Cyflwyno tir at ddibenion mynediad: canllawiau
Canllawiau i'r rhai hynny sy'n ystyried cyflwyno tir i ddibenion mynediad.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ymwadiad
Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn rhan o’r Deddf na’r Rheoliadau uchod, ac nid oes iddo unrhyw rym cyfreithiol. Mae’n rhoi cyfarwyddyd ar y prif nodweddion sydd wedi eu cynnwys yn y Rheoliadau ond nid yw’n ceisio rhoi eglurhad cynhwysfawr ar bob darpariaeth.
1. Cyflwyniad
- Mae Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (“y Ddeddf”) yn creu hawl mynediad statudol i fynydd, rhos, gwaun, bryn a thir comin cofrestredig (“tir mynediad”) yng Nghymru a Lloegr. Mae Adran 16 o’r Ddeddf yn caniatáu i berchennog unrhyw dir, neu denant a dim llai na 90 mlynedd o’i les yn weddill, i gyflwyno’r tir hwnnw yn ddi-droi’n-ôl ar gyfer mynediad i’r cyhoedd.
- Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi gwybodaeth am y gweithdrefnau i’w dilyn er mwyn cyflwyno tir. Rydym wedi cynnwys cyfres o ffurflenni enghreifftiol i berchnogion tir eu defnyddio er mwyn gwneud y broses mor uniongyrchol â phosibl.
- Nodir y camau y bydd angen i unigolion eu dilyn er mwyn gwneud cyflwyniad yn Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir fel Tir Mynediad) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/135 (C.9)) (“y Rheoliadau”).
- Dim ond yn achos cyflwyno tir ar gyfer dibenion mynediad yng Nghymru y mae’r Rheoliadau, a’r cyfarwyddyd hwn, yn berthnasol. Os ydych am gyflwyno tir yn Lloegr, yna dylech gysylltu â Natural England, sydd wedi cyhoeddi rheoliadau a chyfarwyddyd tebyg.
2. Pwy sydd â’r hawl i gyflwyno tir
- Rydych yn gymwys i wneud cyflwyniad os ydych, un ai’n:
- berchennog y tir (h.y. yn “ddeiliad y ffi syml absoliwt ym mherchnogaeth y tir”), neu’n
- brydleswr (ar yr amod nad oes dim llai na 90 mlynedd o’r les yn weddill).
3. Beth mae cyflwyno’n ei wneud
- Mae cyflwyno tir o dan adran 16 o’r Ddeddf yn creu hawl mynediad statudol ar droed y gall pawb ei mwynhau. Mae’r weithred o gyflwyno’n ddi-droi’n-ôl mewn cysylltiad â thir rhydd-ddaliadol ac mae’n rhwymo perchnogion a deiliaid olynol y tir (ac eraill â buddiant yn y tir hwnnw) fel y diogelir yr hawl dros byth. Ond os mai prydleswr sy’n cyflwyno, bydd yn peidio pan fydd y brydles yn dod i ben.
- Mae cyflwyno:
- yn gallu agor tir ar gyfer mynediad cyhoeddus na fyddai’r Ddeddf yn ei gynnwys fel arall: er enghraifft coetir
- yn sicrhau fod yr hawl mynediad i’r cyfryw dir yn para mewn grym os yw’r tir yn newid dwylo (yn achos tir prydles bydd y cyflwyniad yn dod i ben pan fydd y brydles yn dod i ben)
- yn sicrhau fod tir sydd eisoes wedi ei gyflwyno yn para, hyd yn oed os yw’r tir yn peidio â ffitio’r diffiniad o “dir mynediad” rywbryd yn y dyfodol (yn achos tir ar les bydd y cyflwyniad yn dod i ben pan ar ddiwedd y les
- Fel arfer hawliau mynediad ar droed yn unig a geir o dan y Ddeddf. Ond mae darpariaethau’r Ddeddf hefyd yn caniatáu i chi ymestyn yr hawl mynediad i gynnwys gweithgareddau fel marchogaeth, beicio, defnyddio cerbydau modur a gwersylla ar y tir (fel sy’n gynwysedig yn Atodlen 2 i’r Ddeddf). Gellir diwygio’r offeryn cyflwyno yn ddiweddarach hefyd er mwyn llacio neu ddileu’r cyfyngiadau sydd wedi eu cynnwys yn Atodlen 2 i’r Ddeddf - gweler Atodiad 1 am ragor o fanylion.
