Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

1. Mae’r papur hwn yn ategu uchelgais Cyngor Partneriaeth y Gweithlu i gyflawni gwaith teg a’i amcan o hyrwyddo tryloywder lefelau cyflog, annog cydraddoldeb a mynd i’r afael â’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (Rhaglen Waith Cyngor Partneriaeth y Gweithlu 2019-2020).

2. Mae’n cyd-fynd â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015; yn benodol, mae’n ategu nod llesiant Cymru mwy cyfartal. Mae’n ymwneud yn uniongyrchol â ‘Ffyniant i Bawb’, Strategaeth Genedlaethol Llywodraeth Cymru, yn 2017, yn enwedig thema allweddol economi Gymreig lewyrchus a diogel sy’n ‘mynd i’r afael ag anghydraddoldeb.’ Ymhellach, roedd argymhellion adroddiad y Comisiwn Gwaith Teg yn glir ynghylch yr angen am ddata hygyrch cywir.

Mae’r adran ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn ymwneud yn agos ag adolygiad Llywodraeth Cymru o gydraddoldeb rhywiol.

Cefndir adrodd ar y bwlch cyflog rhwng y rhywiau

3. Er 2011, bu’n ofynnol i gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru gyhoeddi eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau a chofnodi pa gamau maent yn eu cymryd i fynd i’r afael ag ef (Rheoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011 - Gwybodaeth am y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yng Nghymru, Equal Pay Portal). Er 2017, bu’n ofynnol i bob cyflogwr mawr ledled Prydain gyhoeddi eu bwlch cyflog rhwng y rhywiau (Gender pay gap reporting: overview, Llywodraeth y DU). Nid yw’r rheoliadau hyn yn berthnasol i gyrff cyhoeddus Cymru gan eu bod yn dod o dan reoliadau 2011 yn barod.

4. Ym mis Mawrth 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Cyflogadwyedd, a oedd yn ei hymrwymo i weithredu i leihau’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau ac i ‘fonitro gwahaniaethau rhwng sectorau a galwedigaethau.

5. Ym mis Gorffennaf 2018, cyhoeddodd Julie James AC y byddai Llywodraeth Cymru yn comisiynu Chwarae Teg i adolygu polisïau rhywedd a chydraddoldeb. Canfu’r adolygiad wendidau yn yr adroddiadau am fylchau cyflog rhwng y rhywiau.

6. Yn ôl adroddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru 2018 a gomisiynwyd fel rhan o’r adolygiad:

“Bwriadwyd i Ddyletswydd Cydraddoldeb Benodol Cymru ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau fod y ddyletswydd gryfaf a mwyaf effeithiol o blith y dyletswyddau penodol ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau yn y DU. Fodd bynnag, cafodd y ddyletswydd ei drafftio’n wael; daw bylchau cyflog rhwng y rhywiau yn wahaniaethau cyflog rhwng y rhywiau’ sy’n awgrymu niwtraliaeth, ac er mwyn dehongli’r ystyr a fwriadwyd yn wreiddiol, rhaid i’r ddyletswydd fod yn berthnasol i bedwar rheoliad... Nid yw’r canlyniadau a gyhoeddwyd i’w gweld yn amlwg, a bu systemau monitro yn wan.”

(Rhoi cydraddoldeb wrth wraidd penderfyniadau, Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, Alison Parken, 2018)

7. Ym mis Mai 2018, cyhoeddodd Pwyllgor Cydraddoldeb y Cynulliad Cenedlaethol adroddiad dan y teitl ‘Rhianta a chyflogaeth yng Nghymru’ which recommended that:

“Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi data cyflogaeth sy’n ofynnol yn unol â dyletswyddau sector cyhoeddus Cymru mewn un lleoliad ar wefan Llywodraeth Cymru, mewn fformat sy’n ei gwneud yn bosibl dadansoddi’r data yn rhwydd.”

8. Mewn ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai camau cynnar yn cael eu cymryd yn unol â’r argymhelliad hwn ac y byddant yn parhau i annog cyrff cyhoeddus i gyhoeddi’r data hwn yn agored ac mewn fformatau hygyrch.

