Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i Weinidog y Gymraeg ac Addysg gyhoeddi cynnydd yn y cymorth caledi ariannol ar gyfer dysgwyr AB cymwys, beth am i chi ddod i ddeall mwy am yr hyn y mae gennych hawl iddo os ydych yn dechrau Safon Uwch, prentisiaeth neu gyflogaeth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Y Gronfa Ariannol Wrth Gefn

Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg wedi cyhoeddi cynnydd o 6.5% i’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn ar gyfer 2023 i 2024 i helpu i leddfu ychydig ar y problemau sy’n wynebu dysgwyr sy’n agored i niwed yn yr argyfwng costau byw. 

Mae’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn yn darparu cymorth ariannol i ddysgwyr cymwys mewn colegau AB. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau gofal plant, trafnidiaeth, prydau bwyd, cyfarpar a deunyddiau dysgu.

Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Mae’r Grant Lwfans Cynhaliaeth Addysg ar gael i fyfyrwyr addysg bellach cymwys sy’n astudio mewn chweched dosbarth neu goleg yng Nghymru, i helpu â chostau AB fel trafnidiaeth a phrydau bwyd.

Rydym wedi cynyddu’r taliad wythnosol hwn o £30 i £40 ym mis Ebrill eleni: Cyllid Myfyrwyr Cymru

Prentisiaethau

Mae prentisiaethau yn agored i unrhyw un dros 16 oed yng Nghymru. Maent yn cyfuno hyfforddiant ymarferol mewn swydd ag astudio.

Mae yna lefel brentisiaeth sy’n addas i bob unigolyn. Ewch i LLYW.CYMRU/prentisiaethaucymru neu ffoniwch 0800 028 4844.

Gwarant i Bobl Ifanc

Mae ein Gwarant i Bobl Ifanc yn rhoi'r cymorth sydd ei angen ar bawb 16 i 24 oed yng Nghymru i ennill lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.

Darganfyddwch ragor am yr opsiynau sydd ar gael: Gwarant i Bobl Ifanc

Help gyda chostau trafnidiaeth

Gall dysgwyr 16 i 19 oed fod yn gymwys i gael help gyda'u costau cludiant addysg bellach: Help gyda chostau trafnidiaeth i addysg bellach

Prydau ysgol am ddim i ddisgyblion chweched dosbarth

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy'n mynychu'r ysgol yn llawn amser. Mae hyn yn cynnwys disgyblion chweched dosbarth mewn ysgolion.

Mae angen i chi wneud cais am brydau ysgol am ddim, felly mae'n bwysig gwirio a allech fod yn gymwys. Gallwch wneud hyn ar wefan eich awdurdod lleol.

Gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18 i 25 oed

Gall pobl ifanc 18 i 25 oed gofrestru ar gyrsiau Cymraeg gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, ac ni ofynnir iddynt dalu wrth gofrestru.

Mae'r ymrwymiad yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.