Neidio i'r prif gynnwy

1. Gweinyddu

1.1 Rheolir y Cynllun Grantiau Bach ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar (y cyfeirir ato o hyn ymlaen fel 'y Grant') gan yr Awdurdod Lleol, gan ddefnyddio'r systemau sydd ganddo eisoes ar waith i weinyddu ffrydiau ariannu eraill ar gyfer Gofal Plant a'r Blynyddoedd Cynnar.

1.2 Mater i bob Awdurdod Lleol fydd penderfynu pa mor aml y bydd yn derbyn ceisiadau, ond dylai sicrhau bod y 'cylchoedd cynnig' hyn yn ddigon aml i alluogi darparwyr gofal plant i sicrhau'r cyllid sydd ei angen arnynt cyn gynted â phosibl.

1.3 Disgwylir i'r Awdurdod Lleol wneud y canlynol:

  • Cadw cofnod o'r holl geisiadau a ddaw i law, gan gynnwys enw'r darparwr, y swm y gofynnwyd amdano a'r rheswm dros y cynnig, prif iaith y ddarpariaeth (Cymraeg, dwyieithog, Saesneg) nifer y plant yn y lleoliad ac ardaloedd y ddarpariaeth (os yw'n gymwys), e.e.
    • Dechrau'n Deg
    • Y Cynnig Gofal Plant
    • Dysgu Sylfaen
  • Cofnodi'r dyddiad yr ystyriwyd y cais, pwy oedd yn bresennol a ph'un a gymeradwywyd cyllid ai peidio;
  • Os cymeradwyir cyllid, dylid cofnodi'r swm mewn llythyr cynnig grant ffurfiol i'r ymgeisydd sy'n nodi'r telerau ac amodau* sy'n gysylltiedig â'r cynnig, a rhaid i'r ymgeisydd ymrwymo i'r telerau ac amodau hynny.
  • Os na chymeradwyir cyllid, dylid hysbysu'r ymgeisydd yn ysgrifenedig am hynny; 
  • Dylid cofnodi manylion y cyllid a pha wiriadau a wnaed i gadarnhau bod y gwaith wedi'i gwblhau.

1.4 Bydd angen i'r Awdurdod Lleol gadw'r wybodaeth y manylir arni uchod rhag ofn i Lywodraeth Cymru ofyn amdani at ddibenion archwilio. Dylid cynnwys crynodeb byr o'r grantiau bach a ddyfarnwyd yn ystod y chwarter yn y ffurflen hawlio a'r adroddiad cynnydd chwarterol.

* Gweler manylion yn para 7 isod ynglŷn â thelerau ac amodau'r grant.

2. Cymhwystra

2.1 Wrth ystyried cais, bydd angen i Awdurdod Lleol sicrhau bod yr ymgeisydd yn gymwys ac yn bodloni'r meini prawf y manylir arnynt isod:

  • Mae pob lleoliad sydd wedi'i gofrestru ag Arolygiaeth Gofal Cymru yn gymwys i wneud cais. Mae hyn yn cynnwys gwarchodwyr plant, darparwyr yn y sector preifat a'r sector gwirfoddol, lleoliadau a gynhelir sy'n cynnig gofal dydd, gofal cofleidiol, cynlluniau chwarae yn ystod y gwyliau, clybiau gofal plant y tu allan i oriau ysgol, ac ati. Gellir hefyd ystyried ceisiadau gan ddarparwyr gofal plant sydd wrthi'n gwneud cais i gofrestru; bydd angen i'r Awdurdod Lleol fod yn fodlon bod y darparwr wrthi'n gwneud y cais hwnnw i AGC mewn gwirionedd.
  • Rhaid i'r lleoliad gofal plant fod wedi'i leoli yng Nghymru; ni ellir ystyried ceisiadau ar gyfer lleoliadau gofal plant yn Lloegr, hyd yn oed os oes plant o Gymru yn eu mynychu.
  • Dylai pob cais gael ei wneud i'r Awdurdod Lleol yn ardal cyfeiriad y lleoliad a gofrestrwyd ag AGC; ni all darparwr wneud cais i fwy nag un Awdurdod Lleol, er ei fod o bosibl yn derbyn plant o fwy nag un ardal Awdurdod Lleol. Os oes gan ddarparwr fwy nag un lleoliad cofrestredig, yna byddai angen iddo wneud ceisiadau unigol ar gyfer pob lleoliad i'r Awdurdod Lleol perthnasol, ac ni fyddent yn gallu trosglwyddo arian rhwng prosiectau.