9. Yn dilyn hynny, mae is-adran Gwybodaeth ac Ystadegau Llywodraeth Cymru ynghyd â’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol wedi adolygu gweithrediad dyletswyddau cydraddoldeb y sector cyhoeddus, sy’n cynnwys adrodd ar fylchau cyflog rhwng y rhywiau. Maent wedi trefnu seminarau ac wedi ysgrifennu at gyrff cyhoeddus Cymru yn gofyn iddynt gyhoeddi eu data cydraddoldeb yn y sector cyhoeddus, sy’n cynnwys y bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn fformat agored ar eu gwefannau. Mae dros 40 o gyrff cyhoeddus wedi ymateb ac mae dolenni i’w data agored bellach yn cael eu coladu a’u cyhoeddi ar-lein - gweler isod (Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, Stats Cymru). Fodd bynnag, nid yw pob un o’r sefydliadau hyn yn cynnwys y bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn eu ffurflenni ar hyn o bryd. Anfonwyd llythyr arall ers hynny i gynyddu nifer y cyhoeddiadau a rennir. Gellid ychwanegu data pellach at y dudalen we hon, gan gynnwys data tâl lefel uwch.

Tabl 1: Nifer y sefydliadau fesul sector sydd wedi cyhoeddi dolenni i ddata dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus mewn fformat agored ar wefan StatsCymru, 2019:

  • Byrddau iechyd: 9 o 9
  • Llywodraeth leol: 12 o 22
  • Parciau cenedlaethol: 1 o 3
  • Prifysgolion: 7 o 8
  • Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru sydd â swyddogaethau gweithredol: 6 o 9

10. Ym mis Mawrth 2019 cyhoeddodd y Comisiwn Gwaith Teg ei adroddiad (Gwaith Teg Cymru) a nododd yn ei argymhellion:

“Rydym yn cefnogi’r cynnig i gynnwys monitro’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau fel carreg filltir ac yn croesawu’r gwaith dichonolrwydd ar ymestyn y garreg filltir i gynnwys gwahaniaethau mewn cyflog sy’n gysylltiedig ag anabledd ac ethnigrwydd.”

11. Ym mis Medi 2019, cyhoeddwyd adolygiad Llywodraeth Cymru o rywedd a chydraddoldeb gan Chwarae Teg. Canfu mai’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau oedd ‘y pryder pennaf i fenywod yng Nghymru (Cydraddoldeb Rhywedd: Mapio Llwybr I Gymru).

Argymhellodd:

“Dylai pob corff cyhoeddus gyhoeddi ei ddadansoddiad o’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau mewn rhan glir a hygyrch o’i wefan ynghyd â choladu a chyhoeddi bylchau cyflog ar sail ethnigrwydd ac anabledd.”

12. Mae ein hadroddiad yn ystyried pa mor hygyrch yw’r data cyfredol. Mae’n ystyried a oedd data bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar gyfer 2017-2018 yn hygyrch ar y we pan geisiwyd ei gyrchu ym mis Awst a mis Medi 2019.

Cefndir tâl lefel uwch

13. Mae Deddf Lleoliaeth 2011 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol yng Nghymru a Lloegr gyhoeddi datganiad polisi tâl yn flynyddol yn nodi ei bolisïau sy’n ymwneud ag (a) tâl ei brif swyddogion, (b) tâl ei weithwyr ar y cyflog isaf ac (c) y perthynas rhwng tâl ei brif swyddogion a thâl ei weithwyr nad ydynt yn brif swyddogion. Roedd hyn yn dilyn yr argymhellion a wnaed mewn adroddiad gan Will Hutton yn gynharach y flwyddyn honno.

14. Er 2011-2012 mae llawlyfr adrodd ariannol Trysorlys y Deyrnas Unedig – y canllawiau cyfrifyddu swyddogol i’r rhai sy’n trin arian cyhoeddus, gan gynnwys sefydliadau’r GIG – hefyd wedi mynnu bod sefydliadau sy’n adrodd yn cyhoeddi yn eu cyfrifon blynyddol eu cymhareb cyflog uchaf i ganolrif16. Mae’r gwahaniaeth rhwng gofynion y Ddeddf Lleoliaeth a’r Llawlyfr Adrodd yn golygu ei bod yn anodd cymharu data cyflog uwch rhwng sectorau yn uniongyrchol.

