Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair

Wrth i’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd gyflwyno’r adroddiad blynyddol hwn i Lywodraeth Cymru, rwy’n ymwybodol bod y flwyddyn hon wedi bod yn flwyddyn arbennig o heriol.

Ymhlith pwysau eraill, mae’r costau byw cynyddol wedi gwthio mwy a mwy o bobl i amgylchiadau amhosibl, gan eu gadael heb unrhyw ddewis arall ond mynd at yr awdurdod lleol yn ddigartref.

Yn sicr, mae hon wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb sy’n gweithio mor galed i roi diwedd ar ddigartrefedd o dan amgylchiadau mor anodd, gan gynnwys y rheini mewn awdurdodau lleol, y trydydd sector a llunwyr polisi yn Llywodraeth Cymru.

Roedd hi’n wych gweld y dull “neb heb help” yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru yn ystod y pandemig. Daeth gwasanaethau ledled y wlad at ei gilydd, gan geisio cefnogi’r rhai nad oedd ganddynt unman i fynd pan ddywedwyd wrth y byd am “aros adref.” Mae’n ganmoladwy gweld bod Cymru, fel cenedl, wedi ymrwymo i symud ymlaen â’r dull hwn ar ôl y pandemig – ymrwymiad a seliwyd drwy ddatblygu Cynllun Gweithredu pum mlynedd Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru yn 2021.

Ers hynny, rydym wedi wynebu llu o heriau - yr argyfwng costau byw, effaith y rhyfel yn Wcráin, a chynnydd mewn rhenti a morgeisi - oll wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n ceisio cymorth digartrefedd. Eleni, roedd 9,228 o aelwydydd dan fygythiad o ddigartrefedd yng Nghymru - sy’n gynnydd o 27% ers y llynedd. [1]

Daw hyn i gyd ar adeg pan fo Cymru’n wynebu rhwystrau sylweddol i gynyddu ei chyflenwad o dai i gyfateb â’r galw. Ymhlith heriau eraill, mae targedau newydd a llymach ar lygredd ffosffad mewn afonydd wedi effeithio ar gynnydd adeiladau newydd ledled y wlad, yn ogystal â chostau adeiladu cynyddol, anawsterau wrth gael mynediad at ddeunyddiau adeiladu yn dilyn Brexit a rhwystrau mewn prosesau cynllunio.

Heb gartref sefydlog a diogel i symud iddo, mae llawer o bobl yn cael eu gadael yn aros mewn llety dros dro anaddas am gyfnodau hir o amser. Mae ystadegau’n dangos ar 30 Mai eleni, roedd 10,872 o unigolion yn aros mewn llety dros dro ledled Cymru.[2] Y tu ôl i'r ystadegau hyn y mae llawer o bobl sy'n ei chael hi’n anodd, heb fynediad at gyfleusterau sylfaenol, pobl y mae eu bywydau yn mynd yn angof. Mae effaith arosiadau hir mewn llety dros dro yn ddinistriol ac yn drawmatig, yn aml yn effeithio ar iechyd meddwl pobl yn ogystal â’u gallu i weithio a symud ymlaen â’u bywydau yn gyffredinol.

Mae gweithwyr rheng flaen yn wynebu pwysau na welwyd ei debyg o'r blaen oherwydd llwythi gwaith cynyddol, cyllidebau o dan bwysau a'r llwyth emosiynol a ddaw o ganlyniad i nifer cynyddol y bobl sy’n cyflwyno yn ddigartref. Eleni, rydym wedi clywed adroddiadau pwerus am y straen a wynebir gan ein gweithlu digartrefedd hanfodol ac ymroddedig, a gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn wynebu mwy o frys i ddod o hyd i atebion polisi newydd yn ystod cyfnod o straen ariannol.

Yn union oherwydd ein bod yn wynebu’r heriau hyn – yn awr, yn fwy nag erioed – ni ddylem golli golwg ar y nod y mae pob un ohonom yn ei rannu i greu ymateb arloesol i ddigartrefedd, yn seiliedig ar egwyddorion atal ac ailgartrefu cyflym.

Dyna pam rwy’n falch o gadeirio’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd. Mae’r grŵp hwn o weithwyr proffesiynol wedi dod ynghyd o bob sector, gan ddod â’u harbenigedd a’u safbwyntiau gwahanol i’r bwrdd – i gyd gyda’r nod cyffredin o fod yn llais annibynnol ac arbenigol yn cynghori Llywodraeth Cymru er mwyn helpu i sicrhau bod gan bawb le i’w alw’n gartref.

Rwyf hefyd yn hynod ddiolchgar i’r rhai sydd wedi rhoi o’u hamser a’u hegni i’r grwpiau gorchwyl a gorffen a sefydlwyd gan y bwrdd. Drwy’r grwpiau hyn y gall y bwrdd archwilio’n fanwl i feysydd arbenigol, a cheisio cyfeiriad wrth argymell y camau nesaf i Lywodraeth Cymru ac i’r bwrdd.

Yn wir, mae’r argymhellion yn yr adroddiad hwn – yn enwedig ar yr angen i sicrhau bod bylchau a nodwyd yn ein proffil tai yng Nghymru yn cael eu llenwi’n effeithiol ar lefel cynllunio strategol – yn ceisio gosod sylfeini hollbwysig ar gyfer datblygu’r cyflenwad tai gwirioneddol fforddiadwy y mae dirfawr ei angen ledled y wlad.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau y gall pobl symud i gartrefi sefydlog cyn gynted â phosibl o dan y dull ailgartrefu cyflym ond, o ystyried yr hinsawdd bresennol a'r pwysau ar y system, nid yw cynnydd yn y maes hwn wedi cyrraedd y targed. Bydd yn hanfodol sicrhau cymhelliad a dull gweithredu newydd sy'n ymestyn ar draws adrannau llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod yr uchelgais i symud i'r dull ailgartrefu cyflym yn cael ei wireddu.

Bydd argymhellion y bwrdd ynghylch cefnogi gwasanaethau rheng flaen a staff hefyd yn hanfodol wrth i ni barhau i lywio drwy’r cyfnod anodd hwn o bwysau digynsail ar ein gwasanaethau cymorth tai.

Wrth i ni gyrraedd canol cyfnod Cynllun Gweithredu pum mlynedd Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru, rydym yn gobeithio y bydd yr adroddiad hwn gan y Bwrdd yn helpu i fyfyrio ar y meysydd niferus lle gwnaed cynnydd, gan hefyd gydnabod a chymryd stoc o risgiau sy’n codi a’r camau gweithredu sydd eu hangen i’w lliniaru wrth i Lywodraeth Cymru gynllunio ei chamau nesaf tuag at gyflawni yn erbyn ei chynllun i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Yn sicr, bydd y flwyddyn sydd i ddod yn un heriol arall gyda llawer o waith i’w wneud, ond mae ymrwymiad y bwrdd i symud ymlaen a helpu ar y daith hon yn parhau’n gadarn.

  • Matt Downie, Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a Phrif Swyddog Gweithredol Crisis.

Y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd

Sefydlwyd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd (a arferai gael ei alw y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Gymorth Tai) i ddarparu cyngor traws-sector ac annibynnol i’r Gweinidog Newid Hinsawdd ar y cynnydd a wnaed tuag at atal digartrefedd yng Nghymru a rhoi cyngor ar atebion cymorth tai effeithiol. Felly, mae’r Bwrdd yn cynnwys aelodau o bob rhan o’r trydydd sector, awdurdodau lleol, tai cymdeithasol a’r sector rhentu preifat. I gydnabod bod effaith digartrefedd a’r allwedd i’w atal yn ymestyn yn ehangach na gwasanaethau tai traddodiadol, mae’r bwrdd hefyd yn cynnwys cynrychiolaeth o’r gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, HMPPS, Byrddau Iechyd, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r Bwrdd yn cyfarfod bob chwarter ac yn trafod y cynnydd a wnaed yn erbyn Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru, yn ogystal â’r galluogwyr a’r rhwystrau i’w gyflawni. Yn ogystal, mae’r bwrdd yn trafod materion cyfoes sy’n codi, megis cyflenwad tai a datblygiadau gyda’r Grant Cymorth Tai.

Mae nifer o grwpiau gorchwyl a gorffen wedi'u sefydlu, sy'n canolbwyntio ar feysydd gwaith penodol ac yn adrodd i'r bwrdd ehangach. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys:

  • Y gweithlu digartrefedd. Mae’r grŵp hwn yn ceisio sicrhau bod gwasanaethau cymorth digartrefedd ledled Cymru yn denu ac yn cadw gweithlu dawnus, sy’n meddu ar y sgiliau arbenigol sydd eu hangen i gyflawni’r gwaith a’r heriau y mae’n eu cyflwyno.
  • Fframwaith canlyniadau. Nod y grŵp hwn yw datblygu fframweithiau canlyniadau newydd a chadarn, sy'n canolbwyntio ar atebolrwydd a gweithio mewn partneriaeth i roi diwedd ar ddigartrefedd.
  • Ailgartrefu cyflym. Mae’r grŵp hwn yn ceisio helpu Llywodraeth Cymru yn ei chynnydd o ran mabwysiadu’r dull ailgartrefu cyflym.
  • Iechyd a Digartrefedd Nod y grŵp hwn yw ystyried y rôl y gall gwasanaethau iechyd ei chwarae wrth gefnogi agenda Llywodraeth Cymru i roi diwedd ar ddigartrefedd.
  • Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Digartrefedd. Mae’r grŵp hwn yn ceisio sicrhau bod anghenion y rheini â nodweddion gwarchodedig yn cael eu hystyried yng ngwaith Llywodraeth Cymru i wneud digartrefedd yng Nghymru yn brin, byrhoedlog ac na fydd yn cael ei ailadrodd.