2.2 Wrth wneud cais, rhaid i ddarparwr:

  • Allu dangos budd y buddsoddiad i'r lleoliad a'r plant; 
  • Bod wedi'i gofrestru ag AGC neu, yn achos darparwyr newydd, rhoi ymgymeriad ysgrifenedig y bydd yn cofrestru ag AGC cyn gynted â phosibl. Os na fydd lleoliad wedi cofrestru o fewn chwe mis i ddefnyddio'r grant, gall yr Awdurdod Lleol gymryd camau i adennill yr arian;
  • Bod yn barod i ymrwymo i gynnig gofal plant am bum mlynedd o leiaf o'r dyddiad y caiff y taliad grant olaf ei wneud a chydnabod, os bydd yn rhoi'r gorau i gynnig lleoedd gofal plant neu'n derbyn plant sy'n talu ffi breifat yn lle plant sy'n cael gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru fel mater o drefn, y bydd yn rhaid iddo ad-dalu'r holl gyllid grant a dalwyd, neu rywfaint ohono. Bydd y swm i'w ad-dalu yn amrywio yn dibynnu ar yr amgylchiadau;
  • Cydnabod y buddsoddiad y mae wedi'i gael mewn unrhyw ddeunydd hyrwyddo a roddir i rieni.

3. Amcanion a Blaenoriaethau

3.1 Dylid blaenoriaethu grantiau bach i'r canlynol:

  • Cefnogi Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant Awdurdodau Lleol a chynlluniau gweithredu cysylltiedig;
  • Lleoliadau sy'n cynnig darpariaeth cyfrwng Cymraeg a/neu sy'n rhoi pwyslais penodol ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg;
  • Lleoliadau sy'n cefnogi agenda cydleoli gwasanaethau Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, er enghraifft ar safleoedd ysgol ac mewn hybiau cymunedol ac iechyd;
  • Lleoliadau sy'n cynnig lleoedd Dechrau'n Deg a/neu Ddysgu Sylfaen a'r Cynnig Gofal Plant;
  • Gofal plant y gellir ei ddarparu drwy'r dydd, yn ystod y tymor ac yn ystod gwyliau'r ysgol er mwyn cynyddu'r ddarpariaeth i deuluoedd i'r eithaf drwy'r flwyddyn.

4. Beth y gellir ei ariannu?

​​​​​​​4.1 Byddem yn disgwyl i'r uchafswm sydd ar gael i unrhyw leoliad mewn unrhyw flwyddyn ariannol ddilyn y drefn isod, ond gall yr Awdurdod Lleol arfer ei farn i gynnig mwy na’r uchafswm mewn amgylchiadau eithriadol.

Gwarchodwyr plant: £10,000
Darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru i gynnig 15 o leoedd neu lai: £10,000
Darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru i gynnig rhwng 16 a 29 o leoedd: £15,000
Darparwyr gofal plant sydd wedi'u cofrestru i ddarparu 30+ o leoedd: £20,000