15. Mae gan y ddwy set o reoliadau yr un nod: sicrhau tryloywder wrth bennu cyflog uwch a mynd i’r afael â phryderon am anghydraddoldeb a amlinellir yn Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn y Sector Cyhoeddus.

16. Cynhaliodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol ymchwiliad i dâl uwch reolwyr ar draws y sector cyhoeddus ym mis Tachwedd 2013. Cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru femorandwm ar y pwnc yn 2014 i lywio adroddiad dilynol y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.

17. Gwnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus 23 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, a derbyniwyd pob un ohonynt. Roedd hyn yn cynnwys y gofyniad i gyhoeddi adroddiad blynyddol yn coladu data ar gyflog lefel uwch gan gyrff cyhoeddus Cymru. Mae nifer o’r argymhellion hyn yn parhau.

18. Yn unol ag argymhellion y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllaw ar adrodd am dâl lefel uwch yn 2015. Roedd hyn yn nodi y dylai pob corff sector cyhoeddus yng Nghymru (ac nid awdurdodau lleol a gwasanaethau tân yn unig) gyhoeddi datganiadau polisi tâl ac y dylai’r rhain nodi’r berthynas rhwng tâl swyddi uwch a thâl y gweithwyr ar y cyflog isaf.

19. Yn 2016 cyhoeddodd y Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus gyngor ac arweiniad ar gyflogau lefel uwch. Canfu’r papur nad oedd hi’n hawdd cael gafael ar yr holl ddata gofynnol21. Yn yr un flwyddyn lluniodd Ochr Undebau Llafur Cyngor Partneriaeth y Gweithlu ei adroddiad ar y mater hwn22. Yn hwn, gofynnwyd am adroddiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru i Gyngor Partneriaeth y Gweithlu yn amlinellu pa gamau a chynnydd sy’n cael eu gwneud yn erbyn pob un o’r 23 argymhelliad, a ddarparwyd hwnnw maes o law. Yn ogystal, ysgrifennodd cadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn 2016 at Lywodraeth Cymru i ddweud na fyddent ‘yn gofyn am ddiweddariadau pellach’ ar y mater (Llythyr ynghylch tâl Uwch Reolwyr gan Nick Ramsay, AC, Rhagfyr 2016).

20. Yn 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cyntaf o’i hadroddiadau blynyddol ar dâl lefel uwch, a oedd yn cynnwys data ar y bwlch cyflog rhwng y lefel uchaf a’r canolrif. Yn 2019, cyhoeddodd CCAUC ei adroddiad ar gyflog lefel uwch mewn prifysgolion yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru.

21. Ym mis Mawrth 2019, diffiniodd adroddiad y comisiwn Gwaith Teg ‘gwobr deg’ fel un o egwyddorion gwaith teg, a nododd mai un dangosydd allweddol yw a oes:

‘tryloywder [o fewn sefydliad] mewn dosbarthiad cyflog gan gynnwys adrodd ar y gymhareb rhwng y tâl uchaf a’r canolrif o dâl eu gweithwyr a chynllun gweithredu i fynd i’r afael â bylchau cyflog.”

Argymhellodd:

“Rydym yn argymell bod data gweinyddol allweddol yn cael eu casglu’n systematig gan y Swyddfa Gwaith Teg er mwyn helpu i fonitro cynnydd a bod yn sail i’r adroddiad blynyddol ar Waith Teg yng Nghymru.”

(Gwaith Teg Cymru)

22. Mae gan Lywodraeth Cymru gynigion i gyflwyno egwyddorion tâl ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac mae ei swyddogion wedi nodi y gallai’r rhain fod yn gyfle i ategu gwell adroddiadau ar dâl (cofnodion o'r Cydbwyllgor Gwaith). At hynny, fel y nodwyd ym mharagraff 9, gellid ehangu tudalen we StatsCymru ar ddata dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus i gynnwys dolenni at ddata pob corff cyhoeddus ar dâl uwch mewn fformat agored.