Rhwng y trafodaethau ar lefel bwrdd a’r gwaith archwilio manylach i feysydd arbenigol drwy’r grwpiau gorchwyl a gorffen, mae’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn ceisio darparu cyngor arbenigol ac annibynnol i’r Gweinidog.

Cyflwyniad i Adroddiad Blynyddol y Bwrdd

Mae’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a’i Grwpiau Gorchwyl a Gorffen cysylltiedig yn chwarae rhan allweddol wrth roi cyngor ar y cynnydd a wnaed yn erbyn Rhoi diwedd ar ddigartrefedd: cynllun gweithredu lefel uchel[3] Llywodraeth Cymru.

Mae’r cynllun pum mlynedd hwn yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i 16 o gamau gweithredu, y mae pob un ohonynt yn perthyn i’r tri chategori canlynol:

  1. 1. Trawsnewid y system ddigartrefedd
  2. 2. Atal
  3. 3. Cymorth trosfwaol

Wrth i ni gyrraedd canol cyfnod oes y Cynllun Gweithredu rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, mae'r adroddiad hwn yn amlygu lle y gwnaed cynnydd o fewn y meysydd uchod, ond hefyd i gydnabod lle mae angen gwneud cynnydd pellach. Am y rheswm hwn, mae ein hadroddiad wedi'i strwythuro o dan yr un tri phennawd.

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi’r meysydd trafod sylfaenol dros y flwyddyn ddiwethaf – ar lefel bwrdd ac o fewn ein Grwpiau Gorchwyl a Gorffen penodedig. Mae'n nodi ffactorau galluogi a fydd yn helpu gyda’r cynnydd ar y Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, gan hefyd amlygu’r risgiau a allai fygwth y cynnydd a wnaed, os nad eir i'r afael â hwy. I’r perwyl hwn, mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion i’r Gweinidog eu hystyried. Mae’r argymhellion hyn wedi dod yn uniongyrchol o’r grwpiau gorchwyl a gorffen, yn ogystal ag o drafodaethau’r bwrdd ac fe’u crynhoir ar ddiwedd yr adroddiad. Gofynnwn i Lywodraeth Cymru ystyried yr argymhellion hyn wrth iddi barhau ar ei thaith i sicrhau bod digartrefedd yng Nghymru yn mynd yn brin, byrhoedlog ac na fydd yn cael ei ailadrodd.

Trawsnewid y system ddigartrefedd

Ailgartrefu Cyflym

Mae’r galw am newid trawsnewidiol tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym yn sail i Gynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru. Mae hwn yn ddull a gydnabyddir yn rhyngwladol lle mae pobl sy’n wynebu digartrefedd yn cael mynediad at dai diogel a sefydlog cyn gynted â phosibl. O dan y dull hwn, nid oes gofyniad i ddangos “parodrwydd i gael cartref,” yn hytrach eir i’r afael ag unrhyw anghenion cymorth ochr yn ochr â darparu tai prif ffrwd.

Roedd cynllun gweithredu Llywodraeth Cymru yn cydnabod y byddai’n cymryd sawl blwyddyn i gyflawni’r newid trawsnewidiol hwn yn ymarferol ac yn ddiwylliannol, ond nododd y byddai pob awdurdod lleol yng Nghymru yn cyhoeddi Cynlluniau Pontio i Ailgartrefu Cyflym lleol erbyn diwedd mis Medi 2022. Bwriad y cynlluniau hyn oedd sefydlu cyfeiriad i awdurdodau lleol symud oddi wrth ddibyniaeth ar lety dros dro a thuag at fodel ailgartrefu cyflym, gan ystyried yn ofalus yr angen am dai yn lleol.

Mae’r bwrdd yn ymwybodol bod nifer o awdurdodau lleol wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r Cynllun Pontio i Ailgartrefu Cyflym. Ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn, nid yw pedwar o’r 22 awdurdod lleol wedi cyflwyno drafft cyntaf o’r cynllun eto. Mae sawl awdurdod arall wedi cyflwyno drafftiau cyntaf o’r cynllun i Lywodraeth Cymru ond yn parhau i weithio ar y manylion cyn eu cyhoeddi.

Mae'r bwrdd yn cydnabod bod adrannau tai awdurdodau lleol wedi bod dan straen sylweddol a chynyddol ers pennu'r terfyn amser ar gyfer y cynlluniau hyn. Mae costau byw cynyddol, cyfraddau morgeisi cynyddol ac effaith y rhyfel yn Wcráin i gyd wedi effeithio ar nifer y cyflwyniadau digartrefedd ac, yn eu tro, ar allu timau tai i fod yn rhan o ddrafftio’r cynlluniau hyn. Er ei bod yn rhagweladwy yn yr ystyr hwn nad yw pob awdurdod lleol wedi gallu cyflwyno ei Gynllun Pontio i Ailgartrefu Cyflym, serch hynny, mae’n siomedig hefyd - mae cynllunio strategol hirdymor a’r broses bontio i ailgartrefu cyflym yn allweddol i symud allan o’r argyfwng. Rhaid i ni weld camau gweithredu brys wrth symud ymlaen â chynlluniau ailgartrefu cyflym, gan sicrhau bod yr awdurdodau lleol sy’n weddill yn cael cymorth i gyflwyno eu cynlluniau. Lle mae cynlluniau wedi’u cyflwyno, bydd yn hollbwysig bod y rhain yn cael eu dadansoddi a’u gwella’n barhaus o ran ansawdd, gydag arferion gorau a dysgu ar y cyd yn hyrwyddo’r agenda hon yng Nghymru.

Er gwaethaf yr heriau, mae’r bwrdd yn glir o hyd ynghylch y ffaith bod yn rhaid i symud tuag at ddull ailgartrefu cyflym fod yn brif flaenoriaeth – ac yn flaenoriaeth y mae’n rhaid ei rhannu ar draws adrannau awdurdodau lleol. Mae’r newid hirdymor i ddull ailgartrefu cyflym yn sylweddol, ac mae angen ymrwymiad a chydlyniad clir ar draws ystod o adrannau awdurdodau lleol, gan gynnwys timau tai, ond hefyd adrannau cynllunio, cyllid a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r oedi cyn cyhoeddi'r cynlluniau hyn hefyd yn arwydd o'r angen i sicrhau gwell ddealltwriaeth a chefnogaeth ar lefel gorfforaethol a gwleidyddol. Mae’r bwrdd yn credu bod angen cymryd camau gweithredu beiddgar yn y maes hwn er mwyn sicrhau perchnogaeth gorfforaethol o ailgartrefu cyflym – hebddynt, ni allwn gyflawni’r cymhelliad diwylliannol sydd ei angen ar gyfer y dull newydd hwn.

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym y bwrdd hefyd wedi bod yn archwilio’r rhwystrau eraill y mae angen eu datrys er mwyn symud ymlaen â’r dull Ailgartrefu Cyflym, gan gynnwys y materion sylweddol a pharhaus o ran cyflenwad y stoc tai. Mae cysylltiad annatod rhwng yr anawsterau o ran cyflenwad tai ledled y wlad a pha mor araf y mae’r agenda ailgartrefu gyflym yn symud ymlaen. Am y rheswm hwn, mae argymhellion y grŵp yn ymestyn ar draws ailgartrefu cyflym a dulliau ehangach o gyflenwi (gweler yr adran ar gyflenwad ar dudalen 9). Mewn perthynas ag Ailgartrefu Cyflym, mae'r grŵp wedi adlewyrchu bod y terfynau amser a fethwyd ar gyfer cynlluniau pontio yn dangos bod angen mwy o fuddsoddi ac amserlenni newydd eu diffinio, gan gynnwys pwyntiau a nodwyd yn glir i adolygu'r cynnydd a wnaed.

O ystyried y broses bontio sydd ei hangen, mae’r grŵp hefyd o’r farn bod angen rhaglen gymorth hirdymor i helpu awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod pontio hwn. Yn benodol, mae’r grŵp wedi trafod bod angen i Lywodraeth Cymru gefnogi’r gwaith o ddatblygu offer a mecanweithiau i rannu arferion gorau, gan gynnwys adolygiad o’r Cynlluniau Pontio i Ailgartrefu Cyflym a gyflwynwyd a datblygu rhwydweithiau ar gyfer Cydlynwyr Strategol Ailgartrefu Cyflym a phartneriaid allweddol eraill. Bu’r grŵp hefyd yn trafod a allai Llywodraeth Cymru helpu awdurdodau lleol drwy ariannu swyddogion newid i weithio ar y newid tuag at ddull Ailgartrefu Cyflym.