- Mae cyflwyno tir fel “tir mynediad” yn cyfyngu dyletswydd gofal i aelodau’r cyhoedd o dan ddeddfwriaeth atebolrwydd meddianwyr i’r lefel sy’n ddyledus i dresmaswyr fel arfer. Ni fydd gan feddianwyr unrhyw ddyletswydd gofal o ran peryglon sy’n codi o nodweddion naturiol, afonydd, ffrydiau, pyllau, clogwyni, ffosydd, neu gamddefnyddio waliau, ffensys neu giatiau ar eu tir, oni bai eu bod wedi creu’r perygl yn fwriadol neu adael iddo godi yn anystyriol. (Mae’r dyletswydd gofal arferol i dresmaswr yn berthnasol tra bod mynediad yn cael ei wahardd neu ei gyfyngu.)
4. Oes rhaid i mi ddarparu mynediad bob amser
- Mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaethau ar gyfer cyfyngu neu wahardd mynediad mewn rhai amgylchiadau. Bydd hawl gan y perchennog tir neu denant fferm i gyfyngu mynediad i’r tir am hyd at 28 diwrnod ym mhob blwyddyn galendr (yn ddarostyngedig i rai amodau). Mae’r Ddeddf hefyd yn darparu cyfleoedd i gyfyngu mynediad ar adegau eraill – er enghraifft er mwyn i chi wneud gwaith rheoli tir hanfodol. Mae cyfarwyddyd ar wahân i reolwyr tir ynglŷn â chyfyngiadau ar gael gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), Cyfoeth Naturiol Cymru / Cyfyngiadau ar Dir Mynediad.
- Mae’r Ddeddf hefyd yn gwneud rhai categorïau tir yn “dir eithriedig”. Defnyddir tir eithriedig ar gyfer unrhyw rai o’r dibenion a restrir yn Atodlen 1 i’r Ddeddf. Ymhlith yr enghreifftiau mae tir a ddefnyddir i ddibenion cwrs golff, cae rasio neu faes awyr, neu dir ag adeiladau arno neu gwrtil tir o’r fath. Mae’n bwysig nodi nad oes unrhyw hawl mynediad dros dir sydd wedi ei gyflwyno sydd, neu a ddaw ar unrhyw adeg, yn dir eithriedig (er y bydd y cyflwyniad ei hun yn dal i fod mewn grym).
5. Ymgynghori gyda sefydliadau statudol
- Gan y bydd y weithred o gyflwyno yn cael effaith hir dymor a pharhaol (ar dir sydd yn rhydd-ddaliadol), rydym yn argymell eich bod yn cymryd cyngor cyfreithiol annibynnol os ydych yn ystyried cyflwyno unrhyw dir sy’n eiddo i chi fel eich bod yn gwbl ymwybodol o oblygiadau gwneud hynny.
- Yr ydym hefyd yn argymell eich bod yn cysylltu gyda’r sefydliadau a ganlyn cyn dechrau’r broses gyflwyno:
- CNC (lle bo’ch tir yn cynnwys safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SODdGA) neu lle bo’ch tir yn cynnwys coetir), ac/neu
- CADW (lle bo’ch tir yn cynnwys Heneb) i drafod goblygiadau cyflwyno eich tir
- Byddem hefyd yn argymhell eich bod yn trafod bwriad i gyflwyno gyda Awdurdod Parc Cenedlaethol neu/ac Awdurdod Lleol perthnasol y tir cyn dechrau’r broses gyflwyno.
- Os yw eich tir yn cynnwys SODdGA, dylech edrych yn ofalus ar eich dogfennau hysbysu i weld a yw’n bosibl fod angen caniatâd arbennig ar gyfer eich cynnig. Yn unol â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, ni ddylai perchnogion a meddianwyr SODdGAau wneud unrhyw waith a nodir yn yr hysbysiad, na pheri na chaniatáu hynny, heb ganiatâd CNC. Mae darpariaethau arbennig ar gyfer SODdGAu hynny sy’n eiddo neu ym meddiant cyrff cyhoeddus ac awdurdodau. Bydd CNC yn gallu trafod y materion hyn gyda chi.
