Gwybodaeth reoli a ddarperir gan ysgolion yng Nghymru ar ddisgyblion sy'n bresennol mewn ysgolion a gynhelir o 5 Medi 2022 i 24 Gorffennaf 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir
Mae’r pennawd hwn yn cyflwyno gwybodaeth am bresenoldeb disgyblion mewn ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd gyfredol.
Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22. Am ragor o fanylion gweler yr adran ansawdd isod a'r daenlen sy'n cyd-fynd â hi.
Dechreuodd y cyfnod arholiadau TGAU yng Nghymru ar 15 Mai 2023. O hyn ymlaen bydd llawer o ddisgyblion yn cael caniatâd i fod yn absennol i astudio ar gyfer eu harholiadau a'u heistedd. Diffinnir absenoldeb astudio fel absenoldeb awdurdodedig ac felly bydd yn arwain at lefelau presenoldeb is, yn gyffredinol ac ar gyfer disgyblion yn y grwpiau blwyddyn arholiadau.
Caeodd y rhan fwyaf o ysgolion i ddisgyblion ddydd Gwener 21 Gorffennaf ac mae'r data yn y datganiad hwn hyd at y pwynt hwn. Roedd rhai ysgolion ar agor i ddisgyblion ddydd Llun 24 Gorffennaf ond nid yw'r data hwn wedi'i gynnwys.
Dyma'r datganiad olaf ar gyfer blwyddyn ysgol 2022/23.
Prif bwyntiau
Absenoldeb cyffredinol
- Mae cyfartaledd presenoldeb dros y flwyddyn academaidd hyd yn hyn yn 88.5%.
- Yr wythnos diweddaraf yw 17 to 21 Gorffenaf, a’r wythnos flaenorol yw 10 to 14 Gorffenaf 2023.
- Roedd cyfartaledd o 80.4% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi yn bresennol ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i lawr o 84.2% yr wythnos cynt. Mae'r data dros dro ar gyfer yr wythnos diwethaf.
- Roedd cyfartaledd o 10.7% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb awdurdodedig ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i fyny o 10.3% yr wythnos cynt.
- Roedd cyfartaledd o 8.8% o sesiynau hanner diwrnod wedi’u cofnodi fel absenoldeb heb awdurdod ar gyfer disgyblion 5 i 15 oed yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, i fyny o 5.4% yr wythnos cynt.
- Mae gwahaniaeth bychain hyd yn hyn yn y gyfradd presenoldeb yn ôl rhyw ar gyfer y flwyddyn academaidd, gyda 88.7% ar gyfer bechgyn a 88.4% ar gyfer merched.
- Mae’r gyfradd presenoldeb yn ôl grŵp blwyddyn ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod ar ei uchaf ym Mlynyddoedd 3 a 4 (91.7%) ac ar ei isaf ym Mlwyddyn 11 (76.4%).
- Mae’r gyfradd presenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma wedi bod yn uwch ar gyfer disgyblion sydd ddim yn gymwys am PYD (90.4%) na disgyblion sydd yn gymwys am PYD (83.1%).
- Y rheswm mwyaf cyffredin dros absenoldeb ar gyfer y flwyddyn academaidd hyd yma yw salwch, gyda 42.7% o sesiynau wedi'u methu oherwydd y rheswm hyn.
Absennol yn gyson
- Mae 18.1% o ddisgyblion wedi bod yn absennol am 61 sesiwn (30.5 diwrnod) neu fwy.
- Mae 34.0% o ddisgyblion sy’n gymwys am PYD wedi bod yn absennol am 61 sesiwn (30.5 diwrnod) neu fwy.
- Mae 18.8% o fechgyn a 20.0% o ferched wedi bod yn absennol am 61 sesiwn (30.5 diwrnod) neu fwy.
Ansawdd
Mae'r data hwn yn wybodaeth reoli a dynnir o systemau gwybodaeth rheoli ysgolion unwaith yr wythnos. Nid yw'r data hwn wedi cael yr un lefel o sicrwydd ansawdd ag ystadegau swyddogol a gall y data gael ei ddiwygio yn y dyfodol. Dylai'r ffigurau ar gyfer y pythefnos diweddaraf gael eu trin fel rhai dros dro. Mae'r ffigurau cynharach yn derfynol ac ni allant newid.
Mae’r holl ddata yn y pennawd hwn yn seiliedig ar y diffiniad o bresenoldeb a oedd yn cael ei ddefnyddio ac a gyhoeddwyd cyn y pandemig coronafeirws (COVID-19). Nid oes modd cymharu’r data yma â’r data a gyhoeddwyd yn ystod y pandemig ar gyfer 2020/21 a 2021/22.
Y prif wahaniaethau mewn diffiniadau
- Cyflwynir data fel canran y sesiynau hanner diwrnod a gollwyd yn hytrach na chanran y disgyblion sy'n absennol.
- Mae'r data ar gyfer disgyblion o oedran ysgol statudol yn unig (5 i15 oed) yn hytrach na data ar gyfer pob oedran.
- Mae'r data ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig yn unig ac nid yw'n cynnwys data ar gyfer ysgolion meithrin nac unedau cyfeirio disgyblion.
- Mae Cod Y (cau rhannol a gorfodol) bellach yn cael ei gyfrif fel "dim angen mynychu" yn hytrach nag "absennol".
Dylai disgyblion nad oedd yn gallu mynychu’r ysgol oherwydd y gweithredu diwydiannol ar ddydd Mercher 1 Chwefror 2 Mawrth 2023 wedi’u cofnodi ar y gofrestr presenoldeb gan ddefnyddio codau “Y” (nid oes angen mynychu) neu “#” (ysgol ar gau i bob disgybl). Nid yw disgyblion a gofnodir gan ddefnyddio un o’r codau hyn wedi’u cynnwys wrth gyfrifo cyfraddau presenoldeb neu absenoldeb ac felly ni fyddent yn cael unrhyw effaith ar y ffigurau yn y datganiad hwn.
Cymaroldeb
Mae'r 4 gwlad yn cyhoeddi data rheolaidd ar bresenoldeb yn yr ysgol. Nid ydym yn cynghori gwneud cymariaethau rhwng y cenhedloedd oherwydd gwahaniaethau mewn dulliau casglu data a chyflwyniad a diffiniadau.
Statws Ystadegau Gwladol
Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau cenedlaethol a lleol.
Data
Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol
Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 5 Medi i 24 Gorffennaf 2023 , math o ffeil: ODS, maint ffeil: 97 KB
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.