23. Mae’r papur hwn yn adeiladu ar y data a’r dadansoddiad yn yr adroddiadau blaenorol y cyfeiriwyd atynt uchod, yn enwedig o ran hygyrchedd a chysondeb y data.

Methodoleg

23. Ffocws yr adroddiad hwn yw hygyrchedd a chysondeb y data y mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus eu cyhoeddi.

24. Rhwng mis Gorffennaf a mis Medi 2019 fe wnaethom gynnal ymchwil desg ar hygyrchedd ar-lein setiau data allweddol, sef:

  • y lluosyddion (neu’r cymarebau) rhwng y cyfarwyddwr sy’n cael y tâl uchaf ym mhob sefydliad a’i gyflog canolrif ac isaf
  • y bwlch cyflog canolrif rhwng y rhywiau.

25. Fe wnaethom nodi hefyd a oedd datganiad polisi tâl yn hygyrch, a cheisiwyd ennill dealltwriaeth eang o ba mor hygyrch oedd data am y bwlch cyflog lefel uwch a rhwng y rhywiau i’r cyhoedd.

26. Wrth benderfynu pa gyrff i’w cynnwys yn yr ymarfer hwn, fe wnaethom benderfynu dilyn patrwm tebyg i Swyddfa Archwilio Cymru yn ei adroddiad yn 2014 (tudalennau 21 a 24) a chynnwys byrddau iechyd, awdurdodau lleol a ‘chyrff a gyllidir yn uniongyrchol o Gronfa Gyfunol Cymru a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru, a chyrff eraill (y Comisiynwyr Plant, Pobl Hyˆn a’r Gymraeg ac Estyn) a gyllidir gan Lywodraeth Cymru”. Fe wnaethom hefyd gynnwys gwasanaethau tân ac achub, gan eu bod yn dod o dan ofynion Deddf Lleoliaeth 2011 i gynhyrchu cymarebau rhwng y tâl isaf ac uchaf.

27. Fe wnaethom ddefnyddio ymagwedd bod aelod o’r cyhoedd yn gofyn am yr wybodaeth hon. Fe wnaethom edrych am y data hwn gan ddefnyddio peiriannau chwilio i gribo gwefannau cyrff cyhoeddus. Ar ôl cam cwmpasu cychwynnol, penderfynwyd canolbwyntio ar ddata tâl lefel uwch 2017-18, gan mai hon oedd y flwyddyn roedd y mwyafrif o gyrff cyhoeddus wedi cyhoeddi data ar ei chyfer. Fe benderfynon ni ddewis 2018-19 fel y flwyddyn sampl o adrodd am fylchau cyflog rhwng y rhywiau, gan mai hon oedd y flwyddyn pan ddaeth rheoliadau a mecanwaith adrodd canolog llywodraeth y Deyrnas Unedig i rym, a fabwysiadwyd gan rai cyrff o Gymru. At ddibenion yr adroddiad hwn, diffinnir data fel data sy’n ‘hygyrch’ os oedd modd i ni ddod o hyd iddo ar y we.

Ein canfyddiadau: cyffredinol

28. Wrth ymgymryd â’n hymarfer o fewn Cyngor Partneriaeth y Gweithlu y mis hwn, gwelsom nad oedd lleoliad y data tâl lefel uwch yn gyson. Rhoddodd llawer o sefydliadau’r data mewn datganiad polisi tâl, fel y nodwyd yng nghanllaw Cymru yn 2015 ("Public sector bodies in Wales should have published Pay Policy Statements available to the public” Llywodraeth Cymru, 2015). Roedd yn gymharol syml dod o hyd i’r data perthnasol yn y datganiadau hyn gan eu bod yn gymharol fyr a chryno, yn aml yn llai nag 20 tudalen o hyd.

