Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru
Yn fy natganiad deddfwriaethol blynyddol ar 27 Mehefin, gwnes i gadarnhau y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i ddiwygio'r Senedd a Bil i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr etholiadau'r Senedd.
Mae'r Biliau hyn yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd ac maent yn flaenoriaeth ar y cyd yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.
Rydym yn parhau i weithio tuag at gyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn gynnar yn nhymor yr hydref.
Nodais yn fy niweddariad ym mis Ebrill ein bod yn ystyried nifer o bolisïau ychwanegol i’w cynnwys yn y Bil, gan gynnwys gofyniad i ymgeiswyr ddatgan unrhyw aelodaeth o blaid wleidyddol sydd wedi bod ganddynt yn y 12 mis cyn etholiad ar gyfer y Senedd fel rhan o'u henwebiad, yn debyg i'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â’r polisi hwn, ond wedi penderfynu y gellir ei gyflawni drwy is-ddeddfwriaeth.
Bydd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gofyniad i ymgeiswyr ac Aelodau'r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru, ac ar gyfer adolygiad o weithrediad y darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn etholiad 2026.
Rydym wedi ymrwymo i gyflawni argymhelliad y Pwyllgor Diben Arbennig mewn perthynas ag annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Felly, byddwn yn sicrhau bod canllawiau ar gael cyn etholiad nesaf y Senedd i gefnogi ac annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd hyn yn cyflawni'r un diben ac yn gwireddu'r bwriad y tu ôl i argymhelliad y pwyllgor, heb fod angen darpariaeth benodol yn y Bil.
Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno'r Biliau a gwaith craffu'r Aelodau ar y ddeddfwriaeth wrth inni symud yn nes at greu Senedd fodern sy'n adlewyrchu Cymru ac yn cefnogi ein democratiaeth yn awr ac yn y dyfodol.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.