- Os oes Heneb Gofrestredig ar eich tir, dylech gadarnhau gyda CADW i wneud yn siŵr na fydd caniatáu mynediad* i’r graddau yr ydych yn ei fwriadu yn debygol o godi pryderon ynglŷn â nodweddion treftadaeth megis gweddillion archeolegol. Ond nid oes unrhyw reidrwydd i CADW roi caniatâd ar gyfer y cynnig i gyflwyno tir, sy’n cynnig Heneb Gofrestredig.
- Os yw eich tir yn cynnwys coetir, efallai y bydd angen i chi wneud gwaith sy’n gallu peri peryglon arbennig i’r cyhoedd, fel cynaeafu coed. Am y rheswm hwn, dylech gysylltu’n fuan gyda CNC os ydych yn bwriadu cyflwyno tir sy’n cynnwys coetir.
6. Buddiannau prydleswyr / tenantiaid
- Os oes gan unrhyw berson heblaw chi (fel y person sy’n gwneud y cyflwyniad) fuddiant prydlesol israddol yn unrhyw ran o’r tir sydd i’w gyflwyno (tenantiaeth, er enghraifft), rhaid i chi wneud y cyflwyniad gyda chaniatâd y person hwnnw neu ar y cyd gydag ef/hi.
- Er mwyn gofalu fod unrhyw bersonau y mae angen iddynt ganiatáu cyflwyniad yn cael pob gwybodaeth, rhaid i chi roi gwybodaeth benodol iddynt am eich cynnig i gyflwyno. Rhaid i’r wybodaeth hon gynnwys:
- natur eich buddiant yn y tir
- lleoliad a hyd a lled y tir yr ydych am ei gyflwyno, mae’n bosibl y bydd angen darparu map fel y gellir ei nodi ’n iawn
- manylion unrhyw gynigion gennych chi eich hun i lacio neu ddileu unrhyw rai o’r cyfyngiadau cyffredinol yn Atodlen 2 i’r Ddeddf dros unrhyw ran o’r tir sydd i gael ei gyflwyno
- manylion unrhyw dymor tenantiaeth nad yw wedi dod i ben ble bo gennych dymor o fwy na 90 mlynedd yn weddill ar eich les
- Os ydych yn bwriadu cyflwyno tir, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn sicrhau na fyddai’r cyflwyniad yn niweidio unrhyw fuddiannau, nac unrhyw rwymedigaethau mewn cyfraith breifat, a allai gael eu torri (gweler Atodiad 2 am ragor o fanylion)..
7. Sut wyf i’n gwneud cyflwyniad
- Unwaith yr ydych wedi cael unrhyw ganiatâd angenrheidiol gallwch baratoi yr offeryn cyflwyno drafft. Gellir gwneud hyn drwy lenwi’r offeryn cyflwyno enghreifftiol sydd wedi’i atodi i’r cyfarwyddyd hwn – (gweler Ffurflen A). Os nad ydych am ddefnyddio’r ffurflen hon yna rhaid i chi ddarparu’r holl wybodaeth sydd ei hangen yn y Rheoliadau.
8. Cyflawni a hysbysu’r cyflwyniad
- Rhaid i chi anfon copi o’r offeryn cyflwyno drafft (e.e. Ffurflen A), i’r cyrff canlynol o leiaf 3 mis cyn eich bod yn bwriadu llofnodi’r offeryn:
- Awdurdod (neu Awdurdodau) Mynediad yr ardal y mae’r cyflwyniad yn ei gynnwys
- Cyfoeth Naturiol Cymru
- Gweinidogion Cymru
- y morgeisai, lle bo y tir yn ddarostyngedig i unrhyw dâl ar ffurf morgais cyfreithiol
- Trwy anfon yr offeryn cyflwyno drafft i’r cyrff hyn rhoddir cyfle iddynt baratoi ar gyfer y cyflwyniad, a thrafod unrhyw faterion gyda chi – er enghraifft, i ystyried a yw’r tir dan sylw yn cynnwys safleoedd cadwraeth tir neu dreftadaeth pwysig neu ba mor dda mae’r tir dan sylw wedi ei gysylltu gyda’r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus.
