Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd
Rwy'n falch o'r ffordd aethom ati yng Nghymru yn ystod y pandemig i gefnogi pobl sy'n ddigartref. Gweithiod timau cymorth digartrefedd a thai awdurdodau lleol, ynghyd â'u partneriaid yn y trydydd sector a'r sector cyhoeddus, yn ddiflino gan ddarparu llety diogel i leihau'r niwed a achoswyd gan Covid 19. Gwnaeth yr ymagwedd 'neb heb help' achub bywydau a chyflymu ein gwaith i drawsnewid gwasanaethau digartrefedd fel rhan o'n huchelgais hirdymor i ddod â digartrefedd i ben yng Nghymru.
Ers hynny, rwyf wedi bod yn glir na allwn, ac na fyddwn, yn mynd yn ôl.
Er mai'r dull hwn yw'r un cywir, rwy'n cydnabod y pwysau sylweddol sydd ar y system dai a'r angen felly i ddatblygu ac adeiladu ar y dull hwn fel rhan o'n trawsnewidiad ehangach o wasanaethau digartrefedd.
Mae'r pwysau ar wasanaethau tai wedi gwaethygu nid yn unig ers y pandemig, ond ers yr argyfwng dyngarol sy'n deillio o'r rhyfel yn Wcráin, yr argyfwng costau byw a'r pwysau chwyddiant ehangach sy'n effeithio ar yr holl wasanaethau. Mae hyn wedi golygu bod nifer y bobl sy'n gorfod troi at wasanaethau digartrefedd i gael cymorth yn parhau i fod yn sylweddol. O ganlyniad, mae awdurdodau lleol ledled Cymru yn parhau i ddibynnu ar lety dros dro i sicrhau bod pobl yn cael llety ac nad ydynt yn cael eu gorfodi i gysgu ar y stryd. Gall yr atebion dros dro hyn amrywio'n sylweddol, o westy neu lety gwely a brecwast, i gartref cymdeithasol neu breifat a ddarperir dros dro.
Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i symud i ffwrdd o'r defnydd o lety dros dro yn y tymor hwy, ond o ystyried y pwysau parhaus, rwy'n cydnabod bod angen atebion dros dro o hyd yn y tymor byr, tra'n parhau i ganolbwyntio ar atal digartrefedd yn y lle cyntaf, ynghyd â chynyddu’r cyflenwad tai i'n galluogi i symud ymlaen o lety dros dro.
Dyma pam y gwnaethom ddarparu £6miliwn ychwanegol ar gyfer cyllid atal digartrefedd yn ôl disgresiwn i awdurdodau lleol y llynedd ac rydym wedi sicrhau bod y cyllid yn parhau eleni fel rhan o'r £210miliwn ychwanegol rydym yn ei fuddsoddi mewn gwasanaethau atal digartrefedd a chymorth tai. Dyma hefyd pam wnaethom sefydlu'r Rhaglen Gyfalaf ar gyfer Llety Dros Dro yr haf diwethaf, mewn ymateb i'r pwysau hyn, i gyflwyno mwy o lety o ansawdd da yn gyflym er mwyn helpu i symud pobl o lety dros dro i gartrefi tymor hwy lle gallant setlo. Yn ei flwyddyn gyntaf, darparodd y Rhaglen gymorth gwerth £76.4 miliwn i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i gyflwyno 936 o gartrefi ychwanegol, gan weithio'n hyblyg ac ymatebol i ddarparu llety tymor hwy o ansawdd gwell. Rwy'n falch o ddull arloesol ac ymatebol y Rhaglen hon sy'n ein galluogi i ddarparu mwy o gartrefi o ansawdd da yn gyflym i ymateb i bwysau tai, gan gynnwys ymateb i'r argyfwng yn Wcráin.
Rwy'n falch o gadarnhau heddiw, gan weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, y byddwn yn adeiladu ar y gwaith pwysig hwn eleni, gan gyflwyno mwy o gartrefi drwy fuddsoddiad pellach mewn y Rhaglen i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn llety dros dro a sicrhau bod gan bobl yng Nghymru le y gallant ei alw'n gartref.
Ein ffocws ar unwaith fydd cefnogi awdurdodau lleol i gynyddu'r nifer sy'n symud ymlaen o lety gwesty neu wely a brecwast a lleihau'r defnydd o'r math penodol hwn o lety dros dro. Byddwn yn ehangu'r data ar lety dros dro a fydd yn cael ei gyhoeddi i gynnwys dadansoddiad o'r mathau o lety dros dro sy'n cael eu defnyddio ledled Cymru, er mwyn cefnogi'r gwaith hwn. Bydd ein dealltwriaeth o'r graddau y defnyddir lleoliadau o'r fath ledled Cymru, yn llywio ac yn gyrru atebion i leihau'r ddibyniaeth arnynt – ac yn cysoni ein buddsoddiadau cyfalaf i gefnogi hyn.
O ystyried y ffocws hwn a'r buddsoddiad parhaus mewn mwy o gartrefi, ynghyd ag ystyried ein huchelgais cyffredinol i ddod â digartrefedd i ben a symud i ailgartrefu'n gyflym, nid wyf yn teimlo y byddai diwygiad i Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2015 yn gam priodol ac ni ellir ei gyfiawnhau wrth ystyried yr effaith y mae'n ei chael ar fywydau pobl sydd wedi'u lleoli mewn llety gwely a brecwast a gwestai. Felly, ymhellach i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd y llynedd, bydd y ddeddfwriaeth yn parhau fel y mae ar hyn o bryd, gyda therfynau amser o ddwy a chwe wythnos ar waith.
Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â'n partneriaid mewn awdurdodau lleol, Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'r trydydd sector, i fod yn hyblyg, yn arloesol ac yn ymatebol, er mwyn goresgyn yr heriau sy'n ein hwynebu gyda'n gilydd a sicrhau bod gan bobl ledled Cymru le i'w alw'n gartref.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.