Data am nifer yr aelwydydd a wnaeth gais i awdurdodau lleol am gymorth tai o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 ac am aelwydydd digartref mewn llety dros dro ar gyfer Ebrill 2022 i Fawrth 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Ystadegau digartrefedd
Prif bwyntiau
Ffigur 1: Aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, Ebrill 2015 i Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 1: Siar llinell i ddangos y nifer o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, 2015-16 i 2022-23. Mae’r ffigurau ar gyfer 2022-23 yn debyg i’r rhai a welwyd y flwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Casgliad data digartrefedd statudol gan awdurdodau lleol
[Nodyn 1] Atal digartrefedd yw pan fo awdurdod lleol yn cymryd camau cadarnhaol i ddarparu cymorth tai i rywun y mae'r awdurdod o'r farn ei fod mewn perygl o fod yn ddigartref o fewn 56 diwrnod.
- Roedd 9,246 o aelwydydd mewn perygl o fod yn ddigartref, yn debyg i’r ffigurau a welwyd yn 2021-22.
- Llwyddwyd i atal digartrefedd am o leiaf 6 mis mewn 59% o achosion.
Ffigur 2: Aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety, Ebrill 2015 i Mawrth 2023 [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 2: Siar llinell i ddangos y nifer o aelwydydd digartref a bod dyletswydd i’w cynorthwyo i ganfod llety, 2015-16 i 2022-23. Mae hyn yn gynnydd o 7% yn 2022-23 o'i gymharu â'r blwyddyn flaenorol.
Ffynhonnell: Casgliad data digartrefedd statudol gan awdurdodau lleol
[Nodyn 1] Yn dilyn hysbysiad bod ymgeisydd yn ddigartref, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd (adran 73) i gymryd camau rhesymol i helpu i sicrhau llety.
- Cafodd 12,537 o aelwydydd eu hasesu yn digartref a lle roedd dyletswydd i’w helpu i gael llety, cynydd o 7% ers 2021-22.
- Cafodd 30% eu cynorthwyo yn llwyddiannus i ganfod llety.
Ffigur 3: Aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth, Ebrill 2015 i Mawrth 2023 [Nodyn 3]
Disgrifiad o Ffigur 3: Siar llinell i ddangos cynnydd bob blwyddyn yn y nifer o aelwydydd digartref oedd yn anfwriadol ddigartref a’u bod mewn angen oedd yn flaenoriaeth , 2015-16 i 2022-23.
Ffynhonnell: Casgliad data digartrefedd statudol gan awdurdodau lleol
[Nodyn 1] Os yw'r aelwyd yn ddigartref, bod ganddi angen blaenoriaethol a'i bod yn ddigartref yn anfwriadol, bydd yr awdurdod lleol o dan ddyletswydd i sicrhau llety addas.
- Roedd 5,094 o aelwydydd digartref yn anfwriadol ddigartref ac mewn angen oedd yn flaenoriaeth, cynydd o 25% ers 2021-22.
- Derbyniodd 71% o aelwydydd gynnig o lety sefydlog, addas.
Llety dros dro
- Ar 31 Mawrth 2023, roedd 5,481 o aelwydydd mewn llety dros dro, cynydd o 23% ers Mawrth 2022.
- Ar 31 Mawrth 2023, roedd 2,187 o aelwydydd mewn llety gwely a brecwast dros dro, cynydd o 29% ers Mawrth 2022.
Further information
Ceir gwybodaeth bellach yn yr adroddiad ansawdd.
Adroddiadau
Digartrefedd: Ebrill 2022 i Fawrth 2023 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.