29. Fodd bynnag, mewn 30 o 54 o achosion dim ond mewn adroddiadau blynyddol, adroddiadau atebolrwydd, datganiadau cyfrifon neu adroddiadau ariannol yr oedd modd dod o hyd i’r data tâl lefel uwch. Gwnaeth hyn hi’n anoddach dod o hyd i’r data perthnasol ar ddau gyfrif. Yn gyntaf, roedd yn anodd nodi a chyrchu’r ddogfen gorfforaethol gywir. Yn ail, roedd yn anoddach dod o hyd i’r data ei hun gan fod y dogfennau hyn yn hir, yn aml dros 100 tudalen o hyd. Er enghraifft, er y gellir dod o hyd i’r data perthnasol ar dudalennau 7, 9, 13 a 15 mewn sampl o ddatganiadau polisi tâl, ond fe’i canfuwyd ar dudalennau 69, 107, 111 a 127 mewn sampl o adroddiadau blynyddol a dogfennau tebyg.

Ein canfyddiadau: sectorau

Iechyd

Hygyrchedd data tâl y GIG/Nifer y cyrff iechyd lle mae data hygyrch (cyfanswm=9)

Tâl uchaf: 9
Cymhareb uchaf/canolrif: 9
Cyflog canolrif: 9
Cymhareb uchel i isel: 0
Cyflog isaf: 3
Datganiad polisi tâl: 0
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau: 4

31. Mae pob corff iechyd yn darparu data ar y tâl uchaf a chanolrifol a’r berthynas rhyngddynt. Dyma’r tri chategori cyntaf yn y siart uchod. Mae angen y data hwn o dan reoliadau llawlyfr adrodd ariannol Trysorlys y Deyrnas Unedig.

32. Ar y llaw arall, dim ond yng nghanllaw Cymru mae’r angen i gyhoeddi data ar y tâl isaf a’i berthynas â’r tâl uchaf, a gwneud hynny mewn datganiad polisi tâl. Gwelsom nad oedd mor hygyrch â data arall. Mewn gwirionedd, nid oedd y gymhareb isel i uchel yn hygyrch yn unrhyw un o’r cyrff iechyd.

33. Darparodd cyrff iechyd y data uchod naill ai yn eu hadroddiadau blynyddol, yn hytrach nag mewn datganiad polisi tâl ar wahân, neu ar wasanaeth tâl rhwng y rhywiau ar-lein llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Y sector datganoledig

Hygyrchedd data tâl y sector datganoledig/Nifer y cyrff sector datganoledig lle mae data hygyrch (cyfanswm=17)

Tâl uchaf: 17
Cymhareb uchaf/canolrif: 15
Cyflog canolrif: 17
Cymhareb uchel i isel: 2
Cyflog isaf: 15
Datganiad polisi tâl: 2
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau: 7

34. Fe wnaethom ddewis sampl o 17 o gyrff cyhoeddus datganoledig ar gyfer yr ymarfer hwn, yn seiliedig ar y rhai a arolygwyd yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru 2014 y cyfeiriwyd atynt uchod.

35. Mae hygyrchedd data o’r sampl hwn yn dilyn patrwm tebyg i batrwm iechyd. Pan nodir data yn rheoliadau’r Llawlyfr Adrodd Ariannol h.y. yn ymwneud â’r tâl uchaf a chanolrif, canfuwyd ei fod yn hygyrch. Fodd bynnag, ar gyfer y categorïau eraill, a nodir yng nghanllaw Cymru, gwelsom fod y data yn llai hygyrch. Yr eithriad oedd data ar y cyflog isaf, a oedd yn hygyrch ym mhob achos ond dau.

36. Ar y cyfan, cyrchwyd y data hwn mewn adroddiadau blynyddol. Mewn dau achos yn unig y daethpwyd o hyd iddo mewn datganiad polisi tâl. Gwnaeth dau gorff eu data yn hygyrch ar dudalen we’r gwasanaeth bwlch cyflog rhwng y rhywiau.

Awdurdodau lleol

Hygyrchedd data tâl awdurdodau lleol/Nifer yr awdurdodau lle mae data hygyrch (cyfanswm=22)

Tâl uchaf: 22
Cymhareb uchaf/canolrif: 19
Cyflog canolrif: 8
Cymhareb uchel i isel: 17
Cyflog isaf: 17
Datganiad polisi tâl: 18
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau: 19

37. Fel y nodwyd uchod, mae awdurdodau lleol yn dod o dan reoliadau sy’n deillio o Ddeddf Lleoliaeth (2011) sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt gyhoeddi data sy’n ymwneud â’r holl gategorïau yn y siart uchod, ac eithrio’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau (a gwmpesir gan reoliadau eraill).

