Cylchlythyr demograffeg Ystadegau Cymru: Medi 2023
Cylchlythyr Medi 2023 ar gyfer defnyddwyr ystadegau Cymru ar yr ystadegau diweddaraf am boblogaeth, mudo, cartrefi a’r Gymraeg.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau ar y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr
Ar 29 Mehefin, lansiodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol ymgynghoriad cyhoeddus ar ddull newydd o ymdrin ag ystadegau ar y boblogaeth a mudo (SYG) (Saesneg yn unig). Mae eich mewnbwn yn dystiolaeth hanfodol ar gyfer argymhellion yr Ystadegydd Gwladol i’r llywodraeth ar ddyfodol ystadegau ar y boblogaeth a mudo, a’r cyfrifiad.
Rydym yn eich annog i ymateb i’r ymgynghoriad ac anfon y ddolen berthnasol ymlaen at unrhyw un arall allai fod â diddordeb.
Mae’r holiadur yn hawdd i’w gwblhau ac mae ar gael yn Gymraeg (Ymgynghoriad ar ddyfodol ystadegau ar y boblogaeth a mudo yng Nghymru a Lloegr (SYG)) ac yn Saesneg (Consultation on the future of population and migration statistics in England and Wales (SYG)). Os oes angen help arnoch i gwblhau eich ymateb, gallwch anfon e-bost i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol neu gysylltu â nhw ar 01329 444972.
Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi creu fideo wedi'i animeiddio sydd ar gael yn Gymraeg neu yn Saesneg (Transforming the way we produce statistics (SYG)) er mwyn i bobl ddysgu mwy am y rhesymau pam maen nhw’n trawsnewid y ffordd y maen nhw’n cynhyrchu ystadegau. Mae pennod ddiweddaraf 'Statistically Speaking', podlediad y Swyddfa Ystadegau Gwladol, hefyd yn ystyried y ffordd y mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi bod yn gweithio i drawsnewid sut maen nhw’n cyfrif y boblogaeth, gan ddefnyddio setiau data newydd i fesur yn fwy cywir, amserol ac yn fanylach. Mae’r podlediad hefyd yn rhoi sylw i’r ymgynghoriad.
Bydd yr ymgynghoriad yn cau ddydd Iau 26 Hydref.
Rhagor o wybodaeth
Ochr yn ochr â’r ymgynghoriad, mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi rhyddhau cyfres gynhwysfawr o ymchwil. Mae’r ymchwil hon yn rhoi tystiolaeth i’r defnyddwyr o’r cynnydd maent wedi’i wneud tuag at ddatblygu system newydd i gynhyrchu ystadegau amserol, o ansawdd uchel ar y boblogaeth, gyda data gweinyddol yn greiddiol i’r system honno.
Ymhlith y gyfres hon o dystiolaeth, mae:
- Astudiaethau achos (SYG) (Saesneg yn unig), sy’n arddangos enghreifftiau ‘bywyd go iawn’ o ba dystiolaeth y gallai defnyddwyr gael gafael arni drwy system wedi’i thrawsnewid, sydd ar gael ar gyfer Cymru a Lloegr a phum awdurdod lleol
- Trosolwg cryno o’r ymchwil ddiweddaraf (SYG) (Saesneg yn unig), sy’n amlinellu asesiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol o’r dystiolaeth yn erbyn y meini prawf a fydd yn helpu defnyddwyr i ymateb i’r ymgynghoriad
- Asesiad o’r cynnydd hyd yma a datblygiadau’r dyfodol i gynhyrchu ystadegau ar nodweddion y boblogaeth yn y system newydd (SYG) (Saesneg yn unig)
- Amcangyfrifon poblogaeth sy’n seiliedig ar wybodaeth weinyddol ar gyfer canol 2022 (SYG) (Saesneg yn unig), sy’n fwy amserol ac sy’n gallu cynnal lefel well o ansawdd dros amser nag amcangyfrifon sy’n seiliedig ar y Cyfrifiad, a’r datblygiadau diweddaraf o ran methodoleg (SYG) (Saesneg yn unig)
- Ymchwil ar is-grwpiau o’r boblogaeth, gan gynnwys cyn-aelodau'r Lluoedd Arfog a ffoaduriaid (Deilliannau integreiddio cynnar ar gyfer ffoaduriaid a ailgartrefwyd yng Nghymru a Lloegr: 2015 i 2021 (SYG)) (Saesneg yn unig) (gyda’r dulliau) (Canlyniadau peilot cysylltu data integreiddio ffoaduriaid: diweddariad methodoleg cysylltu Cyfrifiad 2021 (SYG)) (Saesneg yn unig)
- Diweddariad ar gynnydd ymchwil y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ddatblygu data ar incwm y gellir eu hintegreiddio gyda Chyfrifiad 2021 (Saesneg yn unig), fel y nodir ym Mhapur Gwyn Cyfrifiad 2021
- Tystiolaeth fanwl ar ddulliau y Swyddfa Ystadegau Gwladol a’u strategaeth ansawdd (SYG) (Saesneg yn unig)
Mae’r erthyglau canlynol sydd hefyd yn llunio rhan o’r sylfaen dystiolaeth wedi cael eu cyhoeddi:
- Ymchwil iechyd - Cymharu data hunangofnodedig ar afiachedd â chofnodion iechyd electronig, Lloegr (SYG) (Saesneg yn unig)
- Ymchwil teithio i’r gwaith - Amcangyfrif matricsau teithio i'r gwaith (Data Science Campus) (Saesneg yn unig)
Mae blog hefyd wedi’i ryddhau ar y pwnc Meithrin hyder yn ein gallu i symud i system newydd ar gyfer ystadegau'r boblogaeth gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (Saesneg yn unig).
Ystadegau'r Gymraeg
I gael gwybodaeth am ystadegau'r Gymraeg, gweler diweddariad chwarterol Ystadegau Cymru.
Manylion cyswllt
Martin Parry
Rhif ffôn: 0300 025 0373
E-bost: ystadegau.poblogaeth@llyw.cymru
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099