Adroddiad, Dogfennu
Cyfarfodydd Fforwm Rhanddeiliaid Cenedlaethol Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol: 26 Mai 2023 i 21 Gorffennaf 2023
Crynodeb o gyfarfodydd y gorffennol.
Lawrlwytho'r ddogfen: Maint ffeil 84 KB, Math o ffeil PDF
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
21 Gorffennaf 2023
- Cyflwyniad gan Brifysgol Abertawe ar ran y naw prifysgol yng Nghymru ar y prosiect Gradd Feistr mewn Arweinyddiaeth Gynaliadwy yng Nghymru, sy’n cael ei ariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.
- Trafodaeth ar gynllunio sesiynau Cyfnewid Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Diweddariad ar Sero Net Cymru 2035.
- Diweddariad gan Gydffederasiwn y GIG ar eu hadroddiad, The NHS at 75.
26 Mai 2023
- Darparodd Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Prif Chwip, amlinelliad o gamau gweithredu diweddar y Llywodraeth ar yr agenda Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.
- Trafodaethau ar adeiladu llywodraethiant cynaliadwy cyfranogol, gan gynnwys datblygu polisi cymunedau i Gymru, beth y mae'r data yn ei ddweud wrthym, sut fydd cynnwys pobl yn y dyfodol, ac ymgysylltu â'r cyhoedd. (Nodyn trafodaeth Mural: 26 Mai 2023).
- Diweddariad ar agenda Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn 2023, gan gynnwys y rhaglen Ffocws Ein Dyfodol.