Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth nodi Diwrnod Hepatitis y Byd 2023, rwy'n falch o ddatgan unwaith eto ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddileu hepatitis B ac C fel bygythiad iechyd cyhoeddus erbyn 2030 yn unol â thargedau Sefydliad Iechyd y Byd.

Mae heddiw hefyd yn nodi cyhoeddi adroddiad blynyddol Feirysau a Gludir gan Waed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae'r adroddiad yn darparu sefyllfa gyfoes ar hepatitis B, hepatitis C a HIV yng Nghymru hyd at ddiwedd 2022. Dyma'r flwyddyn gyntaf i'r adroddiad hwn gael ei gyhoeddi gan ddod â data ar hepatitis B, hepatitis C a HIV at ei gilydd mewn un adroddiad, ac mae'n darparu sail i olrhain ein cynnydd wrth gyflawni ein hymrwymiad i gyrraedd targedau dileu 2030.

O ran HIV, mae heintiau HIV newydd wedi gostwng 56.5% dros y deng mlynedd diwethaf. Profion HIV yw'r llwybr i gael mynediad at broffylacsis cyn-gysylltiad HIV (PrEP) a brofwyd ei fod yn lleihau trosglwyddiad HIV. Os caiff claf ddiagnosis o HIV, mae triniaeth effeithiol am ddim drwy’r GIG a gall pobl sy'n cael diagnosis yn brydlon ddisgwyl bywydau hir, iach. Mae gweithredu'r 30 o gamau gweithredu yn ein Cynllun Gweithredu HIV yn mynd rhagddo'n gyflym. Byddaf yn rhoi diweddariad llawn i Aelodau'r Senedd yn yr hydref i gyd-fynd â Diwrnod AIDS y Byd. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i gyrraedd targedau Sefydliad Iechyd y Byd o gael dim achosion newydd o drosglwyddo HIV erbyn 2030, ac i ddileu'r holl stigma sy'n gysylltiedig â HIV.

Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r gwaith sylweddol wedi sicrhau bod gwasanaethau wedi rhagori ar lefelau cyn y pandemig mewn sawl maes. Yn ystod 2022, roedd cyfraddau profi ar gyfer adweithedd hepatitis C yn uwch na'r uchafbwynt blaenorol a welwyd yn ystod 2019, gyda thros 75,000 o brofion wedi'u cynnal ac roedd nifer yr unigolion a brofwyd hefyd wedi rhagori ar lefelau cyn y pandemig. Rydym hefyd yn gweld mwy o ailbrofi ymhlith grwpiau sydd â risg uwch o gael hepatitis C.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr unigolion sy'n dychwelyd canlyniadau cadarnhaol ar gyfer haint hepatitis C, gyda nifer yr achosion o bobl sydd newydd gael diagnosis wedi gostwng mwy na thraean ers 2015. Mae hyn yn dyst i'r gwaith caled, a'r ymdrech gydweithredol rhwng darparwyr gwasanaethau sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf.

Er gwaethaf hyn, rydym yn cydnabod bod gwaith sylweddol i'w wneud o hyd os ydym am gyrraedd targedau dileu 2030 Sefydliad Iechyd y Byd. Dros y blynyddoedd nesaf, bydd angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar boblogaethau sydd fwyaf mewn perygl o ddatblygu hepatitis B ac C. Bydd swyddogion yn parhau i fonitro cynnydd fel rhan o Grŵp Trosolwg Rhaglen Dileu Hepatitis B a C, a arweinir gan Lywodraeth Cymru.

Hoffwn ddiolch eto am yr holl waith sydd wedi'i wneud yn y maes hwn, a byddwn yn annog unrhyw un sydd mewn perygl i gael prawf, fel y gallant gael y driniaeth sydd ei hangen arnynt.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod toriad er mwyn hysbysu Aelodau. Pe bai Aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.