Yn ogystal, mae’r grŵp gorchwyl a gorffen wedi nodi bod diffyg ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gyffredinol ynghylch yr agenda ailgartrefu cyflym. Felly, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae’r grŵp gorchwyl a gorffen wedi bod yn gweithio ar gynllun Cyfathrebu Ailgartrefu Cyflym. Mae’r cynllun, sy’n canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth ymhlith gweithwyr tai proffesiynol ac aelodau etholedig cynghorau lleol, yn cael ei ategu gan nifer o adnoddau parod i’w defnyddio, gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin, cyflwyniadau safonol ac esboniadau, sydd i gyd wedi’u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru a phartneriaid allweddol.

Er gwaethaf datblygu’r offer hyn, mae’r grŵp gorchwyl a gorffen o’r farn bod diffyg ymwybyddiaeth o hyd o ailgartrefu cyflym ar lefel arweinyddiaeth awdurdodau lleol. Felly, mae wedi trafod bod angen ategu'r adnoddau presennol hyn â rhaglen i godi ymwybyddiaeth ymhellach.

At hynny, fel yr amlygir yn ddiweddarach yn adran cyflenwad yr adroddiad hwn, adlewyrchodd y grŵp y dylid canolbwyntio ar sicrhau bod cynlluniau a strategaethau amrywiol (gan gynnwys yr Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol) i gyd yn cyd-fynd â’i gilydd yn effeithiol ac yn gweithio tuag at nod cyffredin o ailgartrefu cyflym.

Argymhelliad 1: Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i drefnu amserlenni clir a diffiniedig ar gyfer cyflawni Cynlluniau Pontio i Ailgartrefu Cyflym lleol, yn ogystal â dyddiad targed pontio cenedlaethol ar gyfer y dull Ailgartrefu Cyflym. Dylid cydbwyso'r dyddiad hwn yn erbyn y pwysau digynsail sydd ar wasanaethau a chynnwys pwyntiau i adolygu cynnydd. Bydd hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu’r cymorth i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gyflawni’r gwaith o drawsnewid i ailgartrefu cyflym. Gallai hyn gynnwys rhaglen ddysgu yn ogystal â chyllid ar gyfer swyddogion newid awdurdodau lleol newydd er mwyn helpu i ddatblygu'r cynlluniau. 

Argymhelliad 2: Dylai Llywodraeth Cymru weithio ochr yn ochr â grŵp Gorchwyl a Gorffen y bwrdd ar Ailgartrefu Cyflym er mwyn sicrhau arweinyddiaeth leol a chenedlaethol uwch y tu ôl i’r uchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

Diwygio Deddfwriaethol

Mae'r Cynllun Cenedlaethol i Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn “gwerthuso'r ddarpariaeth gyfreithiol gyfredol ar gyfer atal digartrefedd ac yn adolygu meysydd i wella'r gyfraith, er mwyn cynnal y dull o sicrhau 'nad oes neb yn cael eu gadael allan’ a weithredwyd drwy gydol y pandemig a sicrhau bod pob gwasanaeth cyhoeddus yn cydweithio i atal digartrefedd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno deddfwriaeth interim i sicrhau bod y rhai sy’n ddigartref ar y stryd yn cael eu hystyried yn angen blaenoriaethol. Roedd hwn yn gam i’w groesawu’n fawr a fydd yn sicrhau bod y rhai sy’n dioddef fwyaf o effaith digartrefedd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cymorth tra bod newid deddfwriaethol tymor hwy ar y gweill.

Yn y cyfamser, mae Panel Adolygu Arbenigol wedi’i ffurfio i adolygu deddfwriaeth a gwneud argymhellion ar ddarparu fframwaith tymor hwy ar gyfer rhoi diwedd ar ddigartrefedd.[4] Wedi’i gadeirio gan Suzanne Fitzpatrick a’i gynnull gan yr elusen i bobl ddigartref, Crisis, mae’r Panel Adolygu Arbenigol yn cynnwys cynrychiolwyr o’r trydydd sector, llywodraeth leol, darparwyr tai, y byd academaidd ac arbenigwyr cyfreithiol.

Mae’r bwrdd wedi clywed sut mae’r panel wedi bod yn sicrhau bod lleisiau’r rhai sydd â phrofiad bywyd wedi bod yn llywio trafodaethau’r panel ar bob cam. Mae Cymorth Cymru wedi ymgynghori â mwy na 300 o arbenigwyr yn ôl profiad fel rhan o'r prosiect. Yn ogystal, mae gwaith y panel wedi’i lywio gan weithgareddau ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys cyfres o sesiynau ar-lein i randdeiliaid a gynhelir gan Crisis, cyfarfodydd uniongyrchol â rhanddeiliaid perthnasol, gweithgor ar ddigartrefedd a gynullwyd gan Cartrefi Cymunedol Cymru, grŵp cyfeirio awdurdod lleol a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru a Rhwydwaith Rheng Flaen Cymru Cymorth Cymru.

Mae’r bwrdd wedi cael diweddariadau rheolaidd ar waith y panel ac mae’n deall y bydd yn gwneud ei argymhellion i Lywodraeth Cymru ddechrau’r hydref. Mae'r bwrdd yn rhagweld y bydd y Panel Adolygu Arbenigol yn gwneud cynigion eang a beiddgar ar gyfer newid – o fewn deddfwriaeth ddigartrefedd draddodiadol ac yn ehangach. Er enghraifft, mae’r panel yn edrych yn fanwl ar sut mae’r profion cyfreithiol hirsefydlog o angen blaenoriaethol, bwriadoldeb a chysylltiadau lleol yn gweithredu, ac mae’n ystyried a ellid diddymu neu addasu’r profion hyn yn y dyfodol. Byddai newid o’r fath yn cynrychioli newidiadau sylweddol mewn ffyrdd o weithio, yn yr un modd â’r galwadau am gydweithio ehangach ar draws y sector cyhoeddus i hwyluso nodi ac atal digartrefedd yn gynnar – yn enwedig mewn perthynas ag iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n gyflym ar argymhellion y Panel Adolygu Arbenigol ac yn defnyddio’r arbenigedd hwn i fwrw ymlaen â phapur gwyn sy’n crynhoi’r weledigaeth uchelgeisiol hon ar gyfer newid yn hollbwysig.

Mae’r bwrdd yn cydnabod y rôl sylweddol newid deddfwriaethol wrth osod y cyfeiriad sydd ei angen i newid ffyrdd diwylliannol o weithio er mwyn helpu i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae hefyd yn cydnabod safbwynt y Panel Adolygu Arbenigol y bydd buddsoddi ac adnoddau i gefnogi diwygio deddfwriaethol yn allweddol er mwyn sicrhau gweithrediad llwyddiannus ac effeithiol.

Argymhelliad 3: Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Panel Adolygu Arbenigol yn yr hydref ac yn gweithredu’n gyflym i gyflwyno papur gwyn sy’n adlewyrchu adroddiad y Panel. Bydd y Bwrdd yn parhau i gymryd diddordeb yn y gwaith hwn a chynghori ar gynnydd datblygiadau deddfwriaethol, gan gynnwys myfyrio ar alwad y Panel i newidiadau gael adnoddau digonol.

Atgyfnerthu Gwasanaethau Cymorth Tai

Mae’r Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn amlinellu ymrwymiad i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i “sicrhau bod fframweithiau ariannu a chomisiynu yn sicrhau bod gwasanaethau cynnal tenantiaeth cynhwysfawr ar waith, wedi'u cynllunio i ymateb yn rhagweithiol i faterion, wrth iddynt godi, a allai arwain at bobl yn mynd yn ddigartref.”

Mae’r Grant Cymorth Tai (GCT) yn ganolog i ariannu gwasanaethau cymorth ac atal digartrefedd ledled y wlad, gan gefnogi tua 60,000 o bobl y flwyddyn drwy lochesi, llety â chymorth a gwasanaethau cymorth tenantiaeth..[5] Mae aelodau’r bwrdd wedi mynegi pryder bod y dyraniadau i’r GCT, o dan setliad y gyllideb ddiweddar, yn aros yr un fath â’r llynedd ar £167 miliwn. Mae'r bwrdd yn pryderu, er bod y dyraniad GCT yn parhau'n sefydlog, bod costau sy'n gysylltiedig â rhedeg gwasanaethau (er enghraifft costau ynni) yn codi'n aruthrol. Mae hyn yn cyflwyno'r risg wirioneddol y bydd contractau gwasanaeth yn cael eu hadolygu, eu rhesymoli a'u lleihau er mwyn iddynt barhau i redeg.

Daw’r risg hon i wasanaethau ar adeg pan fo cyflwyniadau digartrefedd yn cynyddu (27% yn uwch na’r llynedd)[6] a'r galw am y gwasanaethau hyn yn cynyddu.

Yn ogystal â'r risg a gyflwynir i wasanaethau, mae aelodau'r bwrdd hefyd wedi rhannu pryderon ynghylch effaith yr GCT sefydlog ar gyflogau gweithwyr rheng flaen. Mae ymchwil a gynhaliwyd y llynedd gan Cymorth Cymru yn dangos bod staff rheng flaen sy'n ceisio helpu aelwydydd digartref eu hunain yn wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd. Dangosodd arolwg Cymorth Cymru o fwy na 650 o weithwyr rheng flaen fod 44% yn ei chael hi’n anodd talu eu biliau.[7]

Er bod y bwrdd wedi croesawu ymgyrch ddiweddar Llywodraeth Cymru i annog gweithwyr i ddefnyddio gwasanaethau cymorth tai, gyda chyflogau rheng flaen yn aml yn methu â chystadlu â chyfleoedd cyflogaeth lleol eraill, megis archfarchnadoedd, mae’r sector yn wynebu risgiau sylweddol o ran cadw ein gweithlu rheng flaen.