- Unwaith y mae cyfnod o dri mis wedi mynd heibio, bydd angen llofnodi’r offeryn cyflwyno drafft ac anfon fersiwn gwreiddiol (gan cynnwys map) i’r Awdurdod Mynediad, o fewn 1 mis ar ôl llofnodi’r offeryn, neu ni fydd y cyflwyniad yn ddilys.
- Rhaid i chi sicrhau hefyd yr anfonir copïau i’r cyrff neu bersonau eraill fel y nodir yn 7.2.1 uchod. Rhaid i bob copi gynnwys datganiad yn nodi gyda pha awdurdod mynediad y cofnodwyd y cyflwyniad a dyddiad ei gofnodi.
- Os yw’r offeryn cyflwyno yn ymwneud â thir yn ardal mwy nag un Awdurdod Mynediad, y cyflwynydd fydd piau dweud pa Awdurdod Mynediad fydd yn cadw’r offeryn gwreiddiol.
- Os ydych yn cyflwyno tir sydd ar y ffin â Lloegr, bydd angen gwneud cyflwyniad ar wahân ar gyfer y tir hwnnw sydd yn Lloegr. Bydd angen dilyn y darpariaethau a gynhwysir yn Rheoliadau Mynediad i Gefn Gwlad (Cyflwyno Tir) (Lloegr) 2003 (O.S. 2003/2004) a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Natural England.
- Os yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn barnu fod y tir sydd wedi ei gyflwyno yn cynnwys coetir yn bennaf neu gan mwyaf a lle bo’r coetiroedd sydd wedi eu cyflwyno o fewn Parc Cenedlaethol, bydd yn cyflwyno hysbysiad i’r Awdurdod Parc Cenedlaethol yn datgan mai CNC fydd yr “awdurdod perthnasol” ar gyfer y coetiroedd hynny. Unwaith y bydd y CNC wedi dod yn brif awdurdod coetiroedd a gyflwynir, bydd yn gweithio gyda’r perchennog a’r meddiannydd i sicrhau fod y coetiroedd hynny yn dal i gael eu rheoli’n gynaliadwy ochr yn ochr gyda’r hawl mynediad.
9. Cofrestru’r cyflwyniad fel pridiant tir lleol
- Gan fod adran 16(8) o’r Ddeddf yn datgan fod cyflwyniad yn bridiant tir lleol, bydd angen i chi wneud yn siŵr hefyd fod y cyflwyniad wedi ei gofrestru yn y gofrestr pridiannau tir lleol briodol a gedwir gan y Cynghorau Sir neu Cynghorau Bwrdeistref Siriol perthnasol (“yr awdurdod cofrestru”) (yn unol ag adran 5 o Ddeddf Pridiannau Tir Lleol 1975) neu fod y cofrestrydd, ble y mae’r Cofrestrydd Tir wedi ymgymryd â swyddogaethau statudol pridiant tir lleol (yn unol â’r Ddeddf Seilwaith 2015). Mae rhagor o wybodaeth i’w chael ar dudalen Pridiannau Tir Lleol Llywodraeth y DU: Canllaw ymarfer 79: Pridiannau Tir Lleol.
- Lle bo tir wedi'i gyflwyno yn gorwedd ar draws dwy ardal awdurdod lleol neu fwy, bydd angen i bob awdurdod gofrestru'r pridiant tir lleol.
- Mae cofrestru’n bwysig, oherwydd pe gwerthid y tir a’i statws fel pridiant tir lleol heb ei gofrestru’n gywir (neu’r dystysgrif chwilio swyddogol a ddefnyddiwyd yn y broses trawsgludo heb ddangos ei fod wedi ei gofrestru’n gywir), mae adran 10 o Ddeddf 1975 yn rhoi’r hawl i’r prynwr gael iawndal am unrhyw golled yr aed iddi o ganlyniad.
