrill i Fehefin 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 948 KB
PDF
948 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.