Mae'r bwrdd yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda chyllideb anodd iawn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ond mae wynebu'r risgiau hyn yng nghanol argyfwng costau byw parhaus pan fydd nifer y bobl sy'n cyflwyno digartrefedd yn codi yn destun pryder penodol. Fel y pwysleisiwyd gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yn ei ymchwiliad i ddigartrefedd, bydd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu’r Grant Tai Cymdeithasol cyn gynted â phosibl.[8]

At hynny, bydd yn hollbwysig bod Llywodraeth Cymru yn adolygu’r effaith ar gontractau gwasanaeth yn barhaus, gan ymrwymo i gymryd camau pe bai lefelau’r gwasanaethau a ddarperir yn gostwng. Bydd methu â gwneud hynny yn peryglu'r Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn ddifrifol. Bydd hwn, wrth gwrs, yn faes y bydd y bwrdd yn parhau i’w fonitro.

Argymhelliad 4: Bod Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu effaith lefelau cyllid y Grant Tai Cymdeithasol ar gontractau gwasanaeth a’r gallu i ddarparu cymorth allweddol a gwasanaethau atal digartrefedd, gan gynyddu’r Grant Tai Cymdeithasol cyn gynted â phosibl.

Cyflenwad Tai

Fel y nodir yng Nghynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru, mae cysylltiad manwl rhwng yr angen i sicrhau bod y cyflenwad tai yn cyfateb i’r galw a sicrhau bod digartrefedd yng Nghymru yn brin, byrhoedlog ac na fydd yn cael ei ailadrodd. Felly, mae’r cynllun yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i “cynyddu'r cyflenwad o dai, eu hargaeledd a'u hygyrchedd yn y sector cymdeithasol a’r sector preifat.”

Mae ystyried y cynnydd a wnaed yn erbyn yr amcan hwn wedi bod yn ganolog i’r trafodaethau ar lefel y bwrdd ac o fewn Grŵp Gorchwyl a Gorffen y bwrdd ar Ailgartrefu Cyflym. Mae’r bwrdd o’r farn bod mynd i’r afael â’r bylchau yn y cyflenwad tai wrth wraidd mynd i’r afael â phroblemau digartrefedd yng Nghymru. Mae sicrhau’r tai fforddiadwy sydd eu hangen i gyd-fynd ag anghenion a lefelau’r unigolion sy’n cyflwyno eu hunain yn ddigartref hefyd yn allweddol i ddatgloi’r potensial i wireddu’n llawn yr uchelgais i symud i ddull ailgartrefu cyflym.

Ar lefel y bwrdd, mae aelodau wedi clywed am y llu o rwystrau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hwynebu wrth gyrraedd ei tharged i adeiladu 20,000 o gartrefi cymdeithasol newydd. Mae rhwystrau o’r fath wedi cynnwys cyflwyno targedau ffosffad gan Cyfoeth Naturiol Cymru sydd wedi atal amcangyfrif o 1,600 o gartrefi a adeiladir o’r newydd ac effaith Brexit ar argaeledd a chost deunyddiau adeiladu, yr amcangyfrifir ei bod wedi effeithio ar 3,400 o gartrefi newydd.[9]

Adlewyrchir yr heriau hyn yn yr ystadegau diweddaraf ar gyflenwad tai yng Nghymru, sy’n dangos gostyngiad yn y ddarpariaeth flynyddol o dai fforddiadwy newydd. Yn 2021-22, darparwyd 2,676 o unedau tai fforddiadwy ychwanegol ledled Cymru, sef gostyngiad o 26% (927 o unedau) ers y flwyddyn flaenorol a 9% yn llai nag yn 2019-20.[10]

Mae’r bwrdd yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru hefyd yn canolbwyntio y tu hwnt i adeiladau newydd ac yn edrych ar gartrefi ychwanegol drwy gynlluniau amrywiol megis y Grant Cartrefi Gwag, Cronfa Safleoedd Segur Cymru a Chynllun Prydlesu Cymru.

Yn ogystal, buddsoddodd Llywodraeth Cymru £79 miliwn yn Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro yn 2023/24, sy’n ceisio helpu awdurdodau lleol i drawsnewid eiddo nas defnyddir, ailfodelu neu drosi adeiladau presennol a chreu tai tymor canolig – gan gyflwyno 936 yn fwy o gartrefi.

Er bod y bwrdd yn cydnabod yr heriau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu, serch hynny mae’n hollbwysig parhau i fwrw ymlaen â newid sylweddol o ran cynyddu’r cyflenwad o dai y gall pobl eu fforddio. Rhan ganolog o’r drafodaeth hon – ar lefel bwrdd ac o fewn grŵp gorchwyl a gorffen y bwrdd ar Ailgartrefu Cyflym – fu’r angen i ddatblygu ystod o fathau o lety er mwyn cyfateb i anghenion y boblogaeth.

Mae sicrhau bod ymgeiswyr yn cael eu lleoli mewn cartrefi sy’n addas i’w hanghenion yn rhan hanfodol o sicrhau bod profiad unigolyn o ddigartrefedd yn un na fydd yn cael ei ailadrodd. Er gwaethaf hyn, cydnabyddir yn eang bod diffyg amrywiaeth yn y stoc dai yng Nghymru. Am y rheswm hwn, mae’r bwrdd yn awyddus i ganolbwyntio’n fwy ar asesu’r data a’r wybodaeth sydd ar gael ar hyn o bryd am y cyflenwad tai, ac i weithio gyda Llywodraeth Cymru i ystyried sut y gellir ei ddefnyddio a’i ehangu er mwyn sicrhau bod proffil clir a manwl o'r stoc dai bresennol yng Nghymru. Bydd hefyd yn bwysig ystyried yn ofalus i ba raddau y mae strategaethau cynllunio yn cydgysylltu'n effeithiol â Chynlluniau Ailgartrefu Cyflym i lenwi'r bylchau presennol yn y cyflenwad tai yn ôl yr angen.

Yn y cyfamser, mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym wedi cynnal trafodaethau tebyg gan fod stoc tai digonol ac amrywiol yn ganolog i'r dull ailgartrefu cyflym. Yn debyg i’r bwrdd, mae’r grŵp wedi ystyried a yw cynlluniau a strategaethau awdurdodau lleol yn cyd-fynd yn effeithiol â mynd i’r afael ag anghenion digartrefedd lleol y cafwyd tystiolaeth ohonynt. Yn benodol, mae'r grŵp yn awyddus bod ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut mae'r cysylltiadau rhwng Asesiadau o'r Farchnad Dai Leol a diwallu anghenion tai aelwydydd digartref yn gweithio, a sut y gellid eu cryfhau, gan hybu’r cyflenwad yn unol â hynny. Mae’r grŵp hefyd yn awyddus iawn i archwilio’n fanylach i ba fecanweithiau a allai fod ar gael i hybu’r cyflenwad o gartrefi meddiannaeth unigol, y gwyddys bod diffyg cyflenwad ohonynt yn broblem gyffredin ledled Cymru.

Mae’r bwrdd yn glir bod canolbwyntio ar wella’r cyflenwad tai a sicrhau cysondeb llawn rhwng strategaethau cynllunio ag anghenion aelwydydd digartref yn flaenoriaeth allweddol. Yn dilyn hynny, mae argymhellion 5 a 6 i Lywodraeth Cymru o'r pwys mwyaf a byddant hefyd yn faes ffocws craidd i'r bwrdd yn y flwyddyn newydd.

Mae’r grŵp gorchwyl a gorffen hefyd wedi canolbwyntio trafodaeth ar yr angen i gynyddu dealltwriaeth o ddyraniad i gartrefi cymdeithasol, gan gydnabod yr ymchwil a gomisiynwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, CLlLC a Chartrefi Cymunedol Cymru i ddyraniadau tai cymdeithasol ac awgrymu y dylid ehangu’r ymchwil hwn er mwyn helpu i weithredu ar ddysgu allweddol ar ddyraniadau i aelwydydd digartref. Mae’r grŵp o’r farn bod angen coladu data parhaus a manwl er mwyn meithrin dealltwriaeth genedlaethol ddyfnach o angen ehangach y boblogaeth am dai a hygyrchedd, gan gynnwys cyflenwad, achosion o droi allan a dyraniadau.

Yn ogystal, mae’r bwrdd a’r grŵp Gorchwyl a Gorffen Ailgartrefu Cyflym wedi ystyried rôl y sector rhentu preifat o ran cynyddu’r tai fforddiadwy sydd ar gael.

