Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Y Gwir Y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS (Cadeirydd - eitemau 4 - 5) 
  • Lesley Griffiths AS (Cadeirydd - eitemau 1-3)
  • Rebecca Evans AS
  • Jane Hutt AS
  • Julie James AS
  • Jeremy Miles AS
  • Eluned Morgan AS
  • Mick Antoniw AS
  • Hannah Blythyn AS
  • Dawn Bowden AS
  • Lynne Neagle AS
  • Julie Morgan AS
  • Lee Waters AS

Ymddiheuriadau

  • Vaughan Gething AS

Swyddogion

  • Andrew Goodall, yr Ysgrifennydd Parhaol
  • Des Clifford, Cyfarwyddwr, Swyddfa’r Prif Weinidog
  • Rebecca Dunn, Pennaeth Is-adran y Cabinet
  • Toby Mason, Pennaeth Cyfathrebu Strategol
  • Jane Runeckles, Cynghorydd Arbennig
  • Madeleine Brindley, Cynghorydd Arbennig
  • Alex Bevan, Cynghorydd Arbennig
  • Daniel Butler, Cynghorydd Arbennig
  • Ian Butler, Cynghorydd Arbennig
  • David Davies, Cynghorydd Arbennig
  • Kate Edmunds, Cynghorydd Arbennig
  • Sara Faye, Cynghorydd Arbennig
  • Sam Hadley, Cynghorydd Arbennig
  • David Hooson, Cynghorydd Arbennig
  • Clare Jenkins, Cynghorydd Arbennig
  • Owen John, Cynghorydd Arbennig
  • Phillipa Marsden, Cynghorydd Arbennig
  • Tom Woodward, Cynghorydd Arbennig
  • Christopher W Morgan, Pennaeth Ysgrifenyddiaeth y Cabinet (cofnodion)
  • Damian Roche, Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
  • Catrin Sully, Swyddfa’r Cabinet
  • Kathryn Hallett, Swyddfa'r Prif Weinidog
  • Helena Bird, Swyddfa'r Ysgrifennydd Parhaol
  • Tracey Burke, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
  • Jo-Anne Daniels, Cyfarwyddwr Cyffredinol Addysg, Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Gymraeg
  • Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Adfer wedi COVID-19 a Llywodraeth Leol
  • Tim Moss, Prif Swyddog Gweithredu
  • Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad
  • Nia Lewis, Swyddfa'r Cabinet (eitem 3)
  • Jon Oates, Dirprwy Gyfarwyddwr, Newid Hinsawdd ac Effeithlonrwydd Ynni (eitem 4)
  • Claire Chappell, Pennaeth Newid Ymddygiad ac Ymgysylltu, yr Argyfwng Hinsawdd (eitem 4)

Cadeiriwyd rhan gyntaf y cyfarfod gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd, wrth i'r Prif Weinidog ymuno â'r cyfarfod o gerbyd wrth deithio i Gaerdydd.

Eitem 1: Cofnodion y cyfarfod blaenorol

1.1 Cymeradwyodd y Cabinet gofnodion 12 Mehefin.

Eitem 2: Busnes y Senedd

2.1 Ystyriodd y Cabinet grid y Cyfarfod Llawn a nodwyd mai'r bwriad ar hyn o bryd oedd cynnal yr amser pleidleisio tua 5.45pm ddydd Mawrth, cyn troi at Gyfnod Adrodd y Bil Amaethyddiaeth (Cymru), yr oedd slot o 30 munud wedi'i drefnu ar ei gyfer. Roedd disgwyl i'r amser pleidleisio ddydd Mercher fod tua 6:10pm.

Eitem 3: Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru

3.1 Cyflwynodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a'r Trefnydd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gytuno i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23, a'r atodiad cysylltiedig, a thrwy hynny gyflawni'r ddyletswydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), a oedd yn gofyn am adolygiad o'r amcanion llesiant ac adroddiad ar gynnydd.

3.2 Er bod yr ail Adroddiad Blynyddol i'r Senedd yn canolbwyntio ar y flwyddyn ariannol hyd at fis Mawrth 2023, roedd yn cynnwys rhai cyflawniadau sylweddol a wnaed cyn diwedd mis Mai eleni.

3.3 Er gwaethaf yr argyfyngau a'r heriau digynsail, roedd y Llywodraeth wedi darparu prydau ysgol am ddim i 5 miliwn o blant ychwanegol. Roedd y Peilot Incwm Sylfaenol, ap y GIG ac 111 pwyso 2 ar gyfer iechyd meddwl wedi'u cyflwyno a chafwyd deddfwriaeth sylfaenol yn ymwneud â phartneriaethau cymdeithasol, plastigau untro ac addysg drydyddol.

3.4 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 4: Gweithredu ar Newid Hinsawdd – Rhaglen Ymgysylltu â'r Cyhoedd

4.1 Cyflwynodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y papur, a oedd yn gofyn i'r Cabinet gymeradwyo goblygiadau trawsbortffolio rhaglen newydd, y Rhaglen Ymgysylltu â'r Cyhoedd ar Newid Hinsawdd.

4.2 Roedd cynllun lleihau allyriadau presennol y Llywodraeth yn nodi y byddai sicrhau sero net yn dibynnu ar ddewisiadau gwyrddach gan bobl Cymru o ran trafnidiaeth, ynni'r cartref, bwyd a defnyddio adnoddau. Roedd hyn yn cyd-fynd â chyngor y Pwyllgor Newid Hinsawdd a oedd yn nodi y byddai'r mwyafrif o ostyngiadau allyriadau, sef oddeutu 62%, yn gofyn am gyfranogiad gan gymdeithas. Yn ei adroddiad cynnydd diweddar roedd y Pwyllgor wedi croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu strategaeth ar gyfer ymgysylltu â dinasyddion.

