Rydym yn ystyried newidiadau i'r cynigion yn seiliedig ar eich adborth i gyd-ddylunio.
Llynedd, gwnaethon ni gyhoeddi’n Cynigion Bras ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a chynnal proses gydlunio fanwl. Rydyn ni newydd gyhoeddi tri adroddiad ar ganlyniadau’r broses:
- Cydlunio’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy: adroddiad terfynol
Dadansoddiad o’r 1,600 a mwy o ymatebion (gan ffermwyr yn bennaf) i’r cynigion bras - Cynllun Ffermio Cynaliadwy: dadansoddiad o’r adborth i gynigion bras y cynllun
Dadansoddiad o ymatebion 100 o fudiadau, sefydliadau, grwpiau ac unigolion - Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Cynigion Bras - Ymateb Cydlunio
Ein hymateb i’r ddau adroddiad uchod. Mae’n disgrifio sut ydym am ddefnyddio canlyniadau’r broses gydlunio i greu fersiwn newydd o gynigion y cynllun
Mae rhai o’r syniadau rydym yn eu hystyried yn seiliedig ar yr ymatebion i’r broses gydlunio:
Cyflwyno’r cynllun fesul cam
Rydym wedi cael ymateb i nifer y newidiadau y bydd gofyn i ffermwyr eu gwneud i gyd yr un pryd a pha mor anodd y bydd hynny. Rydym nawr yn ystyried cyflwyno’r Gweithredoedd Sylfaenol yn unig yn 2025. Bydd hynny’n rhoi amser iddynt ennill eu plwyf. Gallwn gyflwyno’r rhan fwyaf o’r gweithredoedd Opsiynol a Chydweithio dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Ni fyddai gofyn ichi gwblhau’r Gweithredoedd Sylfaenol cyn dechrau’r cynllun.
Sicrhau bod y cynllun ar gael i bawb o 2025
Mae ffermwyr wedi gofyn sut y byddwn yn blaenoriaethu ffermydd sy’n ymuno â’r cynllun. Rydym felly yn ystyried agor y cynllun i bob fferm gymwys o 2025.
Rydym am seilio gweinyddiaeth y cynllun ar brosesau cyfarwydd RPW Ar-lein. Byddai hynny’n gwneud y broses ymgeisio’n rhwydd ac yn defnyddio data sy’n bod eisoes os medrir. Nid ydym am greu proses ymgeisio gystadleuol gyda phwyntiau i ni flaenoriaethu ceisiadau.
Newid yr amod ynghylch gorchudd coed
Bydd coetir a choed sydd gan ffermwyr eisoes yn cael cyfrif at y 10% o orchudd coed. Yn dilyn yr ymateb, rydym yn ystyried newid y ffordd y gallwn gyfri’r 10%. Mae yna nifer o sefyllfaoedd lle na fyddai’n briodol plannu coed, megis:
- bydd contractau rhai ffermwyr tenant ddim yn caniatáu iddyn nhw blannu coed
- nid yw’n briodol plannu coed ar fawnogydd a chynefinoedd blaenoriaeth eraill
- nid yw’n bosibl plannu ar draciau, buarthau, pyllau a nodweddion parhaol eraill
Rydyn ni’n cynnig addasu’r weithred, fel na fyddwn yn gofyn ichi blannu 10% o’r daliad cyfan. Unwaith y bydd yr arwynebedd na ellir plannu arno wedi’i gyfrif, dim ond 10% o’r tir sy’n weddill y bydd angen ei orchuddio â choed.
Gallwch ddarllen mwy am yr enghreifftiau hyn a newidiadau eraill rydym yn eu hystyried. Cynigion Bras Cynllun Ffermio Cynaliadwy: ymateb cyd-ddylunio
Bydd y syniadau hyn yn ein helpu i lunio fersiwn nesaf cynigion yr SFS. Byddwn yn eu cynnwys yn yr ymgynghoriad ar ddiwedd y flwyddyn. Ni fyddwn yn penderfynu’n derfynol ar siâp y cynllun tan ar ôl yr ymgynghoriad hwnnw.