Roedd aelodau’r Bwrdd yn rhannu pryderon bod y bwlch rhwng Lwfans Tai Lleol a chost rhentu ar y farchnad breifat yn gwneud rhentu’n anhygyrch i lawer. Roedd adroddiad diweddar gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru yn nodi bod 69% o rentwyr preifat a oedd yn derbyn budd-dal tai yng Nghymru ddiffyg rhent.[11] At hynny, yn ôl Sefydliad Bevan, dim ond 32 eiddo a hysbysebwyd ar gyfer rhent (1.2% o’r rhai ar y farchnad) yng Nghymru rhwng 3 Chwefror ac 17 Chwefror oedd ar gael ar gyfraddau Lwfans Tai Lleol.[12] Mae’r bwrdd yn nodi ac yn cefnogi’r argymhelliad diweddar gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai bod Llywodraeth Cymru yn parhau i geisio cynnydd mewn cyfraddau Lwfans Tai Lleol gan San Steffan.[13] Bydd y bwrdd yn ceisio cyflwyno sylwadau tebyg hefyd.

Yn y cyfamser, bu’r grŵp gorchwyl a gorffen yn ystyried a yw Cynllun Prydlesu Cymru, sy’n ceisio annog landlordiaid preifat i gytuno i brydlesu eu heiddo fel tai cymdeithasol drwy’r awdurdod lleol, yn gweithredu cystal ag y gallai. Ar hyn o bryd, mae 15 o’r 22 awdurdod lleol yng Nghymru wedi ymuno â’r cynllun a daethpwyd â 105 o eiddo i’r cynllun dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bu’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen hefyd yn trafod pryderon y gallai landlordiaid fod yn gadael y sector rhentu preifat. Datgelodd Mynegai Hyder Landlordiaid Cymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (NRLA) fod gan landlordiaid yng Nghymru y sgôr hyder isaf ers i’r mynegai ddechrau yn 2019, gan nodi’r newidiadau sydd newydd eu cyflwyno yn Neddf Rhentu Cartrefi Cymru fel y rheswm dros y sgôr hyder isel. [14]  Trafododd y grŵp nifer o gamau posibl er mwyn helpu i annog landlordiaid preifat i aros yn y farchnad, gan gynnwys ystyried a ddylai Llywodraeth Cymru adolygu canlyniadau Deddf Rhentu Cartrefi Cymru i landlordiaid.

Argymhelliad 5: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyflenwad tai ledled Cymru yn cael ei broffilio’n ddigon manwl, gan nodi lle mae bylchau yn y mathau o ddarpariaeth tai sydd eu hangen i fynd i’r afael ag anghenion amrywiol y boblogaeth ddigartref bresennol a’r boblogaeth ddigartref a ragwelir yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r bwrdd er mwyn sicrhau bod Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol, Cynlluniau Pontio i Ailgartrefu Cyflym, ochr yn ochr â strategaethau a mecanweithiau eraill, yn cydweithio’n effeithiol i fynd i’r afael â’r materion cyflenwad tai a nodwyd.

Argymhelliad 6: Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r bwrdd i nodi, cwmpasu ac yna buddsoddi mewn data ac ymchwil o ansawdd gwell ar ddigartrefedd, cyflenwad, achosion o droi allan a dyraniadau er mwyn llywio penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Gallai hyn gynnwys rhaglen ddysgu a gweithgaredd i weithredu canfyddiadau'r ymchwil diweddar ar ddyraniadau.

Argymhelliad 7: Bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â’r bwrdd, yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddadrewi cyfraddau Lwfans Tai Lleol.

Argymhelliad 8: Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu mynediad at eiddo rhent fforddiadwy drwy weithio gyda landlordiaid i ddileu rhwystrau ac annog landlordiaid preifat i aros yn y farchnad.

Gweithlu

Mae Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i “datblygu gweithlu cadarn a werthfawrogir, ac a gydnabyddir am ei arbenigedd” ac mae’n nodi bod grŵp gorchwyl a gorffen y Bwrdd ar y gweithlu yn ganolog i’r gwaith hwn.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae grŵp gorchwyl a gorffen gweithlu’r bwrdd wedi ystyried sut y gallwn sicrhau bod gwasanaethau cymorth digartrefedd ledled Cymru yn denu ac yn cadw gweithlu dawnus, sy’n meddu ar y sgiliau arbenigol sydd eu hangen i gyflawni’r gwaith a’r heriau y mae’n eu cyflwyno. Er mwyn cyflawni hyn, mae’r grŵp wedi adlewyrchu bod pum maes i’w hystyried:

  1. Systemau cymorth i staff
  2. Cydnabyddiaeth
  3. Sgiliau, cymwysterau ac achredu staff
  4. Arferion Gorau a Recriwtio
  5. Comisiynu.
  1. Systemau cymorth i staff

Cydnabyddir y gall gweithio ar reng flaen ddigartrefedd fod yn heriol yn emosiynol. Ym mis Tachwedd, cyflwynodd grŵp gorchwyl a gorffen y gweithlu adroddiad pwerus i’r bwrdd, gan bwysleisio y gellir gwaethygu’r effaith seicolegol o gefnogi pobl yn y sefyllfaoedd mwyaf trawmatig lle mae gweithwyr rheng flaen yn teimlo na allant helpu ymgeisydd. O ystyried y cynnydd presennol mewn cyflwyniadau digartrefedd a’r diffyg cyflenwad tai cyfatebol, mae staff dan lefelau uchel iawn o straen emosiynol ar hyn o bryd. Yn wir, canfu arolwg diweddar o staff tai awdurdodau lleol, a gynhaliwyd gan Sefydliad Tai Siartredig Cymru, fod 75% o ymatebwyr yn teimlo bod eu llesiant meddwl wedi gostwng ers mis Ionawr 2020, gan nodi pwysau llwyth gwaith fel ffactor allweddol. [15]

Roedd adroddiad y grŵp hefyd yn tynnu ar dystiolaeth bod y sector cymorth digartrefedd yn aml yn denu staff sydd wedi profi trawma yn eu bywydau eu hunain. Pwysleisiodd y gall gweithio mewn amgylchedd trawma mor fawr gyflwyno heriau seicolegol unigryw i aelodau staff o'r fath.

Nododd yr adroddiad y gall cael eich rhoi dan straen emosiynol uchel dro ar ôl tro a gweithio’n gyson gyda phobl sy’n profi trawma hefyd arwain at iechyd gwael ymhlith y gweithlu, trosiant uchel a gorflinder. Gyda gorflinder daw'r risg ychwanegol y gall y rhai sy'n gweithio mewn systemau cymorth ddod yn llai empathig a chroesawgar i ymgeiswyr.

Croesawodd y grŵp gorchwyl a gorffen feysydd o arfer da lle roedd aelodau’r staff yn cael eu cefnogi gan becynnau llesiant, megis meithrin ymarfer myfyriol rheolaidd, diwrnodau hyfforddi llesiant staff a gwasanaeth cyfrinachol am ddim a oedd yn cynnig lefelau amrywiol o gymorth iechyd meddwl (e.e. Canopi, gwasanaeth ar gyfer Gweithwyr y GIG). Pwysleisiodd y grŵp y gwerth mewn gweithleoedd lle roedd staff a oedd yn agored i ddigwyddiad trawmatig yn gallu cael mynediad at arfer myfyriol a chymorth, a galwodd am becynnau o’r fath fod ar gael yn fwy rheolaidd i staff cymorth tai ledled y wlad.

Argymhelliad 9: Bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yn rhaid i weithlu digartrefedd a werthfawrogir, sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd trawmatig heriol iawn, sicrhau bod gwasanaethau cymorth arbenigol ar gael i staff eu defnyddio yn ôl yr angen. Fel rhan o’r gydnabyddiaeth hon, dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad o’r gwasanaethau cymorth trawma arbenigol sydd ar gael ledled Cymru i nodi unrhyw fylchau yn y cyflenwad; gan geisio gweithredu ar y diffygion a nodwyd o fewn amserlen y cytunwyd arni.

Argymhelliad 10: Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mynediad cyfartal at gymorth iechyd meddwl ar gyfer staff sy’n gweithio yn y sector digartrefedd, beth bynnag fo maint eu sefydliad neu ei sefyllfa ariannol. Er enghraifft, gellid cyflawni hyn drwy ystyried ehangu arfer myfyriol a’r gwasanaethau Canopi sydd ar gael i weithwyr y GIG i gefnogi staff yn y gwasanaethau tai hefyd.

  1. Cydnabyddiaeth

Mae’r bwrdd wedi clywed nifer o bryderon bod cyflog isel o fewn y sector cymorth tai yn gyrru gweithwyr medrus allan o’r sector ac i mewn i waith sgiliau is sy’n talu’n well yn rhywle arall. Yn wir, mae adroddiad Cymorth Cymru, Anawsterau yn y Rheg Flaen, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2022, yn nodi o blith y gweithwyr rheng flaen a arolygwyd, yn nodi bod 70% o’r gweithwyr rheng flaen a arolygwyd wedi rhoi’r gorau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, 44% yn ei chael hi’n anodd talu biliau, 11% yn ei chael hi’n anodd talu rhent a 7% wedi dechrau defnyddio banciau bwyd.[16]

Mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweithlu wedi helpu i gynghori Llywodraeth Cymru ar gomisiynu ymchwil ffeithiol annibynnol ar lefelau cyflog yn y sector, gan gynnwys ymarfer meincnodi yn y sector digartrefedd a rolau cymharol y tu allan i’r sector. Mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo, a bydd y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd yn ystyried yr argymhellion yn y gaeaf.