4.3 Roedd Arolwg Cenedlaethol 2021-22 wedi dangos bod pobl Cymru yn cefnogi newid hefyd, gyda 94% yn nodi bod gan unigolion 'rywfaint' neu 'lawer' o gyfrifoldeb i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd.

4.4 Roedd y strategaeth newydd 'Gweithredu ar Newid Hinsawdd – Strategaeth Ymgysylltu â'r Cyhoedd' yn  ganlyniad ymgynghori ac ymgysylltu helaeth â phartneriaid cenedlaethol a rhanbarthol eraill, ac â’r bobl a'r cymunedau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd. Roedd y Strategaeth yn nodi sut y byddai'r rhaglen yn cael ei rhoi ar waith ac roedd yn darparu sbardun ar gyfer cyfres o gamau gweithredu ac ymrwymiadau pendant.

4.5 Roedd hefyd yn amlinellu cwmpas y rhaglen, a fyddai'n canolbwyntio'n bennaf ar ddewisiadau gwyrdd o ran ynni'r cartref, trafnidiaeth, bwyd a defnyddio adnoddau. Roedd yn ymdrin hefyd â phynciau cysylltiedig megis addasu i'r hinsawdd, mynd i'r afael â cholli bioamrywiaeth, a sicrhau bod adnoddau a deunyddiau yn parhau i gael eu defnyddio cyhyd ag y bo modd.

4.6 Roedd angen polisi integredig a chyfathrebu da ac roedd y rhaglen yn cynnwys dwy elfen bwysig.  Byddai angen cydgysylltu polisïau hinsawdd sy'n seiliedig ar dystiolaeth a byddai ymgyrch a gwefan genedlaethol newydd yn rhoi negeseuon hanfodol. Nod y rhain fyddai codi  ymwybyddiaeth o gamau gweithredu, ennyn cefnogaeth y cyhoedd a gwrthweithio'r wybodaeth anghywir am newid hinsawdd sydd ar led yn gyhoeddus.

4.7 Prif bwyslais yr ymgyrch fyddai annog pobl i ddefnyddio llai, i ailddefnyddio, atgyweirio ac ailgylchu mwy, ac i leihau gwastraff bwyd drwy brynu'r hyn sydd ei angen yn unig. Byddai negeseuon hefyd am yr angen i leihau'r defnydd o ynni yn y cartref a gyrru llai, gan wneud mwy o feicio a cherdded, bwyta'n iach a gwneud dewisiadau cynaliadwy o ran bwyd. Byddai'n bwysig tynnu sylw hefyd at yr effaith yr oedd newid hinsawdd yn ei chael ar fywydau pobl, fel y tanau gwyllt diweddar, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y byd, a'r angen i bobl gymryd mwy o gyfrifoldeb am eu gweithredoedd.

4.8 Felly, byddai angen datblygu llinell amser drawslywodraethol i sicrhau bod mwy o gydgysylltu'n digwydd o ran polisïau hinsawdd sy'n canolbwyntio ar y dinesydd. Byddai angen gwneud dewisiadau gwyrdd yn haws, yn fwy cyfleus ac yn fwy fforddiadwy i bobl Cymru.  Byddai angen hefyd i Weinidogion annog rhwydweithiau rhanddeiliaid cenedlaethol a rhanbarthol i gysylltu â'r ymgyrch genedlaethol newydd er mwyn sicrhau bod negeseuon cyson yn cael eu cyfleu ynghylch dewisiadau gwyrdd.

4.9 Croesawodd y Cabinet y papur a chytunwyd ei bod yn bwysig parhau i dargedu cyfathrebu at blant a phobl ifanc, o ystyried eu rôl fel eiriolwyr, a'u hannog i helpu i lywio dewisiadau eu rhieni. Roedd angen sicrhau hefyd nad oedd rhieni'n annog eu plant i beidio â dilyn dewisiadau gyrfa anghyfarwydd, gan y byddai sgiliau o'r fath yn hanfodol er mwyn ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Nodwyd bod plant eisoes yn ymwneud â datblygu adeiladau newydd fel rhan o'r Her Ysgolion Cynaliadwy.

4.10 Cymeradwyodd y Cabinet y papur.

Eitem 5: Eitemau’r Prif Weinidog

Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

5.1 Ar ran y Cabinet, llongyfarchodd y Prif Weinidog y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip ar ei CBE, a gyhoeddwyd dros y penwythnos.

Y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig

5.2 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod wedi mynychu cyfarfod o'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn Jersey yr wythnos flaenorol. Fel rhan o drafodaethau ymylol y Cyngor roedd wedi cwrdd â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a'r Gweinidog Cysylltiadau Rhynglywodraethol, y Taoiseach a'r Tánaiste.

Arweinydd newydd Plaid Cymru

5.3 Rhoddodd y Prif Weinidog wybod i’r Cabinet y byddai'n cwrdd ag arweinydd newydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth AS, yn ddiweddarach y prynhawn hwnnw.

Pride Caerdydd

5.4 Dywedodd y Prif Weinidog wrth y Cabinet ei fod ef, a nifer o Weinidogion eraill, wedi mynychu Pride Caerdydd dros y penwythnos.  Roedd llawer o bobl wedi mynychu'r digwyddiadau a chafwyd adborth cadarnhaol ar Gynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru.

Sesiwn ar y cyd â'r Senedd Ieuenctid

5.5 Atgoffodd y Prif Weinidog y Cabinet y byddai cyfarfod ar y cyd o'r Senedd Ieuenctid a Senedd Cymru ddydd Mercher, ac y byddai cwestiynau i nifer o Weinidogion.

Ysgrifenyddiaeth y Cabinet
Mehefin 2023