38. Yn gyffredinol, gwelsom fod y data gan awdurdodau lleol yn hygyrch yn y rhan fwyaf o achosion. Darparodd o leiaf 17 o’r 22 awdurdod lleol ddata ym mhob categori, ac eithrio’r cyflog canolrif, er y dylid nodi bod 19 o’r cynghorau wedi cyhoeddi’r gymhareb tâl uchaf/canolrif, a fyddai wedi gofyn am gyfrifo’r cyflog canolrifol.

39. Roedd yn haws cael gafael ar y data lle’r oedd datganiadau polisi tâl ar gael ar-lein, fel y nodwyd yn y Ddeddf Lleoliaeth. Roedd hyn yn wir yn 18 o’r awdurdodau lleol.

40. Mewn tri achos nid oedd data tâl uwch 2017-18 yn hygyrch ac felly cyrchwyd data 2018-19 yn lle hynny.

Gwasanaethau tân ac achub

Hygyrchedd data tâl gwasanaethau tân ac achub/Nifer y gwasanaethau lle mae data hygyrch (cyfanswm=3)

Tâl uchaf: 2
Cymhareb uchaf/canolrif: 3
Cyflog canolrif: 2
Cymhareb uchel i isel: 1
Cyflog isaf: 2
Datganiad polisi tâl: 2
Bwlch cyflog rhwng y rhywiau: 3

41. Mae gwasanaethau tân ac achub hefyd yn dod o dan ofynion Deddf Lleoliaeth 2011, ac am y rheswm hwnnw rydym wedi eu cynnwys yn yr adroddiad hwn.

42. Fel y sectorau eraill dan sylw yn yr adroddiad hwn, nid yw data tâl y gwasanaethau tân ac achub yn gwbl hygyrch, gyda’r siart uchod yn tynnu sylw at fylchau. Tân ac achub yw’r unig sector i wneud ei holl ddata bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn hygyrch.

Canfyddiadau allweddol

43. Y canfyddiadau allweddol ar hygyrchedd ar-lein a chysondeb data tâl lefel uwch a bwlch cyflog rhwng y rhywiau ymhlith cyrff cyhoeddus yn 2017-2018 oedd:

  1. Roedd diffyg cysondeb o ran lleoli data tâl lefel uwch. Er 2015, mae disgwyl i bob corff cyhoeddus gyhoeddi’r data hwn mewn datganiadau polisi tâl, ond yn y rhan fwyaf o achosion canfuwyd bod y data hwn mewn adroddiadau blynyddol neu ddatganiadau cyfrifon yn lle hynny.
  2. Nid oedd yr holl ddata ar gael ar-lein, pan geisiwyd y data fel rhan
  3. o’n hymchwil. Yn benodol, mae canllawiau Cymru yn pennu bod disgwyl i bob corff cyhoeddus gyhoeddi data ar y berthynas rhwng
  4. tâl swyddi uwch a chyflog y gweithwyr ar y cyflog isaf. Fodd bynnag, nid oedd y data hwn ar gael ar-lein gan lawer o fyrddau iechyd na chyrff y sector datganoledig. Ar y llaw arall, roedd data ar y berthynas rhwng swyddi lefel uwch a’r cyflog canolrifol – sy’n ofynnol o dan delerau llawlyfr adrodd ariannol Trysorlys y Deyrnas Unedig – ar gael ar-lein gan y mwyafrif o fyrddau iechyd a chyrff sector datganoledig.
  5.  Roedd y data tâl lefel uwch a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau gan y mwyafrif o awdurdodau lleol a’r gwasanaethau tân ac achub ar gael ar-lein fel y pennwyd dan y Ddeddf Lleoliaeth a chanllawiau Cymru. Fodd bynnag, roedd rhai anghysondebau o ran ble a sut cyflwynwyd eu data a rhai bylchau o ran ei hygyrchedd ar-lein.