- Er mwyn sicrhau fod cyflwyniadau’n cael eu cofrestru’n gywir fel pridiannau tir lleol, rydym yn eich cynghori i gwblhau ac anfon copi o Ffurflen B i’r awdurdod cofrestru ynghyd â chopi o’r offeryn cyflwyno a map i’w ganlyn.
- Mae’n bwysig cofio eich bod yn gyfrifol am gofrestru eich cyflwyniad fel pridiant tir lleol ac am gadarnhau ei fod wedi ei gofrestru’n briodol yn y gofrestr/cofrestri pridiannau tir lleol priodol.
10. Diwygio cyflwyniad
- Gellir diwygio cyflwyniad unrhyw bryd ar ôl ei wneud. Ond dim ond er mwyn dileu neu lacio un neu fwy o’r cyfyngiadau cyffredinol yn Atodlen 2 o’r Ddeddf (gweler Atodiad 3 am ragor o wybodaeth am ddiwygio cyflwyniadau) y caniateir gwneud diwygiad.
11. Pryd y daw’r cyflwyniad i rym
- Ni ddaw’r hawl newydd i dir sydd wedi’i gyflwyno i rym yn syth. Daw i rym 6 mis wedi iddo cael ei gyflawni er mwyn rhoi cyfle i wneud yr amryw hysbysebion sydd ei angen, i gofrestru’r cyflwyniad fel pridiant tir lleol, ac er mwyn rhoi cyfle i chi neu rhywun arall sydd ar hawl i ymgeisio i gyfyngu mynediad.
Atodiad 1: cyfyngiadau cyffredinol
Oni bai eich bod yn nodi fel arall, mae hawl mynediad i dir a gyflwynwyd wedi ei gyfyngu i fynediad i ddibenion hamdden yn yr awyr agored ar droed.
Mae Atodlen 2 i’r Ddeddf yn cynnwys nifer o gyfyngiadau cyffredinol, y mae’n rhaid i berson sy’n arfer yr hawl mynediad lynu wrthynt. Mae’r broses o gyflwyno tir yn caniatáu i chi ddileu neu lacio unrhyw rai o’r cyfyngiadau hyn. Mae hyn yn golygu y gallech gyflwyno hawl mynediad ar eich tir ar gyfer marchogaeth neu feicio, er enghraifft, yn ogystal â cherdded.
Mae’n bwysig iawn nodi y bydd dileu cyfyngiad yn caniatáu i ddefnyddwyr mynediad gymryd rhan mewn unrhyw weithgaredd a fyddai fel arfer yn gwaharddedig gan y cyfyngiad. Os ydych yn dymuno ymestyn yr hawl mynediad i gynnwys rhai gweithgareddau sydd wedi eu gwahardd gan gyfyngiad cyffredinol, ond nid eraill, yna dylech ddatgan graddau’r llacio yn eglur yn yr offeryn cyflwyno yn nhermau’r gweithgaredd ei hun (h.y. “beicio yn unig”), ardal y tir y mae’r llacio yn berthnasol iddo ac unrhyw faen prawf arall a allai fod yn berthnasol. Nodir y cyfarwyddiadau ar sut i wneud hyn yn y nodiadau esboniadol yn Ffurflen A.
Unwaith y mae eich tir wedi cael ei gyflwyno, mae’n bosibl i chi ddiwygio’r cyflwyniad yn ddiweddarach neu ddileu neu lacio unrhyw rai o’r cyfyngiadau Atodlen 2 sy’n dal yn eu lle. Er hynny, nid yw’n bosibl i chi adfer cyfyngiadau unwaith y maent wedi eu dileu neu eu llacio, un ai yn y cyflwyniad gwreiddiol neu offeryn cyflwyno diwygiol diweddarach. Rhaid i chi ystyried yn ofalus iawn felly a yw’n briodol dileu neu lacio unrhyw rai o’r cyfyngiadau cyffredinol.
Cyn i chi ddileu neu lacio cyfyniad cyffredinol, fe ddylwch ymgynghori â unrhyw awdurdod sydd angen ei caniatâd cyn y gellir codi y cyfyniad (e.e. os ydych am gyflwyno eich tir i ddefnyddwyr cerbydau efallai y bydd angen caniatâd cynllunio).