5. Canllawiau ar gyfer ceisiadau Cyllid Cyfalaf Mawr

5.1 Gellir cynnig cyllid ar gyfer amryw waith cyfalaf y gall fod ei angen, er enghraifft:

  • Gwaith adnewyddu cyffredinol, gan gynnwys paentio, gosod carpedi newydd, ac ati;
  • Gwella'r cyfleusterau chwarae yn yr awyr agored, fel gosod arwyneb chwarae newydd yn yr awyr agored, cysgodfeydd neu ganopi fel y gellir chwarae a dysgu ym mhob tywydd.
  • Trwsio gosodiadau a ffitiadau fel toiledau, cyfleusterau cegin, ffenestri, drysau, ac ati, neu osod rhai newydd yn eu lle;
  • Prynu cyfarpar/dodrefn/teganau newydd yn lle rhai a allai beri risg i iechyd a diogelwch, er enghraifft ffrâm ddringo yn yr awyr agored sydd wedi rhydu, dodrefn sydd wedi torri neu dreulio, a allai achosi fflawiau; neu fwrdd newid cewynnau blêr ac sydd wedi'i ddefnyddio'n helaeth, na ellir ei lanhau'n hylan mwyach.
  • Cyfarpar TG ar yr amod y gellir dangos yn glir y caiff ei ddefnyddio i helpu'r lleoliad i ddarparu cynnig mwy digidol i rieni (h.y. galluogi lleoliad i e-bostio adroddiadau) a chefnogi datblygiad y plant. Gallai hyn gynnwys gliniaduron, iPads, argraffyddion, ac ati;
  • Darparu cyfarpar/dodrefn pwrpasol a fydd yn galluogi'r darparwr i gynnig lle i blentyn ag anghenion dysgu ychwanegol;
  • Cyfrannu at brynu cerbyd a fyddai'n cael ei ddefnyddio i gludo plant rhwng lleoliadau gofal plant ac addysg. Nid yw costau lesio na chostau rhedeg fel yswiriant, petrol, gwasanaethu, ac ati, yn gymwys i gael cyllid.   
  •  Cyfarpar/addasiadau i sicrhau y gall gwasanaethau weithredu mewn modd sy'n ddiogel rhag COVID-19 ac i gefnogi adferiad y sector, er enghraifft:
    • Cyfleusterau golchi dwylo ychwanegol;
    • Gwelliannau i ardaloedd mewnol, gan gynnwys ffenestri/systemau awyru ychwanegol, parwydydd a chyfleusterau storio.
    • Addasiadau eraill i wella mynediad a llif, er enghraifft mynedfeydd ychwanegol a/neu ad-drefnu ystafelloedd/ardaloedd mewnol;
    • Monitorau CO2 (gweler Atodiad 1 isod).

5.2 Dim ond ar gyfer pryniannau cyfalaf y gellir defnyddio'r cyllid grant. Hynny, yw, rhywbeth sydd â gwerth ailwerthu neu sy'n gwella gwerth yr eiddo. Ni ellir ei ddefnyddio i ariannu:

  • Prynu nwyddau traul, fel papur, deunyddiau glanhau, napis, ac ati.
  • Costau staff fel cyflogau, hyfforddiant, teithio a chynhaliaeth;
  • Prynu dillad, e.e. tabardau, smociau, welintons, ac ati;
  • Biliau cyfleustodau fel nwy, trydan, ardrethi;
  • Costau rhedeg Wi-Fi
  • Costau yswiriant, e.e. yswiriant adeiladau, yswiriant atebolrwydd cyflogwr, ac ati.

5.3 Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr; os bydd unrhyw amheuaeth ynglŷn â chymhwystra eitem, cysylltwch â'ch Rheolwr Cyfrif Cyfalaf yn Llywodraeth Cymru. Gweler hefyd restr o Gwestiynau Cyffredin yn Atodiad 2.

6. Nodiadau pellach ynglŷn â cheisiadau am grant gan warchodwyr plant

6.1 Gan fod gwarchodwyr plant yn gweithio ar safleoedd domestig, dylent nodi'n glir natur yr hyn y gofynnir amdano a pham, a sut y bydd o fudd i'r lleoliad gwarchod plant a'r plant yn eu gofal. Oni bai bod amgylchiadau eithriadol, ni ddylid darparu cyfraniad grant bach ar gyfer cerbydau (sylwer cwestiynau cyffredin rhif 4 ar dudalen 7), gwaith adnewyddu cyffredinol, trwsio ffitiadau ar y safle domestig neu osod rhai newydd yn eu lle. Fodd bynnag, dylid asesu pob achos ar sail angen, amgylchiadau ac amgylchedd y lleoliad gwarchod plant.

