Mark Drakeford AS, y Prif Weinidog
Mae Cynghorwyr Arbennig yn rhoi dimensiwn gwleidyddol i’r cyngor a’r gefnogaeth sydd ar gael i Weinidogion ac yn atgyfnerthu hefyd ddidueddrwydd gwleidyddol y Gwasanaeth Sifil parhaol drwy ddangos bod cyngor a chymorth gwleidyddol yn dod o ffynhonnell wahanol.
Fe’u penodir gan y Prif Weinidog i helpu Gweinidogion i ymateb i faterion pan fo gwaith y Llywodraeth a’r blaid sy’n llywodraethu yn gorgyffwrdd a phan na fyddai’n briodol i weision sifil parhaol gymryd rhan.
Roedd 20 o Gynghorwyr Arbennig yn gweithio yn ystod y cyfan neu ran o flwyddyn ariannol 2022/23, sy’n cyfateb i 14.6 o Gynghorwyr Arbennig cyfwerth ag amser llawn ar gyfartaledd, fel y nodir isod:
Alex Bevan |
Madeleine Brindley |
Steffan Bryn |
Daniel Butler ** |
Ian Butler ** |
David Davies † |
Kate Edmunds |
Sara Faye |
Clare Jenkins * |
Owen John |
Andrew Johnson (diwrnod gwasanaeth olaf 30/09/22) |
Colin Nosworthy ** (diwrnod gwasanaeth olaf 22/04/22) |
Andy Pithouse ** |
Jane Runeckles * |
Mitchell Theaker |
Tom Woodward |
Emily Edwards** (penodwyd ar 27/04/22) |
David Hooson (penodwyd ar 27/03/23) |
Sam Hadley~ (penodwyd ar 10/10/22) |
Phillipa Marsden (penodwyd ar 21/11/22) |
* Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig
** Rhan-amser
† Cynghorydd Arbennig ar alwad, a delir â ffi
~ Secondai, a delir yn unol â band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig
Roedd cyfanswm cost y bil cyflogau ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2022 i 31 Mawrth 2023 yn £1,441,134.14. Mae hyn yn cynnwys cyflogau a phob cyfraniad ychwanegol perthnasol.
Bandiau Cyflog Cynghorwyr Arbennig
Caiff Cynghorwyr Arbennig Llywodraeth Cymru eu penodi yn unol â band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol neu fand cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig, a nodir isod:
Band cyflog Cynghorydd Arbennig safonol: £54,990 - £72,100
Band cyflog Uwch-gynghorydd Arbennig: £73,000 - £81,600
Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.