Mae Lesley Griffiths, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru wedi ymweld â llaethdy newydd ym Methesda, Gwynedd a adeiladwyd yn bwrpasol ar gyfer llaeth defaid.
Mae Llaethdy Gwyn, sydd wedi'i leoli yn hen eglwys Gatholig y dref, yn gwireddu breuddwyd i'r cyn-ecolegydd glaswelltir sydd bellach yn wneuthurwr caws crefftus sef Dr Carrie Rimes, a ddechreuodd gynhyrchu ei chaws llaeth defaid, Cosyn Cymru, yn 2015.
Mae Carrie bellach yn berchennog ar fenter laeth sy'n tyfu a’i nod yw elwa i’r eithaf ar y gofod sydd ar gael mewn adeilad o’r 1960au tra'n cadw elfennau o dreftadaeth grefyddol yr eiddo.
Mae caws Cosyn Cymru yn cael ei wneud â llaw mewn sypiau bach gan ddefnyddio llaeth heb ei basteureiddio a dulliau traddodiadol. Caiff y cynnyrch eu gwerthu mewn siopau annibynnol a delis, caffis a marchnadoedd ac mae Brefu Bach hefyd yn cael ei werthu gan y manwerthwr enwog Neal's Yard yn Llundain.
Mae'r cyfleuster newydd ym Methesda wedi cael cefnogaeth gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Mae Cosyn Cymru hefyd wedi elwa ar y gefnogaeth a gafwyd fel aelod o Glwstwr Bwyd a Bwyd Diod Cymru a hwylusir gan Menter a Busnes, gan dderbyn cyngor busnes a mynychu digwyddiadau.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:
Mae wedi bod yn wych gweld y datblygiadau yma yn Llaethdy Gwyn ac i glywed am lwyddiant Cosyn Cymru. Maen nhw wedi llwyddo i dyfu marchnad ar gyfer cynhyrchion llaeth defaid, ac mae'n dda clywed sut maen nhw'n defnyddio llaeth defaid lleol o Ogledd Cymru.
Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r llaethdy newydd hwn a hoffwn ddymuno'r gorau i Carrie ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Dr Carrie Rimes:
Mae'r cymorth dwi wedi ei gael wedi fy ngalluogi i greu'r llaeth a thyfu fy musnes - gan gynnwys cyflogi staff ychwanegol wrth i'r gwaith cynhyrchu gynyddu - fyddwn i ddim wedi llwyddo i ehangu heb y fath gymorth.
Mae'r Clwstwr Bwyd Gwych wedi cynnig cymorth arbennig i fi. Rydw i wedi cael cyngor busnes defnyddiol iawn ac wedi mynd gyda nhw i Wobrau Caws y Byd, a gynhaliwyd yng Nghasnewydd fis Tachwedd diwethaf, lle cwrddais â llawer o bobl a hyd yn oed helpu i groesawu dirprwyaeth o Norwy.
Rydw i hefyd wedi ymuno mewn partneriaeth gyda Cadwyn Ogwen, sef gwasanaeth dosbarthu bwyd lleol ac mae gen i amrywiaeth o gynnyrch lleol yn y siop.
Cafodd Carrie ei magu ar fferm ei theulu yn Nyfnaint a’i breuddwyd oedd gwneud caws a gwnaeth ei hymchwil mewn siopau delis a chaws Cymreig nodi’r galw am gaws llaeth defaid.
Dywedodd Carrie:
Roeddwn i'n gwybod mai’r hyn roeddwn i wir eisiau ei wneud oedd cynhyrchu caws llaeth defaid, ond bryd hynny, doedd neb yng Ngogledd Cymru yn godro defaid. I ddechrau, roedd yn rhaid i mi gasglu llaeth o Swydd Gaerhirfryn. Erbyn hyn mae gen i bedwar ffermwr lleol sy’n darparu llaeth ar fy nghyfer, mae'r mamogiaid yn rhydd i bori'n naturiol a chynhyrchu llaeth iach a maethlon. Rhyngddynt, maen nhw'n godro mamogiaid Llŷn a Friesland, felly mae gen i gyflenwad llaeth trwy'r flwyddyn.
Mae Gwobrau Bwyd a Ffermio 2023 y BBC wedi cyhoeddi pwy sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni ac mae Carrie Rimes a Cosyn Cymru ar y rhestr fer yng nghategori’r Cynhyrchydd Bwyd Gorau.
Meddai cyflwynydd The Food Programme ar Radio 4 y BBC ac un o’r beirniaid, Sheila Dillon:
Bob blwyddyn, mae’r cyhoedd yn enwebu’r cynhyrchwyr gorau o bob cwr o Brydain ac nid yw eleni’n eithriad. Yn ogystal â bod yn wneuthurwr caws ardderchog, mae Carrie’n dangos rôl bwysig busnesau bach o ran cadw ardaloedd gwledig yn fyw a meithrin system fwyd gydnerth.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng Nghasnewydd ddydd Mercher, 25 Hydref.