7. Telerau ac Amodau

7.1 Bydd disgwyl i bob darparwr sy'n cael cyllid drwy'r Cynllun Grantiau Bach dderbyn y cynnig yn ffurfiol yn ysgrifenedig (gellir derbyn e-bost), a rhaid iddynt hefyd ymrwymo i delerau ac amodau'r grant.

7.2 Dylai'r Awdurdod Lleol seilio'r telerau ac amodau ar y rheini a ddefnyddir ar gyfer grantiau eraill ar gyfer y blynyddoedd cynnar a weinyddir ganddo, ond dylai gynnwys y cymalau ychwanegol canlynol;

  • Darperir y cyllid gan Lywodraeth Cymru a dylid cydnabod hyn mewn unrhyw lenyddiaeth a gohebiaeth ar y cyfryngau cymdeithasol fel cylchlythyrau, gan ddefnyddio brand perthnasol Llywodraeth Cymru;  
  • Wrth dderbyn y cynnig hwn o gyllid, mae'r ymgeisydd yn cytuno i gynnig lleoedd gofal plant am bum mlynedd o leiaf o'r dyddiad y caiff y cyllid grant ei dalu.
  • Os bydd yr ymgeisydd yn penderfynu peidio â derbyn plant sy'n cael gofal plant drwy raglen a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yna bydd yn rhaid iddynt ad-dalu'r holl gyllid a dalwyd, neu rywfaint ohono. Ni fydd yn hyn yn gymwys os gall yr ymgeisydd ddangos yn glir y byddai'n croesawu plant o dan y rhaglenni hyn ond nad oes ganddynt capasiti;
  • Rhaid i'r cyllid gael ei wario'n gyfan gwbl ar yr eitemau hynny yr ystyrir eu bod yn gymwys ar gyfer cyllid. Os bydd tystiolaeth bod unrhyw ran o'r cyllid wedi'i wario ar eitemau anghymwys, yna bydd yn rhaid i'r ymgeisydd ad-dalu'r swm hwnnw;
  • Gall darparwr wneud cais am gyllid ar gyfer yr un lleoliad fwy nag unwaith mewn unrhyw flwyddyn ariannol, ar yr amod nad yw'r cyfanswm a ddyfernir i un lleoliad yn fwy na'r swm a nodir ym mharagraff 4.1.

7.3 Noder na fydd Llywodraeth Cymru yn ceisio adennill cyllid gan Awdurdod Lleol mewn perthynas ag arian y mae wedi methu â'i adennill gan drydydd parti, ar yr amod y gall ddangos ei fod wedi cymryd pob cam rhesymol i adennill y cyllid gan y darparwr.

Atodiad 1: Monitorau CO2

 

Atodiad 2: Cwestiynau Cyffredin

  1. A all darparwr sydd â mwy nag un lleoliad wneud cais am grant ar gyfer pob un o'i leoliadau?

Gall. Gall busnes wneud cais am grant ar gyfer pob lleoliad, ar yr amod bod pob un o'i leoliadau wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru yn unigol. Byddai angen i'r darparwr gyflwyno un cais fesul lleoliad, i'r Awdurdod Lleol perthnasol.

  1. A ellir defnyddio'r grant ar gyfer costau sefydlu?

Ni fwriedir i'r cynllun helpu darparwyr gofal plant i brynu eitemau fel rhan o'u costau sefydlu cychwynnol.

  1. Os daw cais i law gan warchodwyr plant sy'n cydweithio â'i gilydd, gan eu bod wedi'u cofrestru ar wahân gan AGC, a allant wneud cais am £10,000 yr un?

Na allant. Terfynau fesul lleoliad sydd wedi'u nodi yn ein canllawiau ar grantiau bach.  Felly, os bydd gwarchodwyr plant yn cydweithio ar un safle domestig, dim ond am grant hyd at £10,000 y byddent yn gallu gwneud cais amdano mewn blwyddyn ariannol. Os byddant hefyd yn cydweithio â lleoliad domestig arall, gallai pob lleoliad wneud cais am grant os ydynt yn bodloni'r meini prawf.