Atodiad 2: cael caniatâd er mwyn bodloni rhwymedigaeth mewn cyfraith breifat
Bwriedir i’r cyfarwyddyd yn yr Atodiad hwn dynnu sylw at rai o’r sefyllfaoedd ble gallai fod angen i chi (fel rhydd-ddeiliad neu brydleswr) gael caniatâd trydydd parti cyn gwneud cyflwyniad er mwyn cydymffurfio â gofyniad mewn cyfraith breifat. Nid yw’r enghreifftiau a roddir isod yn rhestr gyflawn ac mae’n bosibl y bydd sefyllfaoedd eraill lle bydd angen i chi gael caniatâd trydydd parti cyn gwneud cyflwyniad er mwyn cydymffurfio gyda gofyniad mewn cyfraith breifat. Felly rydym yn argymell eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol am nifer a graddau unrhyw ofynion o’r fath cyn gwneud y cyflwyniad.
Hawliau Neilltuedig: Mae’n bosibl y bydd angen i chi gael caniatâd unrhyw berson sydd â hawl neilltuedig, er enghraifft hawl i hela, dros y tir yr ydych yn cynllunio i’w gyflwyno. Yn ôl y Ddeddf nid yw’n angenrheidiol cael cytundeb deiliaid yr hawliau hyn er mwyn gwneud cyflwyniad. Er hynny rydym yn eich cynghori i wirio’n ofalus a allai cyflwyno’r tir dorri amodau unrhyw gytundeb y gallech fod wedi ei lunio gyda deiliad hawl neilltuedig.
Cyfamodau mewn Cytundeb Prydles: Os ydych yn brydleswr sy’n ystyried cyflwyno eich tir, bydd angen i chi wirio’n ofalus hefyd a yw eich prydles yn cynnwys unrhyw gyfamodau sy’n cyfyngu neu wahardd defnyddio’r tir ar gyfer mynediad i’r cyhoedd (os felly mae’n bosibl na fyddai cyflwyniad yn briodol). Os ydych yn bwriadu dileu neu leddfu unrhyw rai o’r cyfyngiadau cyffredinol a restrir yn Atodlen 2 i’r Ddeddf, dylech wirio yn yr un modd ar gyfer y gweithgareddau y mae’r cyfyngiadau hyn yn eu cynnwys.
Ym mhob achos, rydym yn argymell eich bod yn ceisio llunio cytundeb ar bob cyfle posibl gyda deiliad unrhyw fuddiant y byddai’r cyflwyniad yn effeithio’n anffafriol arno oherwydd, os nad oes cytundeb o’r fath, fe allech fod yn agored i achos mewn cyfraith breifat.
Atodiad 3: diwygio cyflwyniad
Gall unrhyw berson fyddai â hawl i wneud cyflwyniad pe bai un heb gael ei wneud yn barod ddiwygio cyflwyniad.
Mae’n bosibl diwygio cyflwyniad unrhyw bryd ar ôl iddo gael ei wneud. Serch hynny, dim ond er mwyn dileu neu lacio un neu fwy o’r cyfyngiadau cyffredinol yn Atodlen 2 i’r Ddeddf y caniateir gwneud diwygiad. Nid yw’n bosibl diwygio cyflwyniad er mwyn ailorfodi unrhyw gyfyngiadau ar yr hawl mynediad allai fod wedi eu dileu neu eu llacio yn barod.
Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio Ffurflen A ar ddiwedd y pecyn hwn os ydych am ddiwygio cyflwyniad. Os nad ydych am ddefnyddio’r ffurflen hon, rhaid i chi sicrhau fod unrhyw ddogfennaeth sy’n diwygio cyflwyniad yn cynnwys yr holl wybodaeth sy’n angenrheidiol ar gyfer cyflwyniad cyflawn, fel y nodir yn rheoliad 3 o’r Rheoliadau (ac eithrio paragraffau (g), (h) a (k) yn rheoliad 3). Eto, byddai’n ddymunol i chi gysylltu gyda CNC a CADW, fel y bo’n briodol. Mae’n bosibl y byddwch hefyd am geisio cyngor cyfreithiol annibynnol.