Argymhelliad 11: Bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r ymchwil annibynnol a gomisiynwyd yn ddiweddar ar lefelau cyflog yn y sector i lywio’r gwaith o bennu cyllideb yn y dyfodol, gan weithredu’n gyflym er mwyn sicrhau bod gan ddeiliaid contract Grant Cymorth Tai yr adnoddau i dalu staff ar gyfraddau cymharol i’r rheini sy’n cyflawni rolau tebyg y tu allan i’r sector, gan adlewyrchu sgiliau a chymhlethdod swyddi.

  1. Sgiliau, cymwysterau ac achredu staff

Yn ogystal â hybu sgiliau staff, gall sicrhau bod gan weithlu'r Grant Cymorth Tai fynediad at ddatblygiad proffesiynol a chymwysterau fod yn ffactor allweddol er mwyn sicrhau bodlonrwydd swydd a chyfraddau uwch o gadw staff. Felly, mae grŵp Gorchwyl a Gorffen y Gweithlu wedi dechrau gweithio i brofi'r awydd am gymwysterau arbenigol ac achrediad ym maes cymorth digartrefedd. Roedd yr arolwg cychwynnol hwn yn dangos cefnogaeth glir i’r dull hwn, gyda 66% o’r ymatebwyr o’i blaid.

Yn dilyn yr arolwg cychwynnol hwn, mae'r grŵp wedi dechrau ymgynghori â rheolwyr i gwmpasu manyleb cymhwyster ac mae'n bwriadu parhau â'r gwaith hwn yn y flwyddyn newydd. Mae'r cymwysterau hyn yn cael eu datblygu'n bennaf ar gyfer gweithlu'r Grant Cymorth Tai, ond y bwriad yw y gallai eraill sy'n gweithio ym maes digartrefedd gael budd ohonynt hefyd.

Argymhelliad 12: Bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen fframwaith cymhwyster ac achredu pwrpasol ar gyfer y Sector Digartrefedd, ac yn comisiynu datblygiad fframwaith o’r fath. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweithlu’r Bwrdd i osod amserlenni clir ar gyfer comisiynu’r fframwaith hwn a’i roi ar waith wedi hynny. Dylai'r fframwaith gydnabod y safonau proffesiynol y mae staff yn gweithio iddynt yn ogystal â'r sgiliau arbenigol sy'n ofynnol yn y rolau hyn.

  1. Arferion Gorau a Recriwtio

Mae’n werth nodi bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu a chynnal ymgyrch gyfathrebu gyhoeddus dros y flwyddyn ddiwethaf, gan geisio denu pobl newydd i’r gweithlu digartrefedd. Mae’r bwrdd yn gefnogol i’r ymgyrch gyfathrebu hon, ond fel yr amlygwyd yn gynharach, mae’n ymwybodol o’r risg y gallai’r gwaith hwn gael ei danseilio gan yr angen i fuddsoddi mewn GCT o ystyried y pwysau sydd ar wasanaethau ar hyn o bryd a chyflogau isel staff rheng flaen.

  1. Comisiynu

I gydnabod y rôl y mae comisiynu yn ei chwarae o ran sicrhau safonau cyson ac uchel i’r gweithlu, mae’r grŵp gorchwyl a gorffen yn bwriadu dechrau ar y gwaith ar ddatblygu canllawiau comisiynu arfer gorau ar gyfer awdurdodau lleol yr haf hwn.

Gallai canllawiau o’r fath fod yn werthfawr iawn yn y cyd-destun cyfredol, oherwydd o dan gostau darparu gwasanaethau uwch a lefelau cadw GCT, mae’r grŵp yn ymwybodol bod comisiynu contractau yn faes sydd o dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd.

Argymhelliad 13: Bod Llywodraeth Cymru yn cytuno mewn egwyddor i ddatblygu canllawiau comisiynu arfer gorau wedi'u diweddaru ar gyfer gwasanaethau GCT a gafaelir gan Awdurdodau Lleol. Dylai canllawiau o’r fath hwyluso cyflogau staff priodol yn ogystal ag amser â thâl ar gyfer hyfforddiant, ymarfer myfyriol a mynediad at ymyriadau arbenigol o ganlyniad i reoli digwyddiadau trawmatig yn y gwaith.

Atal

Mae'r Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn nodi cyfres o gamau gweithredu penodol sy'n ceisio gweithio ar atal. Mae hyn yn cynnwys gweithio i gefnogi grwpiau penodol sy’n wynebu risg benodol o ddigartrefedd, gan gynnwys y rheini â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, y rheini â phroblemau camddefnyddio sylweddau, pobl niwrowahanol a’r rheini sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.

Fel y nodwyd yn gynharach yn yr adroddiad hwn, mae’r bwrdd wedi bod yn cael diweddariadau gan y Panel Adolygu Arbenigol ar ei waith yn adolygu deddfwriaeth ddigartrefedd yng Nghymru. Mae’r bwrdd wedi clywed bod trafodaethau’r panel wedi’u gwreiddio o fewn yr egwyddor o atal yn gynnar. Rhagwelir y bydd adroddiad terfynol y panel, sydd i’w gyhoeddi ddechrau’r hydref, yn cynnwys ystod o gynigion ar gyfer newid deddfwriaethol er mwyn helpu newid diwylliannol tuag at ymyrraeth gynnar a gwaith amlasiantaethol i geisio atal digartrefedd lle bynnag y bo modd. Bydd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ceisio ystyried argymhellion y panel a symud yn gyflym tuag at bapur gwyn i weithredu’r agenda atal uchelgeisiol hon.

Mae’r bwrdd hefyd wedi bod wrthi’n sefydlu dau grŵp gorchwyl a gorffen pwysig – un ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a digartrefedd, a’r llall ar iechyd a digartrefedd. Mae’r grwpiau hyn yng nghamau cynnar eu datblygiad a byddant yn rhan hanfodol o ffocws y bwrdd ar gyfer 2023/24.

O ystyried ymrwymiad Llywodraeth Cymru yn ei Chynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol i “adlewyrchu llais pobl ethnig leiafrifol ac yn eu cynrychioli wrth drawsnewid gwasanaethau digartrefedd[17],” bydd y grŵp Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd newydd ei sefydlu yn canolbwyntio ar hil a digartrefedd yn y lle cyntaf. Mae’n ceisio ystyried heriau hil a digartrefedd, gan amlinellu atebion yn seiliedig ar arbenigedd a phrofiad personol. Mae'r grŵp hefyd yn bwriadu sicrhau bod datblygiadau polisi a oruchwylir gan y bwrdd yn ymgorffori gwrth-hiliaeth.

Mae’r bwrdd hefyd wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen arall yn ddiweddar, o’r enw’r Grŵp Cynhwysiant Iechyd Strategol Cenedlaethol. Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolaeth o bob Bwrdd Iechyd, awdurdod lleol, Llywodraeth Cymru, tai, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Coleg Brenhinol y Meddygon, iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau. Mae’r grŵp yn ceisio cefnogi cydlyniad strategol o ddarpariaeth gwasanaethau iechyd y cyhoedd a gofal iechyd er mwyn lleihau anghydraddoldebau a gwella canlyniadau iechyd i bobl sy’n profi digartrefedd, a grwpiau poblogaeth eraill sy’n cael anawsterau wrth gael mynediad at ofal iechyd prif ffrwd.

Bydd y grŵp Cynhwysiant Iechyd Strategol Cenedlaethol yn ystyried gwell mynediad i ofal iechyd ar gyfer aelwydydd digartref, gan gynnwys adeiladu ar raglen waith bresennol ar draws Clystyrau Gofal Sylfaenol. Mae'r rhaglen hon yn ceisio sicrhau mynediad at ofal sylfaenol cynhwysol ac yn archwilio sut y gall cymorth iechyd helpu i gynnal tenantiaethau. Mae'r rhaglen yn cyd-fynd â'r canllawiau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol integredig a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022 gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE).

Mae'r Bwrdd yn edrych ymlaen at glywed mwy gan y grwpiau newydd hyn yn y flwyddyn newydd.

Cymorth trosfwaol

Fframwaith canlyniadau

Mae'r Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn ymrwymo i “ddatblygu Fframwaith Canlyniadau Digartrefedd newydd” er mwyn sicrhau bod polisïau’n gweithredu’n gydlynol tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd. Mae hefyd yn ymrwymo i “adolygu a diwygio'r broses o gasglu data i gefnogi'r fframwaith canlyniadau newydd.”

Sefydlodd y Bwrdd ddau grŵp gorchwyl a gorffen i gyd-gynhyrchu dau fframwaith - Fframwaith Canlyniadau'r Grant Cymorth Tai a'r Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd trosfwaol. Mae'n bleser gan y Bwrdd nodi y gwnaed cynnydd sylweddol yn y maes hwn dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r fframweithiau hyn yn ceisio diffinio, mesur ac adrodd ar gynnydd tuag at atal a rhoi diwedd ar ddigartrefedd a chawsant eu cyd-gynhyrchu gan Lywodraeth Cymru mewn cydweithrediad â’r sector.

Cyflwynwyd Fframwaith Canlyniadau Grant Cymorth Tai newydd ym mis Ionawr eleni a rhoddwyd ar waith o fis Ebrill. Bu aelodau’r grŵp Gorchwyl a Gorffen hefyd yn cefnogi Llywodraeth Cymru i hyrwyddo hyfforddiant cyn ei weithredu’n ffurfiol ar gyfer 1,700 o weithwyr proffesiynol ledled Cymru.