  1. A yw gwarchodwyr plant yn gymwys i gael cyfraniad at gost prynu cerbyd?

Mewn amgylchiadau eithriadol, gall yr Awdurdod Lleol ystyried priodoldeb ariannu cyfran o gostau cerbyd. Wrth wneud hynny, byddai angen iddo ystyried y canlynol:

  • y rheswm pam mae angen cerbyd ar y gwarchodwr/gwarchodwyr plant a sut y byddai o fudd iddo/iddynt a'r plant yn ei ofal/eu gofal.
  • a fydd yn cael ei ddefnyddio i gludo plant i ddarpariaeth dysgu sylfaen neu ofal plant arall ac oddi yno
  • a fydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio at ddiben personol hefyd? Os felly, beth yw cyfran y defnydd preifat a'r defnydd busnes;  pa gyfraniad fyddai'n rhesymol yn yr amgylchiadau hyn?

Nid yw costau lesio na chostau rhedeg cerbyd yn gymwys ar gyfer y grant hwn.

  1. A allwn ariannu ceisiadau ar gyfer seddi plant?

Gallwn, ar yr amod y gall y darparwr ddangos mai dim ond at ddibenion gofal plant y byddant yn cael eu defnyddio

  1. A allwn ariannu cost gosod ffenestri a gatiau newydd?

Gallwch. Mae costau trwsio gosodiadau a ffitiadau fel toiledau, cyfleusterau cegin, ffenestri, drysau, neu osod rhai newydd yn eu lle yn gymwys ar gyfer y grant. Fodd bynnag, dylid ystyried ceisiadau o'r fath gan warchodwyr plant fesul achos, a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y dylid eu hariannu.

  1. A ellir defnyddio'r cyllid i osod llawr newydd?

Gellir.  Os bydd yr ymgeiswyr wedi rhoi cyfiawnhad digonol, er enghraifft bod y llawr presennol (mewnol neu allanol) yn peri risg i iechyd neu ddiogelwch neu ei fod yn anaddas neu y byddai llawr newydd yn galluogi'r plant i fanteisio ar amrywiaeth ehangach o weithgareddau.

Byddem yn disgwyl i'r darparwr ddangos ei fod wedi ystyried ac asesu risg mathau gwahanol o lawr er mwyn sicrhau bod yr un y gwneir cais ar ei gyfer yn wydn/addas at y diben.

  1. A ellir defnyddio'r grant i brynu eitemau fel teganau, llyfrau, dillad (er enghraifft welintons/tabardau/smociau)? 

Na ellir. Byddai'r rhain yn cael eu hystyried yn nwyddau traul, felly nid ydynt yn gymwys o dan y cynllun grantiau bach.

  1. Rydym yn rhagweld na fyddwn yn gwario ein cyllid grantiau bach i gyd. A allwn drosglwyddo rhywfaint o'n dyraniad i ariannu diffygion mewn prosiectau cyfalaf mwy neu benodi aelodau o staff i gynorthwyo â grantiau cyfalaf?

Na allwch. Dim ond yn unol â'r canllawiau y dylid dyrannu cyllid o dan y cynllun grantiau bach. Felly, ni ellir ei drosglwyddo i brosiectau cyfalaf eraill na'i ddefnyddio i ariannu swyddi.

  1. A ellir defnyddio'r grant i ariannu teilwra to ystafell wydr?

Dim Na, byddai hon yn rhan o gyfrifoldeb perchennog y tŷ.  

  1. A ellir prynu paneli solar trwy'r grant hwn?

Oes, os yw'r gwarchodwr plant/darparwr wedi ymchwilio i gostau ac yn gallu dangos arbedion tanwydd posibl.

  1. A ellir prynu offer garddio drwy'r grant hwn?

Ydy, i'w ddefnyddio gan y plant yn unig