Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru: adroddiad cynnydd – Gorffennaf 2023
Adroddiad Cynnydd a gyflwynwyd i’r Prif Weinidog, Y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, ac Arweinydd Plaid Cymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru gan Lywodraeth Cymru gyda dau amcan eang:
- Ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, y mae Cymru yn parhau’n rhan annatod ohoni.
- Ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru.
Mae aelodaeth y Comisiwn yn cynnwys:
- Cyd-gadeirydd: Laura McAllister
- Cyd-gadeirydd: Rowan Williams
- Anwen Elias
- Miguela Gonzalez
- Michael Marmot
- Lauren McEvatt
- Albert Owen
- Philip Rycroft
- Shavanah Taj
- Kirsty Williams
- Leanne Wood
Cefnogir y Comisiwn gan Banel o Arbenigwyr, sy'n rhoi cyngor ar amrywiaeth o arbenigeddau:
- Cadeirydd: Gareth Williams, cyn-Gynghorydd Arbennig i Lywodraeth Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd
- Jess Blair, Cyfarwyddwr Cymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru
- Yr Athro Emyr Lewis, Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Aberystwyth
- Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig
- Akash Paun, Pennaeth rhaglen ddatganoli Institute for Government
- Dr Hugh Rawlings, cyn-Gyfarwyddwr Materion Cyfansoddiadol yn Llywodraeth Cymru
- Yr Athro Mairi Spowage, Athro Ymarfer a Chyfarwyddwr Sefydliad Fraser of Allander
- Yr Athro Diana Stirbu, Athro Polisi a Llywodraethu ym Mhrifysgol Met Llundain
Cynnydd
Ers yr adroddiad cynnydd blaenorol, mae’r Comisiwn wedi cynnal dwy sesiwn dystiolaeth a gweithdy ar ddemocratiaeth gyfranogol a chydgynghorol. Cynhaliwyd sesiwn dystiolaeth bellach gan Is-grŵp y Comisiwn ar Gyfiawnder.
Yn ystod y cyfarfodydd tystiolaeth, clywodd y Comisiwn gan:
- Mick Antoniw AS, Cwnsler Cyffredinol Cymru
- Jeff Cuthbert, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gwent a Chadeirydd Plismona yng Nghymru
- Y Gwir Anrh TC Davies AS, Ysgrifennydd Gwladol Cymru
- Andy Dunbobbin, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Gogledd Cymru
- Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
- Chris Llewelyn, Prif Weithredwr CLlLC
- Alun Michael, Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru
- Y Cyng Llinos Medi, Arweinydd Grŵp Plaid Cymru CLlLC ac Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn
- Y Cyng Mark Pritchard, Arweinydd Grŵp Annibynnol CLlLC ac Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Wrecsam
Clywodd yr Is-grŵp ar Gyfiawnder gan:
- Jonathan Davies, Pennaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru
- Mark Davies, Cadeirydd Bwrdd Cenedlaethol Cymdeithas y Cyfreithwyr yng Nghymru
- Joshua Hurst, Rheolwr Materion Cyhoeddus a Pholisi Cymru
- Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys
- David McNeill, Cyfarwyddwr Materion Cyhoeddus ac Ymgyrchoedd Cymdeithas y Cyfreithwyr
Dyma’r rhai a gyfrannodd at y gweithdy ar ddemocratiaeth gyfranogol a chydgynghorol:
- Yr Athro Oliver Escobar, Prifysgol Caeredin
- Auriol Miller, Y Sefydliad Materion Cymreig
- Dr Christoph Niessen, Prifysgol Leiden
- Yr Athro Diana Stirbu, Prifysgol Met Llundain
- Dr Matt Wall, Prifysgol Abertawe
- Swyddog Llywodraeth Cymru
Daeth tystiolaeth ysgrifenedig i law Is-grŵp y Comisiwn ar Gyflogaeth gan Sefydliad y Cyfarwyddwyr, Make UK a’r Ffederasiwn Busnesau Bach.
Ymgysylltu
Mae rhaglen o ddigwyddiadau ymgysylltu’r Comisiwn ar gyfer dinasyddion wedi parhau gan gynnal cyfarfodydd yn y Fenni, Aberystwyth, Caernarfon, Caerdydd, y Drenewydd, Doc Penfro, Trehafod a Wrecsam.
Cysylltodd yr Ysgrifenyddiaeth ag aelodau CLlLC ar draws y 22 o awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth ynghylch uchelgeisiau’r Comisiwn o ran ymgysylltu, a gwahodd awdurdodau lleol i argymell cymunedau ar gyfer ymgysylltu â hwy. Mae sioe deithiol yr haf wedi dechrau gan ymweld ag Eisteddfod yr Urdd yn ogystal â lleoliadau canolog yn Hwlffordd a Choed-duon. Bydd y sioe deithiol yn cael ei chynnal tan fis Medi. Mae comisiynwyr wedi cymryd rhan mewn digwyddiad yng Ngŵyl y Gelli, cynhadledd flynyddol Sefydliad y Merched, cynhadledd flynyddol Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD) a sesiwn Holi ac Ateb ddigidol yn fyw ar Facebook.
Yn ystod digwyddiad trawsbleidiol yn San Steffan, cyfarfu’r Comisiwn ag aelodau Tŷ’r Arglwydd a Thŷ’r Cyffredin ac ymddangosodd y cyd-gadeiryddion gerbron y Pwyllgor Materion Cymreig. Yn ystod digwyddiad galw heibio yn Y Cwrt, cyfarfu’r cyd-gadeiryddion ag Aelodau o’r Senedd o bob plaid gan drafod gwaith y Comisiwn a sut y gall Aelodau o’r Senedd annog etholwyr i ddweud eu dweud.
Ym mis Ebrill, lansiwyd Llwyfan Ymgysylltu’r Comisiwn defnyddiadylais.cymru ac mae wedi’i ddatblygu yn sgil adborth a gafwyd o’r gwaith ymgysylltu. Gofynnwyd am wybodaeth syml a chryno i egluro’n fwy cyffredinol y status quo, yr opsiynau a’r drefn lywodraethu yng Nghymru. Cyhoeddwyd arolwg newydd ar y wefan yn gofyn cwestiynau i ddinasyddion ynghylch y tri opsiwn. Ers ei lansio, mae dros 5200 o bobl wedi edrych ar y wefan Saesneg a 383 wedi ymateb i’r arolwg. Mae 503 o bobl wedi edrych ar y wefan Gymraeg a 4 wedi ymateb i’r arolwg.
Adrodd
Mae disgwyl i’r Comisiwn gyhoeddi ei adroddiad terfynol, gan gynnwys argymhellion, erbyn diwedd 2023.