Mae’r Grŵp Gorchwyl a Gorffen Canlyniadau Strategol hefyd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i gyd-gynhyrchu Fframwaith Canlyniadau newydd ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, gan ymgynghori ar ei ddatblygiad a gweithio i fireinio’r canlyniadau a restrir. Lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ffurfiol[18] ar y fframwaith ym mis Mehefin, a bydd yr ymatebion yn cael eu dadansoddi yn yr hydref.

O ystyried y rôl bwysig y gall y Fframwaith Canlyniadau Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd ei chwarae o ran casglu a monitro data er mwyn llywio gwelliant parhaus mewn gwasanaethau (ar y cyd â Fframwaith Canlyniadau GCT sydd bellach wedi’i roi ar waith), bydd yn bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ceisio symud yn gyflym i fynd i’r afael ag adborth o ymgynghoriadau. yn ddiweddarach eleni.

Casgliad

Mae’r flwyddyn hon wedi bod yn un anodd. I lawer, mae argyfwng costau byw a phwysau eraill wedi eu gadael heb le diogel i'w alw'n gartref. Ni ddylid rhoi neb yn y sefyllfa hon, ac eto rydym yn gweld niferoedd cynyddol o bobl yn wynebu’r sefyllfa drawmatig hon.

Ar adegau fel hyn pan fo pwysau dyddiol ar y system mor ddwys, mae cadw llygad ar newid tymor hwy yn bwysicach fyth ac yn fwyfwy anodd. Er gwaethaf yr heriau hyn, bu cynnydd ar draws nifer o feysydd er mwyn helpu i lywio darpariaeth yn y dyfodol. Mae'r bwrdd yn arbennig o falch o fod wedi gweld Fframwaith Canlyniadau Grant Cymorth Tai newydd yn cael ei gyflwyno yn ogystal â chyflwyniad y Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn fuan. Bydd y fframweithiau hyn yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ddarparu ein systemau cymorth digartrefedd a'u gwella'n barhaus.

Mae’r bwrdd hefyd yn falch o weld bod y Panel Adolygu Arbenigol wedi bod yn ceisio barn pobl â phrofiad personol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol o bob rhan o’r sector tai a thu hwnt i ystyried atebion ymarferol ar gyfer gwella deddfwriaeth digartrefedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau cadarnhaol i gyflwyno deddfwriaeth interim i sicrhau bod y rhai sy’n ddigartref ar y stryd yn cael eu hystyried yn angen blaenoriaethol, ond bydd yn bwysig cynnal y momentwm hwn a gweithredu’n gyflym ar argymhellion y panel, gan gyflwyno papur gwyn cyn gynted â phosibl.

Er gwaethaf y camau cadarnhaol hyn ymlaen a fydd, yn sicr, yn gwneud gwahaniaeth yn y tymor hwy, dylid cydnabod bod llu o heriau cymhleth wedi codi sydd wedi arafu cynnydd ac wedi cyflwyno risgiau parhaus a sylweddol i’r gwaith o gyflawni cynllun pum mlynedd Llywodraeth Cymru i wneud digartrefedd yng Nghymru yn brin, byrhoedlog ac na fydd yn cael ei ailadrodd.

Mae costau byw cynyddol ac effeithiau canlyniadol y rhyfel yn yr Wcráin ymhlith ffactorau eraill, wedi golygu, er gwaethaf gweithredu cadarnhaol mewn rhai meysydd allweddol ers cyhoeddi’r Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, yn anffodus, rydym wedi gweld tuedd ar i fyny yn y nifer y teuluoedd digartref sy'n wynebu arosiadau hir mewn llety dros dro. I lawer, nid yw llety dros dro yn darparu llawer mwy na lloches sylfaenol ac nid yw'n darparu'r sylfaen sefydlog sydd ei angen ar bobl i ailadeiladu eu bywydau.

Er bod angen gwasanaethau digartrefedd yn awr yn fwy nag erioed, mae'r gwasanaethau hyn yn wynebu risgiau eu hunain wrth iddynt geisio llywio costau rhedeg uwch yn erbyn lefelau ariannu sefydlog yn y Grant Cynnal Tai. Mae angen cymryd camau gweithredu er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein gweithwyr rheng flaen medrus yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac er mwyn sicrhau bod ein gwasanaethau'n gallu parhau i symud ymlaen ac ymdopi â chyflymder y cyflwyniadau digartrefedd sy'n parhau i fod yn wydn wrth ymateb i'r amgylchiadau heriol hyn.

Mae’r pwysau eithafol ar ein gwasanaethau digartrefedd ochr yn ochr â ffactorau cyfrannol eraill hefyd wedi arafu’r cynnydd tuag at uchelgais Llywodraeth Cymru o bontio i fodel o Ailgartrefu Cyflym. Mae’r bwrdd o’r farn bod Ailgartrefu Cyflym yn hanfodol i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru ac, yn y flwyddyn i ddod, rhaid i ni ddod o hyd i ffyrdd o fwrw ymlaen a sbarduno’r newid sylweddol sydd ei angen i ddatblygu’r dull hwn yn wyneb yr amgylchiadau cynyddol heriol. Dim ond gyda gwell dealltwriaeth o'r dull gweithredu ar draws adrannau llywodraeth leol y gellir cyflawni hyn, yn ogystal â chydweithio strategol cryfach er mwyn sicrhau bod ymdrechion i gynyddu'r cyflenwad tai yn cyfateb yn effeithiol i gynlluniau ar gyfer dull Ailgartrefu Cyflym.

Wrth i Lywodraeth Cymru gyrraedd canol cyfnod yn ei chynllun i roi diwedd ar ddigartrefedd, mae’n bwysig cydnabod y cynnydd a wnaed ar y daith tuag at roi diwedd ar ddigartrefedd. Fodd bynnag, mae hefyd yn bryd pwyso a mesur a sefydlu llwybrau newydd i’n helpu i oresgyn yr heriau sydd wedi codi ers cyhoeddi’r cynllun gweithredu. Gobeithio y bydd yr argymhellion a nodir yn yr adroddiad hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i nodi’r camau nesaf hyn.

Y Camau Nesaf ar gyfer y Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd

Yn sicr, bydd gwaith y bwrdd eleni yn gosod y sylfeini ar gyfer ein hymgyrch ymlaen yn y flwyddyn sydd i ddod. Rydym wedi gweld heriau tai sylweddol dros y flwyddyn ddiwethaf a gwyddom na fydd yr heriau hyn yn diflannu heb ymdrech barhaus a chydweithredol ar draws y sector.

Wrth i ni symud i 2023/24, bydd yn hollbwysig bod y bwrdd yn parhau i roi cyngor annibynnol i gefnogi Llywodraeth Cymru i wneud cynnydd ar yr argymhellion yn yr adroddiad hwn.

Rhaid i ni weithio gyda’n gilydd i werthuso’n agos a mynd i’r afael â’r bylchau yn y cyflenwad tai sy’n bygwth tanseilio’r broses bontio tuag at y dull ailgartrefu cyflym. Mae cefnogi awdurdodau lleol yn eu gwaith cynllunio strategol a mabwysiadu dull ailgartrefu cyflym hefyd yn hanfodol, o ystyried bod hyn mor sylfaenol i wneud digartrefedd yn rhywbeth prin, byrhoedlog ac na fydd yn cael ei ailadrodd.

Gwyddom fod gwasanaethau dan bwysau aruthrol yn y cyfnod ariannol anodd hwn. Felly, bydd y bwrdd yn cadw llygad gofalus ar risgiau i wasanaethau digartrefedd a bydd hefyd yn parhau i fod yn ymrwymedig i’n gwaith er mwyn sicrhau bod gweithwyr rheng flaen yn cael eu gwerthfawrogi a’u cefnogi.

Bydd cyflwyniad disgwyliedig y Fframwaith Canlyniadau newydd ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd yn gam ymlaen i’w groesawu, a fydd yn rhoi mewnwelediadau gwerthfawr i’r bwrdd ac yn helpu i wella gwasanaethau’n barhaus.

Mae’r bwrdd hefyd yn awyddus i symud ymlaen wrth roi cyngor ar feysydd eraill o’r Cynllun Gweithredu Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd, gan edrych yn agosach ar sut y gallwn weithio i atal digartrefedd ymhlith grwpiau y gwyddys eu bod mewn mwy o berygl. Bydd grwpiau gorchwyl a gorffen y bwrdd sydd newydd eu sefydlu ar Gydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant ac ar iechyd a digartrefedd yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith hwn, ond bydd hefyd yn bwysig edrych ar feysydd eraill lle gall y bwrdd weithio’n wahanol neu gynyddu ei ffocws.

Yn sicr, bydd y flwyddyn sydd i ddod yn un heriol, ond mae’r bwrdd yn edrych ymlaen at barhau â’i rôl yn cynghori Llywodraeth Cymru ac yn helpu i oresgyn yr heriau hyn fel bod gan bawb le i’w alw’n gartref.

Atodiad

Rhestr o’r Argymhellion

  1. Bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i drefnu amserlenni clir a diffiniedig ar gyfer cyflawni Cynlluniau Pontio i Ailgartrefu Cyflym lleol, yn ogystal â dyddiad targed pontio cenedlaethol ar gyfer y dull Ailgartrefu Cyflym. Dylid cydbwyso'r dyddiad hwn yn erbyn y pwysau digynsail sydd ar wasanaethau a chynnwys pwyntiau i adolygu cynnydd. Bydd hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ceisio cynyddu’r cymorth i awdurdodau lleol er mwyn helpu i gyflawni’r gwaith o drawsnewid i ailgartrefu cyflym. Gallai hyn gynnwys rhaglen ddysgu yn ogystal â chyllid ar gyfer swyddogion newid awdurdodau lleol newydd er mwyn helpu i ddatblygu'r cynlluniau. 

  2. Dylai Llywodraeth Cymru weithio ochr yn ochr â grŵp Gorchwyl a Gorffen y bwrdd ar Ailgartrefu Cyflym er mwyn sicrhau arweinyddiaeth leol a chenedlaethol uwch y tu ôl i’r uchelgais i roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru.

  3. Bod Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion a wnaed gan y Panel Adolygu Arbenigol yn yr hydref ac yn gweithredu’n gyflym i gyflwyno papur gwyn sy’n adlewyrchu adroddiad y Panel. Bydd y Bwrdd yn parhau i gymryd diddordeb yn y gwaith hwn a chynghori ar gynnydd datblygiadau deddfwriaethol, gan gynnwys myfyrio ar alwad y Panel i newidiadau gael adnoddau digonol.

  4. Bod Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu effaith lefelau cyllid y Grant Tai Cymdeithasol ar gontractau gwasanaeth a’r gallu i ddarparu cymorth allweddol a gwasanaethau atal digartrefedd, gan gynyddu’r Grant Tai Cymdeithasol cyn gynted â phosibl.

  5. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cyflenwad tai ledled Cymru yn cael ei broffilio’n ddigon manwl, gan nodi lle mae bylchau yn y mathau o ddarpariaeth tai sydd eu hangen i fynd i’r afael ag anghenion amrywiol y boblogaeth ddigartref bresennol a’r boblogaeth ddigartref a ragwelir yng Nghymru. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r bwrdd er mwyn sicrhau bod Asesiadau o’r Farchnad Dai Leol, Cynlluniau Pontio i Ailgartrefu Cyflym, ochr yn ochr â strategaethau a mecanweithiau eraill, yn cydweithio’n effeithiol i fynd i’r afael â’r materion cyflenwad tai a nodwyd.

  6. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda’r bwrdd i nodi, cwmpasu ac yna buddsoddi mewn data ac ymchwil o ansawdd gwell ar ddigartrefedd, cyflenwad, achosion o droi allan a dyraniadau er mwyn llywio penderfyniadau ar sail tystiolaeth. Gallai hyn gynnwys rhaglen ddysgu a gweithgaredd i weithredu canfyddiadau'r ymchwil diweddar ar ddyraniadau.

  7. Bod Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â’r bwrdd, yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddadrewi cyfraddau Lwfans Tai Lleol.

  8. Dylai Llywodraeth Cymru gynyddu mynediad at eiddo rhent fforddiadwy drwy weithio gyda landlordiaid i ddileu rhwystrau ac annog landlordiaid preifat i aros yn y farchnad.

  9. Bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yn rhaid i weithlu digartrefedd a werthfawrogir, sy’n gweithio mewn sefyllfaoedd trawmatig heriol iawn, sicrhau bod gwasanaethau cymorth arbenigol ar gael i staff eu defnyddio yn ôl yr angen. Fel rhan o’r gydnabyddiaeth hon, dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad o’r gwasanaethau cymorth trawma arbenigol sydd ar gael ledled Cymru i nodi unrhyw fylchau yn y cyflenwad; gan geisio gweithredu ar y diffygion a nodwyd o fewn amserlen y cytunwyd arni.

  10. Bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod mynediad cyfartal at gymorth iechyd meddwl ar gyfer staff sy’n gweithio yn y sector digartrefedd, beth bynnag fo maint eu sefydliad neu ei sefyllfa ariannol. Er enghraifft, gellid cyflawni hyn drwy ystyried ehangu arfer myfyriol a’r gwasanaethau Canopi sydd ar gael i weithwyr y GIG i gefnogi staff yn y gwasanaethau tai hefyd.

  11. Bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r ymchwil annibynnol a gomisiynwyd yn ddiweddar ar lefelau cyflog yn y sector i lywio’r gwaith o bennu cyllideb yn y dyfodol, gan weithredu’n gyflym er mwyn sicrhau bod gan ddeiliaid contract Grant Cymorth Tai yr adnoddau i dalu staff ar gyfraddau cymharol i’r rheini sy’n cyflawni rolau tebyg y tu allan i’r sector, gan adlewyrchu sgiliau a chymhlethdod swyddi.

  12. Bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod angen fframwaith cymhwyster ac achredu pwrpasol ar gyfer y Sector Digartrefedd, ac yn comisiynu datblygiad fframwaith o’r fath. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Grŵp Gorchwyl a Gorffen Gweithlu’r Bwrdd i osod amserlenni clir ar gyfer comisiynu’r fframwaith hwn a’i roi ar waith wedi hynny. Dylai'r fframwaith gydnabod y safonau proffesiynol y mae staff yn gweithio iddynt yn ogystal â'r sgiliau arbenigol sy'n ofynnol yn y rolau hyn.

  13. Bod Llywodraeth Cymru yn cytuno mewn egwyddor i ddatblygu canllawiau comisiynu arfer gorau wedi'u diweddaru ar gyfer gwasanaethau GCT a gaffaelir gan Awdurdodau Lleol. Dylai canllawiau o’r fath hwyluso cyflogau staff priodol yn ogystal ag amser â thâl ar gyfer hyfforddiant, ymarfer myfyriol a mynediad at ymyriadau arbenigol o ganlyniad i reoli digwyddiadau trawmatig yn y gwaith.

[1][1] Gweler Ystadegau’r Llywodraeth, “Digartrefedd: Ebrill 2021 i Fawrth 2022” cyhoeddwyd Gorffennaf 2022.

[2] Gweler ystadegau’r Llywodraeth, “Darpariaeth llety digartrefedd a chysgu allan: Mai 2023,” cyhoeddwyd Gorffennaf 2023.

[3] Llywodraeth Cymru, Rhoi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru: cynllun gweithredu lefel uchel 2021-2026, 2021.

[4] Datganiad Ysgrifenedig: Sefydlu Panel Adolygu Arbenigol ar gyfer deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru, Mawrth 2022, ar gael yn Datganiad Ysgrifenedig: Sefydlu Panel Adolygu Arbenigol ar gyfer deddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru (30 Mawrth 2022) | LLYW.CYMRU

[5] Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd, Digartrefedd, Mawrth 2023, tudalen 39. Ar gael yma.

[6] Llywodraeth Cymru, Ystadegau digartrefedd, ar gael yma.

[7] Cymorth Cymru, Anawsterau yn y Rheng Flaen, Medi 2022. Ar gael yn https://www.cymorthcymru.org.uk/wp-content/uploads/2023/05/Struggles-from-the-Frontline-Cym.pdf.

[8] Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd, Digartrefedd, Mawrth 2023, Argymhelliad 10, tudalen 41. Ar gael yma.

[9] cyflwyniad gan Stuart Fitzgerald, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cartrefi a Lleoedd yn Llywodraeth Cymru, i’r Bwrdd Cynghori Cenedlaethol ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd, Mai 2023.

[10] Llywodraeth Cymru, Darpariaeth tai fforddiadwy: Ebrill 2021 i Fawrth 2022, cyhoeddwyd Chwefror 2023. Ar gael yn Darpariaeth tai fforddiadwy: Ebrill 2021 i Fawrth 2022 | LLYW.CYMRU

[11] Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Cost of Living Crisis: A spotlight on Benefits and Disability, Hydref 2022, tudalen 3. Ar gael yn 0508-cost-of-living-crisis-volfour-v1.pdf (cih.org).

[12] Sefydliad Bevan, Wales’ Housing Crisis: Local Housing Allowance and the private rental market in Wales, 2023. Ar gael yn Wales' Housing Crisis: Local Housing Allowance and the private rental market in Wales, Winter 2023 - Sefydliad Bevan.

[13] Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd, Digartrefedd, Mawrth 2023, Argymhelliad 16 ar dudalen 57. Ar gael yn Digartrefedd (senedd.cymru).

[14] NRLA, The Landlord Confidence Index Q1 2023. Ar gael yn Landlord Confidence Index (LCI) No.17: 2023 Q1 | NRLA.

[15] Sefydliad Tai Siartredig Cymru, Joining the Dots Part 3, cyhoeddwyd 2022. Ar gael yn 0447-ttc-joining-the-dots-3-eng-v3.pdf.

[16] Cymorth Cymru, Anawsterau yn y Rheng Flaen, Medi 2022. Ar gael yn https://www.cymorthcymru.org.uk/wp-content/uploads/2023/05/Struggles-from-the-Frontline-Cym.pdf

[17] Llywodraeth Cymru, Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, 2022. Ar gael yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2022-12/cynllun-gweithredu-cymru-wrth-hiliol_0.pdf, tudalen 84

[18] Gweler Fframwaith Canlyniadau ar gyfer Rhoi Diwedd ar Ddigartrefedd | LLYW.Cymru.